Sioned Williams: Diolch, Llywydd. Weinidog, rŷch chi siŵr o fod wedi gweld yr ystadegau pryderus ynglŷn â thlodi dwfn yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Sefydliad Bevan y bore yma. Mae'r dystiolaeth yna o aelwydydd yn cael trafferth enbyd i fforddio hanfodion bywyd—bwyd, cysgod, gwres—a hynny yn sgil incwm isel iawn neu dim incwm o gwbl, neu am fod dyled yn llyncu cyfran fawr o'u hincwm. Mae costau ynni,...
Sioned Williams: Diolch am y datganiad, Weinidog. Er bod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi datgelu pecyn newydd o gymorth milwrol Prydeinig ar gyfer Wcráin, mae'r cymorth, fel ŷch chi wedi sôn, y maen nhw'n ei ddarparu ar gyfer y rhai sydd wedi gorfod ffoi rhag y rhyfel—menywod a phlant yn bennaf—gan chwilio am noddfa yma, yn druenus o annigonol, a'r lefelau ar gyfer y flwyddyn nesaf yn bryderus, ac...
Sioned Williams: Diolch am y datganiad, Weinidog. Mae canlyniadau’r cyfrifiad yn dangos dirywiad yn y canran o siaradwyr Cymraeg yn bron bob ardal, gan gynnwys ar gyfer pob oed, ac ymhlith plant tair i 15 oed ym mhob sir yn fy rhanbarth i. Felly, mae’n hollbwysig bod yr amrywiaeth o fentrau lleol sy'n hybu’r iaith, yn enwedig rhai sydd wedi derbyn buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, yn parhau i gael eu...
Sioned Williams: Rwy'n sicr yn adleisio'r alwad honno, Gweinidog. Mae Diwrnod Cofio'r Holocost wedi ei neilltuo i gofio'r rhai a gafodd eu herlid a'u lladd am eu bod nhw ar y cyrion a'u gwneud yn wrthun gan rai a oedd mewn awdurdod. Mae thema Diwrnod Cofio'r Holocost, sef pobl gyffredin, yn un sydd â llawer i'n haddysgu ni heddiw, fel rydych chi wedi sôn, yn fyd-eang, ac yma yng Nghymru. Oherwydd er bod...
Sioned Williams: Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddileu anghydraddoldebau iechyd i fenywod?
Sioned Williams: Diolch, Heledd. A fyddech chi'n cytuno mai un o'r carfannau o bobl ifanc sy'n cael eu heffeithio'n fawr gan yr argyfwng costau byw a hefyd cost uchel trafnidiaeth yw myfyrwyr? Maen nhw'n aml iawn yn gorfod byw mewn dinasoedd. Rŷn ni'n gwybod eu bod nhw'n gorfod weithiau byw ar gyrion dinasoedd, oherwydd bod cost mor uchel o ran rhent yng nghanol dinasoedd, ac maen nhw wedi dweud wrthyf i eu...
Sioned Williams: Diolch, Lywydd. Mae’r mis hwn yn nodi 200 mlynedd ers geni Alfred Russel Wallace, naturiaethwr yr helpodd ei syniadau i newid y byd. Fe'i ganwyd ger Brynbuga, a threuliodd lawer o'i fywyd cynnar yn Lloegr cyn symud yn ôl i Gymru i weithio fel syrfëwr yng Nghastell-nedd. Yn ystod ei amser hamdden, canolbwyntiai ar ei ddiddordebau gwyddonol, ac yn ei hunangofiant, cyfeiriodd at yr effaith y...
Sioned Williams: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rŷch chi'n sôn yn eich datganiad am sut mae'r rhaglen yn rhoi modd o weithredu ar flaenoriaethau cenedlaethol fel hybu'r Gymraeg. Weinidog, fe wyddoch bod achos busnes amlinellol gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot i agor ysgol enfawr newydd cyfrwng Saesneg ym Mhontardawe dan gynllun ysgolion unfed ganrif ar hugain, fel ag yr oedd bryd hynny, wedi'i gymeradwyo gan...
Sioned Williams: Diolch yn fawr iawn. Roedd llawer ohonom yn bresennol yn y rali a drefnwyd gan Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru ar risiau'r Senedd ym mis Rhagfyr, ac rwy'n gwybod, Weinidog, i chi alw draw hefyd i siarad â myfyrwyr, a oedd yn adrodd i ni straeon brawychus am y ffordd y maen nhw'n cael trafferth â chostau trafnidiaeth, biliau ynni, rhent, bwyd, ac yn y blaen. Ac rwyf i wedi codi â chi o'r...
Sioned Williams: Diolch, Llywydd. Mae mwyafrif asesiadau anabledd arbenigol ar gyfer myfyrwyr prifysgol sy'n gymwys ar gyfer y lwfans myfyrwyr anabl datganoledig yn cael eu cynnal ar hyn o bryd gan ganolfannau asesu arbenigol yng Nghymru, sy'n deall anghenion myfyrwyr prifysgol Cymru, a thirwedd datganoledig addysg uwch Cymru. Mae'r arbenigwyr hyn mewn canolfannau asesu sydd wedi eu lleoli yng ngwasanaethau...
