Mark Reckless: Ond a yw wedi’i dynnu'n ôl? Nid ydych wedi ateb.
Mark Reckless: Weinidog, a gaf fi a fy mhlaid ategu’ch sylwadau am ddiogelwch ac effeithiolrwydd y brechlyn? Byddwn i—a phob un ohonom, rwy'n credu—yn annog pobl i gael y brechlyn cyn gynted ag y caiff ei gynnig iddynt. A gaf fi ofyn i chi: ar ôl i’r Prif Weinidog ddweud ei fod wedi egluro ei sylwadau, a allech chi egluro—a yw wedi tynnu’n ôl ei ddatganiad y dylem wneud i'r brechlyn Pfizer...
Mark Reckless: 8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch cyflymder cyflwyno’r brechlyn yng Nghymru? OQ56138
Mark Reckless: Gweinidog, rydych chi'n cwyno nad yw Llywodraeth y DU yn barod i ariannu unrhyw beth a bod £2 biliwn am ffordd liniaru'r M4 yn rhy ddrud, ond fe gafwyd nifer o awgrymiadau o gwmpas Llywodraeth y DU y gellid defnyddio'r gronfa ffyniant a rennir, yn wir y Bil marchnad fewnol, ar gyfer hyn. Os oes cyfle i gael i fyny at £2 biliwn gan Lywodraeth y DU i ymdrin â'r tagfeydd ac ysgogi ein...
Mark Reckless: Mae'n ddogfen ddiddorol iawn, ond, Prif Weinidog, rydym ni'n gweld ar hyn o bryd effaith datganoli brechiadau. Sut byddai pethau pe byddech chi, fel yr ydych chi eisiau, hefyd yn cael eich dwylo ar gyfiawnder neu'n gallu benthyg arian heb unrhyw ataliad? Pan fydd datganoli yn broses nad yw ond byth yn symud i un cyfeiriad—tuag at annibyniaeth—sut gall pobl ddod yn gyfforddus gydag ef? Os...
Mark Reckless: 8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygiadau cyfansoddiadol yng Nghymru? OQ56160
Mark Reckless: Pan bleidleisiodd Cymru yn erbyn datganoli yn 1979, gofynnwyd iddi bleidleisio eto yn 1997, ond ar ôl pleidleisio drosto bryd hynny o drwch blewyn, ni chaniatawyd unrhyw gyfle i ailystyried. Digon teg, fe'ch clywaf yn dweud, os na ddylai refferendwm o'i fath fod yn fwy na digwyddiad unwaith mewn cenhedlaeth. Efallai nad yw 24 mlynedd yn genhedlaeth eto, gyda'r oedran cyfartalog rydym yn cael...
Mark Reckless: Fodd bynnag, newidiodd ystyr cyfeiriadau deddfwriaethol at 'yr Ysgrifennydd Gwladol' ar gyfer llawer o swyddogaethau yng Nghymru ymhell cyn datganoli yn 1999, gyda chreu Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn 1964 a sefydlu'r Swyddfa Gymreig yn 1965. Efallai ei bod yn anodd dychmygu Cledwyn Hughes, heb sôn am George Thomas, yn rhoi datganiad unochrog o annibyniaeth ar sut i reoli pandemig yng...
Mark Reckless: A gaf fi wneud yn siŵr eich bod yn fy nghlywed?
Mark Reckless: Diolch. Mae materion cyfansoddiadol yn peidio â bod yn esoterig pan fyddant yn penderfynu ai eich mam neu eich tad-cu sy'n cael brechiad a fydd yn achub eu bywydau. Efallai nad yw Gweinidogion Cymru am sbrintio na chystadlu, ond mae'n anochel fod cyflymder brechu a'r ffaith ein bod yn llusgo ar ôl gweddill y DU yng Nghymru yn adlewyrchiad ar ddatganoli. Efallai mai dim ond y llynedd y daeth...
Mark Reckless: Weinidog, yn ne-ddwyrain Cymru rydym ar gyfartaledd wedi dioddef lefel uwch o’r coronafeirws na'r cyfartaledd ledled Cymru, a tybed i ba raddau rydych yn ystyried bod costau ychwanegol mynd i'r afael â hynny ar lefel ranbarthol, lle mae nifer yr achosion wedi bod yn uwch, yn cael eu cynnwys yn y dyraniadau yn y gyllideb.
