Mike Hedges: Mae 'na ddadl hirfaith i'w chynnal ynglŷn â thrafnidiaeth gyhoeddus a thrafnidiaeth yng Nghymru, ond dydw i ddim yn credu mai heddiw yw'r amser priodol i wneud hynny, ac rwy'n siŵr nad ydych chithau yn credu mai heddiw yw'r amser priodol i wneud hynny. Mae gen i ddau gwestiwn i'r Gweinidog. Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar ffyrdd newydd ar gyfer tir a ddynodwyd mewn cynlluniau datblygu...
Mike Hedges: Wrth fynd yn ôl i adroddiad Silk ynghylch datganoli trethiant, a wnaeth argymell y dylai'r ardoll agregau gael ei datganoli i Gymru. Nid oedd modd ei datganoli oherwydd ymyrraeth yr Undeb Ewropeaidd. Ym mis Tachwedd 2022, gofynnodd Liz Saville Roberts i Ganghellor y Trysorlys a oedd wedi cael trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ynghylch datganoli'r ardoll agregau i Gymru. Ymateb y Trysorlys...
Mike Hedges: A gaf fi ddiolch i Russ George am roi munud i mi yn y ddadl hon, ond yn bwysicach fyth, diolch iddo am ddod â'r ddadl hon i'r Siambr a chyflwyno llawer o syniadau rwy'n eu cefnogi'n llawn? Rwyf am barhau â'r pwynt a wnaeth Russ am bwysigrwydd economaidd ymchwil feddygol. Mae gan ymchwil feddygol fantais o allu cael ei chyflawni yn unrhyw le; nid oes raid ichi fod yn Llundain a de-ddwyrain...
Mike Hedges: A ydych chi'n rhannu fy mhryder am y defnydd o incwm difidend i ostwng faint o dreth sy'n cael ei thalu, ac nad ydym yn cael unrhyw gyfran o incwm difidend pobl sy'n cael eu talu drwy ddifidendau yng Nghymru?
Mike Hedges: Rwy'n credu ei bod bob amser yn dda inni drafod trethiant, yn enwedig pan gaiff ei drafod oddi allan i'r broses o osod y gyllideb. Os gallem ailadrodd y math hwn o ddadl eto efallai, ymhell i ffwrdd o'r gyllideb, oherwydd rwy'n credu bod iddo ystyr lawer dyfnach na'r gyllideb eleni, ac rwy'n credu y byddai dod yn ôl ato ymhen chwe mis yn hynod ddefnyddiol, naill ai wedi'i gyflwyno yma gan y...
Mike Hedges: Na, nid wyf yn cael—[Anghlywadwy.] Dim ond gofyn a yw AS Ynys Môn—
Mike Hedges: Mae’r Gweinidog wedi ateb rhan o’r hyn roeddwn yn mynd i’w godi, gan fod y Gweinidog wedi hen arfer â mi'n sôn am broblem pobl yn gorfod talu taliadau sefydlog. Deallaf o ddarllen The Observer ddydd Sul diwethaf y gall taliadau sefydlog fod hyd at 50c y dydd. Nid yw'r rhan fwyaf ohonom yn ystyried gorfod treulio diwrnod heb roi unrhyw oleuadau ymlaen, heb wylio unrhyw deledu, heb...
Mike Hedges: Rwy'n meddwl eich bod wedi gweld faint o broblem yw hyn i nifer iawn ohonom sy'n cynrychioli etholaethau. Fel y gŵyr y Gweinidog, mae gennyf ddau adeilad uchel iawn yn Nwyrain Abertawe, Altamar a Chei'r De. Yn wir, mae'n bosibl fod y Gweinidog yn gyrru heibio iddynt ar ei ffordd i mewn ambell fore. Mae preswylwyr yn y blociau hynny wedi mynegi pryder difrifol wrthyf. Yn Altamar, maent yn...
Mike Hedges: Ie.
Mike Hedges: Byddaf yn pleidleisio dros y gyllideb hon, er bod gen i bryderon difrifol iawn am y peth. Pe na bai'r Senedd yn gallu gosod cyllideb, does dim prinder aelodau o Lywodraeth San Steffan fyddai ond yn rhy hapus i ddweud, ‘Nid yw datganoli’n gweithio. Gallwn ni osod y gyllideb ar eu cyfer nhw oherwydd dydyn nhw ddim gallu ei wneud eu hunain.' O ran codi treth incwm, fel yr awgrymir gan Blaid...
