Steffan Lewis: Yr wythnos hon, gwelsom y cam digynsail o ddatganiad ar y cyd rhwng Canolfan Diogelwch Seibr Cenedlaethol y DU, yr FBI ac Adran Diogelwch Cartref yr Unol Daleithiau, yn rhybuddio am risgiau cynyddol i'n seilwaith rhyngrwyd a'n caledwedd gan hacwyr a noddir gan wladwriaeth Rwsia. Mae Casnewydd ar flaen y gad o ran arbenigedd seiberddiogelwch, ac mae'r Academi Seiberddiogelwch Genedlaethol...
Steffan Lewis: Rwy'n credu, o'r holl wledydd Celtaidd, bod gennym ni lawer o ddal i fyny i'w wneud pan ddaw i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd i ymgysylltu â'n cymunedau alltud. Ceir un neu ddau o bwyntiau yr hoffwn eu codi gyda'r Prif Weinidog—un yr wyf i wedi ei godi o'r blaen, sef penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â pharhau i fesur enw da Cymru yn fyd-eang. Tybed a allai'r Prif Weinidog...
Steffan Lewis: Wrth gwrs, cyn i ni siarad am bwerau newydd i Gymru ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae'r mater bach o bwerau yn cael eu tynnu yn ôl o Gymru yn y cyfamser, rhywbeth y mae Llywodraeth San Steffan wedi cyfaddef fydd yn digwydd dros y penwythnos. Nawr ein bod ni wedi gweld gwelliannau Llywodraeth San Steffan i gymal 11 y Mesur, rydym ni'n gwybod y bydd gan Lywodraeth San Steffan yr hawl i...
Steffan Lewis: Hoffwn ofyn i arweinydd y tŷ am ddatganiad Llywodraeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol os yw'n bosibl, ac, yn wir, am arweiniad pellach ar y rhwymedigaethau ar awdurdodau lleol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol bod y ganolfan hamdden yn ein cymuned ym Mhontllanfraith dan fygythiad o gau. Mae...
Steffan Lewis: Rwy'n diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma, ac mae'n rhaid imi ddweud fy mod i'n parhau i fod wedi fy syfrdanu gan hwyliau lled rhadlon Ysgrifennydd y Cabinet. Ni allaf ddychmygu pa mor rhwystredig a phoenus o drwyadl y bu'r broses hon, ac eto ymddengys ei fod bob amser yn llwyddo i gynnwys y gair 'adeiladol' mewn datganiad ynglŷn â'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion...
Steffan Lewis: Diolch, Llywydd. Mae'n chwith iawn gen i weld y chwarae gwleidyddol, y tactegau osgoi a'r cilio rhag ateb cwestiwn y farchnad sengl yn araith arweinydd Plaid Lafur y DU ar ei weledigaeth ar gyfer perthynas â'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Mae yna ganlyniadau go iawn i bobl go iawn yn sgil gadael y farchnad sengl. Un o'r canlyniadau hynny fydd colli'r hawl i fanteisio ar dreialon...
Steffan Lewis: Diolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma ac am yr holl sylwadau personol caredig a fynegwyd yn ogystal. Oherwydd fy mrwdfrydedd yn gynharach, nid wyf yn meddwl bod gennyf amser i fynd drwy bob cyfraniad, ond hoffwn adleisio'r hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet o ran y cyfraniad gan grŵp y Ceidwadwyr heddiw. Credaf fod hwn yn gyfraniad adeiladol iawn. Yn sicr, credaf ei...
Steffan Lewis: Rwy'n falch iawn o wneud y cynnig deddfwriaethol ar gyfer Bil parhad i Gymru yn ffurfiol. Rwyf hefyd am gofnodi, Lywydd, nad cyflwyno na hyd yn oed deddfu Bil parhad i Gymru yw'r opsiwn a ffafrir gan Blaid Cymru, ac ni fu erioed yn opsiwn a ffafrir gennym. Yn wir, yn sgil y refferendwm Ewropeaidd, rwy'n cofio awgrymu bod pedair Llywodraeth y DU yn dod at ei gilydd, gan ddefnyddio...
Steffan Lewis: Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a chyd-Aelodau.
