Canlyniadau 41–60 o 2000 ar gyfer speaker:Jenny Rathbone

5. Datganiadau 90 Eiliad ( 1 Maw 2023)

Jenny Rathbone: Iawn. Rwyf am gloi drwy ddweud bod gennym bellach statws dynodiad daearyddol gwarchodedig ar gyfer cennin Cymreig ers mis Tachwedd diwethaf, felly mae llawer i'w ddathlu am y genhinen Gymreig.

5. Datganiadau 90 Eiliad ( 1 Maw 2023)

Jenny Rathbone: Diolch yn fawr, Lywydd. Deallaf fod ein nawddsant, Dewi Sant, wedi dweud wrth filwyr Cymru am wisgo cenhinen ar eu helmedau fel y gallent wahaniaethu mewn brwydr rhwng eu cyd-Gymry a’r Sacsoniaid a oedd yn gwisgo arfwisgoedd tebyg. Awgryma hyn fod yn rhaid bod yna lawer mwy o gennin yn y ganrif gyntaf na y maent yn yr unfed ganrif ar hugain, os oeddent yn cael eu defnyddio fel addurniadau...

4. Cwestiynau Amserol: Y Cap Prisiau Ynni ( 1 Maw 2023)

Jenny Rathbone: Rwyf am ein hatgoffa i gyd fod pob un cartref sydd â mesurydd 'talu wrth fynd' eisoes wedi derbyn £400 gan Lywodraeth y DU i'r cyfrif sydd ganddynt gyda'r cwmnïau ynni, er ei bod yn gyfran lawer iawn llai o'r aelwydydd llawer mwy bregus at ei gilydd sydd ar fesuryddion rhagdalu ac sydd wedi derbyn naill ai taleb Llywodraeth y DU neu daleb Llywodraeth Cymru tuag at eu costau gwresogi. Yn...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Datganoli Cyfrifoldeb dros Lysoedd a Dedfrydu ( 1 Maw 2023)

Jenny Rathbone: Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Yn amlwg, mae hwn yn waith sydd ar y gweill. Rwyf am dynnu eich sylw at y ffaith bod ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i fenywod sy'n rhan o'r system cyfiawnder troseddol wedi datgelu bod llai na hanner yr ynadon a arolygwyd gan y Gymdeithas Ynadon wedi clywed am y glasbrint cyfiawnder menywod, sydd â'r nod o leihau nifer y menywod yn...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diogelwch Cymunedol ( 1 Maw 2023)

Jenny Rathbone: Rwy'n falch iawn fod y mater hwn wedi'i godi, oherwydd er nad yw plismona wedi’i ddatganoli, rwy'n hollol siŵr fod yr heddlu yr un mor bryderus â ninnau am y ffordd y mae safbwyntiau atgas yn gwneud ein pobl ifanc yn agored i ddelweddau niweidiol a safbwyntiau asgell dde eithafol. Ydy, mae addysg cydberthynas a rhywioldeb yn bwysig iawn i wrthsefyll y delweddau atgas a hunan-niweidiol y...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Safleoedd i Sipsiwn a Theithwyr ( 1 Maw 2023)

Jenny Rathbone: Diolch, Weinidog. Mynychais y digwyddiad rhagorol, a gynhaliwyd gan y Llywydd, a oedd yn dathlu sut mae pobl sy’n ffoi rhag erledigaeth wedi cael noddfa yng Nghymru. Ond ni allwn wadu bod rhai cymunedau’n cael mwy o groeso nag eraill, ac nid yw’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr yn teimlo bod croeso iddynt; maent yn teimlo eu bod yn cael eu herlid. Ac mae’n siomedig fod awdurdodau lleol yn...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Safleoedd i Sipsiwn a Theithwyr ( 1 Maw 2023)

Jenny Rathbone: 3. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â'r prinder safleoedd i Sipsiwn a Theithwyr ledled Cymru? OQ59178

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Datganoli Cyfrifoldeb dros Lysoedd a Dedfrydu ( 1 Maw 2023)

Jenny Rathbone: 3. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r costau sy'n gysylltiedig â datganoli cyfrifoldeb dros lysoedd a dedfrydu i Gymru? OQ59179

8. Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Ymwrthedd Gwrthficrobaidd — Cynnydd Cynllun Pum mlynedd Cymru ar gyfer Anifeiliaid a'r Amgylchedd (28 Chw 2023)

Jenny Rathbone: Diolch yn fawr iawn, Gweinidog, am y datganiad pwysig iawn hwn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni i gyd yn sylweddoli, oni bai ein bod ni'n newid ein ffyrdd, ein bod ni i gyd yn mynd i fod mewn perygl o farw o'r ymyrraeth symlaf, er enghraifft, pe baen ni'n cael haint, torri ein braich, neu rywbeth arall. Byddai'n mynd â meddygaeth yn ôl i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg mewn...

4. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Strategaeth Sgiliau Sero Net (28 Chw 2023)

Jenny Rathbone: Yn gyntaf i gyd, rwy'n cael trafferth dod o hyd i'r cynllun newydd hwn a gyhoeddwyd heddiw ar y we. Fe fyddai hi'n ardderchog cael gwybod a yw wedi bod ar gael i bawb ohonom ni mewn gwirionedd, oherwydd rwy'n awyddus iawn i ddeall pa rai yw'r saith maes allweddol a'r 36 o gamau. Yn dilyn y pwyntiau yr ydych chi newydd eu gwneud wrth ateb Luke Fletcher, fe allwn ni obeithio y bydd Llywodraeth...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (28 Chw 2023)

Jenny Rathbone: Rydyn ni i gyd naill ai wedi arsylwi neu wedi gweld y cynnydd aruthrol ym mhris llysiau a'r silffoedd gwag yn ein siopau. Arweiniodd y cynlluniau grant dechrau busnes garddwriaeth a datblygu garddwriaeth y llynedd i 19 o newydd-ddyfodiaid yn dod i arddwriaeth fasnachol ac ehangu 12 cynllun sydd eisoes yn bodoli. Tybed a allwn i gael dadl yn amser y Llywodraeth ynghylch a yw hon dim ond yn...

