Llyr Gruffydd: Mae cefnogi cleifion i aros gartref yn rhan bwysig o'r ymdrech i gadw pwysau oddi ar y gwasanaeth iechyd, ond mae yna achosion lu. Mae gen i etholwraig sydd angen dialysis yn y cartref dair gwaith yr wythnos. Mae hynny'n costio £20 y dydd o ran ynni i redeg y peiriant dialysis. Mae'r ysbyty yn darparu £40 bob tri mis. Felly, yn amlwg, dyw hi ddim yn gallu fforddio fe. Mae hi hefyd yn...
Llyr Gruffydd: 2. Pa bwysau ychwanegol y mae'r argyfwng costau byw yn ei roi ar y GIG mewn perthynas â phobl â chyflyrau iechyd cymhleth sy'n byw gartref? OQ59125
Llyr Gruffydd: Mi ddywedodd y Brenin Siarl wythnos diwethaf ei fod yn awyddus i weld cyfran o elw Ystad y Goron yn cael ei ddefnyddio at les cyhoeddus ehangach. Byddai nifer ohonom ni'n dadlau y dylai holl arian Ystad y Goron gael ei ddefnyddio at les cyhoeddus ehangach. Mae'n bolisi bellach gan nifer ohonom ni i ddatganoli Ystad y Goron. Byddwn i'n falch iawn i glywed pa waith mae'r Llywodraeth yn ei wneud...
Llyr Gruffydd: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy yng Nghymru? OQ59021
Llyr Gruffydd: Ni all Llywodraeth Cymru wrthod y cyfrifoldeb am hyn. Mae'n wir fod llawer o'r pwysau'n ymestyn y tu hwnt i Gymru ac yn effeithio ar rannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ond ni all unrhyw un ddweud na chafodd Llywodraeth Cymru ei rhybuddio dros nifer o flynyddoedd am y bom amser hwn. Ni all unrhyw un wadu ychwaith fod gennych opsiynau i fynd i'r afael â'r argyfwng hwn. Gall pob un ohonom weld...
Llyr Gruffydd: Mi wnaeth profiadau y pandemig a'r blynyddoedd diwethaf ategu neu atgyfnerthu rhywbeth roeddwn ni i gyd yn ymwybodol iawn ohono fe, sef bod y gweithlu nyrsio o fewn y gwasanaeth iechyd yn un a oedd yn dioddef o ddiffyg niferoedd, a oedd yn dioddef o dâl isel, ac a oedd yn dioddef o forâl hyd yn oed yn is. Rŷn ni wedyn yn gweld, wrth gwrs, gweithwyr ambiwlans yn mynd ar streic. Rŷn ni'n...
Llyr Gruffydd: Wel, diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.
Llyr Gruffydd: A gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan mewn dadl ysgogol a diddorol iawn? A dweud y gwir, roedd yn un o'r dadleuon gorau imi gael y fraint o gymryd rhan ynddi ers tro. Yn amlwg, mae amser yn golygu na allaf ailadrodd popeth a ddywedodd pawb, byddwch yn falch o glywed, ond byddaf yn canolbwyntio ar ychydig o bwyntiau perthnasol. Daeth y Gweinidog yn ôl at yr adolygiad ffyrdd ar y...
Llyr Gruffydd: Mae ail ran ein hadroddiad ni yn ymdrin â’r mater ehangach, fel roeddwn ni’n dweud, o adfer gwasanaethau bysiau a threnau ar ôl pandemig COVID. Hoffwn ddiolch yn arbennig ar ran y pwyllgor i’r aelodau o’r cyhoedd a gyfrannodd at ein gwaith drwy gymryd rhan yn y grwpiau ffocws a’r cyfweliadau amrywiol a gynhaliwyd gennym ni ar hyd a lled Cymru ar y mater yma. Fe gafodd y pandemig...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o allu agor y ddadl yma y prynhawn yma. Liciwn i ddechrau drwy ddiolch i’r holl randdeiliaid a’r holl aelodau o’r cyhoedd hefyd sydd wedi cyfrannu at waith y pwyllgor. Dwi'n falch hefyd, wrth gwrs, fod y Gweinidog wedi derbyn ein holl argymhellion ac eithrio un, ond efallai y down ni at hynny nes ymlaen. Mae dwy ran i'r adroddiad...
