Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Wrth gwrs, rŷn ni yn gobeithio y bydd pethau fel datblygu yr ysgol feddygol yn y gogledd yn helpu, ac, wrth gwrs, bydd cyfle wedyn i bobl wneud eu gwaith ymarferol nhw mewn llefydd fel Tywyn. Ac mae'n dda i weld bod yna gynnydd sylweddol yn nifer yr is-raddedigion meddygol yng Nghymru. Mae 47 y cant o bobl sy'n astudio yng Nghymru nawr yn byw yng Nghymru, ac mae 55 y cant i...
Baroness Mair Eluned Morgan: Mae ystadegau am y gweithlu meddygon teulu yn cael eu cyhoeddi ar StatsCymru. Mae'r cipolwg diweddaraf, ar 30 Mehefin, yn dangos bod 2,301 o feddygon teulu sydd wedi cymhwyso'n llawn. Mae hwn yn cyfateb i gyfanswm amser llawn o 1,562. Mae hyn yn cynnwys partneriaid, darparwyr, meddygon cyflogedig, meddygon wrth gefn a meddygon locwm gweithredol.
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn. Fe fyddwch yn ymwybodol fod osteoporosis yn gyflwr cyffredin a gwanychol iawn. Mae tua 18 y cant o boblogaeth Cymru yn byw gydag ef, sy'n nifer uchel tu hwnt. Yn wir, mae un o bob dau o'r rhai ohonoch chi sydd dros 50 yn y fan hon yn debygol o dorri asgwrn yn y dyfodol—y rhai ohonoch chi sy'n fenywod—ac mae un o bob pump dyn dros 50 oed â risg uwch o dorri asgwrn....
Baroness Mair Eluned Morgan: Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi'r rheini sy'n byw gyda chyflyrau iechyd yr esgyrn yng Nghymru, ac mae gwella'r ddarpariaeth i bobl sydd ag osteoporosis yn flaenoriaeth. Mae fy natganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ym mis Chwefror yn nodi ein disgwyliadau fod yn rhaid i wasanaethau cyswllt toresgyrn fod ar gael a chael eu cryfhau yn yr holl fyrddau iechyd ledled Cymru.
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn croesawu datblygiadau arloesol newydd lle ceir arwydd clinigol eu bod o fudd. Yn amlwg, mae angen inni gydbwyso hynny â'n gallu i dalu amdanynt. Ond yn y maes hwn, rydym wedi gwario llawer o arian ar ddiagnosteg—£51 miliwn i ar gyfarpar diagnostig newydd, £25 miliwn ar gyfarpar delweddu newydd a £25 miliwn ar bedwar sganiwr...
Baroness Mair Eluned Morgan: Mae gennym darged diagnostig na ddylai unrhyw un aros dros wyth wythnos. Mae'r bwrdd iechyd yn ei chael yn arbennig o anodd sicrhau hyn yn Abertawe, lle mae 70 y cant o'r rhai sy'n aros dros wyth wythnos yn aros am endosgopi diagnostig. Mae'r bwrdd iechyd yn cael cymorth gan yr uned gyflawni ac yn gweithio gyda Hywel Dda ar hyb diagnostig rhanbarthol.
Baroness Mair Eluned Morgan: Yn sicr, nid wyf am gytuno â galwad am ymchwiliad cyhoeddus, oherwydd rwy'n meddwl bod angen inni fwrw ymlaen â'r gwaith. Mae ymchwiliad cyhoeddus yn mynd i dynnu sylw pobl oddi ar y gwaith sydd angen ei wneud. Yr hyn y byddwn i'n dadlau yw bod hyn yn ddechrau newydd mewn gwirionedd. Am y tro cyntaf erioed yn hanes Cymru, rydym wedi gwneud bwrdd iechyd yn destun mesurau arbennig, ac rydym...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Rhun. Yn amlwg, rydych yn siarad â phobl wahanol iawn i'r rhai y bûm innau'n siarad â nhw, oherwydd, mewn gwirionedd, rwyf wedi cael llawer o bobl yn dweud mai'r cam a gymerais oedd y cam yr oedd angen ei gymryd. A dweud y gwir, ddoe, fe siaradais â grŵp cyfan o feddygon ymgynghorol yn Ysbyty Gwynedd, a nododd eu bod yn deall bod yr hyn a oedd yn digwydd yn gam eithaf...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn, a dwi'n gwybod bod pobl yn eich ardal chi hefyd yn teimlo'n gryf dros ben ynglŷn â'r mater yma, ac mae'n amlwg bod eu lleisiau nhw wedi cael eu clywed, a dwi'n siŵr y byddan nhw'n awyddus i ymateb i'r ymgynghoriad fydd yn dechrau ddiwedd y mis hefyd. Ar ôl y drafodaeth ddiwethaf a gawsom yn y Siambr yma, mi wnes i ofyn i gadeirydd yr emergency ambulance services...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Yn amlwg, rwy'n gwybod y byddwch yn falch y bydd cyfluniad presennol y sefydliad yn weithredol tan 2026 a bod contract saith mlynedd wedi'i gyhoeddi i Gama Aviation, ond rydych yn hollol gywir, o fewn y contract, mae posibilrwydd o ad-drefnu os credir bod hynny'n angenrheidiol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn parhau gyda'r adolygiad, oherwydd mae'n arfer da i wneud yn...
