Carl Sargeant: Yr hyn y ceisiwn ei sefydlu yma yw ateb cenedlaethol i’r problemau, yn ogystal ag yma yng Nghymru. Rydym yn ceisio nodi pobl sy’n gadael y lluoedd arfog sydd eisiau cymorth a chynnig llwybr iddynt tuag at newid. Rwy’n credu ei bod yn ddyletswydd ar Lywodraeth y DU, o ran sut y maent yn ymdrin â chyn-filwyr—ac rwyf wedi dwyn hyn i sylw Gweinidogion ar sawl achlysur mewn perthynas...
Carl Sargeant: Fel gyda phob ystâd garchardai ar draws Cymru, ceir cytundeb rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru o ran asesiad o anghenion a chostau gwasanaethau ychwanegol sy’n angenrheidiol. Gallaf sicrhau’r Aelod, heb ystyried os a phryd y bydd carchar yn ymddangos yn unrhyw le yng Nghymru, fod yna drafodaeth gyda Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau bod gennym y nifer gywir o wasanaethau a’r...
Carl Sargeant: Diolch. Ein blaenoriaeth yw sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau effeithiol sy’n diwallu anghenion mewn meysydd fel iechyd, tai a chyflogaeth. Enghreifftiau o’r rhain yw’r llwybr tai a’r gwaith y mae GIG Cymru y Cyn-filwyr yn ei wneud ar gyflwyno treialon ymchwil i leddfu problemau iechyd meddwl megis anhwylder straen wedi trawma.
Carl Sargeant: Rwy’n credu bod yr Aelod yn iawn i godi’r mater, ond creais weithgor i edrych ar bobl sy’n gadael y carchar mewn perthynas ag atebion tai. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gyda manylion y grŵp a chanlyniadau hynny.
Carl Sargeant: Er bod adsefydlu troseddwyr yng Nghymru yn fater i Lywodraeth y DU, rydym yn gweithio’n agos gyda Gwasanaeth Prawf a Charchardai Ei Mawrhydi, er enghraifft, drwy ein cefnogaeth i raglen ddargyfeirio’r cynllun braenaru ar gyfer menywod.
Carl Sargeant: Rwy’n credu bod yn rhaid inni beidio ag anghofio, mewn llawer o’r sefydliadau hyn, mae yna garcharorion o Gymru ac mae’n rhaid inni feddwl am eu hintegreiddio yn ôl i mewn i’n cymdeithas hefyd. Mae llawer o’r gwasanaethau sy’n ymwneud â charchardai yn wasanaethau sydd wedi’u datganoli. Felly, mae iechyd, addysg, ac yn y blaen, yn wasanaethau sydd wedi’u datganoli ac rydym yn...
Carl Sargeant: Caiff hyn oll ei fesur yn y cynlluniau busnes ar gyfer cymdeithasau ac awdurdodau lleol. Rydym yn darparu cyllid ychwanegol i sicrhau nad ydynt yn waeth eu byd. Ond mae’n ymwneud â sicrhau bod tai yn addas ar gyfer y dyfodol a bod llawer o aelwydydd ar draws ein holl etholaethau yn elwa ar y buddsoddiad hwn gan y Llywodraeth a chan y sector ei hun.
Carl Sargeant: Rwy’n cytuno â’r Aelod—mae braidd yn anarferol, ond o ran y pwynt hwn, mae’n hollol gywir i wneud yn siŵr fod—. Mewn gwirionedd, mae hwn yn fuddsoddiad clyfar ar gyfer y dyfodol. Efallai y bydd yn costio ychydig yn fwy ond mae’n fuddsoddiad ar gyfer biliau ynni is neu ddatgarboneiddio; mae’n ticio’r holl flychau hynny. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad yn fuan ar y cynlluniau tai...
Carl Sargeant: Llywydd, mae hon yn stori newyddion dda i ni gan fod ansawdd cartrefi mor bwysig i lesiant bobl. Mae hefyd yn hanfodol er mwyn inni gyflawni llawer o’n nodau eraill fel Llywodraeth, gan gynnwys gwella iechyd a llesiant y genedl. Mae gan fuddsoddi mewn gwella ac adeiladu cartrefi botensial enfawr i greu swyddi a chyfleoedd hyfforddi mewn ardaloedd fel etholaeth Rhianon Passmore, ac rydym yn...
Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Mae pob landlord cymdeithasol ar y trywydd cywir i gyrraedd y safon erbyn 2020. Mae’r ystadegau blynyddol diweddaraf yn dangos, ar 31 Mawrth 2017, fod 192,302—86 y cant—o dai cymdeithasol bellach yn cyrraedd y safon, o gymharu â 79 y cant ar gyfer y flwyddyn gynt. Mae dros 15,000 o aelwydydd bellach yn byw mewn tai o ansawdd gwell nag yn y flwyddyn...
