Bethan Sayed: Roeddwn i eisiau gofyn cwestiwn ynghylch ymwelwyr iechyd. Cefais i ateb gan y Gweinidog Iechyd heddiw i gwestiwn ysgrifenedig yr oeddwn i wedi'i gyflwyno, ac ni chefais ateb uniongyrchol o ran a oes unrhyw ymwelwyr iechyd wedi eu hadleoli yn y gwasanaeth iechyd oherwydd y pandemig. Dywedodd ef yn yr ateb hwnnw i asesu risg unrhyw ystyriaethau ar gyfer adleoli gan y byrddau iechyd, ond ni...
Bethan Sayed: Diolch am yr ateb yna. Hoffwn ddatgan buddiant, oherwydd mae fy mab mewn gofal dydd meithrin. Rwyf i wedi cael cryn dipyn o feithrinfeydd yn cysylltu â mi lle mae staff wedi dweud wrthyf nad yw'n ymddangos fel pe bydden nhw'n ymddangos ar unrhyw restrau ar gyfer y brechlyn. Maen nhw'n teimlo eu bod nhw wedi cael eu gadael ar ôl. Maen nhw'n gweithio o ddydd i ddydd mewn sefyllfa agored i...
Bethan Sayed: 8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn diogelu ac yn cefnogi'r holl weithwyr allweddol yng Nghymru yn ystod pandemig COVID-19? OQ56185
Bethan Sayed: Mae fy swyddfa i wedi cynnal arolwg drwy'r hydref a'r gaeaf y llynedd. Dŷn ni wedi cael 1,000 o ymatebion mewn un arolwg, a 300 yn yr arolwg dŷn ni wedi ei wneud yn fwyaf diweddar, yn gofyn i rieni am eu profiad nhw o wasanaethau perinatal. Dŷn ni wedi cael lot fawr o ymatebion, sydd yn dweud wrthym ni bod 80 y cant ohonyn nhw yn teimlo'n bryderus am y cyfyngiadau sy'n dal i fod yn y...
Bethan Sayed: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cymorth iechyd meddwl a llesiant i rieni newydd yng Nghymru?
Bethan Sayed: A gawn ni ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, ar gymorth iechyd meddwl amenedigol, sy'n cynnwys ffyrdd y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu dull teulu cyfan ac yn cydnabod y ffaith nad oes gan lawer o rieni newydd y cymorth sydd ei angen arnyn nhw ar hyn o bryd? Rwy'n gofyn hyn oherwydd bod fy swyddfa wedi cynnal arolwg a gafodd dros 300 o ymatebion, sy'n dangos yn glir bod dros 80 y cant...
Bethan Sayed: Rwyf i wedi cael cryn dipyn o ohebiaeth gan bobl sy'n bryderus oherwydd nad ydyn nhw'n teimlo bod y Llywodraeth wedi bod yn ddigon rhagweithiol o ran dweud wrthyn nhw pwy sy'n gymwys a phryd y byddan nhw'n cael yr wybodaeth honno drwodd. Rwyf i hyd yn oed wedi cael rhai sylwadau a rhai galwadau ffôn i'm swyddfa, wrth i ni fod yn siarad yma, gan bobl dros 80 oed yn dweud y bu'n rhaid iddyn...
Bethan Sayed: Diolch, ac rwy'n falch eich bod yn cydnabod y bydd y cynllun ar gyfer dal i fyny yn llawer hwy nag un flwyddyn academaidd, ac rwy'n cytuno â hynny. Mae fy nghwestiwn olaf yn ymwneud ag ad-daliadau rhent prifysgolion ac mae gennyf lawer o gefnogaeth i'r rhai sydd wedi bod yn cymryd rhan mewn streiciau ledled y wlad am nad ydynt eisiau talu eu rhent os nad ydynt yn gallu mynd i'w llety...
Bethan Sayed: Iawn, diolch yn fawr am yr ateb hwnnw ac am eich cyfarchion; rwy'n gwerthfawrogi hynny. Mae'n ddiddorol eich bod yn dweud bod yr arian wedi dod i'r sefydliadau. Oherwydd na all myfyrwyr fynd yn ôl nes mis Chwefror o bosibl—mae rhai ohonynt yn credu efallai na fyddant yn gallu mynd yn ôl nes yn hwyrach na hynny hyd yn oed—yr hyn rwy'n ei glywed yw y bydd yn arafu eu gallu i gwblhau eu...
Bethan Sayed: Diolch.
Bethan Sayed: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr iawn. Prynhawn da, Weinidog. Yn amlwg, mae'r tarfu ar y rhai sy'n cymryd rhan mewn cyrsiau galwedigaethol a chyrsiau technegol eraill wedi bod yn eithaf gwael. Rydym i gyd angen plymwyr a thrydanwyr drwy gydol y flwyddyn, ac rydym yn clywed gan y sector, er enghraifft, nad yw llawer o'r bobl hyn yn gallu mynd i mewn a gwneud y gwaith ymarferol i...