Sioned Williams: Diolch, Gweinidog. Yn sgil, wrth gwrs, yr angen i ymateb i’r argyfwng hinsawdd, a’r angen, fel y clywsom gan Cefin Campbell, i gynyddu’r ynni rŷn ni’n ei gynhyrchu’n lleol, mae’n dda gweld bod y trafodaethau hyn yn mynd ymlaen. Hyd nes y bydd gennym ni system drafnidiaeth gyhoeddus sy’n gymwys i’n hanghenion cenedlaethol ni, ac a fydd yn un rhad i’w defnyddio, bydd meysydd...
Sioned Williams: 8. Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi'u cynnal gyda llywodraethau eraill er mwyn rhannu arferion da ynghylch cefnogi ynni adnewyddadwy? OQ58921
Sioned Williams: Roedd 36 y cant o'r cynghorwyr a gafodd eu hethol yn yr etholiadau yn 2022 yn fenywod—cynnydd o 8 y cant ers 2017, ond ymhell o fod ble ddylem ni fod o ran cydraddoldeb, wrth gwrs. Er bod dau gyngor yn gydradd o ran rhywedd, mae'r darlun mewn ardaloedd eraill yn annerbyniol, ble mae cynrychiolaeth menywod mor isel â 18 y cant. Pa gamau penodol, felly, ydy'r Llywodraeth yn eu cymryd i wella...
Sioned Williams: Gan droi yn awr at gynllun cymorth biliau ynni Llywodraeth y DU, rwy'n rhannu eich pryder, Gweinidog, fod ystadegau diweddaraf BEIS yn awgrymu nad yw 33 y cant o'r talebau a ddarparwyd hyd at fis Rhagfyr wedi eu defnyddio eto. Mae hyn yn destun pryder mawr, gan mai'r aelwydydd hyn yw rhai o'r rhai mwyaf agored i niwed, fel arfer ar incwm isel, ac yn gallu bod mewn dyled i'w cyflenwr eisoes. A...
Sioned Williams: Diolch am y datganiad, Weinidog. Rwy'n falch o'r pwyslais a roesoch chi ar allu neu ddiffyg gallu grwpiau gwahanol i ymdopi â'r argyfwng costau byw a phrisiau cynyddol, ac mae menywod, wrth gwrs, yn un o'r grwpiau hynny: 46 y cant yw nifer yr aelwydydd rhieni sengl sy'n byw mewn tlodi—mae'n ffigur syfrdanol, ddwywaith yn uwch na'r gyfradd tlodi cyffredinol yng Nghymru, sef 23 y cant—ac...
Sioned Williams: Syrthiodd un o fy etholwr yn ddiweddar a thorrodd ei migwrn, ac mae hi'n byw ger uned ddamweiniau ac achosion brys mawr yn Ysbyty Treforys ac uned mân anafiadau yn ysbyty Castell-nedd Port Talbot. Aeth i Uned Mân Anafiadau, gan feddwl y byddai'r amseroedd aros yn llai. Dyna yw'r canllawiau ar nifer o wefannau, ond apwyntiad yn unig ydoedd. Dywedwyd wrthi y byddai'n rhaid iddi fynd i...
Sioned Williams: Diolch, Prif Weinidog. Mae etholwr i mi o Dreforys wedi bod yn dioddef problemau gyda'i phen-glin ers 15 mlynedd, ac wedi bod yn aros ers pum mlynedd, bron i'r diwrnod, am driniaeth i ailosod dau ben-glin yn rhannol, ac wedi bod mewn poen cyson yr holl amser, ac wedi gorfod rhoi'r gorau i'w thafarn o ganlyniad. Pan dynnais sylw at achos fy etholwr mewn llythyr at Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae...
Sioned Williams: 5. Beth mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i gwtogi amseroedd aros yn y gwasnaeth iechyd yng Ngorllewin De Cymru? OQ58932
Sioned Williams: Diolch, Lywydd, a hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl y prynhawn yma. Rwy'n cytuno â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol mai Llywodraeth y DU sydd â'r ysgogiadau allweddol, nid yr holl ysgogiadau, ond yr ysgogiadau allweddol ar gyfer mynd i'r afael â thlodi, y pwerau dros systemau treth a lles. Dywedodd fod y cynnydd wrth fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru...
Sioned Williams: Bydd strategaeth wedi'i diweddaru'n cael ei chyhoeddi y flwyddyn nesaf, ond nid oes unrhyw sôn am dargedau, ac o ystyried yr ateb a roddodd y Prif Weinidog i fy nghyd-Aelod Peredur Owen Griffiths ddoe ynghylch yr angen am strategaeth tlodi plant, rhaid imi ddweud fy mod i'n poeni braidd am hynny hefyd, ac ymrwymiad y Llywodraeth iddo. Dywedodd y Prif Weinidog ei fod eisiau 'i'n cydweithwyr...