Carl Sargeant: Rwy’n siomedig iawn ynglŷn â thôn y cwestiwn gan yr Aelod. Rwyf wedi bod yn trafod gyda hi, a llawer o Aelodau eraill, gan gynnwys Dai Rees, yr Aelod lleol—[Torri ar draws.] Pe bai’r Aelodau’n hoffi gwrando, buaswn yn fwy na hapus i ateb y cwestiwn. Y ffaith amdani yw bod hwn yn fater i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Rydym ni, fel bob amser, a chyda’n proses dir, yn cynnig tir...
Carl Sargeant: Nid oes gennyf y manylion ynglŷn â phryd y digwyddodd yr ohebiaeth gyda Cyfoeth Naturiol Cymru neu fel arall. Ond byddaf yn sicrhau bod yr Aelod yn cael gwybod y manylion hynny. Ond dylai’r Aelod fod yn ymwybodol hefyd, oherwydd bod y tir hwn wedi’i gynllunio gyda pherygl llifogydd, mae yna gyfleoedd i ddatblygwyr liniaru yn erbyn hynny. Felly, mae’r Aelod yn cyfeirio at y ffaith y...
Carl Sargeant: Cafwyd rhai trafodaethau gydag awdurdodau, ond mae hwn yn fater i Weinidog gwahanol. Byddaf yn gofyn i’r Gweinidog priodol ysgrifennu at yr Aelod.
Carl Sargeant: Ni allaf roi ateb ‘ie’ neu ‘na’ i hynny, gan fod llawer o gwestiynau, ond os bydd yr Aelod yn amyneddgar gyda mi—. Roedd y tir y mae’r Aelod yn sôn amdano yn rhan o restr hir o diroedd sydd ar gael i unrhyw ddatblygwr, boed o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder neu unrhyw weithrediad masnachol arall, ac nid yw’n anarferol i ni wneud hynny. A oes cyfamod ar y tir? Rwy’n credu bod...
Carl Sargeant: Mae’r materion yn ymwneud â stopio a chwilio yn fater i Lywodraeth y DU a phlismona, ond mewn gwirionedd, nid wyf yn credu bod stopio a chwilio ynddo’i hun yn ddefnyddiol wrth ddarparu gwasanaethau i bobl sydd angen cael eu cefnogi. Mae ein rhaglen Cefnogi Pobl, ynghyd â’n polisi ar gamddefnyddio sylweddau, wedi’u cynllunio i helpu pobl i ddychwelyd i’r hyn a fuasai’n cael ei...
Carl Sargeant: Mae’r defnydd o gyffuriau a chamddefnyddio sylweddau ar gynnydd, ond rydym yn gweld un o effeithiau diwygio lles yn cael effaith ar unigolion sy’n symud i mewn i’r gofod hwnnw. Ond gadewch i ni beidio ag anghofio bod pobl sy’n dioddef o gamddefnyddio cyffuriau ac alcohol neu sylweddau yn fodau dynol hefyd. Mae’n rhaid i ni feddwl yn ofalus sut y gallwn eu cefnogi trwy wneud yn siŵr...
Carl Sargeant: Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar y Llywodraeth a chyrff sector cyhoeddus. Rydym yn gweithio gyda sefydliadau y tu allan i’r sector cyhoeddus yn y trydydd sector. Mae Llamau, Wallich a sefydliadau eraill yn awyddus iawn i ddeall sut y dylem ddefnyddio’r arian hwn yn y ffordd orau. Nid wyf yn arbenigwr yn y maes hwn, ond maent hwy, ac rwyf...
Carl Sargeant: Gallai’r Aelod fod wedi bod ychydig yn fwy hael yn ei sylwadau. Nid arian a gafodd ei roi’n ôl i mewn i’r system oedd hwn; roedd hwn yn arian ychwanegol. Mae’r Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru wedi rhoi £10 miliwn ychwanegol am ddwy flynedd er mwyn mynd i’r afael â digartrefedd—£6 miliwn o hwnnw i’r grant cynnal refeniw a £4 miliwn i fy llinell wariant i. Ni allaf warantu...
Carl Sargeant: Nid ydym wedi cael unrhyw arwydd o unrhyw gyllid ychwanegol yn dod i Gymru ar y pwynt penodol hwnnw.
Carl Sargeant: Ie, mae’r Aelod yn iawn i nodi’r pwynt hwn, ac rwyf wedi gweithio gyda Bethan Jenkins mewn perthynas â llythrennedd ariannol; mae’n bwynt pwysig iawn. Ond problem llawer o’r bobl hyn sy’n rhan o broses y credyd cynhwysol yw nad oes ganddynt unrhyw arian. Y broblem yw bod meddu ar gynilion neu rywbeth arall yn foethusrwydd. Mae’r rhaglen hon yn ddiffygiol. Rwy’n ddiolchgar am...