Darren Millar: Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad ar fformiwla gyllido llywodraeth leol? Mae trigolion fy etholaeth i'n bryderus iawn bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi awgrymu y gallai'r dreth gyngor orfod codi hyd at 12.45 y cant, sy'n amlwg yn uwch na'r gyfradd chwyddiant sydd eisoes yn uchel iawn. Mae hynny'n destun pryder mawr i nifer o etholwyr sy'n ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd...
Darren Millar: Trefnydd, a gaf i alw eto am ddatganiad llafar ar yr ymchwiliad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ymwneud â'r digwyddiadau a achosodd i amodau gael eu gosod ar gyfrifon 2021-22 a'r ymchwiliad gwrth-dwyll dilynol gwerth £122 miliwn, sydd bellach ar y gweill? Mae llawer o gwestiynau gan bobl yn y gogledd ac maen nhw eisiau atebion iddynt, gan gynnwys a yw'r ymchwiliad hwn yn ymestyn...
Darren Millar: Dim ond un pwynt arall, os caf i, oherwydd rwy'n credu bod hon yn drafodaeth ddiddorol. Mae hyn yn rhan annatod o ddatgloi cyfleoedd i bartneriaethau masnach ehangach gyda gwledydd yn ardal Asia y Môr Tawel.
Darren Millar: Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad. Edrychwch, pryd bynnag y trafodir cytundeb masnach, bydd buddiannau o hyd yn cystadlu ym mhob cenedl sy'n gwneud y trafodaethau, yn fanteision ac anfanteision. Yr hyn sy'n rhaid i Lywodraeth y DU ei wneud yw ceisio cael y fargen orau bosib i'r Deyrnas Unedig yn gyffredinol, fel y byddwn i'n disgwyl y byddai Llywodraeth Cymru yn ceisio ei wneud os...
Darren Millar: Fel yr unig blaid, i bob golwg, sy'n credu yn nyfodol y Deyrnas Unedig gyfan, a lle annatod Cymru ynddi, fy mhleser i yw gallu gofyn rhai cwestiynau am eich datganiad, Gweinidog. Rydyn ni'n ystyried y comisiwn, fel y gwyddoch chi, yn ddiangen. Mae'n ddiangen oherwydd mae'n fater o Gymru ond yn edrych ar un rhan unigol o'r Deyrnas Unedig a heb ystyried yn briodol barn pobl mewn rhannau eraill...
Darren Millar: Gweinidog, mae llawer o bobl yn y gogledd yn bryderus iawn, wrth gwrs, o ddarllen adroddiad fasgwlar heddiw i'r gwasanaethau a ddarperir gan fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, ac yn enwedig o ddysgu na chafodd y crwner wybodaeth gyflawn ynglŷn â phedwar achos o farwolaethau cleifion o'r 47 a adolygwyd. Achosion hanesyddol, wrth gwrs—rhai ohonyn nhw'n mynd yn ôl cyn belled â 2014, hyd at...
Darren Millar: Trefnydd, ddydd Gwener diwethaf oedd Diwrnod Cofio'r Holocost, ac roedd yn anrhydedd i mi gael croesawu i'r Senedd yr wythnos diwethaf, ynghyd â llawer o gyd-Aelodau eraill, Hedi Argent, sydd wrth gwrs yn oroeswr yr Holocost, a rannodd ei phrofiadau â ni. Fel y mae'n ddigon posibl eich bod yn ymwybodol, cyhoeddwyd adroddiad diffiniad gwaith Cynghrair Ryngwladol Cofio’r Holocost, IHRA,...
Darren Millar: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Darren Millar: Rwy'n falch eich bod wedi sôn am Margaret Thatcher, un o'r Prif Weinidogion gorau a gafodd y wlad hon erioed. Yn wahanol i'ch plaid chi a'r Blaid Lafur, ni phleidleisiodd hi erioed dros dorri cyllideb y GIG. O dan ei phrifweinidogaeth hi, cododd cyllideb y GIG uwchlaw a thu hwnt i argymhellion arweinwyr y Blaid Lafur ar y pryd ac eto fe bleidleisioch chi, eich plaid chi a'r blaid sy'n...
