Rebecca Evans: Wel, rydyn ni'n ariannu addysg yn wahanol yma yng Nghymru, oherwydd ein bod ni'n ymddiried yn y llywodraeth leol yma yng Nghymru i wneud y peth iawn i'w hysgolion, ac, fel rydw i wedi'i ddweud, mae llywodraeth leol yn trosglwyddo'r arian hwn, a mwy, i ysgolion, felly rwy'n credu bod y cymeriadu yr ydyn ni'n ei weld ar y meinciau Ceidwadol yn anghywir ac yn annheg. Rydyn ni hefyd wedi darparu...
Rebecca Evans: Diolch, a diolch i'r cyd-Aelodau am eu cyfraniadau yn y ddadl y prynhawn yma. Gwnaf i ddechrau trwy ymateb i rai o'r sylwadau y gwnaeth Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn ei sylwadau, a agorodd y ddadl y prynhawn yma. Roedd un, mewn gwirionedd, yn ymwneud â sut mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â'r pwyllgor o ran darparu gwybodaeth ac yn y blaen, ac rwy'n hapus iawn i barhau â'r trafodaethau...
Rebecca Evans: Er gwaethaf y cyd-destun hwn, rwy'n parhau i fod yn falch bod ein dull yn dal i fod wedi'i seilio ar sicrhau bod pob punt sy'n cael ei buddsoddwyd yn cael yr effaith gadarnhaol fwyaf. Rydym wedi cyflwyno cyllideb sy'n cydnabod yr angen i gydbwyso effeithiau tymor byr yr argyfwng costau byw, gan hefyd wneud popeth o fewn ein gallu i ysgogi newid yn y tymor hwy a chyflawni ein rhaglen ar gyfer...
Rebecca Evans: Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl ar ein cyllideb derfynol 2023-24. Fel yr amlinellais wrth gyhoeddi ein cyllideb ddrafft, heb os, mae hon yn gyllideb a wnaed mewn cyfnod anodd ar gyfer cyfnod anodd. Mae'n adlewyrchu cyfyngiadau ein setliad cyllido, ond er gwaethaf hyn, rydym yn parhau i fod yn uchelgeisiol ar gyfer Cymru. Er gwaethaf yr heriau rydyn ni wedi'u hwynebu, mae'r...
Rebecca Evans: Diolch i chi, a diolch i bob Aelod am y cyfraniadau i'r ddadl heddiw. Wrth gwrs, wrth i ni symud ymhellach i'r tymor Seneddol, fe fyddwn ni'n parhau i adolygu swyddogaeth hanfodol cyfraddau treth incwm Cymru fel treth a ddatganolwyd yn rhannol yma yng Nghymru. Rwy'n credu bod Llŷr wedi agor ei sylwadau brynhawn heddiw drwy ddweud ein bod ni wedi trafod cyfraddau treth incwm Cymru sawl gwaith...
Rebecca Evans: Llywydd, diolch i chi am y cyfle i agor y ddadl hon ar y penderfyniad ynglŷn â chyfraddau treth incwm Cymru ar gyfer 2023-24. Cyflwynwyd cyfraddau treth incwm Cymru ym mis Ebrill 2019 ac maen nhw'n berthnasol i incwm nad yw'n incwm o gynilion nac o ddifidend pobl sy'n preswylio yng Nghymru sy'n talu'r dreth incwm. Mae cyfraddau treth incwm Cymru yn codi ymhell dros £2.5 biliwn bob blwyddyn...
Rebecca Evans: A wnaf i ymateb i'r ddadl, Llywydd?
Rebecca Evans: Hoffwn, os gwelwch yn dda. Rwy'n siomedig nad yw'r Ceidwadwyr yn cefnogi rhewi'r lluosydd, oherwydd, wrth gwrs, y dewis arall yw bod y lluosydd yn codi yn unol â'r mynegai prisiau defnyddwyr, a fyddai'n amlwg yn newyddion drwg iawn i fusnesau ledled Cymru gyfan, ac mae'n rhaid i ni gofio hefyd mai dim ond un ffactor sy'n pennu bil y talwr ardrethi yw'r lluosydd, ac ni ddylid ei ystyried ar...
Rebecca Evans: Diolch. Cynigiaf y cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2023. Mae'r rheoliadau yn gosod y lluosydd ardrethu annomestig ar gyfer 2023-24. Ar 12 Rhagfyr, cyhoeddais y penderfyniad i rewi'r lluosydd ar gyfer 2023-24. Bydd yn aros ar yr un lefel a osodwyd ers 2020-21, sef 0.535. Mae hyn yn golygu y bydd yr holl filiau ardrethi a dalwyd yn 2023-24 yn sylweddol is...
Rebecca Evans: Diolch yn fawr, a diolch yn fawr iawn i Mike Hedges am gyflwyno'r ddadl ddiddorol hon heddiw, ac wrth gwrs, i Alun Davies am ei sylwadau sy'n procio'r meddwl hefyd. Sut y gweithiwn gyda'n gilydd ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus yw'r hyn sy'n ein gwneud yn wahanol yma yng Nghymru a'r angerdd, y penderfyniad a'r gofal a welwn gan ein gweision cyhoeddus yng Nghymru ar draws llywodraeth...
