Neil McEvoy: Diolch, Lywydd. Rwyf wedi cyflwyno gwelliant syml heddiw, sy'n dweud, lle bo angen, y dylai awdurdodau lleol ddefnyddio pryniant gorfodol i ddiwallu anghenion tai cymdeithasol. Rwyf wedi cefnogi prynu gorfodol ers peth amser. Rwyf hefyd wedi dadlau ers tro byd o blaid cysyniad syml ar gyfer tai, sef tai lleol yn seiliedig ar angen lleol. Mae'n safbwynt nad yw'r Blaid Lafur yn ei ddeall. Mae'n...
Neil McEvoy: Rwy’n annog y Gweinidog yn gryf i gael trafodaethau gyda Chyngor Gwynedd, gan y gall llywodraeth leol wneud llawer. Yng Ngwynedd, mae 7,000 o gartrefi yn eiddo i bobl nad ydynt yn byw yng Nghymru hyd yn oed. Mae deg y cant o gartrefi yng Ngwynedd yn cael eu defnyddio fel ail gartrefi—mwy nag unrhyw sir arall yng Nghymru. Prynwyd bron i 40 y cant o'r eiddo a werthwyd yng Ngwynedd rhwng mis...
Neil McEvoy: Diolch. Mae miloedd o bobl yng Nghymru yn byw mewn fflatiau sydd mewn perygl o fynd ar dân. Mae'r eiddo'n ddiwerth. Mae Grenfell Cymreig yn anochel. Bûm yn ymweld â Victoria Wharf a gwneuthum fideo i ddangos yr effaith aruthrol y mae hyn yn ei chael ar breswylwyr, ac mae 750,000 o bobl wedi gwylio’r fideo, ac wedi gweld a chlywed preswylwyr yn dweud eu bod wedi ysgrifennu atoch chi a’r...
Neil McEvoy: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw gyllid canlyniadol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gael o ganlyniad i gronfa Llywodraeth y DU ar gyfer adfer adeiladau sydd â deunydd cladin nad yw'n alwminiwm? OQ55537
Neil McEvoy: 6. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch effaith ail gartrefi ar yr iaith Gymraeg? OQ55538
Neil McEvoy: Gwnaf. Yr hyn yr hoffwn i ei wybod yw: beth mae'r Llywodraeth yn mynd i'w wneud ynghylch hyn?
Neil McEvoy: Hoffwn i gael datganiad gan y Llywodraeth ar adroddiad Llywodraeth San Steffan NRPB-M173. Rwy'n deall nad yw bellach ar gael i'r cyhoedd, ond mae'n dangos yn gwbl glir bod plwtoniwm wedi bod yn gollwng o Hinkley Point i'r aber ers degawdau. Yr hyn sy'n peri pryder arbennig yw bod adroddiad a phrofion Llywodraeth y DU, ym 1982, wedi dangos bod hynny'n gynnydd enfawr mewn gollyngiad plwtoniwm...
Neil McEvoy: Prynodd trigolion Victoria Wharf yng Nghaerdydd yr hyn yr oedden nhw'n eu hystyried yn gartrefi eu breuddwydion, ond y gwir amdani yw mai prynu hunllef a wnaethon nhw. Mae'r eiddo yn ddiwerth erbyn hyn, dydyn nhw ddim yn gallu benthyg ar eu sail, dydyn nhw ddim yn gallu eu gwerthu a cheir pryderon gwirioneddol ynghylch diogelwch tân. Nid yw'r trigolion hyn yn cysgu'n dawel yn eu gwelyau liw...
Neil McEvoy: Diolch, Llywydd dros dro. Dyma'r trydydd tro i ni drafod Cymru sofran mewn ychydig dros ddwy flynedd. Cymerodd hi 19 mlynedd i gael y ddadl gyntaf, felly rydym ni'n gwneud cynnydd—rydym ni'n gwneud cynnydd. Rwy'n falch iawn o Gymru, rwy'n falch iawn o'r hyn yr ydym ni wedi ei gyflawni, ac rwy'n fwy balch byth pan rydym ni'n mynd ymlaen i gyflawni mwy o bethau pan fo'r pwerau gennym ni....
