Lesley Griffiths: Felly, fel rydych wedi'i ddweud eich hun, cawsom £180 miliwn ychwanegol. Roeddwn yn ceisio adio'r holl arian y credwch y dylid ei wario yng ngogledd Cymru yn fy mhen, a chredwch fi, mae'r cyfanswm yn llawer mwy na £180 miliwn. Rydym yn cael £1 filiwn o gyllid cyfalaf y flwyddyn nesaf—[Torri ar draws.]—£1 filiwn. Os edrychwch—[Torri ar draws.] A ydych chi eisiau gwrando?
Lesley Griffiths: Rydych yn gwybod cystal â minnau faint o arian fyddai ei angen i godi ein hystad yn Betsi Cadwaladr i'r safon rydym i gyd ei heisiau. Nid wyf yn gwybod amdanoch chi, ond rwy'n defnyddio'r GIG, ac rwy'n cael gofal iechyd rhagorol gan Betsi Cadwaladr. Os ydych chi'n defnyddio gofal iechyd preifat, eich dewis chi yw hynny. [Torri ar draws.]
Lesley Griffiths: Na. Byddaf yn trafod hynny gyda fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet, nid gydag Aelod o'r wrthblaid yma yn y Siambr. Fe welwch, os edrychwch, fod gogledd Cymru yn sicr yn cael cyfran deg, a byddwch wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud dro ar ôl tro ddoe ein bod eisoes yn darparu llawer o'r cyfleusterau gofal plant a'r gofal a'r ddarpariaeth y mae Llywodraeth y DU ond yn siarad amdanynt ac yn...
Lesley Griffiths: Ie, diolch, ac yn sicr mae'n swnio'n brosiect gwych ym Maendy ac os yw'r Prif Weinidog yn mynychu ddydd Sadwrn, rwy'n siŵr y bydd y digwyddiad yn llwyddiannus iawn. Ond rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn eich bod chi'n gweithio gyda chymunedau ynglŷn â'r hyn y maent ei eisiau yn eu mannau agored a'u mannau gwyrdd, oherwydd wedyn rwy'n meddwl y cânt eu gwerthfawrogi fwy, a chânt eu...
Lesley Griffiths: Yn amlwg, bydd y penderfyniadau hynny'n cael eu gwneud ar draws y Cabinet, gyda'r Gweinidog cyllid. Fe fyddwch yn ymwybodol na chawsom gymaint o arian ag yr oeddem wedi'i obeithio efallai, ond mae'r penderfyniadau hynny'n cael eu gwneud ar sail drawslywodraethol. Yn amlwg, fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am ogledd Cymru, byddaf yn sicrhau bod y gogledd yn parhau i gael ei chyfran deg.
Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n credu eich bod yn codi pwynt pwysig iawn, ac fe fyddwch yn ymwybodol o rai o'r ymgyrchoedd a gyflwynwyd gennym fel Llywodraeth. Felly, un ohonynt yw—. Mae Carolyn Thomas, ein cyd-Aelod, wedi bod yn gweithio i ddatblygu a hyrwyddo ymgyrch 'Iddyn Nhw', sy'n ymwneud â helpu cymunedau lleol i ddeall pwysigrwydd ymylon ffyrdd a mannau gwyrdd ar gyfer bywyd gwyllt, er enghraifft,...
Lesley Griffiths: Diolch. Rydym yn datblygu sawl prosiect yn ystod tymor y Llywodraeth hon. Soniais am un neu ddau ohonynt yn fy ateb agoriadol i chi; yn sicr, mae Llefydd Lleol ar gyfer Natur wedi bod yn hynod lwyddiannus, ac mae wedi cael derbyniad da iawn gan ein hetholwyr ledled Cymru. Ac rydym yn parhau i gefnogi ac ehangu gwaith gwerthfawr y rhaglen benodol honno, ac yn adeiladu ar ei llwyddiant. Rydym...
Lesley Griffiths: Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau mynediad i bawb at fannau gwyrdd yn agos at eu cartrefi. Rydym yn darparu hyn drwy raglenni, gan gynnwys Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, cyfleusterau cymunedol, cynllun cymunedau y dreth gwarediadau tirlenwi a grantiau gwella mynediad. Mae dros 1,400 o fannau gwyrdd wedi'u creu gan Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn unig.
Lesley Griffiths: Diolch. Felly, hwn mewn gwirionedd oedd y prosiect cyntaf i gael ei gyflawni o dan gytundeb twf y gogledd, fel y gwyddoch, felly rwy'n credu ei fod yn dangos yn glir y gwahaniaeth y gall buddsoddiad y fargen ei wneud yn yr ardal. Ac yn sicr, rwy'n rhannu eich uchelgais i weld gogledd Cymru—a phob rhan o Gymru mewn gwirionedd—yn dod yn arloeswr byd-eang ym maes technoleg ddigidol, ac rwy'n...
