Laura Anne Jones: Diolch Prif Weinidog. Mae pryderon amlwg, cyfiawn yn dilyn rhuthro'r ddeddfwriaeth yn yr Alban drwodd ac, oherwydd natur y Deyrnas Unedig, sut y bydd yn effeithio ar fenywod yma yng Nghymru, yn enwedig o ran pobl ifanc 16 ac 17 oed a throseddwyr rhyw sydd bellach yn cael hunan-ddiffinio heb ddiagnosis meddygol, a'r risgiau clir ac amlwg a ddaw gyda hynny. Pa sgyrsiau ydych chi wedi eu cael...
Laura Anne Jones: 4. A yw Llywodraeth Cymru'n bwriadu dilyn ôl traed Llywodraeth yr Alban gyda Bil diwygio cydnabod rhywedd? OQ58937
Laura Anne Jones: Hoffwn ddechrau yn gyntaf drwy dalu teyrnged i Peter Fox am yr holl waith caled y mae'r Aelod dros Fynwy wedi'i wneud hyd yma i gael y Bil i'r pwynt hwn. Mae pwrpas y Bil yn ganmoladwy ac yn amserol, ac rwy'n anghytuno'n gryf â'r Gweinidog: dyma'r Bil iawn ar yr adeg iawn. Ei nod yw sefydlu system fwyd fwy cynaliadwy yma yng Nghymru, ac yn sicr mae'r wlad wedi bod yn crefu amdano ers amser...
Laura Anne Jones: Diolch am eich datganiad drafft ar y gyllideb, Gweinidog. Bydd fy mhwyslais i, o ystyried fy mhortffolio cysgodol, wrth gwrs, ar addysg, a gallaf dim ond gwneud sylw ar yr hyn sydd gennyf o fy mlaen i. Fis diwethaf, gwelsom ddatganiad hydref Llywodraeth y DU yn rhoi pobl ifanc ar flaen eu hagenda, gyda chynnydd yn y cyllid ar gyfer addysg. Galwais am gynnydd tebyg yng Nghymru yr wythnos wedi...
Laura Anne Jones: Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod Mark Isherwood am gyflwyno'r cynnig heddiw. Byddai'n gwneud Bil ardderchog, ac un sy'n angenrheidiol. Rwy'n gobeithio y byddai'n ein gorfodi i fod yn llawer gwell yng Nghymru am ystyried anghenion Iaith Arwyddion Prydain. Un maes lle credaf y byddai hyn yn arwain at newid cadarnhaol yw gydag Iaith Arwyddion Prydain mewn addysg, fel mae fy nghyd-Aelod wedi...
Laura Anne Jones: Diolch, a diolch yn fawr i'r Llywydd a'r Dirprwy Lywydd am ganiatáu'r cwestiwn amserol hwn heddiw, a diolch am ymateb cychwynnol, Weinidog, a diolch am y datganiad ysgrifenedig neithiwr, er fy mod yn gwybod bod llawer ar draws y Siambr hon yn siomedig na chafodd datganiad ar lafar ei wneud ddoe, fel y byddai cyfle i Aelodau ar draws y Siambr ofyn cwestiynau ar hyn. Wrth gwrs, mae'n bwysig ei...
Laura Anne Jones: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd mewn achosion o grŵp A streptococcus mewn ysgolion? TQ695
Laura Anne Jones: Gweinidog, diolch i chi am eich datganiad heddiw. Mae hi wedi bod yn eglur iawn ers tro erbyn hyn bod angen newid a diwygio patrymau gweithio athrawon cyflenwi ar fyrder. Talwyd mwy na £250 miliwn i asiantaethau am athrawon cyflenwi gan gynghorau Cymru ers 2016. Cynyddodd y galw am athrawon cyflenwi, wrth gwrs, yn fawr oherwydd y pandemig, ond hyd yn oed yn 2015, roedd costau athrawon...
Laura Anne Jones: Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol cyfan—mae'n dipyn o lond ceg—am eu gwaith caled ac am gynnal yr adolygiad hwn, am yr adroddiad, a'i argymhellion. Yn bersonol, roeddwn wrth fy modd eich bod wedi cynnal yr adolygiad, gan fod hwn yn gorff o waith roedd angen ei wneud, ac fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar...
Laura Anne Jones: —clwb chwaraeon fy hun, y rhwystr mawr, yn amlwg, yw cyllid. Gweinidog, a fydd eich Llywodraeth yn ymrwymo heddiw, ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau, i gefnogi'r fenter insport hollbwysig hon sydd â'r potensial i wneud cymaint yn wahanol i lawer yn briodol ac yn ariannol? Ac os caf fi, Dirprwy Lywydd, sut ydych chi'n gweithio gyda'r Senedd Ieuenctid i sicrhau bod eu safbwynt...
