Rhun ap Iorwerth: Gadewch i ni gael dechrau newydd. Ac yn olaf, ynghylch rôl y Gweinidog ei hun, awgrymais ddoe y dylai fod yn ystyried ei lle hi ei hun a'i rôl hi ei hun yn hyn i gyd. Dywedodd y bore yma, bydd hi'n parhau'n Weinidog Iechyd cyn belled â bod gan y Prif Weinidog ffydd ynddi. Wel, gallaf ddweud wrthych chi fod ffydd yng ngallu'r Llywodraeth hon a'r Gweinidog i roi trefn ar Betsi wedi hen fynd.
Rhun ap Iorwerth: Rydw i'n mynd i ddechrau gyda'r hyn yr ydw i'n cytuno â'r Gweinidog yn ei gylch—sef gosod Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig. Ond mae'n eithaf clir, onid yw, na ddylai fod wedi cael ei dynnu allan yn y lle cyntaf, yn gyfleus ac yn rhy gynnar. Ond roedd y Gweinidog eisiau neilltuo bai hefyd. Mae hi'n dweud mai adroddiad diweddar Archwilio Cymru oedd y pennog gyda phwn a dorrodd asgwrn...
Rhun ap Iorwerth: Diolch i Siân am ddod â’r pwnc pwysig yma i'r Senedd heddiw. Buaswn i hefyd yn licio diolch a thalu teyrnged i’m cyn-gyfaill a chyd-Aelod, Steffan Lewis, am y gwaith rhagorol a wnaeth o yn y maes yma, yn rhoi sylw i’r angen am sicrhau gofal iechyd meddwl amenedigol o safon uchel. Mae amser genedigaeth yn amser cyffrous i lawer o bobl, ond mae’n amser sy’n rhoi straen enfawr ar...
Rhun ap Iorwerth: Diolch am yr ymateb yna. Mae cyllidebau yn dynn ar bob awdurdod, wrth gwrs, ond weithiau mae yna bethau’n codi sy’n rhoi straen aruthrol ar gyllidebau. Mae cyngor Môn yn wynebu hynny rŵan yn sgil cyhoeddiad cwmni 2 Sisters Food Group eu bod nhw’n ymgynghori ar gau gwaith yn Llangefni, lle mae dros 700 yn gweithio. Y flaenoriaeth, wrth gwrs, ar hyn o bryd yw gweld a oes modd newid...
Rhun ap Iorwerth: 7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gyllideb Cyngor Sir Ynys Môn? OQ59132
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn. A diolch am adael i mi siarad am ychydig o eiliadau i ofyn un cwestiwn, mewn difrif. Dwi'n siarad fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ddigidol yma yn y Senedd. Mae'n dda gweld buddsoddiad ychwanegol yn mynd i mewn i ddarparu mwy o gyfleon i ddysgu mewn modd digidol, ond tybed ydy'r Gweinidog yn gallu rhoi syniad i fi o sut mae o'n gweld hwn yn ffitio mewn i greu'r math...
Rhun ap Iorwerth: 'Bydd y gydundrefn dethol darparwyr felly yn rhoi mwy o hyblygrwydd i GIG Lloegr gaffael a threfnu gwasanaethau iechyd.'
Rhun ap Iorwerth: Dydw i ddim yn trystio beth ydy cymhelliad y Llywodraeth Geidwadol dros fod eisiau gwneud hynny, ac mi fydd yna egwyddorion yn fy arwain i drwy'r broses yma. Egwyddor sylfaenol ydy dydw i ddim eisiau gweld hwn yn fodd i'r sector breifat allu rhoi gwreiddiau dyfnach o fewn darpariaeth gwasanaeth iechyd yng Nghymru ac i allu gosod y gwreiddiau dyfnach hynny mewn ffordd llawer haws na bydden nhw...
Rhun ap Iorwerth: Diolch am y datganiad heddiw gan y Gweinidog a hefyd am y briefing a roddwyd i ni ymlaen llaw. Mae'n ychydig yn aneglur, dwi'n meddwl, ar y pwynt yma o beth ydy rhai o'r pethau y byddwn ni'n eu canfod wrth i'r broses yma fynd yn ei blaen dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Dwi'n clywed y rhesymeg gan y Gweinidog dros ei chred hi bod angen gwneud hyn, bod angen lefel o warchodaeth oherwydd...
Rhun ap Iorwerth: —beth mae'r diffyg cydnerthedd hwnnw'n ei olygu. Mae'r penderfyniad wedi fy siomi i'n fawr, yn y ffordd y cafodd ei wneud, a'r anghysondebau yn y ffordd y mae'r Llywodraeth hon wedi dod i'r penderfyniad hwn heddiw.