Rebecca Evans: Ie, rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn. Rwy'n credu, efallai, y byddai'n well ei gyfeirio at y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am y maes hwn, ond fe wnaf fy ngorau a chyfeirio'r Aelod tuag at y gwaith pwysig rydym wedi bod yn ei wneud drwy'r warant i bobl ifanc, a byddwch wedi gweld o'r cyhoeddiad diweddar ei fod wedi helpu miloedd o bobl ifanc i mewn i waith neu hyfforddiant neu addysg...
Rebecca Evans: Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £36 miliwn ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf, gyda'r nod o ddarparu 125,000 o brentisiaethau erbyn 2027. Cyfrifoldeb Gweinidog yr Economi yw'r polisi prentisiaethau.
Rebecca Evans: Wel, gallaf gadarnhau bod swyddogion wedi cyfarfod â phrif swyddog gweithredol 2 Sisters ac yn parhau â'r ddeialog i wneud popeth sy'n bosibl i gynnig cymorth i bobl yr effeithir arnynt gan y datblygiadau diweddar. Ac wrth gwrs, mae ein swyddogion yn gweithio'n agos iawn gyda'r awdurdod lleol. Rwy'n gwybod bod Gweinidog yr Economi wedi bod yn siarad â'r arweinydd hefyd. Yn amlwg, mae'n...
Rebecca Evans: Yn 2023-24, bydd y Cyngor yn derbyn £123.7 miliwn drwy'r setliad llywodraeth leol—cynnydd o 7.9 y cant. Er y bydd yn rhaid i'r cyngor wneud rhai penderfyniadau anodd o hyd yn wyneb y cyfraddau chwyddiant presennol, mae hwn yn setliad gwell nag yr oedd yr awdurdodau wedi'i ddisgwyl.
Rebecca Evans: Rwy'n meddwl bod gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i fod yn onest wrth bobl Cymru ei bod hi'n ffaith nad yw ein cyllideb yn codi yn unol â chwyddiant, ac rwy'n meddwl bod hynny'n ffaith. Er hynny, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i flaenoriaethu a diogelu gwasanaethau cyhoeddus, a dyna pam y cynhaliwyd ymarfer poenus iawn ar draws y Llywodraeth i geisio ailflaenoriaethu...
Rebecca Evans: Mae'r Llywodraeth yn darparu cyllid refeniw heb ei neilltuo o dros £5.5 biliwn a £180 miliwn o gyllid cyfalaf yn 2023-24 i gefnogi gwasanaethau awdurdodau lleol. Er bod hwn yn setliad sylweddol well nag a ragwelwyd gan yr awdurdodau, bydd angen i awdurdodau wneud rhai penderfyniadau anodd o ystyried y lefelau uchel o chwyddiant.
Rebecca Evans: Wrth flaenoriaethu gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys llywodraeth leol, yn ein setliad cyllideb, rydym bob amser wedi bod yn glir ar bob cam y bydd yn dal i olygu cyfres anodd o benderfyniadau i lywodraeth leol eu gwneud. Rwy'n gwybod bod arweinwyr llywodraeth leol wedi bod yn ymgynghori ar ystod gyfan o bethau na fyddent fel arfer eisiau bod yn ymgynghori â'u hardaloedd lleol yn eu cylch o...
Rebecca Evans: Mae Llywodraeth Cymru yn gefnogol i awdurdodau lleol sy'n gweithio ar y cyd i wella gwasanaethau a darparu gwerth am arian, gan gynnwys drwy gydwasanaethau. Mae cyd-bwyllgorau corfforedig yn cynnig cyfrwng newydd pwysig i gefnogi cydweithio rhanbarthol strategol rhwng awdurdodau.
Rebecca Evans: Felly, mae'r rhan fwyaf o gefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru i lyfrgelloedd cyhoeddus yn cael ei ddosbarthu drwy'r setliad craidd i lywodraeth leol, y bydd cyd-Aelodau'n cofio iddo gael ei godi 7.9 y cant yn ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Ni fydd unrhyw awdurdod yn gweld cynnydd o lai na 6.5 y cant. Mae yna ffynonellau eraill o arian sy'n bwysig, fodd bynnag, gan gynnwys y gronfa...
Rebecca Evans: Roedd yn hyfryd clywed yr enghreifftiau hynny o'r ffyrdd y mae llyfrgelloedd yn Islwyn yn arloesi, ac rwy'n ymwybodol o rai enghreifftiau eraill hefyd yn lleol yn eich ardal chi, gan gynnwys grŵp gweu a sgwrsio, grŵp plant bach, clwb Lego, a Blind Date with a Book, i ddathlu Dydd San Ffolant, ac mae ganddynt hynny yn fy llyfrgell fy hun hefyd, ac roeddwn i'n meddwl bod hwnnw'n syniad...