Andrew RT Davies: Prif Weinidog, mae'r ffigurau yr wyf i wedi eu dyfynnu i chi yn dod yn syth o bapurau'r bwrdd gan fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Dydyn nhw ddim yn ffigurau yr wyf i wedi eu gwneud i fyny. Yn ysbyty Abergele, dim ond 15 y cant o'r ysbyty hwnnw sy'n cael ei ystyried yn weithredol ddiogel. Fel y dywedais, ar draws ardal bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, dim ond 62 y cant o'r ystad iechyd sy'n cael eu...
Andrew RT Davies: Diolch am yr ymateb yna, Prif Weinidog. Rwyf i wedi ysgrifennu heddiw at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol yma yn y Senedd, gan wahodd y pwyllgor hwnnw i roi ystyriaeth i ba ran y gallai ei chwarae i gynorthwyo'r rhai hynny sy'n amlwg wedi dioddef y driniaeth hon, ond hefyd i weithio gydag Undeb Rygbi Cymru i, yn amlwg, roi mesurau...
Andrew RT Davies: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, byddai llawer ohonon ni wedi gwylio'r rhaglen deledu neithiwr a'i chael hi'n anghyfforddus iawn, y datgeliadau ar BBC Cymru am y diwylliant, a'r anawsterau wythnosol a misol y mae menywod ym myd chwaraeon, ym myd rygbi Cymru, yn eu hwynebu. Yr honiadau hyn, yn amlwg, mae rhai wedi'u profi ac mae rhai heb eu profi. Nid wyf i'n gwneud unrhyw honiadau uniongyrchol...
Andrew RT Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad arall?
Andrew RT Davies: Rwy'n ddiolchgar i chi, Weinidog, am fod mor hael gydag ymyriadau. Ac rwy'n cytuno bod peidio ag adeiladu morlyn llanw Abertawe yn gyfle a gollwyd. Rwy'n cytuno. Ond un pwynt pwysig a gododd fy nghyd-Aelod, Paul Davies, oedd gallu CNC i drwyddedu'r cynlluniau hyn, ac roedd honno'n eitem agenda na chafodd ei hysgrifennu i'w wneud ar ran Llywodraeth Cymru. Ni fyddai CNC yn rhoi'r trwyddedau...
Andrew RT Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad, Weinidog?
Andrew RT Davies: Rwy’n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad. Yn amlwg, eich bwriad nawr yw pardduo gweithredoedd Llywodraeth y DU. Pam, felly, fod y fferm wynt fwyaf, yr ail, y drydedd a’r bedwaredd fwyaf yn y byd yn y Deyrnas Unedig—yn y byd—os yw Llywodraeth y DU wedi bod yn araf i weithredu?
Andrew RT Davies: Prif Weinidog, ein cyfrifoldeb ni, pan fo £0.25 biliwn wedi ei wario ar brosiect gan Lywodraeth Cymru, yw gofyn y cwestiynau sy'n haeddu'r atebion. Rydyn ni wedi cyflwyno dau lasbrint ar gyfer maes awyr llwyddiannus: unwaith pan gafodd ei brynu yn ôl yn 2013 ac yn 2019. Byddai'r rhan fwyaf o bobl yn dweud bod £225 miliwn yn haeddu rhyw fath o ddifidend yn ôl a rhyw fath o fenter...
Andrew RT Davies: Prif Weinidog, ar ôl £0.25 biliwn, yn anffodus mae gan y maes awyr lai o deithwyr nawr nag y bu ganddo ers amser maith. Do, ymyrrodd COVID i effeithio ar bob maes awyr, yn amlwg, ond os cymerwch chi Faes Awyr Bryste, cafwyd gostyngiad o 22 y cant yn nifer ei deithwyr ond mae'n dal i ymdrin ag yn agos at 7 miliwn o deithwyr. Os cymerwch chi Faes Awyr Birmingham, cystadleuydd arall, cafwyd...
Andrew RT Davies: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, yn anffodus, dewisodd Wizz Air adael Maes Awyr Caerdydd. Hyd yma, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi neu sicrhau bod £225 miliwn ar gael i'r maes awyr—bron i £0.25 biliwn. Chi yw perchnogion y maes awyr, er eich bod chi wedi sefydlu cwmni hyd braich i weithredu'r maes awyr. A ydych chi'n credu bod £225 miliwn yn arian a wariwyd yn dda?
Andrew RT Davies: Nid wyf ond wedi cymryd sylwadau a dyfyniadau ac arsylwadau gweithwyr iechyd proffesiynol, Prif Weinidog. Nid wyf wedi ychwanegu dim o fy ngeiriau fy hun. Fel y dywedais i, mae'r dystiolaeth yno i bobl ei gweld. Rydych chi'n dweud na ruthrwyd y dystiolaeth hon. Y seithfed ar hugain o Ragfyr i'r degfed ar hugain o Ragfyr, dyna 72 awr. Newidiwyd egwyddor sylfaenol yn y broses ryddhau, sef cael...