Rhun ap Iorwerth: Mae hyn o bwys mawr i'm hetholwyr i.
Rhun ap Iorwerth: Mae sôn am ymweliad â'r safle; fe hoffwn i wybod pryd ddigwyddodd yr ymweliad â'r safle ac a roddwyd unrhyw ystyriaeth bryd hynny i'r anrhefn oherwydd cau pont Menai. Mae'n dweud bod hynny ar gyfer gwella hygyrchedd i gerddwyr a beicwyr, ond mae rhan arall o'r adolygiad yn dweud mai un cyfle i gynyddu newid dulliau teithio yw deuoli'r rheilffordd ar bont Britannia. A yw hynny'n gywir? Wel,...
Rhun ap Iorwerth: Gweinidog, mae hyn wedi mynd â ni yn ein holau 15 mlynedd dda, gan ddadwneud gwaith da fy rhagflaenydd i, Ieuan Wyn Jones, pan oedd ef yn Weinidog trafnidiaeth, a dadwneud gwaith da eich rhagflaenwyr chi gydag egluro'r achos dros drydedd bont dros y Fenai a pha lwybrau y dylid eu dilyn a pham hynny. A gaf i wneud sylw hefyd ynglŷn â sut y gwnaethpwyd y cyhoeddiad hwn? Rwyf i wedi cael...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn. Roeddwn i'n trafod yn ystod ymweliad â Tŷ Gobaith yn ddiweddar, y pwysau sydd ar deuluoedd sydd â phlant sâl iawn, neu blant ag anghenion sylweddol iawn. Maen nhw'n wynebu heriau nad oes rhaid i'r rhan fwyaf ohonon ni wynebu bob amser, ond wrth gwrs mae'r argyfwng costau byw wedi ychwanegu'n enfawr at y pwysau sydd arnyn nhw. Rwy'n meddwl am deulu Gleave ger Amlwch,...
Rhun ap Iorwerth: 11. Pa gymorth ariannol y mae’r Llywodraeth yn ei gynnig i deuluoedd gyda phlant ag anghenion iechyd dwys yn sgil yr argyfwng costau byw? OQ59149
Rhun ap Iorwerth: Gaf innau ddiolch i Russell George am ddod â'r ddadl fer yma i'r Senedd heddiw? Dwi ond eisiau ategu'r sylwadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod ynglŷn â'r budd sy'n gallu dod i ni mewn gymaint o wahanol ffyrdd o ddatblygu treialon meddygol yng Nghymru. Mae'r budd yn dod i gleifion, yn amlwg, achos yr agosaf ydy cleifion at lle mae treialon yn cael eu gyrru, y mwyaf o siawns ydy hi eu bod...
Rhun ap Iorwerth: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhun ap Iorwerth: Diolch am dderbyn ymyriad. Gobeithio y gwnaiff y Gweinidog gydnabod nad yw hwn yn gynnig i gynyddu bandiau trethiant; mae'n ymwneud ag egwyddor. Mae hi wedi cydnabod bod hon yn ddadl bwysig i'w chael, a'i bod am ei chael eto, ond a wnaiff hi roi ymrwymiad i fynd i'r afael â pham na all hi fel Gweinidog, a'r Llywodraeth hon, a Llafur, gefnogi'r egwyddorion sydd wedi'u cynnwys yn ein cynnig...
Rhun ap Iorwerth: Felly, ar y sylfeini newydd hynny, roedd cyngor Ynys Môn yn rhydd i ymuno â Stena i roi cais at ei gilydd. Cawsant fy nghefnogaeth lawn. Mae'r cais ei hun yn ymwneud â sicrhau buddsoddiad, cyfleoedd gwaith ac annog entrepreneuriaeth ar yr ynys ac ar draws y gogledd, ac mae’n bwysig fod cynghorau ar draws y gogledd yn ei gefnogi. Felly, ar draws y rhanbarth, ar draws y pleidiau hefyd,...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn. Mae’n dda cael cyfle eto i siarad am y cais sydd wedi cael ei baratoi a'i gyflwyno gan Gyngor Sir Ynys Môn a Stena Line i ddynodi Caergybi ac Ynys Môn yn borthladd rhydd, a hynny ar ran y gogledd i gyd. Mi ddywedaf i ar y cychwyn fel cefnogwr i’r cais, ac un sydd wedi cydweithio efo’r awduron, mae angen tipyn o onestrwydd o gwmpas y ddadl yma, ac mae eisiau dos o...