Ken Skates: —yn gryno. Rwyf wedi sôn am baneli solar. Byddwn yn edrych ar hyfforddiant ac ymgysylltu. Byddwn yn edrych ar arbedion drwy’r contract arlwyo, neu fel dewis arall yn lle arbedion, byddwn yn edrych ar godi refeniw, a chynyddu’r prisiau i Aelodau o bosibl. Byddwn hefyd yn edrych ar ailgyflwyno taliadau am barcio ceir, o ystyried yr angen i ddiogelu'r rheini ar y cyflogau isaf. Ac felly,...
Ken Skates: Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau? Codwyd nifer o themâu tebyg gan yr Aelodau, ac rwyf am geisio ateb pob un. Yn gyntaf oll, dylwn ddweud y byddwn yn cytuno’n llwyr â Peredur Owen Griffiths na ddylem ac na allwn ganiatáu i broses eleni, a ddigwyddodd mor hwyr, gael ei hailadrodd, ond yn sicr, fel y cydnabu Peredur ei hun, ni fyddwn byth yn gweld...
Ken Skates: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cyflwyno cynnig cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2023-24, ac yn gofyn iddo gael ei ymgorffori yn y cynnig cyllidebol blynyddol. Fel y byddwch wedi'i weld yn nogfen y gyllideb, mae'r Comisiwn yn gofyn am gyfanswm cyllidebol o £67.643 miliwn, sy'n cynnwys £41 miliwn ar gyfer gwasanaethau'r Comisiwn, £17.8 miliwn ar gyfer dyfarniad y bwrdd taliadau, £101,000 ar...
Ken Skates: Diolch am eich datganiad, Weinidog. Wrth gwrs, nid oedd cyffordd 1 yn Rhiwabon wedi'i chynnwys yn yr adolygiad ffyrdd, ac felly nid yw gwaith ar wella’r gyffordd honno wedi’i oedi, a hynny am reswm da. Mae’r gyffordd benodol honno’n beryg bywyd, ac mae wedi creu hafn o dagfeydd i fyny’r A483, gyda chynnydd mewn allyriadau carbon o ganlyniad i hynny. Ac wrth gwrs, mae hefyd yn anfon...
Ken Skates: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adolygiad Llywodraeth Cymru o welliannau cyffyrdd ar yr A483? OQ58740
Ken Skates: Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am roi'r datganiad gwerthfawr hwn gerbron heddiw? Rwy'n ei groesawu yn fawr a chyda'r perygl o ail-ddweud yr hyn yr oedd gan Mabon ap Gwynfor yn ei gyfraniad rhagorol ef, fe hoffwn i ddatgan bod honno, yn y rhan hon o'r gogledd yn Ne Clwyd, yn broblem fawr mewn rhai cymunedau, y cymunedau poblogaidd hynny ymhlith twristiaid, gan gynnwys Llangollen, lle mae...
Ken Skates: Prif Weinidog, mae gan raglen HyNet North West y potensial i newid yn sylweddol y ffordd yr ydym yn diwallu ein hanghenion trafnidiaeth a busnes o ran tanwydd ar draws gogledd-orllewin Lloegr ac, wrth gwrs, gogledd Cymru. Maer metro dinas-ranbarth Lerpwl, Steve Rotheram, sy'n hyrwyddo'r rhaglen, ac mae'n cael ei chefnogi gan gynghorau Wrecsam a sir y Fflint, yn ogystal â chyngor busnes...
Ken Skates: Diolch, Weinidog. Mae hynny'n gysur mawr i'w glywed. Rwy'n gwybod eich bod yn gyfarwydd â stori Canolfan Hamdden Plas Madoc yn fy etholaeth a'r gwaith anhygoel a wnaed gan wirfoddolwyr i'w gadw'n agored doed a ddelo. Ond maent yn wynebu rhwystrau enfawr y gaeaf hwn, yn rhannol o ganlyniad i Brexit, gyda chostau cemegol yn codi i'r entrychion a heriau cludiant, ond hefyd oherwydd cynnydd ym...
Ken Skates: 5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o faint o byllau nofio allai orfod cau'r gaeaf hwn o ganlyniad i brisiau ynni cynyddol a'r argyfwng costau byw? OQ58557
Ken Skates: Trefnydd, nid oes gennyf i unrhyw amheuaeth y byddech chi'n cytuno bod cynnal Eurovision 2023 yn Lerpwl yn newyddion gwych i Gymru gyfan, ond yn arbennig i'r gogledd. Felly, byddwn i'n ddiolchgar iawn am ddatganiad gan y Llywodraeth ynghylch sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu hyrwyddo'r gogledd a Chymru gyfan yn y digwyddiad y flwyddyn nesaf. Mae'n gyfle gwych, o gofio pa mor agos yr ydym...
