Jane Dodds: Mae ymchwil yn dangos bod mynegi a thrafod materion sensitif, emosiynol a chymhleth fel materion iechyd meddwl yn brofiad llawer haws, yn fwy naturiol ac yn llai rhwystredig wrth allu gwneud hynny yn eich dewis iaith. I lawer o siaradwyr Cymraeg, gall wneud hynny yn Saesneg, waeth beth yw eich rhuglder, fod yn eithriadol o anodd. Mae cleifion iechyd meddwl yn aml yn cael mwy o fudd o...
Jane Dodds: Diolch i Siân Gwenllian am godi'r mater pwysig, pwysig iawn yma.
Jane Dodds: Mae hwn yn fater nad ydym yn clywed llawer amdano nac yn ei drafod yn gyhoeddus. Mae'n dangos y stigma sylweddol sydd ynghlwm wrth iechyd meddwl o hyd, yn enwedig i famau newydd neu famau beichiog. O fy mhrofiad fy hun o fod yn weithiwr cymdeithasol amddiffyn plant, rwy'n gwybod pa mor ddinistriol yw hyn nid yn unig i famau ond i dadau hefyd. Felly, i deuluoedd, mae'r mater hwn efallai'n peri...
Jane Dodds: Prynhawn da, Weinidog. I barhau â thema datblygu gwledig, gwyddom fod y gyfran fwyaf o'r rhaglen datblygu gwledig wedi dod o'r UE mewn gwirionedd, felly mae Brexit ynghyd â chytundeb masnach Awstralia a Seland Newydd yn dystiolaeth bellach, os oedd ei hangen arnom, fod y Torïaid yn newyddion drwg go iawn i ffermwyr ac i Gymru. [Torri ar draws.] A hoffwn pe baent yn ysgwyddo rhywfaint o...
Jane Dodds: Prynhawn da, Weinidog. Gan barhau â’r thema bysiau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, mae’n teimlo i mi fel pe bai hwn yn un maes lle gall buddsoddi nawr a meddwl yn hirdymor fod o fudd i ni yng Nghymru, yn enwedig i'r rheini mewn ardaloedd gwledig. Felly, rhai bysiau yng Ngheredigion yr effeithir arnynt: gwasanaeth cylchol Tregaron, y llwybr o Benrhyn-coch i Ben-bont Rhydybeddau, a...
Jane Dodds: Rwy'n credu ein bod ni yma i gynrychioli ein cymunedau a'n hetholaethau, ond hefyd i dynnu'r darlun ehangach, ac mae hynny'n anodd. Rydw i a thri arall yn y Siambr hon yn cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru, a Brycheiniog a Maesyfed yw'r etholaeth fwyaf tenau ei phoblogaeth yng Nghymru a Lloegr. Felly, rydyn ni'n gwybod am gymunedau gwledig, ond rwy'n sefyll yma yn dweud fy mod i'n...
Jane Dodds: Prynhawn da, Gweinidog. Mae tlodi plant yn rhedeg mor ddwfn yng Nghymru ac mae'n cael effaith barhaol ar bawb, yn parhau i'w bywyd fel oedolion. Gwn fod llawer o fesurau ar waith yma yn Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â hynny, a gellir gwneud mwy wrth gwrs. Rwyf i hefyd yn ymuno â'r galwadau am drafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl dan 25 oed. Rwyf hefyd yn meddwl bod angen cael...
Jane Dodds: Prynhawn da, Gweinidog. Dwi eisiau gofyn am gyfrifau dysgu personol, os gwelwch chi'n dda. Roedd y rhain yn cael eu datblygu gan Kirsty Williams yn y bumed Senedd i sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i ddysgu yma yng Nghymru. Gaf i ofyn, plîs, am ddiweddariad ar y cyfrifau, a sut ydych chi'n cydweithio efo Gweinidog yr Economi i sicrhau bod pobl ifanc yma yng Nghymru yn cael y sgiliau mae...
Jane Dodds: Ymddiheuro.
Jane Dodds: Prynhawn da, Weinidog. Yn gyntaf rwyf am ddweud fy mod yn flin eich bod wedi cael eich trolio ar y cyfryngau cymdeithasol; mae hynny'n gwbl annerbyniol, ac mae'n ddrwg gennyf glywed hynny. Roeddwn eisiau gofyn dau gwestiwn byr iawn, un yn sgil eich ymateb i Janet Finch-Saunders. Roedd yn dda clywed am y cynllun prynu allan. Fe ddywedoch chi na wneir defnydd ohono mewn gwirionedd, felly, fy...
