Canlyniadau 41–60 o 1000 ar gyfer speaker:Caroline Jones

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: COVID-19 a Swyddi (19 Ion 2021)

Caroline Jones: Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi mai'r ffordd orau o sicrhau swyddi yn ystod y pandemig hwn yw sicrhau bod pob cyflogwr sy'n cael ei effeithio gan fesurau i leihau lledaeniad COVID-19 yn cael cymorth? Mae dau gwmni o'r fath sydd wedi cael eu heffeithio yn fy rhanbarth i wedi cysylltu â mi, ac mae'r ddau ohonyn nhw yn gweithredu arcedau difyrion a gwrthodwyd cymorth i'r ddau ohonyn...

Cwestiwn Brys: Y Cynllun Brechu yn erbyn COVID-19 (19 Ion 2021)

Caroline Jones: Gweinidog, er gwaethaf pa un a lithrodd y Prif Weinidog wrth siarad ar gyfweliad Radio 4 ai peidio, y gwir amdani yw mai Cymru yw'r wlad waethaf yn y DU o ran cyflwyno'r brechlyn. Rydym ni ymhell y tu ôl i Ogledd Iwerddon a Lloegr, ac os gall y genedl leiaf yn ein cenedl lwyddo i wneud hyn, pam na allwn ni? Mae'n hanfodol ein bod yn cyflymu'r broses o gyflwyno'r brechlyn yn sylweddol pan...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Datblygiad Addysg (13 Ion 2021)

Caroline Jones: Weinidog, rwy'n siŵr y gall pob un ohonom gytuno nad oes dim yn cymharu â dysgu wyneb yn wyneb. Mae mynd i’r ysgol yn ymwneud â mwy na chyflawniad addysgol, mae'n rhan bwysig o ddatblygiad emosiynol ein pobl ifanc. Er bod COVID yn effeithio ar lefelau presenoldeb ysgolion, mae’n rhaid peidio â chaniatáu iddo effeithio ar ddatblygiad unigolyn ifanc, ac mae etholwr wedi cysylltu â mi...

5. Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2021-2022 (12 Ion 2021)

Caroline Jones: Diolch i'r Gweinidog am amlinellu cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22. Mae'r ffaith ein bod ni hyd yn oed yn gallu trafod y gyllideb hon yn rhyfeddol, o ystyried heriau'r 12 mis diwethaf. Gwn fod y Gweinidog wedi beirniadu diffyg cynllun gwariant tair blynedd gan Lywodraeth y DU, ond rhaid ichi dderbyn ei bod hi bron yn amhosibl cynllunio yn y cyfnod ansicr hwn. Nid ydym yn gwybod...

4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Strategaeth Frechu COVID-19 (12 Ion 2021)

Caroline Jones: Diolch am eich datganiad, Gweinidog, ac fe hoffwn i gymryd ennyd i ddiolch i'r holl wyddonwyr a'r gwirfoddolwyr sydd wedi ei gwneud hi'n bosibl inni allu trafod y rhaglen frechu hon. Ddoe, roedd yn flwyddyn i'r diwrnod ers y farwolaeth gyntaf erioed o COVID-19, ac mewn dim ond 12 mis rydym wedi cymeradwyo tri brechlyn. Mae hyn yn wirioneddol ryfeddol. Gweinidog, sut fyddwch chi'n monitro...

3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Goronafeirws (30 Rha 2020)

Caroline Jones: Diolch am eich diweddariad, Weinidog. Hoffwn innau ddiolch i'r rhai sy'n gweithio'n ddiflino, yn enwedig dros gyfnod y Nadolig. Rydym wedi gwybod am amrywiolyn newydd SARS-CoV-2 ers sawl mis. Yn y cyfnod ers hynny, pa asesiad a wnaed o ddifrifoldeb y clefyd a achosir gan y mwtaniad feirysol? A yw cyfradd marwolaethau'r haint yn is neu, Duw a'n gwaredo, yn uwch? Ymddengys bod adroddiadau gan y...

1. Dadl: Diwedd Cyfnod Pontio'r UE (30 Rha 2020)

Caroline Jones: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn wahanol i Lywodraeth Cymru, byddaf fi, a mwyafrif pleidleiswyr Cymru, yn cefnogi cytundeb Brexit a diwedd y cyfnod pontio ar ddiwedd yr wythnos hon. O'r diwedd, rydym yn rhydd rhag rheolaeth fiwrocrataidd yr UE, a gallwn edrych ymlaen at berthynas fasnach rydd fodern â gweddill y byd yn hytrach na pharhau i fod wedi ein clymu wrth floc masnachu ynysig,...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Cyn-filwyr (16 Rha 2020)

Caroline Jones: Mae Hyb Cyn-filwyr Porthcawl a'r gwirfoddolwyr niferus yno'n rhoi cymaint o gefnogaeth i gyn-filwyr, a heb y cymorth hwn, byddai llawer ohonynt yn cael eu colli. Ond Weinidog, mae'r pandemig wedi tynnu sylw at y ffaith ein bod ni fel cenedl yn dal i wneud cam â'n cyn-filwyr, ac mae cyn-filwyr yn dal i'w chael hi'n anodd cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt ac y maent yn ei haeddu, a cheir...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Maglau (16 Rha 2020)

Caroline Jones: Weinidog, mae defnyddio maglau yn weithred farbaraidd ac nid oes lle iddi mewn Cymru fodern ddi-greulondeb. Mae'r cod ymarfer yn caniatáu i'r fasnach anfoesol mewn ffwr llwynogod barhau, ac nid yw'n gwneud dim i atal dioddefaint aruthrol i anifeiliaid a dargedir ac anifeiliaid nad ydynt wedi'u targedu. Mae'r RSPCA yn ymdrin yn rheolaidd â moch daear a chathod anwes sydd wedi treulio dyddiau...