3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Yr Adolygiad Ffyrdd a’r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth (14 Chw 2023)

Jenny Rathbone: —ar y bysiau, oherwydd eu bod nhw'n sownd yn y tagfeydd sy'n cael eu creu gan geir, sy'n gylch cwbl gythreulig, a meddwl oeddwn i tybed sut allwn ni wneud cynnydd o ddifrif a chyflym ar hynny er mwyn symud ymlaen yn gyflym arno.

3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Yr Adolygiad Ffyrdd a’r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth (14 Chw 2023)

Jenny Rathbone: Diolch. Diolch i chi, Dirprwy Weinidog, am gomisiynu'r adolygiad ffyrdd hwn, sy'n mynd i'n helpu i gysoni ein rhwymedigaethau sero-net gyda'n strategaeth drafnidiaeth, ac mae'n amlwg bod cryn dipyn o waith i'w wneud o hyd i sicrhau bod ein polisïau cynllunio hefyd yn cyd-fynd â'n rhwymedigaethau sero-net. Er enghraifft, yn union fel mae angen i ni atal datblygiadau tai anghynaladwy, fel yr...

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg — 'Absenoldebau disgyblion' ( 8 Chw 2023)

Jenny Rathbone: Diolch yn fawr iawn i chi am eich adroddiad diddorol ar bwnc pwysig iawn. Yn rhy aml yn y gorffennol, rwy'n credu mai prif bwrpas y system ysgolion oedd sicrhau bod y nifer mwyaf o bobl yn cael pum gradd A i C, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg. Rwy'n credu ei fod yn cael ei alw yn sgôr wedi'i chapio yn y jargon. Ond nid yw hyn yn ystyried cymhlethdod a her bywydau disgyblion a'u gallu i...

4. Datganiadau 90 Eiliad ( 8 Chw 2023)

Jenny Rathbone: Ddydd Llun nesaf yw canmlwyddiant darlledu radio o Gymru. Cafodd ei lansio yng Nghaerdydd o ystafell uwchben siop gerddoriaeth ar Stryd y Castell a dyma'r fenter ddarlledu gyntaf y tu allan i Lundain. Yn syfrdanol, llwyddodd pobl o Bontypridd, Rhymni, Casnewydd a Gwent i wrando ar ddarllediad agoriadol radio 5WA. Syfrdanol, oherwydd, oni bai eich bod yn gallu fforddio'r hyn sy'n cyfateb i...

3. Cwestiynau Amserol: Mesuryddion Rhagdalu ( 8 Chw 2023)

Jenny Rathbone: Mae’r camfanteisio gwarthus hwn ar yr unigolion a chanddynt leiaf ac sydd angen cadw’n gynnes fel pawb arall, yn dangos yn glir fod gennym system sydd wedi torri’n llwyr. Felly, os cewch byth gyfle i siarad â Llywodraeth y DU am eu methiant i weithredu ar hyn—. Mae Jack Sargeant wedi bod yn codi hyn yn y Senedd ers dros dri mis. A beth mae'r ynadon wedi bod yn ei wneud wrth roi'r...

5. & 6. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) a'r penderfyniad ariannol mewn perthynas â’r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) ( 7 Chw 2023)

Jenny Rathbone: Diolch i'r Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig am ganiatáu i aelodau'r pwyllgor newid hinsawdd gymryd rhan yn yr ymchwiliad gwirioneddol bwysig hwn wrth graffu ar Gyfnod 1 y Bil. Roeddwn i eisiau siarad ychydig yn fwy am argymhelliad 9, sef yr angen am fwy o eglurder ar swyddogaeth caffael lleol a chadwyni cyflenwi bwyd lleol, a sut fydd y Bil yn eu cefnogi. Mae yna swm teilwng o...

4. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2023-24 ( 7 Chw 2023)

Jenny Rathbone: Un o'r pethau oedd yn ein poeni ni’n fawr oedd bod y dyraniad untro nad yw'n rheolaidd o £117 miliwn o ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth y DU i roi arian i bawb i sybsideiddio costau erchyll o uchel cwmnïau ynni wedi codi yn arwain at oblygiadau difrifol i sut mae teuluoedd bregus yn mynd i oroesi'r gaeaf nesaf, oherwydd mae cynllun cymorth tanwydd £200 Cymru wedi bod yn bwysig iawn i...

4. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2023-24 ( 7 Chw 2023)

Jenny Rathbone: Rydw i'n mynd i siarad yn y lle cyntaf yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ac yna symud ymlaen at rai pethau sy'n faterion llosg yn fy etholaeth i. Fe wnaethom ni edrych ar y gyllideb cyfiawnder cymdeithasol, yn amlwg o safbwynt ceisio nodi sut rydyn ni'n mynd i gefnogi'r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas. 

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 7 Chw 2023)

Jenny Rathbone: Cyhoeddodd Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi adroddiad oedd yn achosi llawer o bryder ddydd Gwener am ei harolygiad dirybudd o garchar Eastwood Park. Cynhaliwyd yr archwiliad hwnnw ym mis Hydref, ac mae'r amodau a ddisgrifiwyd gan yr arolygiaeth yn anodd iawn i'w darllen: staeniau gwaed ar y wal, trallod meddwl eithafol, gan gynnwys achosion o hunan-niweidio a oedd yn gwaethygu, nad oedd y...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.