Ken Skates: Diolch. Wrth gwrs, mae'r pedwerydd Canghellor, yn yr un faint o fisoedd, bellach wedi claddu Trussonomics ac wedi gwneud tro pedol o ran y gyllideb fach gyfan fwy neu lai, ond, fel yr amlinelloch chi, bydd effeithiau llywio'r economi fel car bympar yn arwain at ganlyniadau dinistriol: trethi uwch, chwyddiant uwch, cyfraddau morgais uchel. Ydy hi'n deg bod pobl Cymru a phobl y DU yn cael eu...
Ken Skates: 2. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith y mae'r helbul diweddar yn y marchnadoedd ariannol yn ei chael ar Gymru? OQ58590
Ken Skates: Diolch, Weinidog. Dyna newyddion rhagorol. Y brechlyn, wrth gwrs, yw'r ffordd fwyaf effeithiol o ddiogelu ein hunain rhag COVID, ac er mwyn byw gyda'r feirws, mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom i gael y pigiad pan fydd ar gael i ni. Mae hefyd yn hanfodol fod y broses o gyflwyno'r rhaglen yn parhau yn y ffordd fwyaf effeithlon a theg. A ydych yn hyderus fod pobl yn gallu cael y brechlyn o fewn...
Ken Skates: Hoffwn ddiolch i Natasha Asghar am gyflwyno’r cwestiwn pwysig hwn. Weinidog, o ystyried yr hyn y mae pobl ifanc wedi bod drwyddo gyda COVID, yr hyn y maent ar fin mynd drwyddo gyda'r argyfwng costau byw, mae'n hanfodol eu bod, drwy'r cwricwlwm newydd, yn gallu dysgu'r sgiliau bywyd hanfodol hynny, yn enwedig mewn llythrennedd ariannol ac ymwybyddiaeth iechyd meddwl. A wnewch chi ymuno â mi...
Ken Skates: 8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno'r rhaglen frechu COVID-19? OQ58516
Ken Skates: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi cynorthwywyr dysgu ysgolion?
Ken Skates: Prif Weinidog, pan fydd Prif Weinidog y DU yn siarad â chi o'r diwedd ac nid amdanoch chi yn unig, a wnewch chi ei sicrhau hi ar ran pobl y canolbarth a'r gorllewin nad ydych chi yn erbyn twf o gwbl ond eich bod chi gyda balchder, yn erbyn trachwant?
Ken Skates: Rwyf innau hefyd yn ddiolchgar iawn i Sam Rowlands am gyflwyno'r cynnig pwysig hwn heddiw. Rwy'n mynd i wneud pedwar pwynt cyflym y byddaf yn ymhelaethu arnynt mewn gohebiaeth, Weinidog: yn gyntaf oll, mae'n hanfodol fod cyllid perfformiad elît yn dilyn yr athletwr ac nad yw'n mynd yn syth i gyrff llywodraethu neu ganolfannau cenedlaethol. Mae hynny oherwydd bod rhaid i fabolgampwyr gogledd...
Ken Skates: Trefnydd, byddwn i'n ddiolchgar iawn am ddatganiad ynglŷn â'r economi. Mae'n eithaf clir nawr fod Llywodraeth y DU, a'r Canghellor yn enwedig, wedi colli rheolaeth ar economi'r DU, gan arwain at ganlyniadau ofnadwy i bob un ohonom ni. A gawn ni ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan Weinidog yr economi yn benodol ynghylch busnesau a chanlyniadau tebygol i fusnesau Cymru yn sgil y bunt yn...
Ken Skates: A gaf innau hefyd ddiolch i Rhun ap Iorwerth am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn? Wrth gwrs, bydd yr ymchwiliad yn amlygu pa mor effeithiol oedd cyfathrebu ai peidio rhwng Llywodraethau—Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Llywodraethau eraill yn y Deyrnas Unedig. Ond, wrth gwrs, nid yw COVID wedi diflannu; dydyn ni ddim wedi trechu COVID eto. Rwy'n hapus i gael fy nghywiro gan y Gweinidog...