18. & 19. Egwyddorion Cyffredinol y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) a'r Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) (15 Rha 2020)

Caroline Jones: Mae hynny wedi'i gofnodi. Mae athrawon wedi dweud yn gyfrinachol wrthyf i nad ydyn nhw wedi cael hyfforddiant yn y pwnc hwn, a byddai'n well gan rai bod gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn addysgu'r pwnc, gan nad ydyn nhw'n teimlo'n ddigon cymwys i'w addysgu. Ac rwy'n credu'n angerddol y dylid caniatáu i blant fod yn blant ac nad oes angen datblygiadol i addysgu rhywioldeb a chydberthynas...

18. & 19. Egwyddorion Cyffredinol y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) a'r Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) (15 Rha 2020)

Caroline Jones: Os yw'n cael ei gyflwyno, os yw'n cael ei gyflwyno'n genedlaethol, maen nhw wedi gweld—

18. & 19. Egwyddorion Cyffredinol y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) a'r Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) (15 Rha 2020)

Caroline Jones: Fel y mae'n sefyll, ni allwn gefnogi'r Bil cwricwlwm. Os bydd y Bil yn parhau i ddileu hawliau rhieni fel prif addysgwyr, ni allaf, â chydwybod clir, bleidleisio i gefnogi ei gyflwyno, ni waeth beth fo'r gwelliannau eraill a ddaw yn ei sgil i addysg yng Nghymru. Mae gorfodi addysgu addysg cydberthynas a rhywioldeb, ac addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg yn ddirmygus ac mae wedi'i wrthod gan...

17. Dadl: Cyfyngiadau Coronafeirws Newydd (15 Rha 2020)

Caroline Jones: Diolch i'r Prif Weinidog am roi copi i ni o gynllun rheoli coronafeirws diweddaraf Llywodraeth Cymru. Prif Weinidog, Cymru bellach sydd â'r cyfraddau heintio gwaethaf yn y DU, a thros y saith diwrnod diwethaf, y gyfradd heintio dreigl fesul 100,000 oedd 450.4. Ledled Cymru, roedd cyfradd profion cadarnhaol bron 20 y cant, ac mae hyn er bod Cymru o dan y cyfyngiadau lefel 3 a amlinellwyd yng...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Mynd i'r Afael â Phandemig y Coronafeirws (15 Rha 2020)

Caroline Jones: Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Drwy gydol y pandemig, rydych chi wedi dilyn y cyngor a roddwyd i chi gan y gell cyngor technegol, ac eto mae'r pandemig yn ymledu'n ffyrnig ac allan o reolaeth yn llwyr yng Nghymru. Felly, mae llawer o bobl yn dod i'r casgliad bod problem naill ai gyda'r cyngor neu gyda'i weithrediad. A gan na allwn ni weld y cyngor a roddir i Weinidogion, dim ond crynodebau,...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Mynd i'r Afael â Phandemig y Coronafeirws (15 Rha 2020)

Caroline Jones: 2. A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i adolygu'r cyngor y mae wedi'i gael ynghylch mynd i'r afael â phandemig y coronafeirws? OQ56051

7. & 8. Dadl: Cyfyngiadau Coronafeirws Newydd (Gohiriwyd o 8 Rhagfyr) a Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Coronafeirws — Cyfyngiadau mis Rhagfyr ( 9 Rha 2020)

Caroline Jones: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cyn imi symud ymlaen i ymdrin â'r cynnig ei hun, rhaid imi gofnodi fy siom ynglŷn â'r ffordd y mae'r sefydliad hwn wedi cael ei drin. Etholwyd y Senedd hon i ddeddfu er budd gorau pobl Cymru, ond oherwydd y dirmyg a ddangoswyd gan Lywodraeth Cymru, mae galw arnom unwaith eto i amenio penderfyniadau sydd eisoes wedi'u gwneud. Cawsom ein hethol i gynrychioli ein...

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cefnogaeth i fabanod a rhieni newydd yn ystod COVID-19 ( 9 Rha 2020)

Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am gyflwyno'r ddadl bwysig hon, ac rwy'n falch iawn o gymryd rhan. Mae COVID-19 wedi cael effaith ofnadwy ar bob un ohonom, ac fel y mae'r cynnig hwn yn ei nodi'n briodol, mae wedi gosod beichiau ofnadwy ar ysgwyddau rhieni newydd i blentyn a anwyd yn ystod y pandemig hwn. Mae'n werth ailadrodd fod y cyfnod o feichiogi i 2 oed yn gyfnod tyngedfennol, pan osodir...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.