Adam Price: Mae'n cyfeirio at y dreth fwyaf atchweliadol ohonyn nhw i gyd, wrth gwrs, y dreth gyngor, a dyna pam mae diwygio hynny yn y cytundeb cydweithio, ac mae angen i ni fwrw ymlaen â hynny cyn gynted â phosib.
Adam Price: Rwyf newydd egluro'n union i chi. Mewn gwirionedd, y rhai sydd ar yr incwm is sy'n mynd i ddioddef fwyaf o'r toriadau mewn gwasanaethau cyhoeddus ar draws y meysydd, ac mae hynny'n wir ym maes iechyd hefyd. Felly, os nad ydyn ni'n buddsoddi, y bobl hynny ar yr incwm is fydd yn dioddef disgwyliad oes yn gostwng, bywydau byrrach, bywydau mwy poenus. Dyna pam mae'n rhaid i ni ei wneud e. Dyna...
Adam Price: Gwnaf, yn siŵr.
Adam Price: Rydym yn anghytuno'n llwyr. Rydyn ni'n eich annog i ddarllen adroddiad Melin Drafod, a gafodd ei ddrafftio gan aelodau o'r Blaid Lafur, yn ogystal ag aelodau o Blaid Cymru a phobl nad oedden nhw o unrhyw blaid, a ddaeth i'r casgliad nad oes unrhyw rwystr cyllidol i Gymru rhag dod yn genedl annibynnol mewn gwirionedd, a bod manteision enfawr o ran y math o gymdeithas deg a ffyniannus yr ydym...
Adam Price: Diolch, Llywydd. Does dim dwywaith nad oes gan Lywodraeth Cymru yr arian sydd ei angen arni i wneud yr hyn sy'n angenrheidiol i adeiladu'r math o gymdeithas deg yr ydym eisiau ei gweld. Mae hynny'n fwy gwir nawr nag y bu erioed, rwy'n credu. Yn y pen draw, mae'r diffyg arian hwnnw'n deillio o'n diffyg pŵer ni. Nid oes gennym y pwerau sydd eu hangen i dyfu ein heconomi yng Nghymru, sy'n...
Adam Price: Ond gallwch fynd ymhellach na hynny, Gweinidog, oni allwch, oherwydd mae'r gallu gennych chi i godi refeniw ychwanegol drwy eich pwerau amrywio trethi? Nawr, rwy'n deall mai safbwynt y Llywodraeth yw nad ydych chi eisiau cyffwrdd â'r gyfradd sylfaenol, ond hyd yn oed pe baech chi ddim ond yn cydweddu'r cynnydd i'r cyfraddau uwch ac ychwanegol â'r rhai sy'n cael eu cyflwyno yn yr Alban ar 1...
Adam Price: Disgrifiwyd y cynnig nawr o ddim ond 1.5 y cant yn ychwanegol fel codiad cyflog ar ben eich cynnig sydd, mewn gwirionedd, yn chwerthinllyd, gan Sharon Graham o Unite fel 'plastr glynu'. I lawer yn y GIG bydd y toriad termau real hwn o fwy na 4 y cant i'w cyflogau yn rhwbio halen yn y briwiau dwfn a achoswyd gan dros ddegawd o gyni cyllidol. Pan fyddwch chi'n dweud nawr mai dyma eich cynnig...
Adam Price: Diolch yn fawr, Llywydd. Pan awgrymodd Plaid Cymru ym mis Tachwedd i chi ddefnyddio cyfuniad o danwariant adrannol cronfeydd wrth gefn Cymru a chyllid heb ei ddyrannu i ariannu cynnig cyflog gwell i staff y GIG, dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wrthym nad oedd unrhyw wariant heb ei ddyrannu ar gael, nad oedd unrhyw danwariant, ac na allech chi ddefnyddio cronfa wrth...
Adam Price: Rwy'n cytuno gyda chi, Cwnsler Cyffredinol, fod bodolaeth a gwaith y comisiwn yn adlewyrchu, dwi'n credu, y bwrlwm newydd sydd yng Nghymru o gwmpas ein sgwrs genedlaethol o ran ein dyfodol cyfansoddiadol ni, ac mae hefyd yn cyfrannu tuag at y momentwm hwnnw. Ac mae hynny i'w weld mewn amrediad o ffyrdd ac yn adlewyrchu amrediad o farn, hwyrach. Un enghraifft dros y penwythnos diwethaf—fel...
Adam Price: Diolch am yr ateb hwnnw, Gweinidog. Mae hwn yn fater rŷn ni wedi'i drafod sawl gwaith, ac wedi bod yn destun gohebiaeth rhyngom ni hefyd. Mae'n rhaid pwysleisio difrifoldeb y broblem yma, gan fod miloedd o bobl yn ardal Rhydaman yn benodol yn ddibynnol ar y gwasanaeth a oedd yn cael ei ddarparu gan ddeintydd Stryd Margaret yno. Fe godais i'r mater yma gyda chi ym mis Tachwedd eto llynedd,...