Jane Dodds: Diolch, Gweinidog, am eich holl waith yn hyn o beth. Rydym ni wedi clywed gan lawer sut y mae hwn mewn gwirionedd yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ail-lunio polisi amaethyddol yng Nghymru, yn dilyn ein hymadawiad o'r Undeb Ewropeaidd. Mae'r gwelliannau munud olaf i'r Bil hefyd yn cael eu croesawu, sef ychwanegu rhywfaint o fanylion ychwanegol ar sicrhau cynaliadwyedd busnesau fferm. Hoffwn...
Jane Dodds: Hoffwn i roi rhagair i fy nghyfraniad i'r ddadl hon drwy ddweud diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog. Rwyf i wedi dweud droeon ei bod hi mewn swydd y byddwn i'n rhedeg miliwn o filltiroedd oddi wrthi—i osod cyllideb gwerth £19 biliwn. Hoffwn i ddiolch iddi hi am y trafodaethau yr ydyn ni wedi'u cael, ac am y cyfle i ystyried meysydd penodol yn fanwl. Diolch. Diolch yn fawr iawn. Beth yw...
Jane Dodds: Prynhawn da, Gweinidog. Fyddwch chi ddim yn synnu o wybod mai un agwedd yr wyf i wedi ei chodi yma'n gyson yn y Siambr yw gwahardd rasio milgwn. Yn amlwg mae llawer ohonoch chi'n gwybod fy mod i wedi codi mater ein ci, Arthur. Yn anffodus, fe wnaethon ni ffarwelio ag Arthur ddoe. Dim ond 11 oed oedd Arthur, a dim ond ers tair blynedd yr oedd wedi bod gyda ni. Y cyfnod cyn hynny, yr wyth...
Jane Dodds: 123,000, mae'n ddrwg gen i. Diolch i chi am fy nghywiro. Yn fy sgyrsiau gyda deintyddion a Chymdeithas Ddeintyddol Prydain, rwy'n clywed na allan nhw gynnig yr apwyntiadau hynny ar gyfer cleifion newydd mewn gwirionedd gan nad oes gan y deintyddfeydd y gallu i wneud hynny. Mae cleifion presennol, medden nhw, yn wynebu oediadau pellach oherwydd mae hi'n debygol y bydd angen gwaith dilynol...
Jane Dodds: Diolch am yr ateb yna.
Jane Dodds: Rydych chi'n gwybod bod deintyddiaeth y GIG yn rhywbeth yr ydw i wedi ei godi gyda chi dro ar ôl tro yn y Siambr hon. Rwy'n pryderu o glywed eto ein bod ni'n clywed am yr apwyntiadau ychwanegol hyn—120,000 a glywsom ni'n flaenorol, a 130,000 rwy'n credu y dywedoch chi'r tro hwn—
Jane Dodds: Diolch, Llywydd. Ac rwy'n deall, gyda'ch caniatâd chi, fel arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, gan ymuno â'r ddau arweinydd arall, Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr, yr hoffem estyn ein cydymdeimlad dwysaf i'r Prif Weinidog a'i deulu. Mae colli rhywun mor agos yn anodd iawn, ac mae ein cariad a'n gweddïau ni gydag ef. Diolch yn fawr iawn. Gan droi at fater diogelwch bwyd, mae agwedd arall...
Jane Dodds: 7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau amseroedd aros ar gyfer gofal deintyddol y GIG? OQ59040
Jane Dodds: Diolch o galon i Jack. Rydych chi'n ddadleuwr ac yn ymgyrchydd diflino dros faterion yn ymwneud â phobl sy'n byw mewn tlodi, fel nifer o rai eraill o gwmpas y Siambr hon. I'r rhai ohonoch nad ydych yn gwybod pam yr ymunais â byd gwallgof gwleidyddiaeth, gadewch imi ddweud wrthych. Am 25 mlynedd, bûm yn weithiwr cymdeithasol, yn ymweld â theuluoedd lle roeddem yn gwneud gwaith amddiffyn...
Jane Dodds: Diolch i Blaid Cymru am osod y ddadl yma.