Laura Anne Jones: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch am eich datganiad, Gweinidog, a diolch am bopeth sydd wedi'i wneud hyd yma, ond mae'n amlwg yn glir, fel yr ydym i gyd yn cydnabod yn y Siambr hon heddiw, bod mwy i'w wneud o hyd. Mae'r pwnc heddiw yn un pwysig. Roedd adroddiad 'Drws ar glo' y Senedd yn 2021 y gwnaethoch sôn amdano, Gweinidog, wedi dod â chanfyddiadau pryderus iawn i'r amlwg. Canfu'r adroddiad...
Laura Anne Jones: Diolch. Gofynnais yr un cwestiwn yn ddiweddar i'r Gweinidog iechyd ynghylch sut y bydd y Llywodraeth hon yn lleihau amseroedd aros ambiwlansys. Prif Weinidog, mae dros flwyddyn bellach wedi bod ers i'ch Llywodraeth gyhoeddi ei chwe nod ar gyfer gofal brys, ac mae'r sefyllfa wedi gwaethygu, fel y gwelais fy hun yn ddiweddar a llawer o fy etholwyr. Wrth gwrs nid ar barafeddygon sy'n gweithio'n...
Laura Anne Jones: 4. Pa gamau brys y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i dorri amseroedd aros ambiwlansys? OQ58801
Laura Anne Jones: Lywydd, mae'r cwricwlwm newydd yn rhoi cyfleoedd gwych i ddod â busnesau lleol i mewn. Fodd bynnag, mae'n fy mhryderu'n fawr fod y Gweinidog yn dal i beryglu amhleidgarwch ysgolion. Mae angen i ffocws cyntaf y Llywodraeth hon fod ar gael y pethau sylfaenol yn iawn yma yng Nghymru yn gyntaf. Cymru sydd â chanlyniadau gwaethaf y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr yn y DU; nid yw athrawon yn...
Laura Anne Jones: Yn bendant, Weinidog. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn rydych chi'n ceisio ei wneud, ond gadewch inni ystyried Unite, sydd wedi'u rhestru fel cyfranwyr i allu cyfrannu ar lefel bersonol ar gyfer ein dysgwyr. Mae Unite wedi rhoi miliynau o bunnoedd i Blaid Lafur y DU—£33,000 i'r Blaid Lafur yng Nghymru yn uniongyrchol ers 2020. Mae'r Gweinidog ei hun yn aelod o Unite ac wedi cael bron i...
Laura Anne Jones: Diolch, Lywydd. Ychydig wythnosau yn ôl, cyhoeddodd y Gweinidog gynllun peilot yr Undebau a Byd Gwaith—polisi a fyddai'n golygu bod undebau llafur yn mynd i mewn i'n hysgolion, ac yn cael cyswllt uniongyrchol gyda'n dysgwyr. Lywydd, nid oes gan y Ceidwadwyr Cymreig unrhyw broblem gyda phlant yn cael eu dysgu am y gweithle ac mewn gwirionedd, byddai'n annog gyrfaoedd a phrofiad sy'n...
Laura Anne Jones: Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd datganiad yr hydref Llywodraeth y DU gynnydd mewn cyllid ar gyfer addysg, a fyddai'n cyfateb i tua £200 miliwn ychwanegol ar gyfer addysg yng Nghymru pe baem ni'n gwneud yr un peth, gyda Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn cael £1.2 biliwn yn ychwanegol o gyllid ychwanegol yn gyfan gwbl dros y ddwy flynedd. Gweinidog, mae'n hanfodol bellach, gyda'r holl bwysau...
Laura Anne Jones: 2. A wnaiff Llywodraeth Cymru roi arian i ysgolion yng Nghymru a fydd yn cyfateb i'r arian ychwanegol y mae Llywodraeth y DU yn ei roi i ysgolion yn Lloegr? OQ58767
Laura Anne Jones: Weinidog, rydych chi wedi dweud yn gyson eich bod yn edrych ar ddull system gyfan, o feddygon teulu i oedi cyn trosglwyddo gofal, a byddem yn cytuno â hyn. Ond mae dros flwyddyn bellach ers i chi gyhoeddi eich chwe nod ar gyfer gofal brys, ac mae'r sefyllfa wedi gwaethygu. Nid bai parafeddygon gweithgar yw dim o hyn wrth gwrs, ond yn hytrach, y cynllunio gwael gan y Llywodraeth Lafur hon....
Laura Anne Jones: Weinidog, gall economi'r nos fod yn gyflogaeth fregus weithiau, ond mae'n hanfodol i'n diwylliant, ein cymunedau a'r economi. Mae'r gweithwyr hyn wedi wynebu'r gwaethaf o gyfyngiadau symud y pandemig, felly mae'n hanfodol eu bod yn cael cefnogaeth i gael eu cefnau atynt. Pa asesiad, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o effaith y pwysau costau byw ar economi'r nos yng Nghymru?