Julie Morgan: Rwyf wedi mwynhau gwrando ar y ddadl hon heddiw ac fel y gwyddoch, rydym yn hapus iawn i dderbyn y mwyafrif o argymhellion y pwyllgor. Mae gan yr adroddiad ffocws clir a chywir ar werthuso a monitro effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a rhoi llais a phrofiadau defnyddwyr gwasanaethau ynghanol y system. Yn ogystal â'r astudiaethau gwerthuso a gyflawnwyd gennym,...
Julie Morgan: Diolch. Rydw i yn croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl bwysig hon.
Julie Morgan: Dwi'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r cynnig.
Julie Morgan: Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n cynnig y cynnig.
Julie Morgan: Mae pwrpas y rheoliadau hyn yn ddeublyg. Yn gyntaf, i ddirymu'r diwygiadau cyfyngedig sy'n gysylltiedig â coronafeirws a wnaed i ofynion ar ddarparwyr rhai gwasanaethau rheoleiddiedig, a ddaeth i rym ym mis Mehefin 2020. Nod y rhain oedd symleiddio'r gwaith o sefydlu a chefnogi darpariaeth gofal cymdeithasol brys i oedolion, pe bai angen hyn, oherwydd lledaeniad y coronafeirws. Roedden nhw...
Julie Morgan: Diolch. Diolch yn fawr iawn am y sylwadau a'r cwestiwn hynny. Rwy'n croesawu'r ymrwymiad i ofal plant yng Nghymru yn fawr, ac rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu cymryd y camau hyn ymlaen. Rwy'n cytuno'n llwyr fod gofal plant yn achubiaeth i deuluoedd, i bob teulu, ac i deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd yn benodol, mae'n hwb enfawr. Rwy'n credu ein bod ni'n uchelgeisiol. Mae'r cytundeb...
Julie Morgan: Diolch yn fawr iawn am y cyfraniad hwnnw. Wel, fe ddywedoch chi un peth cadarnhaol ar y dechrau—eich bod chi'n falch o fy ngweld i a Siân yn ymweld â'r cylch meithrin yn y gogledd, a hoffwn i ddweud ein bod ni wedi cael ymweliad da iawn ac roedd yn ddymunol iawn ac yn ysgogol iawn ac rwy'n credu ei bod yn dangos yr hyn yr ydym ni'n gallu'i wneud i weithio gyda phlant. Nid ydw i'n credu,...
Julie Morgan: Hoffwn i ofyn i'r Senedd ymuno â mi i groesawu'r buddsoddiad hwn, ac i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc.
Julie Morgan: Gan adlewyrchu pwysigrwydd y blynyddoedd cynnar, mae ein rhaglen lywodraethu yn ein hymrwymo ni i barhau â'n cefnogaeth i'n rhaglen Dechrau'n Deg blaenllaw. Gan weithio gyda'n cyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru fel rhan o'r cytundeb cydweithredu, rydym ni wedi ehangu ein hymrwymiad i sicrhau ehangu darpariaeth y blynyddoedd cynnar yn raddol i gynnwys pob plentyn dwy oed, gyda phwyslais arbennig ar...
Julie Morgan: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle i ddod yma heddiw i siarad â’r Aelodau am ein cynlluniau i ehangu darpariaeth y blynyddoedd cynnar i blant dwy oed ar draws Cymru.
Julie Morgan: Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y dechrau gorau i'w fywyd. Mae'r blynyddoedd cynnar yn hanfodol bwysig ym mywyd plentyn, yn cynnig cyfleoedd ffurfiannol ac yn pennu'r daith ar gyfer addysg a datblygiad mwy hirdymor. Mae buddsoddi mewn gofal ac addysg blynyddoedd cynnar, fel y nodir yn ein gweledigaeth ni ar gyfer system addysg a gofal...
Julie Morgan: Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwnnw, Vikki Howells. Gwn pa mor ddiwyd yr ydych wedi mynd ar drywydd y mater hwn. Gall gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd awdurdod lleol roi gwybod i rieni a gofalwyr am argaeledd a lleoliad cyfleoedd chwarae, a byddant hefyd yn gallu cyfeirio rhieni a gofalwyr at y tîm chwarae, sydd yn y sefyllfa orau i asesu eu hanghenion. Mae gan lawer o gynghorau lleol...
Julie Morgan: Diolch yn fawr iawn i Peter Fox am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n ymwybodol o Scope, ac rwyf wedi cael llythyr gan Scope hefyd. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyfarfod â swyddogion Scope ddwywaith eleni. Gallaf eich sicrhau'n llwyr o'n hymrwymiad parhaus i ddarparu cyfleoedd i bob plentyn a pherson ifanc allu chwarae'n ddiogel ac i gefnogi gwell mynediad at chwarae i blant anabl. Mae...
Julie Morgan: Mae mynediad at gyfleoedd chwarae o ansawdd uchel yn hanfodol ar gyfer datblygiad cymdeithasol, emosiynol a chorfforol pob plentyn. Rwy'n falch mai Cymru oedd y wlad gyntaf i ddeddfu, gan warantu hawl plant i chwarae drwy sicrhau bod awdurdodau lleol yn sicrhau digon o gyfleoedd, drwy'r ddyletswydd digonolrwydd cyfleoedd chwarae.
Julie Morgan: Discharge guidance was put in place at the start of the pandemic and updated throughout to reflect latest developments and service pressures. It incorporates 'discharge to recover then assess' pathways introduced during the pandemic. We are working collaboratively with the NHS to re-establish formal discharge reporting, paused during the pandemic.
Julie Morgan: Diolch, Llywydd. Dwi'n cynnig y cynnig.
Julie Morgan: Mae'r offeryn statudol sydd ger eich bron heddiw yn diwygio'r rheoliadau presennol o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a rheoliadau sy'n deillio o'r Ddeddf honno. Mae'r rheoliadau diwygio hyn yn gam arall tuag at wireddu ein nod o broffesiynoli'r gweithlu gofal cymdeithasol, parhau i wella ansawdd y gofal a sicrhau bod gweithwyr yn cael y gefnogaeth a'r...
Julie Morgan: Diolch i Heledd Fychan am ei chwestiwn. O ran adolygiad, credaf fod ein safbwynt wedi’i nodi gan y Prif Weinidog, fel y gwnaeth yng nghwestiynau’r Prif Weinidog. Ond fel y dywedais, rydym yn edrych ar ganlyniad yr adolygiad ymarfer yn nes ymlaen eleni ac ar yr hyn y mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn ei ddweud am y gwasanaethau cymdeithasol, a chawn weld a oes unrhyw wersi ehangach y mae...
Julie Morgan: Diolch am y cwestiwn hwnnw, Gareth Davies. Hoffwn ei gywiro, ni ddywedais fod gennym gyfradd dda o blant mewn gofal. Credaf ei fod wedi camglywed. Dywedais fod gennym gyfradd dda o wrando ar blant. Mae gennym hanes da o wrando ar blant. Ac mewn gwirionedd, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n galed iawn dros y tair blynedd diwethaf i geisio lleihau nifer y plant sydd mewn gofal,...
Julie Morgan: Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwnnw, Jane Dodds. Gwn pa mor fawr yw eich pryder ynglŷn â'r materion hyn, ac wrth gwrs mae mor ofidus clywed am Logan a chlywed am y bobl ifanc â phrofiad o ofal a gafodd sylw neithiwr ar y rhaglen ddogfen. O ran ymchwiliad annibynnol i Logan, rwy'n siŵr bod yr Aelod yn ymwybodol y bydd adolygiad o ymarfer plant yn cael ei gynnal gan fod y dedfrydu...