Kirsty Williams: In the new curriculum, the history of Wales will be mandatory within the 'what matters' statements for the humanities area of learning and experience. Learning in this area must include an appreciation of identity and heritage, the story of Wales, and cultivating learners’ sense of Cynefin.
Kirsty Williams: There are currently a range of measures to support learning, including professional learning for practitioners and significant investment in devices. Alongside our existing commitment of £29 million for the Recruit, Recover and Raise Standards programme, I recently announced a further £72 million to support learners during this and the next academic year.
Kirsty Williams: A gaf i ddiolch i Mick Antoniw a'i bwyllgor am ystyried y Gorchymyn? Rwy'n atgyfnerthu'n llwyr y sylw bod Cyngor y Gweithlu Addysg nid yn unig yn credu nad oedd unrhyw broblemau gyda'r materion amseru a amlygwyd gan Mick Antoniw, ond bod Cyngor y Gweithlu Addysg yn croesawu'r pwerau gorchymyn atal hyn yn fawr. Mae wedi bod yn gofyn amdanyn nhw am gryn dipyn, ac rwyf wrth fy modd, hyd yn oed...
Kirsty Williams: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig i gymeradwyo Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Gorchmynion Atal Dros Dro Interim) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2021. Mae'r Gorchymyn yn mynd i'r afael ag argymhelliad 21 y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ei adroddiad ar yr ymchwiliad i ddysgu ac addysg broffesiynol athrawon, sef y dylid ymestyn cylch gwaith Cyngor y...
Kirsty Williams: Wel, Dirprwy Lywydd, mae'n rhaid i mi ddweud nad wyf i eisiau defnyddio pob adnodd sydd gennyf, neu fel arall ni fydd gennyf ddim i ateb yr Aelod yfory, oherwydd rwy'n gwybod fod ganddi gwestiwn am ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn Islwyn ar y papur gorchymyn brynhawn yfory. Dydw i ddim eisiau defnyddio fy holl linellau gorau heddiw, neu fel arall ni fydd gennyf ddim i'w ddweud wrth yr...
Kirsty Williams: Dros y pum mlynedd diwethaf, un o'r pethau yr wyf yn arbennig o falch ohono yw cychwyn ein e-sgol, ysgol rithwir sy'n caniatáu i blant allu ymgysylltu ag athrawon a chyfleoedd o bob cwr o'r byd. Dim ond ychydig wythnosau'n ôl, cafodd myfyrwyr yng Nghymru gyfle i dderbyn gwersi gan Sefydliad Technoleg Massachusetts, prifysgol fwyaf blaenllaw'r byd. Doedd dim rhaid iddyn nhw deithio i...
Kirsty Williams: A gaf i ddiolch i Siân Gwenllian, Dirprwy Lywydd, am ei sylwadau? Mae'n codi cysyniad diddorol o'r hyn ddylai ysgol fod, ac rwy'n credu, dros y pum mlynedd diwethaf, ein bod ni, Lywodraeth Cymru, wedi dangos ein hymrwymiad i gydnabod addysg ar ei ffurf ehangaf bosibl. Rwy'n siŵr bod yr Aelod yn gyfarwydd iawn â'r adeilad hollol ragorol ac arloesol yn Ysgol Hafod Lon ym Mhenrhyndeudraeth,...
Kirsty Williams: Unwaith eto, rydych chi'n gwneud pwynt da ynghylch mwy o dryloywder rhwng adnewyddu ac adeiladu o'r newydd. Mae'n bwysig iawn ein bod yn pwysleisio unwaith eto bod y prosiect yn caniatáu ar gyfer y ddau. Weithiau, mae camargraff mai'r unig ffordd o sicrhau arian ar gyfer ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yw cael adeilad newydd. Nid yw hynny'n wir. Mae'r rhaglen hefyd yn caniatáu adnewyddu...
Kirsty Williams: Diolch yn fawr iawn, Suzy, am hynny. Da eich gweld chi'n ôl. A gawn ni ddweud ein bod wedi'ch colli'n fawr yr wythnos diwethaf yn ein dadl ar y Bil cwricwlwm ac asesu, o ystyried eich holl waith caled wrth graffu ar y Bil hwnnw? A gaf i ddweud eich bod yn gywir o ran bod yna rai prosiectau a glustnodwyd i ddechrau ar gyfer band A y rhaglen? Mae amgylchiadau penodol ym mhob achos. Mae unrhyw...