Mike Hedges: Roeddwn i'n mynd i ddweud ei fod wedi'i seilio ar yr asesiad gwariant safonol, y grant cynnal ardrethi, gan ystyried gallu cynghorau i godi arian. A fyddai'n rhaid i chi hefyd newid yr asesiad gwariant safonol er mwyn newid y grant cynnal ardrethi?
Mike Hedges: A wnewch chi gymryd ymyriad, Peter?
Mike Hedges: Rwy'n croesawu'r datganiad heddiw a chymorth Llywodraeth Cymru i'r gymuned LHDTC+. Rwy'n croesawu'r ymrwymiad i sicrhau mai Cymru yw'r genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop. Rwy'n llwyr gefnogi'r weledigaeth i wella bywydau a'r canlyniadau i bobl LHDTC+. Rwy'n cofio adran 28. Pan oeddwn i'n dysgu mewn coleg, fe ddywedodd un myfyriwr wrthyf i y gallai ef fwlio rhywun a oedd yn hoyw a...
Mike Hedges: Mae'n rhaid i ni symud i ffwrdd o ddatganoli tameidiog, gyda Phlaid Cymru'n credu y gallwn wneud toriadau tameidiog tuag at annibyniaeth, y Ceidwadwyr y gallwn ni ei atal rhag mynd ymhellach, a llawer yn ceisio symud datganoli tuag yn ôl. Un enghraifft yw plismona: wedi ei ddatganoli i'r Alban, Gogledd Iwerddon, Manceinion a Llundain, ond nid i Gymru. Rydym wedi ethol meiri yn uniongyrchol...
Mike Hedges: Ni allwn orbwysleisio pwysigrwydd arian loteri i unigolion. Ar gyfer y prif chwaraeon tîm, fel pêl-droed a rygbi, mae datblygiad chwaraewyr yn cael ei wneud gan glybiau amatur a phroffesiynol, gydag academïau yn rhan o glybiau pêl-droed proffesiynol. Lle mae angen cymorth ar gyfer chwaraewyr iau mewn chwaraeon fel tenis; chwaraewyr sydd angen teithio i dwrnameintiau cenedlaethol a...
Mike Hedges: Gan barhau â'r thema ynni, rwy'n gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar gynnydd sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru ynghylch dod â thaliadau sefydlog i ben ar ddiwrnodau pan nad yw ynni'n cael ei ddefnyddio. Pan fo pobl yn bwyta eu pryd poeth cyntaf ers dyddiau, sy'n debygol o fod yn dun o gawl, a chanfod eu bod wedi defnyddio hyd at chwarter eu credyd ynni, i mi mae hyn yn sylfaenol...
Mike Hedges: Mae'r cyfrifiad yn fesur gwael iawn o nifer y siaradwyr Cymraeg. Wrth gwrs, yn y cyfrifiadau cynnar, y cwestiwn oedd 'Cymraeg, Saesneg neu'r ddau'. Mae'n hunan-ddewis. Mae rhieni hefyd yn gwneud penderfyniad ar ran eu plant, felly nid yw'n ddull cywir o gasglu gwybodaeth. Rwy'n siarad Cymraeg bob dydd, ond yn anaml iawn mewn dadleuon, ac rwyf dim ond yn siarad â phobl rwy'n ffyddiog na...
Mike Hedges: Dwi ddim yn hyderus yn siarad Cymraeg.
Mike Hedges: Fe wnes i dicio'r blwch 'siarad Cymraeg', ond gallwn i fod wedi ticio'r blwch 'nid wyf yn siarad Cymraeg'. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi, mewn cyfrifiadau yn y dyfodol, ar ôl 'Ydych chi'n siarad Cymraeg?', dylech fod â chwestiwn yn gofyn, 'Pa mor aml? A yw'n ddyddiol, fwy nag unwaith yr wythnos neu fwy nag unwaith y mis?' Rwy'n disgwyl am y data ychwanegol fydd yn nodi'r ardaloedd lle...
Mike Hedges: Rwy'n gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar daliadau fferm sylfaenol. Rwy'n gofyn am ddatganiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu taliadau fferm sylfaenol ac yn egluro pam mae Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu cynnig Undeb Amaethwyr Cymru i gapio taliadau fferm sylfaenol. Rwy'n gofyn hefyd am ddatganiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar gynigion ynglŷn â chyweirio cladin ar...