Andrew RT Davies: Prif Weinidog, nid wyf yn camgyfleu cyngor unrhyw un. Roedd y Gymdeithas Feddygol Brydeinig, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys, ymarferwyr ar y rheng flaen, wythnos ar ôl wythnos, ddydd ar ôl dydd, yr wythnos diwethaf, yn dweud mai cyngor gwael yw'r cyngor hwn, ac yn y pen draw mae'n rhoi cleifion mewn perygl o niwed. Nid fi sy'n dweud hyn. Byddai...
Andrew RT Davies: Diolch Llywydd. Mae'n rhyfeddol bod y Prif Weinidog yn dweud bod angen Llywodraeth ar y wlad hon i fuddsoddi yn y GIG pan bleidleisiodd ef a'i gyd-Aelodau i dorri cyllideb y GIG yn 2011 a 2012. Mae'r cofnod yn dangos mai chi yw'r unig wleidyddion yn y Siambr hon sydd erioed wedi pleidleisio o blaid torri cyllideb y GIG, Prif Weinidog. Y pwynt arall o wahaniaeth rhwng rhannau eraill o'r...
Andrew RT Davies: Yr hyn sy'n ddigywilydd, Prif Weinidog, yw bod pobl ledled Cymru yn y sefyllfa aros waethaf o unrhyw GIG. Dim ond yr wythnos hon, bu'n rhaid i ni glywed am y mater yng Nghwmbrân lle cafodd dad-cu ei roi ar astell yng nghefn fan, gan na allai'r gwasanaeth ambiwlans ymateb i'r gri am gymorth gan y teulu hwnnw i fynd ag ef i'r ysbyty. Yr hyn sy'n Llywodraeth ddifrifol yw Llywodraeth ddifrifol...
Andrew RT Davies: Prif Weinidog, mae'r ysgogiadau gennych chi i gynhyrchu mwy o arian mewn gwirionedd os ydych chi'n dewis defnyddio'r ysgogiadau hynny. Mae gennych chi arian ychwanegol yn dod yn y cyhoeddiad a wnaeth y Canghellor yn ei gyhoeddiad diweddar o £1.2 biliwn i'w gyflwyno dros y ddwy flynedd nesaf. Rydych chi wedi gwneud dewis gwleidyddol i beidio â datrys neu o leiaf ymgymryd â thrafodaethau...
Andrew RT Davies: Diolch, Llywydd. A gaf i, Llywydd, ddymuno Nadolig llawen iawn i chi a'r Prif Weinidog a'r holl Aelodau a blwyddyn newydd heddychlon a hapus, gobeithio? Ddoe, Prif Weinidog, fe wnaeth y Gweinidog iechyd gyfarfod â'r Coleg Nyrsio Brenhinol ac undebau eraill ynghylch y streic sydd yn yr arfaeth ar gyfer dydd Iau yr wythnos hon a'r wythnos nesaf. Fel yr wyf i'n ei deall hi, ni wnaed unrhyw...
Andrew RT Davies: Rwy'n ddiolchgar, Weinidog, ac rwy'n falch iawn o glywed y camau cadarnhaol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd yn y maes penodol hwn, ond mae deddfwriaeth, ac ymgorffori rhywbeth mewn deddfwriaeth, yn rhoi hawliau go iawn i bobl. Dyna pam mae'r Aelod wedi dod â'r cynnig hwn i'r llawr y prynhawn yma. A wnaiff y Llywodraeth ystyried cefnogi neu weithio gyda'r Aelod i gyflwyno cynnig...
Andrew RT Davies: Gofynnais i chi'n benodol am ffigur llinell sylfaen y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys, ac rwyf i wedi gofyn hyn i chi ar sawl achlysur yn olynol. O'r rhifau yr wyf i wedi eu rhoi o'ch blaen chi heddiw, Prif Weinidog, gallwn weld yn eglur mai ychydig neu ddim gwelliant a gafwyd o ran bodloni'r ffigurau llinell sylfaen hynny. Felly, a ydym ni'n mynd i weld gwelliant, o ystyried y ffigyrau...
Andrew RT Davies: Prif Weinidog, y sylw arall a wnaed gan gadeirydd Cymdeithas Feddygol Prydain yw nad yw llawer mwy o bobl, yn amlwg, yn llawn amser yn y GIG bellach ac, mewn gwirionedd, yn dewis am wahanol resymau, yn amlwg, i wneud ambell i shifft yma ac acw ac na ellir eu hystyried yn weithwyr cyfwerth ag amser llawn. Yr wythnos diwethaf, fe wnes i eich herio chi ar fater penodol yn ymwneud â ffigyrau...
Andrew RT Davies: Diolch, Llywydd. Mae'n ymddangos ein bod ni wedi colli'r oriel, Prif Weinidog—