Canlyniadau 41–60 o 2000 ar gyfer speaker:Joyce Watson

4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) (14 Chw 2023)

Joyce Watson: Fy nghwestiwn i chi, Gweinidog, yw: pan fyddwch chi'n gweithredu'r ail ran o hyn, a wnewch chi roi amser digonol, neu fwy o amser, yn sicr, i graffu ar beth fydd yn y fframwaith hwnnw fel y gallwn ni i gyd fod yn sicr na fydd y pethau hynny yr ydw i newydd eu hamlinellu sy'n digwydd dros y ffin yn digwydd yma yng Nghymru?

4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) (14 Chw 2023)

Joyce Watson: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad. Fel y dywedwch, cam cyntaf hyn yw Bil fframwaith, a'r ail gam fydd pryd y cawn y manylion. Pan roddaf y term 'caffael hyblyg yn y GIG' a'r Torïaid gyda'i gilydd, rwy'n pryderu'n fawr, fel y dylai'r rhan fwyaf o'r wlad, oherwydd byddwn ni'n cofio ffiasgo'r cyfarpar diogelu personol a ddigwyddodd gyda'r weithdrefn llwybr...

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Porthladdoedd rhydd ( 8 Chw 2023)

Joyce Watson: Diolch am dderbyn yr ymyriad. Rydych yn cymysgu pethau eto. Gallem gael yr holl fuddsoddiad hwnnw, gallai’r Llywodraeth Dorïaidd fod yn hael iawn a rhoi’r holl arian y maent yn ei addo i ni, ond ni fyddai’n rhaid inni golli’r derbyniadau treth o’r manteision rydych wedi’u disgrifio, ac rwyf i am eu gweld, fel chithau—rwyf wedi cynrychioli'r ardal hon ers 1995, felly rwyf am...

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Porthladdoedd rhydd ( 8 Chw 2023)

Joyce Watson: Roeddwn yn gwybod y byddech yn ymostwng i hynny. Felly, yr ateb, yn amlwg, i'r cwestiwn hwnnw yw 'nac ydw'. Rydych yn ceisio cymysgu pethau yma, yn gwbl fwriadol, a dyna pam eich bod wedi cyflwyno'r ddadl hon. Oherwydd rydych chi, yn ideolegol, yn credu ei bod yn syniad da rhoi gostyngiadau treth am ddim i gwmnïau cyfoethog iawn fel y gallant fynd ag arian o'n gwlad a'i roi ym mhle bynnag....

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Porthladdoedd rhydd ( 8 Chw 2023)

Joyce Watson: Mae’r amcangyfrif diweddaraf yn awgrymu bod economi’r DU eisoes oddeutu 4 y cant yn llai o ganlyniad i adael yr UE. Eglurwyd i mi sut mae model y DU ar gyfer porthladdoedd rhydd yn cynnig amddiffyniadau cadarn—rydym wedi clywed y rheini o’r blaen—yn erbyn y troseddu a’r llygredd y maent wedi’i hwyluso mewn mannau eraill yn y byd.

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Porthladdoedd rhydd ( 8 Chw 2023)

Joyce Watson: Mewn munud. Ond ar adeg pan fo’r ddyled genedlaethol yn £2.5 triliwn—treuliwch hynny—diolch i flynyddoedd o gamreoli Torïaidd, mae porthladdoedd rhydd yn dal i amddifadu’r Llywodraeth ganolog o incwm hanfodol drwy ystod eang o freintiau tollau a gostyngiadau treth.

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Porthladdoedd rhydd ( 8 Chw 2023)

Joyce Watson: Ie, wel, dyna ni. Dyna oedd y fersiwn honno; dyma fydd y fersiwn hon. Mae'n amlwg mai'r pwynt yma yw fy mod yn hynod amheus o borthladdoedd rhydd. Nid wyf yn cytuno â'r syniad hwn o fasnach rydd fel y'i disgrifiwch, a hoffwn ofyn i bobl feddwl am bwy sydd y tu ôl i hyn yn y pen draw. Rwy’n siŵr y gall rhai ohonom gofio Liz Truss, rwy’n siŵr y gall rhai gofio Kwasi Kwarteng, ac rwy’n...

5. & 6. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) a'r penderfyniad ariannol mewn perthynas â’r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) ( 7 Chw 2023)

Joyce Watson: Rwy'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon. Mae'n un o'r darnau pwysicaf o ddeddfwriaeth, rwy'n credu, y bydd y Senedd yma yn craffu arno. Nid yn unig mae'n llunio dyfodol ffermio Cymru, ond ein treftadaeth naturiol, ein heconomi a'n diwylliant, ac yn arbennig yn y canolbarth a'r gorllewin, felly mae angen i ni wneud pethau'n iawn. Rwy'n falch o gefnogi argymhellion pwyllgor ETRA a...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (31 Ion 2023)

Joyce Watson: Cafodd cwmpas y strategaeth ei ymestyn i gynnwys aflonyddu yn y gweithle, oherwydd, fel y dywed, dim ond yn sgil newid mewn diwylliant sy'n methu mynd i'r afael â gwrywdod gwenwynig y gellir cyflawni diogelwch menywod. Yn anffodus, rydym wedi gweld sawl enghraifft o'r diwylliant hwnnw mewn gwahanol sefydliadau yn ystod yr wythnosau diwethaf. Felly, ydych chi'n cytuno â mi, Gweinidog, bod...