Mark Reckless: Dywedodd Prif Weinidog Cymru wrthym pa mor ofnadwy oedd y cytundeb hwn, yn union fel y dywedodd wrthym pa mor ofnadwy oedd y tair fersiwn o gytundeb Theresa May, ac yn union fel y dywed wrthym pa mor ofnadwy y byddai gadael heb gytundeb. O’i ran ef, yr unig gytundeb y gallai ei gefnogi yw aelodaeth barhaus o'r UE, ac yn hytrach na chefnogi'r penderfyniad democrataidd a wnaed gan Gymru a'r...
Mark Reckless: Diolch i chi, Weinidog. Mae gennym nifer fawr o awdurdodau lleol cymharol fach yng Nghymru ac mae dau o'r rhai lleiaf yn fy rhanbarth i—Merthyr Tudful a Blaenau Gwent—ac ynddynt y ceir rhai o'r lefelau uchaf o achosion COVID ar hyn o bryd. Ac rwy'n meddwl tybed a yw'r Gweinidog yn siŵr y byddant yn gallu ymdopi â maint yr her honno, o ystyried pa mor fach yw'r awdurdodau, ac a oes...
Mark Reckless: 8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl awdurdodau lleol o ran ymateb i COVID-19 yng Nghymru? OQ56050
Mark Reckless: Diolch, Llywydd, am adael i Laura Anne Jones barhau. Roeddwn i'n mwynhau ei chyfraniad. Yn wir, rwyf wedi bod yn mwynhau'r ddadl yn gyffredinol. Diolch, Jenny, am eich cyfraniad chi. Mae fy marn i ar hyn yn un sydd, ar y cyfan—rwy'n credu y bydd yn mynd yn groes i'r rhan fwyaf o bobl yn y fan yma, ond, ar y cyfan, rwyf wedi penderfynu pleidleisio yn erbyn egwyddorion cyffredinol y Bil. Ond,...
Mark Reckless: Wel, Prif Weinidog, dangosodd arolwg barn YouGov a gyhoeddwyd y bore yma bod y gefnogaeth wedi gostwng o 66 y cant i 45 y cant, gyda 47 y cant bellach yn gwrthwynebu. Ac rwy'n meddwl tybed a allech chi ddod o hyd i fwy o gefnogaeth i'ch polisi pe byddech chi'n gweithio gyda'r wrthblaid yn hytrach na'u galw yn warthus, ac yn croesawu ymweliad brenhinol i ddiolch i weithwyr allweddol yn hytrach...
Mark Reckless: 1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o lefel y gefnogaeth ar gyfer ei chyfyngiadau coronafeirws? OQ56070
Mark Reckless: Yr wythnos diwethaf, roedd erthygl ar dudalen flaen y Financial Times yn pwysleisio i ba raddau roedd yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd, pan oedd wedi'i lleoli yn Canary Wharf, yn pwyso ar ein Hasiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd am gymorth gyda llawer o'i gwaith. Mae hefyd wedi wynebu heriau gwirioneddol, o dystiolaeth y FT o leiaf, ers adleoli i...
Mark Reckless: A yw'r Gweinidog yn credu ei bod yn iawn i Lywodraeth Cymru, drwy Trafnidiaeth Cymru, fod yn berchen ar orsafoedd Henffordd, Amwythig a Chaer a'u gweithredu, ac os felly, faint o arian y bydd trethdalwyr Cymru yn ei fuddsoddi ynddynt dros y blynyddoedd nesaf?
Mark Reckless: Diolch i Joyce Watson am ei haraith; cyfeiriodd yn ôl at refferendwm 2011 a deddfu yn yr 20 maes hyn. Wrth gwrs, roedd hynny'n ddarostyngedig i brif gyfraith yr Undeb Ewropeaidd—nid oedd yn gwrthwynebu hynny, ond mae'n gwrthwynebu cyfyngiadau llai ar lefel y DU. Hefyd, ni wnaeth ein hatgoffa bod y papur pleidleisio yn y refferendwm hwnnw'n nodi, 'Ni all y Cynulliad hwn ddeddfu ar...