Mr Neil Hamilton: Caewyd fy meic—
Mr Neil Hamilton: Diolch yn fawr am hynny. Fe wneuthum gynnig mewn gwelliant—ac rwy'n deall, wrth gwrs, na chafodd ei ddewis—y dylem alluogi'r cyhoedd i roi ystyriaeth wirioneddol i hyn ar ffurf refferendwm. Dywedodd Angela Burns mewn dadl gynharach fod y Ceidwadwyr Cymreig yn dweud 'na' wrth refferenda oherwydd yn y pen draw dylem gael pŵer i fwrw ymlaen neu beidio drwy ddefnyddio ein barn wleidyddol...
Mr Neil Hamilton: Wel, mae gan Gymru lawer o broblemau ar hyn o bryd, ond nid wyf yn credu y gwelem lawer o bobl yn y byd y tu allan sy'n credu mai'r ateb i unrhyw un ohonynt yw mwy o wleidyddion, mwy o Aelodau o'r lle hwn. Y gwir amdani yw nad oes galw o gwbl ymhlith y bobl sydd wedi ein hethol i'r lle hwn am gynyddu maint y Senedd, a gwyddom hyn drwy edrych ar yr ystadegau etholiadol am yr 20 mlynedd...
Mr Neil Hamilton: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am asesiad parhaus Llywodraeth Cymru o effaith Bil Marchnad Fewnol y DU ar Ganolbarth a Gorllewin Cymru?
Mr Neil Hamilton: Iawn. Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Felly, fy marn gyffredinol i yw, er bod hiliaeth, wrth gwrs, yn ddrwg ac mae angen ei gwrthwynebu, a dylem i gyd weithio tuag at ei lleihau, ac yn y pen draw, o bosibl, ei dileu, ni chyflawnir hyn drwy'r math o ddadl yr ydym ni'n ei chael heddiw.
Mr Neil Hamilton: Mae'n wir ddrwg gennyf i.
Mr Neil Hamilton: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Diolch yn fawr am fy ngalw i. Mae ychydig o bethau, mi gredaf, yn dangos y gagendor rhwng obsesiynau'r dosbarth gwleidyddol ar y naill law a gwir bryderon pobl gyffredin ar y llaw arall yn eu bywydau bob dydd. Mae'r datgysylltiad hwn wedi tyfu, mi gredaf, yn ystod fy oes i. Mae'r cyfeiriadau at hiliaeth systemig a strwythurol yng Nghymru yn y cynnig hwn ac yn...
Mr Neil Hamilton: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith cysylltiadau rhynglywodraethol ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Mr Neil Hamilton: Mae'r Gweinidog, unwaith eto, yn cymryd gordd i dorri cneuen, yn fy marn i. Onid yw hi'n anochel pan fyddwch yn llacio'r cyfyngiadau bod y risg o gynyddu haint yn sicr o ddigwydd? Ac, yn amlwg, wrth i ni ddynesu at y gaeaf, mae mwy o risg beth bynnag y bydd pobl yn dal unrhyw haint anadlol. Mae'n bennaf wir, lle ceir marwolaethau o COVID, eu bod yn digwydd ymhlith pobl hŷn. Pobl dros 85 oed...
Mr Neil Hamilton: Rwyf wedi gwrthwynebu'r rheoliadau hyn yn gyson, oherwydd credaf eu bod yn gwbl anghymesur â'r bygythiad a ddaw yn sgil y coronafeirws. Ond hoffwn ddweud yn gyntaf faint yr oeddwn yn cytuno â'r hyn a ddywedodd Andrew R.T. Davies a Rhun ap Iorwerth yn gynharach am y modd y caiff y rheoliadau hyn eu cymeradwyo, wythnosau ar ôl iddynt gael eu gweithredu gan y Llywodraeth. Credaf fod hynny'n...
Mr Neil Hamilton: Diolch, Llywydd. Onid y gwir am y mater yw nad oes yr un o'r bobl sy'n mynd i gael eu cartrefu ym Mhenalun yn debygol o fod yn gymwys i gael lloches yn y wlad hon, gan eu bod nhw wedi dod o wlad ddiogel, yn Ffrainc, oherwydd eu bod nhw i gyd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, wedi cyrraedd ar gychod bach ar lannau Caint? Mae'r Swyddfa Gartref wedi dweud nad oes gan 81 y cant o'r rhai sydd wedi...
Mr Neil Hamilton: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i liniaru effeithiau'r coronafeirws?
Mr Neil Hamilton: Byddai hynny'n sicr yn peryglu'r undeb. Ers 27 mlynedd, rwyf wedi ymgyrchu, mae UKIP wedi ymgyrchu, dros ailwladoli pwerau o'r UE i'r DU, felly rydym yn croesawu'r rhan honno o'r Bil, ond y bygythiad parhaol i undod a chyfanrwydd y DU yw datganoli ei hun. Mae Llywodraeth Cymru a'r Senedd wedi dangos eu dirmyg tuag at bobl Cymru—
Mr Neil Hamilton: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Fel Mark Reckless, rwy'n croesawu'r rhannau o'r Bil marchnad fewnol sy'n ailwladoli pwerau o'r UE i San Steffan ac i'r Seneddau datganoledig. Fel ef, rwyf wedi bod yn ymladd ar hyd fy oes wleidyddol i weld y nod hwn yn cael ei gyflawni, byth ers i mi ddod yn ymgeisydd seneddol yn ôl ym 1973. Ond rwy'n gwrthwynebu'r rhannau o'r Bil sy'n rhoi rhagor o bwerau i'r...
Mr Neil Hamilton: Ymddiheuriadau, Dirprwy Lywydd, a diolch am fy ngalw. Nid wyf wedi fy synnu gan ddatganiad y Cwnsler Cyffredinol, oherwydd mae'n benderfynol o farw yn ffos olaf y gwrthwynebiad sydd ar ôl o ran y rhai a oedd eisiau aros yn yr UE i weithredu ewyllys y bobl, a phobl Cymru ar hynny, yn refferendwm Brexit bedair blynedd yn ôl. Ond mae'n haeru'n eiddgar ei ddatganiad bod y pwerau yn y Bil hwn yn...
Mr Neil Hamilton: Er fy mod yn croesawu llacio'r cyfyngiadau, fy ngwrthwynebiad i'r rheoliadau hyn yw nad ydynt yn mynd yn ddigon pell. Cyfeiriodd y Prif Weinidog yn ei ddatganiad yn gynharach at yr angen i gynnal cydbwysedd wrth wneud penderfyniadau am lacio—mae'r un peth yn wir am eu gorfodi yn y lle cyntaf. Er bod costau'r cyfyngiadau hyn yn ymddangos yn eithaf hawdd i'w mesur, gwyddom y bu gostyngiad o...
Mr Neil Hamilton: Yn erbyn.
Mr Neil Hamilton: Pleidleisio yn erbyn.
Mr Neil Hamilton: Rwy'n pleidleisio yn erbyn.
Mr Neil Hamilton: Diolch, Lywydd. Yn ystod ei ddatganiad, dywedodd y Prif Weinidog fod y rhagolygon mewn perthynas â'r coronafeirws 'wedi gwaethygu mewn sawl rhan o'r byd', ond un wlad lle nad yw hynny'n wir yw Sweden. Mae Sweden wedi cael 81,000 o achosion i gyd ers dechrau'r pandemig, ond y sefyllfa ddoe oedd mai dim ond 41 o bobl a gofrestrwyd fel rhai sydd mewn cyflwr difrifol neu gritigol, ac mae...