Baroness Mair Eluned Morgan: Rwyf wedi nodi'r cyhoeddiad a wnaed gan wasanaeth ambiwlans awyr Cymru. Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn sefydliad annibynnol, ac nid yw'n derbyn unrhyw arian uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. O'r herwydd, mae penderfyniadau ynghylch cyfluniad a gweithrediad ei gwasanaethau a'i chanolfannau yn fater gweithredol i'r elusen a'i bwrdd ymddiriedolwyr.
Baroness Mair Eluned Morgan: Gyda'r gefnogaeth gywir, mae cyflwr pobl sy’n goroesi strôc yn gallu gwella. Mae pob bwrdd iechyd yn darparu gwasanaeth adsefydlu fel rhan annatod o'u gwasanaethau strôc. Mae hyn yn cynnwys rhyddhau cleifion o’r ysbyty’n gynnar gyda chefnogaeth, a darparu cymorth adfer hanfodol i’w helpu i wella gartref.
Baroness Mair Eluned Morgan: In January we published the national specification for community nursing and set out milestones to further strengthen community nursing. Electronic scheduling has also been implemented following the Neighbourhood District Nursing Pilots and from this data we are developing the skill mix within district nursing to meet local need.
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch, Russell. Yn amlwg, rydym bob amser yn awyddus, yn Llywodraeth Lafur Cymru, i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, a byddwn yn awgrymu bod gennym berthynas dda iawn ac adeiladol gyda phob un o’r undebau. Yn amlwg, mae yna adegau pan ydym yn anghytuno ar agweddau ar fanylion, ac rydym yn cydnabod bod yna ymdeimlad gwirioneddol o annhegwch ar hyn o bryd. Dyna pam ein bod yn dymuno...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cydnabod, er bod hon nawr yn sefyllfa lle mae'r undebau ar y cyd wedi cytuno i dderbyn y cynnig, dŷn ni'n deall bod y cynnig dim ond wedi cael ei dderbyn gan un bleidlais, a dŷn ni hefyd yn deall bod yna lot o bobl yn yr undebau yn dal i fod yn flin ynglŷn â'r sefyllfa. A dyna pam nawr, yn ystod yr wythnos nesaf, y byddwn...
Baroness Mair Eluned Morgan: Fe gyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ddoe i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau, yn dilyn cyfarfod gyda fy swyddogion ac undebau llafur brynhawn ddoe. Rwy'n falch fod fforwm partneriaeth Cymru gyda'i gilydd, o drwch blewyn, wedi derbyn y cynnig cyflog uwch a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23.
Baroness Mair Eluned Morgan: Nid wyf yn cyflogi'r bobl hynny'n uniongyrchol. Mae gan y bobl hynny hawliau. Fe fydd yna broses, ac mae angen iddyn nhw ddeall y bydd y broses honno, rwy'n siŵr, yn cael ei dilyn.
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Janet. Ac rydych chi'n iawn. Edrychwch, nid yw'n sefyllfa dderbyniol lle mae gennych chi bedwar prif swyddog gweithredol dros bedair blynedd. Mae angen rhywfaint o barhad yn y swydd hon, a dyna pam—
Baroness Mair Eluned Morgan: O, er mwyn daioni. Oes ots gennych chi os ydw i—?
Baroness Mair Eluned Morgan: Mae'n ddrwg gen i.