Darren Millar: Rwy'n cynnig.
Darren Millar: Wel, wrth gwrs, mae'r ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi gweithredu mewn perthynas â Bil Diwygio Cydnabod Rhywedd (Yr Alban) yn dilyn yr hyn a osodwyd yn adran 35 o'r Ddeddf Seneddol. Felly, mae'n sicr o fewn y rheolau arferol, ac nid ar chwarae bach y gwnaed y penderfyniad. Ond a gaf fi fynd yn ôl at fater gwell amrywiaeth yma yn y Senedd? Rydym i gyd yn cytuno ein bod eisiau Senedd...
Darren Millar: Rwy'n ddiolchgar am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae un o elfennau allweddol y cynigion a'r cynlluniau ar gyfer diwygio'r Senedd yn cynnwys gorfodaeth i sicrhau bod rhestrau 'am yn ail' o ymgeiswyr yn ôl rhywedd ar bapurau pleidleisio etholiadol, er mwyn hyrwyddo gwell cydraddoldeb rhwng y rhywiau yma yn y Senedd. Ond fe fyddwch yn gwybod am benderfyniad dadleuol Llywodraeth y...
Darren Millar: Diolch, Lywydd. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gyflwyno Bil diwygio'r Senedd?
Darren Millar: Diolch am eich ymateb, Weinidog. A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch y cymunedau ffydd ledled Cymru, sydd wedi bod yn bartneriaid arbennig o effeithiol, ac sydd wedi ymgysylltu â’r cynllun hybiau cynnes, ledled y wlad, ym mhob cwr o Gymru? Gwn, er enghraifft, fod Eglwys Festival, yn fy etholaeth i—yr eglwys yr af iddi bob dydd Sul—yn un o’r hybiau cynnes hynny sy’n estyn allan at...
Darren Millar: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflwyno cynllun hybiau cynnes Llywodraeth Cymru? OQ58988
Darren Millar: Fi yng ngweminar y wiwer, oeddwn. Nid dim ond gwiwerod oedd yn bresennol, mae'n rhaid i mi ddweud. [Chwerthin.] Ond yn amlwg, mae difrod sylweddol wedi'i wneud i bren, sy'n cael ei wneud i goed, gan eu bod yn stripio'r rhisgl oddi ar coed hefyd, ac mae gennym ni raglen plannu coed uchelgeisiol yma yng Nghymru. Ac felly, rwy'n gofyn a gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf am waith cadwraeth...
Darren Millar: Yr wythnos hon, yn amwg, yw Wythnos Cofio'r Holocost, ac efallai fod y Gweinidog yn ymwybodol—efallai fod y Trefnydd yn ymwybodol—bod gwaith yn digwydd yn y gogledd i geisio olrhain hanes cymunedau Iddewig yn y rhanbarth. Nathan Abrams, athro ym Mhrifysgol Bangor sy'n arwain y gwaith hwnnw, ac mae ef eisoes wedi cyflawni llawer iawn o waith yn Ynys Môn, Gwynedd a rhannau eraill o'r...
Darren Millar: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwy'n falch iawn eich bod yn cydnabod y pwysau sydd ar y diwydiant wyau. Fel y gwyddoch, Cymru sy'n cynhyrchu fwyaf o wyau maes yn Ewrop, ac mae hynny'n golygu bod hwn yn fater arbennig o bwysig i Gymru, yn fwy felly efallai nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. Ond mae'r pwysau ar gynhyrchwyr yn dod yn fwy difrifol. Rydym wedi gweld prinder wyau yn ein...
Darren Millar: 12. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o iechyd y diwydiant wyau yng Nghymru? OQ58957
Darren Millar: Rwy'n credu y bu ymarfer dysgu, yn amlwg, trwy hyn, ac yn amlwg mae wedi bod yn ddarn o ddeddfwriaeth eithaf manwl a llafurus hefyd, yn bennaf oherwydd mai dyma'r cyntaf o'i fath. Ond hefyd mae'n defnyddio capasiti y gallai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud deddfwriaeth arall ag ef, ac mae llawer o ymrwymiadau sydd wedi cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, pethau...