Elin Jones: Y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Caffael, cynnig 2, sydd nesaf. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei wrthod.
Elin Jones: Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, bydd rhaid cynnal pleidlais ar gynigion y Cyfnod Terfynol yma, felly dwi'n gohirio'r bleidlais ar yr eitem yma hefyd tan y cyfnod pleidleisio.
Elin Jones: Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi i ganu'r gloch, dwi'n symud yn syth at y bleidlais gyntaf.
Elin Jones: Mae’r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio). Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i gymeradwyo.
Elin Jones: I'm afraid we are losing the connection with you, Huw Irranca-Davies. Unless it can be restored very suddenly, I'm going to move on. I'm sure that most of the points you were about to make are a matter of record in your report as a committee. I'm going to ask the Counsel General, therefore, if he has any comments to make to sum up the debate.
Elin Jones: I've done it again, and forgotten the Chair of the constitution committee. I wonder why. Huw Irranca-Davies.
Elin Jones: Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly gwnawn ni ohirio'r bleidlais.
Elin Jones: Eitem 14 sydd nesaf, dadl ar Gyfnod Terfynol Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru). Dwi'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol i wneud y cynnig yma hefyd. Mick Antoniw.
Elin Jones: Y Cwnsler Cyffredinol nawr i ymateb i’r ddadl yma. Mick Antoniw.
Elin Jones: I forgot to call the Chair of the constitution committee—I must have a 7.45 p.m. kick-off on my mind. The Chair of the constitution committee, Huw Irranca-Davies.
Elin Jones: Eitem 13 sydd nesaf, y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio), a dwi'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol i wneud y cynnig yma—Mick Antoniw.
Elin Jones: Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 11? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad i hynny. Felly, bydd y bleidlais ar eitem 11 yn cael ei gohirio.
Elin Jones: Ac wedyn y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 12? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, gohirio, unwaith eto, y bleidlais ar yr eitem yna.
Elin Jones: Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ymateb. Rebecca Evans.
Elin Jones: Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.
Elin Jones: Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Cyhoeddus, Mark Isherwood.
Elin Jones: Gan nad oes gwrthwynebiad i hynny, fe wnaf symud i alw ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynigion. Rebecca Evans.
Elin Jones: Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly gwnawn ni ohirio'r bleidlais ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.
Elin Jones: Eitemau 11 a 12 sydd nesaf. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, os nad oes yna Aelod sy'n gwrthwynebu, fe fydd y ddau gynnig yma o dan eitemau 11 a 12 yn cael eu grwpio i'w trafod ond bydd y pleidleisiau ar wahân.
Elin Jones: The Minister for Climate Change to reply. Julie James.