Bethan Sayed: Cyn i mi barhau, hoffwn ddiolch yn gyflym i Sarah Rees, sy'n llenwi ar fy rhan yn ystod fy nghyfnod mamolaeth a fy rheolwr cymunedol, am ymgyrchu mor ddiwyd ac angerddol ar y mater hwn ar fy rhan. Ni allwn fod wedi gobeithio cael rhywun gwell i wneud gwaith AS yn fy lle. Pan roddais enedigaeth yn ystod y pandemig hwn, rwy'n rhyfeddu sut y llwyddais i, a miloedd yn yr un sefyllfa â mi, i...
Bethan Sayed: Diolch, Llywydd, a diolch am y geiriau caredig.
Bethan Sayed: Diolch, Lynne Neagle a Leanne Wood am gyflwyno'r ddadl hon gyda mi. Rwy'n falch eich bod wedi derbyn fy nghais i fod yn rhan ohoni—nid oeddwn eisiau colli'r cyfle hwn—ac am gyfleu straeon bywyd menywod ledled Cymru mewn ffordd mor angerddol heddiw. Diolch i bawb a gyfrannodd, ac yn enwedig i Hannah Albrighton, y deisebydd, sydd ei hun wedi cael babi yn ystod y cyfyngiadau symud. Nid yw'n...
Bethan Sayed: Felly, diolch yn fawr iawn i bawb a wnaeth gymryd rhan, a gobeithio y bydd newidiadau ar y gweill er mwyn sicrhau bod y newidiadau hynny yn helpu'r bobl sydd ar y rheng flaen, fel eu bod nhw ddim yn mynd mor sâl fel bod angen iddyn nhw fynd mewn i uned driniaeth yn Lloegr, a'u bod nhw'n gallu aros yn y gymuned i gael y driniaeth benodol honno.
Bethan Sayed: Diolch i chi, a diolch i'r rhai sydd wedi cyfrannu; rwy'n gwerthfawrogi'r ymateb a gawsom. Rwyf am ddechrau gyda hyn: fe ddywedoch chi, Ddirprwy Weinidog, na fydd yn digwydd dros nos, ac rwy'n sylweddoli y bydd unrhyw newid i'r gwasanaethau yn cymryd amser, ond credaf mai'r hyn yr hoffwn eich annog i'w wneud yn yr ystyr honno, felly, yw sicrhau bod y bobl a gyfrannodd at yr adolygiad—boed...
Bethan Sayed: Diolch am ddod i'r cyfarfod cyntaf hwnnw, Nick. Rwy'n credu eich bod chi'n siarad am James Downs sydd wedi bod yn ymgyrchydd anhygoel. Mae wedi symud i Loegr bellach ac mae'n gwneud yr un math o ymgyrchu ag y gwnaeth yma. Felly, mae ganddo fynydd i'w ddringo, ond mae'n dal i chwarae rhan fawr, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn annog y bobl hynny i gamu ymlaen. Y...
Bethan Sayed: Diolch. Wel, mae'r ddadl hon i’w gweld yn amserol heddiw oherwydd i mi ddechrau fy ngyrfa yn 2007 gyda dechrau'r grŵp trawsbleidiol ar anhwylderau bwyta, ac rwy'n gorffen y rhan hon o fy ngyrfa cyn mynd ar gyfnod mamolaeth heddiw gyda dadl ar anhwylderau bwyta a'r fframwaith anhwylderau bwyta. Felly, mae'n ddiwrnod emosiynol, a byddwch yn amyneddgar os ydw i'n mynd yn fyr o anadl neu'n...
Bethan Sayed: Yn yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi trefnu cyfarfod cyhoeddus yn Tai-bach ym Mhort Talbot gyda'r British Lung Foundation. Yno, siaradais â llawer o drigolion am y pryderon sydd ganddynt am lwch ym Mhort Talbot, a deallaf fod gan Tata gynlluniau ar gyfer corn simnai newydd ac elfennau eraill i'w gosod yn lle'r system gloddio 40 oed bresennol yn y gwaith sintro. Felly, rwy'n awyddus i ddeall...
Bethan Sayed: Fel y gwyddoch, £3.90 yw'r isafswm cyflog cenedlaethol presennol ar gyfer prentisiaethau blwyddyn gyntaf, ac mae hyn yn isel iawn a gall lesteirio pobl sydd â phryderon ynghylch cyflogadwyedd, a fydd eisiau cymryd neu efallai y bydd yn rhaid iddyn nhw gymryd swyddi eraill yn ogystal â gwneud prentisiaeth. Rwy'n deall y bu amharodrwydd yn y gorffennol i ddilyn argymhellion ar gyfer grant...