Lesley Griffiths: Diolch. Yn amlwg, rydym wedi cyfarfod o'r blaen ynglŷn â'ch cais am barc bwyd. Rwy'n ymweld â'r ganolfan technoleg bwyd yn Llangefni mewn gwirionedd—yn ystod toriad y Pasg, rwy'n credu—felly byddaf yn sicr yn gweld lle rydym arni mewn perthynas â hynny. O ran 2 Sisters, fel y dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, rwy'n gweithio'n agos iawn gyda Gweinidog yr Economi. Rwy'n...
Lesley Griffiths: Rwy'n credu ei bod yn amlwg yn bwysig iawn fod y broses ymgeisio mor syml ac mor hawdd â phosibl, fel y dywedwch. Roeddwn yn ymwybodol fod y cyfnod ymgeisio ar gyfer cyfanswm o £30 miliwn i brosiectau newydd y fargen twf wedi agor ar 13 Chwefror am chwe wythnos, sy'n mynd â ni hyd at 27 Mawrth, rwy'n credu. Ac rwy'n gwybod bod gan Uchelgais Gogledd Cymru ddiddordeb arbennig mewn...
Lesley Griffiths: Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda Gweinidog yr Economi am amrywiaeth o faterion yn ymwneud â gogledd Cymru, gan gynnwys bargen twf y gogledd. Yn is-bwyllgor diwethaf y Cabinet ar gyfer gogledd Cymru, rhoddodd Gweinidog yr Economi ddiweddariad economaidd ar gyfer y rhanbarth, gan gynnwys cynnydd y fargen twf.
Lesley Griffiths: Our priorities for animal welfare are set out in the animal welfare plan for Wales. It includes a timetable for the delivery of key actions against our four animal welfare programme for government commitments, alongside our other planned work.
Lesley Griffiths: I am committed to ensuring the funding available for the EU rural development programme is fully spent by 31 December 2023. As at 15 March 2023, total programme spend has exceeded £733 million, representing 87 per cent of total programme value.
Lesley Griffiths: Proposals in this area will draw upon joint research published in 2021. We will consider whether any amendments are required on the current microchipping regulations for dogs and possible new measures for kittens and cats. Any proposed changes would be subject to a full public consultation.
Lesley Griffiths: Mewn ymateb i'ch cais cyntaf am ddatganiad, awgrymaf eich bod yn ysgrifennu at gyngor Conwy yn uniongyrchol ar hynny; dydw i ddim yn credu bod hynny'n fater i'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. Ac o ran amseroedd aros canser, sef yr hyn yr oeddech chi'n cyfeirio ato, byddwch yn ymwybodol iawn bod y GIG yn gweithio'n galed iawn i leihau amseroedd aros, yn enwedig i bobl pan fo...
Lesley Griffiths: Wel, fel y cyfeirioch chi ato eich hun, roedd datganiad yn y fan yma dim ond yr wythnos diwethaf ar ddeintyddiaeth, pan wnaeth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol nodi'n glir iawn y gwaith sy'n cael ei wneud. Felly, fydda i ddim yn dyrannu rhagor o amser.
Lesley Griffiths: Diolch. Fel y gwyddoch chi, mae swyddogion wedi bod yn datblygu'r fersiwn nesaf o'r rhaglen Cartrefi Clyd, sydd, unwaith eto, fel rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol iawn, wedi helpu miloedd lawer o bobl, gyda chymorth yng Nghymru i leihau eu biliau a'u defnydd o ynni. Ac yn wahanol i Loegr, rydym wedi cynnal cefnogaeth barhaus ar gyfer ôl-osod cartrefi dros y degawd diwethaf a mwy, lle mae...
Lesley Griffiths: Diolch yn fawr iawn. Felly, mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio'n galed iawn i ddod â'r trenau dosbarth 230 i wasanaeth ar y lein rhwng Wrecsam a Bidston. Ac rwy'n gwybod eu bod nhw hefyd mewn trafodaethau rheolaidd iawn gyda Merseyrail a Merseytravel am wasanaethau yn y dyfodol ar y rheilffordd honno o Wrecsam i Bidston, ac mae hynny'n cynnwys y posibilrwydd o wasanaethau uniongyrchol i...
Lesley Griffiths: Diolch. Mewn ymateb i'ch ail gwestiwn, bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn cyflwyno datganiad cyn diwedd tymor yr haf ynghylch diogelwch ar y ffyrdd a'r adolygiad ffyrdd, ac fel y dywedwch chi, nid yw popeth wedi'i ganslo—yn amlwg, mae rhywfaint o waith adeiladu ffyrdd yn mynd yn ei flaen. O ran eich cwestiwn am ddatganiad am archwiliad y gwasanaethau strôc a ddarparwyd ym Mwrdd...