Kirsty Williams: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, ac rwyf wedi bod yn freintiedig iawn, yn ystod fy nghyfnod yn Weinidog addysg, i weld y gwelliant yn y lleoliadau addysgol i'n plant a'n pobl ifanc ledled ein gwlad a ddarperir drwy raglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain. Yn ystod y tymor hwn, rydym ni wedi llwyddo i ddarparu'r don gyntaf o £1.4 biliwn o gyllid rhaglenni o fewn y pum mlynedd,...
Kirsty Williams: Diolch yn fawr iawn. A gaf i ddiolch i'r rhai sydd wedi cyfrannu y prynhawn yma? Rwyf wedi fy siomi o glywed nad yw Suzy Davies yn gallu ymuno â'r sesiwn y prynhawn yma, gan fy mod i'n gwybod ei bod hi wedi gweithio'n eithriadol o galed ar y Bil hwn, ac rwy'n gwybod ei bod hi wedi ymrwymo'n llwyr i'r broses graffu. Ac, fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol heddiw, rwy'n credu bod gennym...
Kirsty Williams: Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig yn ffurfiol. Hoffwn i ddechrau trwy ddiolch i Gadeiryddion ac aelodau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, a'r Pwyllgor Cyllid, yn ogystal ag Aelodau eraill sydd wedi cyfrannu at graffu ar y Bil hanesyddol hwn. Diolch hefyd i staff y Comisiwn am eu gwaith cydwybodol a diwyd, yn ogystal â...
Kirsty Williams: Diolch yn fawr, Lywydd. Rhaglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain yw'r buddsoddiad mwyaf yn ein hystâd addysg ers y 1960au, ar ôl gweld buddsoddiad o £1.5 biliwn eisoes i wella'r amgylchedd dysgu i'n plant a'n pobl ifanc. Ac ers ei lansio yn 2014, fe'i gwelwyd yn cyflawni 170 o brosiectau newydd neu brosiectau adnewyddu o dan y don gyntaf o fuddsoddiad, ac mae 200 o brosiectau...
Kirsty Williams: Diolch. Fe wnaethoch i mi boeni braidd am funud, Lywydd. Rwy'n cynnig yn ffurfiol.
Kirsty Williams: Yn ffurfiol.
Kirsty Williams: Yn ffurfiol.
Kirsty Williams: Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n falch iawn o gyflwyno gwelliant 31, sy'n gosod dyletswydd i hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau i'r rhai sy'n darparu addysgu a dysgu ar gyfer cwricwlwm a grëwyd o dan y Bil hwn. Bydd y ddyletswydd yn disgyn ar y cyd ar gyrff llywodraethu a...
Kirsty Williams: Fodd bynnag, hoffwn dynnu sylw'r Aelodau at ddata a ddarparwyd imi gan y Gwasanaeth Addysg Gatholig, pryd y cawsom wybod mai dim ond un oedd nifer y disgyblion a dynnwyd yn flaenorol o addysg grefyddol enwadol yn 2020. Felly, dylai costau ychwanegol disgwyliedig y newid arfaethedig hwn fod yn fach iawn. Fodd bynnag, bydd fy swyddogion yn parhau i fonitro'r sefyllfa dros y blynyddoedd nesaf,...
Kirsty Williams: Diolch yn fawr iawn, Llywydd, ac a gaf i, yn gyntaf oll, ddiolch i Siân Gwenllian am ei chydnabyddiaeth o'r gwaith aruthrol sydd wedi mynd i mewn i'r rhan hon o'r cwricwlwm, ac am iddi hi a Phlaid Cymru ddeall pam y mae'r gwersi hyn mor angenrheidiol os ydym ni am gyflawni dibenion ein cwricwlwm? Mae'n gwbl briodol bod plant yn dysgu am fyd lle bydd gan bobl amrywiaeth o safbwyntiau...
Kirsty Williams: Diolch, Llywydd, a diolch i Suzy Davies. Gofynnaf i'r Aelodau wrthod gwelliannau 5 a 7. Rwy'n ymwybodol iawn ac yn cydymdeimlo'n fawr â'r pwysau sydd ar ysgolion ar hyn o bryd a'r effaith enfawr y mae COVID wedi'i chael ar eu gweithrediadau a'u gallu i addysgu fel yr hoffen nhw ei wneud. Y blaenoriaethau i ni wrth symud ymlaen, yn rhan o'n hadferiad dysgu, yw hyrwyddo a galluogi addysgu a...