Adam Price: Diolch, Weinidog. Ces i'r pleser o ymweld â chwmni NappiCycle yng Nghapel Hendre yn ddiweddar, lle cefais i gyflwyniad hynod o ddiddorol ar ailgylchu cewynnau. Nawr, rwy'n derbyn efallai nad yw hyn yn swnio'n brynhawn cynhyrfus, ond roedd y lefel o arloesedd gan y cwmni'n wych. Trwy brosesau amrywiol, mae NappiCycle yn defnyddio cewynnau brwnt a deunyddiau tebyg a'u troi i mewn i asphalt ar...
Adam Price: Rwy'n credu efallai bod y Trefnydd wedi camddweud yma, oherwydd byddai cynnydd o 1 y cant, yn ôl eich ffigurau chi'ch hun, yn lefel treth incwm ym mhob band yn codi £273 miliwn. Mae'r hyn rydych chi'n cyfeirio ato—y £55 miliwn—yn gynnydd o 1 y cant ym mil cyflog y GIG. Felly, mewn gwirionedd, gan ddefnyddio'ch pwerau treth incwm, gallech gyflawni cynnig cyflog sylweddol uwch na'r un...
Adam Price: Rydych chi'n dweud eich bod wedi mabwysiadu dull gwahanol i Lywodraeth y DU, ond mae'r llythyr cylch gwaith rydych chi wedi'i anfon yn adlewyrchu un Llywodraeth y DU yn union, wrth bwysleisio fforddiadwyedd. Rydych chi hefyd yn diffinio beth mae fforddiadwyedd yn ei olygu—y swm yr ydych chi, fel Llywodraeth, yn gallu fforddio ei dalu—oherwydd rydych chi'n dweud yn y llythyr: 'Yn...
Adam Price: Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau'r broses rownd gyflogau'r GIG yn ffurfiol ar gyfer 2023-24 drwy anfon llythyr cylch gwaith at gorff adolygu cyflogau'r GIG. Cafodd tystiolaeth Llywodraeth Cymru i'r corff adolygu cyflogau, ynghyd â'r llythyr, ei anfon ar 11 Ionawr, yr un diwrnod pan ddywedodd yr undebau iechyd nad oedden nhw bellach yn barod i ymgysylltu â phroses corff adolygu nad oedden...
Adam Price: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. A gaf innau, ar ran grŵp Plaid Cymru yn y Senedd, ond hefyd ar ran y blaid yn fwy eang, estyn ein cydymdeimladau dwysaf ni hefyd i'r Prif Weinidog ar ei golled? Mae'n ergyd y mae'n anodd amgyffred â hi, a dweud y gwir, ac rŷn ni eisiau gwneud yn sicr ei fod e'n ymwybodol faint o gefnogaeth rŷn ni eisiau dangos iddo fe yn y cyfnod anodd yma, ac mae hynny, fel...
Adam Price: 9. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth ariannol sydd ar gael i fentrau bach a chanolig sy'n ceisio ehangu yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr? OQ59053
Adam Price: 1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau darpariaeth ddigonol o wasanaethau deintyddol y GIG yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr? OQ59048
Adam Price: Mae hynny islaw urddas y Prif Weinidog, a bod yn onest gyda chi. Nid fy ngeiriau i yw'r rhain; dyma eiriau gweithlu'r GIG yr ydym ni wedi bod yn siarad â nhw ac yn gwrando arnyn nhw ar y llinellau piced. Mae gennym ni nyrsys, meddygon ac eraill, trwy orweithio, sy'n crio ar wardiau, a chleifion a'u perthnasau oherwydd y profiad y maen nhw'n ei wynebu. Mae gen i ofn bod yr agwedd o wadu yr...
Adam Price: Wel, mae geiriau'n bwysig oherwydd mae cyfaddef mewn gwirionedd ei fod yn argyfwng yn gydnabyddiaeth bwysig o'r raddfa, difrifoldeb a brys yr heriau sy'n ein hwynebu. Rwy'n credu mai'r rheswm nad ydych chi eisiau defnyddio'r gair hwnnw yw oherwydd bod yr argyfwng wedi datblygu a dwysau o dan eich arweinyddiaeth chi a'ch Llywodraeth. Mae iechyd wedi'i ddatganoli. Mae pum Gweinidog yn eich...
Adam Price: Diolch, Llywydd. 'Felly am un wythnos a wnaiff roi'r gorau i feio pobl eraill, cymryd rhywfaint o gyfrifoldeb, a chyfaddef bod y GIG o dan ei oruchwyliaeth ef mewn argyfwng, onid yw?' Rwy'n dyfynnu arweinydd y Blaid Lafur, Keir Starmer, i Rishi Sunak yr wythnos diwethaf yng nghwestiynau i Brif Weinidog y DU, ond maen nhw'n eiriau a allai fod yr un mor berthnasol i chi, Prif Weinidog. Mae...