4. Cwestiynau Amserol: Undeb Rygbi Cymru (25 Ion 2023)

Joyce Watson: Rwyf wedi cael llond bol ar sefyll yma'n siarad am gyrff cyhoeddus, cyrff chwaraeon, yr heddlu, y gwasanaeth tân, ac yn sôn am y diwylliant sy’n sail iddynt, am ddiwylliant systemig o gasineb at fenywod a rhywiaeth mewn meysydd sydd wedi eu dominyddu, yn draddodiadol, gan ddynion. Rwy'n blino braidd ar hyn. Mae Undeb Rygbi Cymru wedi dweud eu bod 'yn condemnio'r defnydd o iaith hiliol,...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Pwerau Cyfreithiol (25 Ion 2023)

Joyce Watson: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Daeth yr ymchwiliad gan y Coleg Plismona, Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi, a Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, i'r casgliad fod diffygion systematig yn y ffordd y mae rhai heddluoedd yn Lloegr, ac yng Nghymru hefyd, yn ymdrin â honiadau o droseddau rhyw a cham-drin domestig yn erbyn eu swyddogion a'u staff eu hunain. Mae'r...

4. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Targedau Ynni Adnewyddadwy (24 Ion 2023)

Joyce Watson: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Y newyddion mawr yn fy rhanbarth i yw'r buddsoddiad enfawr gan QatarEnergy yn South Hook LNG. Bydd hyn yn golygu y bydd y derfynfa yn gallu trin tua 25 y cant yn fwy o nwy naturiol hylifol sy'n cael ei fewnforio o bob cwr o'r byd. Does dim dwywaith y bydd hyn yn hwb enfawr i sir Benfro, a does gen i ddim amheuaeth fod Prif...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (24 Ion 2023)

Joyce Watson: Yn sgil yr achosion diweddar a adroddwyd o honiad o aflonyddu rhywiol a/neu gam-drin domestig gan swyddogion sy'n gwasanaethu yn yr Heddlu Metropolitan, Heddlu Gwent a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, mae angen sicrhau'r cyhoedd fod pob gwasanaethau cyhoeddus yn lle diogel i weithio ynddynt. Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar ba gamau y mae hi...

3. Cwestiynau Amserol: Yr Hawl i Streicio (11 Ion 2023)

Joyce Watson: Yn gyntaf oll, rwyf am ddatgan fy aelodaeth o Unite, yr undeb llafur. Credaf, fel y bydd eraill, fod hwn yn ymosodiad a arweinir gan ideoleg ar hawl sylfaenol gweithwyr i streicio. Mae ganddynt hanes o wneud hyn, ac maent wedi cyflwyno sawl darn o ddeddfwriaeth tra bod y Llywodraeth hon wedi bod mewn grym. Gadewch inni fod yn glir wrth gofio hynny. Maent yn mynd ychydig ymhellach nag y...

6. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Amrywiaeth mewn Democratiaeth — Canlyniadau Arolwg (10 Ion 2023)

Joyce Watson: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae ein hawdurdodau lleol yn gwneud gwaith rhagorol, ond weithiau maen nhw'n ei wneud gydag un llaw wedi'i chlymu y tu ôl i'w cefnau. Mae'r system gabinet mewn lle, ond mae'n ymddangos mai ychydig iawn o gefnogaeth sydd i Aelodau wneud gwaith craffu. Er mwyn craffu'n dda, maen nhw angen rhywfaint o gefnogaeth gan ymchwilwyr, ac, hyd y gwn i, mae hynny ar goll. Felly,...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (10 Ion 2023)

Joyce Watson: Trefnydd, hoffwn i glywed gan y Gweinidog addysg am yr hyn sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael ag ideoleg casineb at fenywod yn yr ystafell ddosbarth. Mae achos Andrew Tate wedi amlygu diwylliant treiddiol, gwenwynig a pheryglus sy'n targedu bechgyn agored i niwed yn arbennig. Ac mae'n rhemp. Rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn i wedi clywed amdano tan yr achos cyfreithiol presennol, oherwydd nid...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cefnogaeth i Allforwyr (10 Ion 2023)

Joyce Watson: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Yr adeg yma y llynedd, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol wrth y Senedd hon y byddai Llywodraeth Cymru'n cynnal neu'n gwella safonau'r UE. Mae'r ymrwymiad hwnnw'n hanfodol os ydym am ddileu'r baich Brexit parhaus sy'n wynebu allforwyr o Gymru. Ar lefel y DU, mae'n rhaid i ni wneud i Brexit weithio, ac mae rhyw fath o aliniad rheoleiddio ar gyfer cynhyrchion...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Llifogydd Tir yng Nghanolbarth Cymru (10 Ion 2023)

Joyce Watson: Rwy'n credu y gallai fod yn werth, Prif Weinidog, annog pobl i edrych ar y map o fuddsoddiad cyfalaf llifogydd ac arfordirol sydd ar gael ar-lein. Rydych eisoes wedi crybwyll y bu buddsoddiad o £71 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Rwy'n deall y bydd map rhyngweithiol sy'n darparu mwy o fanylion am y cynlluniau hyn yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir. Byddwn yn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cefnogaeth i Allforwyr (10 Ion 2023)

Joyce Watson: 6. Pa gefnogaeth fydd y Llywodraeth yn ei chynnig i allforwyr nwyddau o Gymru yn 2023? OQ58935

3. Cwestiynau Amserol: Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru (14 Rha 2022)

Joyce Watson: Addewid y Rhuban Gwyn yw peidio byth â chyflawni, esgusodi nac aros yn dawel am drais dynion yn erbyn menywod. Pan ganiataodd y gwasanaeth i ddau gamdriniwr gadw eu swyddi, torrodd yr addewid hwnnw. Lywydd, hoffwn dalu teyrnged i’r menywod dewr sydd wedi siarad, a fy siom enbyd yn y gwasanaeth rwyf wedi gweithio’n agos ag ef ar ymgyrch y Rhuban Gwyn ers blynyddoedd lawer. Cawn weld beth...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.