Neil McEvoy: Hoffwn godi pwynt—
Neil McEvoy: Llywydd, rwyf wedi bod yn ceisio codi pwynt o drefn dros y 15 munud diwethaf.
Neil McEvoy: Iawn. Mae gen i bwynt o drefn i'w godi, Llywydd. Rwyf wedi bod yn aros am 15 munud.
Neil McEvoy: Hoffwn i gael datganiad ar brofi'r mwd niwclear o orsaf bŵer niwclear Hinkley Point, neu ddiffyg hynny, mewn gwirionedd. Clywsom yr wythnos diwethaf fod panel o arbenigwyr wedi'i sefydlu heb broses o gais cyhoeddus. Rwy'n bryderus iawn bod rhai arbenigwyr allweddol mewn ffiseg niwclear—gwyddonwyr—wedi cael eu hepgor o'r grŵp hwnnw, sy'n destun pryder. Ond y datganiad syml iawn yr wyf yn...
Neil McEvoy: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i ddioddefwyr cam-drin domestig y mae'r gwasanaethau cymdeithasol yn tynnu eu plant oddi arnynt?
Neil McEvoy: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, diolch am y datganiad. Dywedodd y cyhoeddiad Nation.Cymru heddiw fod y Financial Times yn adrodd y bydd Llywodraeth y DU yn gorfodi Cymru i dderbyn cynnyrch amaethyddol israddol, megis cyw iâr wedi'i glorineiddio er enghraifft, a dywedodd fod uwch swyddog yn Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd disgwyl i ni gydymffurfio â hynny. Onid ydych yn credu ei bod...
Neil McEvoy: Felly rwy'n edrych am sicrwydd, a dweud y gwir, ac mae'n fater o gydraddoldeb—ac rwy'n dweud hyn fel Cymro sy’n siarad Saesneg fel iaith gyntaf, am nad oeddwn yn deall gair o Gymraeg hyd nes fy mod yn 32, ac rwy'n cofio rhywun o Ddenmarc yn siarad â mi yn Sbaen yn Gymraeg, ac roeddwn i'n meddwl ei fod yn siarad â mi mewn Daneg. Dyna pa mor gywilyddus oedd fy addysg. Felly, credaf yn...
Neil McEvoy: Fel arfer, dwi'n siarad yn Saesneg achos dwi'n fwy hyderus yn Saesneg, achos pan o'n i yn yr ysgol, do'n i ddim yn gallu dysgu Cymraeg—dim gair, dim gair o Gymraeg, tan wnes i gwrs Wlpan. Roedd y cwrs drwy drochi yr iaith. Wedyn, yr wythnos diwethaf, ro'n i'n poeni'n fawr pan oedd y Blaid Lafur yma, a'r Gweinidog hefyd dwi'n meddwl, a Phlaid Cymru, wedi pleidleisio yn erbyn cyrsiau trochi.
Neil McEvoy: Diolch, Weinidog. Mae argyfyngau'n creu cyfleoedd yn eu sgil a gall yr amgylchiadau mwyaf anffodus greu newid cadarnhaol iawn. Nid yw'r dull dysgu cyfunol yn mynd i weithio pan ddaw’r hydref, mae plant ar ei hôl hi, nid yw pawb ar-lein ac mae problem gyda rhieni'n gweithio. Fel cyn-athro, rwy'n ymwybodol iawn o fanteision enfawr dosbarthiadau llai: mae perthynas wahanol yn yr ystafell...
Neil McEvoy: Hoffwn gael datganiad gan y Gweinidog plant. Cefais gyfarfod yn ddiweddar, y diwrnod o'r blaen, ar Zoom gyda nifer o famau, gyda nain ac un tad, ac roedd y plant i gyd mewn gofal. Y broblem gyffredin yw bod yr adroddiadau sy'n cael eu cyflwyno gerbron llysoedd i alluogi plant i gael eu gosod mewn gofal yn anghywir, dro ar ôl tro. Rwyf wedi gweld y gwallau; nid yw'r system yn eu nodi, caiff...
Neil McEvoy: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am faint dosbarthiadau mewn ysgolion yng Nghymru? OQ55411