Steffan Lewis: Rwy'n croesawu'n fawr y cyhoeddiad ddoe gan Lywodraeth Cymru i greu cronfa parodrwydd ar gyfer Brexit o £50 miliwn, rhywbeth a fydd yn hanfodol ar gyfer cefnogi mentrau yn y de-ddwyrain a ledled y wlad. Ac rwy'n mawr obeithio bod Llywodraeth Cymru wedi edrych ar fodelau Iwerddon ar gyfer cymorth, wrth i ni wynebu gwahaniad oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd a'r ansicrwydd economaidd mawr sy'n...
Steffan Lewis: Wel, rwy'n siŵr y bydd gan yr Aelod gymaint o ffydd ag sydd gennyf fi yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid iddo deithio i Lundain a negodi bargen i Gymru ar gyfer gweinyddu lles a fyddai'n dod â'r symiau canlyniadol sydd eu hangen arnom. Mae gennyf bob hyder y byddem yn gwneud gwaith gwell o lawer o weinyddu lles yn y wlad hon ein hunain na'r giwed honno yn Llundain. Yn bendant....
Steffan Lewis: Wrth gwrs y gwnaf.
Steffan Lewis: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma. Nododd Dawn Bowden y pwynt pwysig fod diwygio lles, wrth gwrs, yn rhan o agenda gymdeithasol ehangach Llywodraeth Geidwadol y DU, a'i fod yn thema ganolog yn y polisi cyni. Yng nghyfraniad Gareth Bennett—gwrandewais arno'n ofalus—erbyn y diwedd nid oeddwn yn siŵr a oedd yn mynd i symud at y Blaid Geidwadol...
Steffan Lewis: Diolch i arweinydd y tŷ am ei hateb. Fe fydd hi'n gwybod, wrth gwrs, am achosion proffil uchel a thorcalonnus ar draws y wlad yn y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys yn ardal Heddlu Gwent. O ystyried natur gymhleth caethwasiaeth fodern a'r ffaith bod nifer o asiantaethau'n rhan o'r gwaith o'i threchu a'i hatal—rhai'n ddatganoledig, eraill heb eu datganoli—rwyf am ofyn pa fath o rôl...
Steffan Lewis: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Nodaf yr ateb a roddodd i gwestiwn blaenorol pan ddywedodd nad oedd yn awyddus i greu sefydliadau newydd pan fo'r sefydliadau presennol yn gweithio'n dda i ni, ac rwy'n cytuno â hynny. Fodd bynnag, efallai bod angen ychydig o gynllunio wrth gefn, gan y byddai colli mynediad at Fanc Buddsoddi Ewrop yn newyddion drwg i Gymru ac i economi...
Steffan Lewis: Wel, rwy'n siŵr y bydd Llywodraeth Prydain wedi newid ei meddwl erbyn yr adeg hon yr wythnos nesaf ar y pwynt hwnnw a sawl pwynt arall, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydych yn sôn am archwilio'r opsiynau posibl a fydd ar gael ar ôl ymadael. Tybed a oes un o'r opsiynau hynny rydych wedi eu harchwilio fel Llywodraeth yn cynnwys perthynas uniongyrchol rhwng Cymru a Llywodraeth Cymru a Banc...
Steffan Lewis: Diolch, Lywydd. Un rhan fawr o'r ansicrwydd cyffredinol sy'n ein hwynebu o ganlyniad i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yw ein perthynas yn y dyfodol â Banc Buddsoddi Ewrop. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, ychydig wythnosau yn ôl, roedd Llywodraeth Prydain yn awyddus i gynnal rhyw fath o berthynas â'r banc wedi i ni ymadael, ond roeddent ychydig yn brin o fanylion, gadewch i ni ddweud. Tybed...
Steffan Lewis: 11. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad ar y camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â chaethwasiaeth yng Nghymru? OAQ51412
Steffan Lewis: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fuddsoddi cyfalaf yn ardal Dwyrain De Cymru?
Steffan Lewis: Cyn i mi orffen, hoffwn i droi tuag at un pwynt a gododd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn ei gyfraniad ef. Nid yw gweithredoedd y Llywodraeth yn cyd-fynd bob tro gyda'i rhethreg o fod eisiau rhedeg gwasanaeth iechyd mewn ffordd strategol a chynaliadwy. Rydym yn gwario, am resymau da iawn, gyfran enfawr o'r gyllideb genedlaethol ar y gwasanaethau iechyd—yn aml iawn i gost, fel sydd wedi cael...