Llyr Gruffydd: Ie, un peth sydd ddim ymhlyg yn yr hyn rŷch chi wedi cyfeirio ato fe fanna wrth gwrs yw mai un mesur pwysig, yn ôl llawer o'r dystiolaeth a dderbyniwyd gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig sydd wedi bod yn craffu ar y Bil yma, yw i ba raddau y mae'r Bil yn helpu i amddiffyn ffermydd teuluol. Pan fo gyda chi rwydwaith o ffermydd teuluol, ŷch chi'n llwyddo i wrthsefyll y...
Llyr Gruffydd: Ie, diolch ichi am yr ateb. Wrth gwrs, mi wnaeth y Gweinidog iechyd bwyntio bys ychydig ar y cyhoedd ynglŷn â chyfrifoldeb y cyhoedd i fod yn fwy gofalus am eu hiechyd ac i wneud mwy o ran ymarfer corff ac i fwyta'n iachach ac yn y blaen. Roeddwn i'n teimlo bod hynny efallai—bod pwyntio bys at y cyhoedd ynglŷn â thrafferthion yr NHS braidd yn hallt, ond dwi'n deall y pwynt yr oedd hi'n...
Llyr Gruffydd: Wel, fy mhryder i yw Cymru, wrth gwrs; nid oes gennyf unrhyw awdurdodaeth dros Loegr. Ond yn sicr, credaf fod angen inni fod yn ymwybodol y bydd y penderfyniadau unigol hyn yn arwain, efallai, at bwysau o gyfeiriadau eraill. Nawr, yn gysylltiedig â hyn, mewn gwirionedd, mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth a rheoliadau, ac rydym yn cefnogi llawer ohonynt, ac maent yn deilwng iawn o...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr, Lywydd. Ac roedd yn dda iawn rhannu awr o’n hamser ni hefyd yn cymharu nodiadau mewn perthynas â’r gwaith a wnawn ar y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith.
Llyr Gruffydd: So, diolch am hynny.
Llyr Gruffydd: Weinidog, rydym wedi clywed am bryderon ynghylch contractio gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig mewn perthynas â llywodraeth leol, o ganlyniad i sefyllfa ariannol ein cynghorau. Nawr, un enghraifft amlwg o hynny, wrth gwrs, oedd y ffaith bod Casnewydd yn ystyried diffodd goleuadau stryd bob yn ail rhwng hanner nos a 6 a.m. i leihau costau ynni. Mae rhai o'm cyd-Aelodau ar y meinciau hyn...
Llyr Gruffydd: 3. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasnaethau Cymdeithasol ynghylch ariannu awdurdodau lleol i hyrwyddo iechyd y cyhoedd? OQ58963
Llyr Gruffydd: 7. Sut fydd y Llywodraeth yn mesur llwyddiant Bil Amaethyddiaeth (Cymru) 2022? OQ58966
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'r pwyllgor, fel rŷch chi'n gwybod, wedi ystyried y tri memoranda ar gyfer y Bil ac wedi cyhoeddi dau adroddiad. Mi osodwyd yr un diweddaraf ddoe, a dwi'n hyderu bod Aelodau wedi cael cyfle, ar fyr rybudd, wrth gwrs, i fwrw golwg ar hwnnw. Cyn troi at y darpariaethau sy'n arbennig o berthnasol i gylch gorchwyl y pwyllgor, ac at y mater o gydsyniad,...
Llyr Gruffydd: Diolch, Gareth, nid yn unig am wneud inni gredu, ond am brofi y gallwn. Diolch, hefyd, nid yn unig am fod yn Gymro, ond am fynd â Chymru gyda thi i bobman o amgylch y byd. Diolch hefyd am ddweud bod gennyt gefn gwael. Viva Gareth Bale.