Natasha Asghar: Diolch, Gweinidog. Fe hoffwn i ofyn i chi am gynlluniau i leihau cymorth ariannol i rai o bobl dlotaf a mwyaf agored i niwed Cymru tuag at gost eu sbectol GIG nhw. Rwy'n deall mai'r cynnig yw gostwng y cyfraniad presennol o £39.10 i blant ac oedolion ynglŷn â rhai budd-daliadau i £22. Rydych chi'n honni bod y swm wedi ei gytuno gyda'r grŵp sy'n cynrychioli optometryddion yng Nghymru, ond...
Natasha Asghar: Gweinidog, heddiw hoffwn ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda. Yn gyntaf, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch pa mor aml maen nhw'n archwilio a chynnal a chadw cyfarpar trydanol mewn ysbytai ledled Cymru? Ddydd Mercher diwethaf, fel rwy'n siŵr eich bod yn gwybod, oherwydd tân roedd rhaid gwacáu Ysbyty Brenhinol Gwent a chanslo nifer...
Natasha Asghar: Gweinidog, mewn datganiad ysgrifenedig dyddiedig 19 Ionawr ar ddiogelwch menywod mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru, cyfeiriodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol at strategaeth genedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, Llywodraeth Cymru. Dywedodd y Gweinidog y bydd y strategaeth yn cael ei chyflawni drwy '"ddull glasbrint" ar y cyd, ochr yn ochr â grŵp o...
Natasha Asghar: 8. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i wella'r ddarpariaeth gofal llygaid yng Nghymru? OQ59029
Natasha Asghar: Rwy'n croesawu'r adroddiad hwn. Fel y dywedodd y Cadeirydd wrth agor, rwy'n nodi mai dim ond un o'i 26 o argymhellion a wrthodwyd gan Lywodraeth Cymru. Hoffwn gyfeirio yn fy sylwadau y prynhawn yma hefyd at rai o'r argymhellion y mae'n eu cynnwys. Mae argymhelliad 7 yn cyfeirio at annog teithwyr i ddychwelyd i ddefnyddio gwasanaethau bysiau cyhoeddus. Rwy'n cytuno'n fawr â hyn, fel y bydd...
Natasha Asghar: Weinidog, mae RWE Renewables wedi rhybuddio eu bod yn bwriadu gwneud cais i Lywodraeth Cymru am ganiatâd cynllunio mewn cysylltiad â datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol. Maent eisiau adeiladu a gweithredu fferm wynt, system storio ynni batri a seilwaith cysylltiedig ar dir comin—esgusodwch fy ynganiad—ym Mhen March, Gelligaer. Mae fy etholwyr hefyd wedi cysylltu â mi i ddweud eu bod...
Natasha Asghar: Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan y Gweinidog iechyd am yr effaith niweidiol mae methiant Llywodraeth Cymru i recriwtio digon o feddygon teulu yn ei gael ar fy etholwyr yn sir Fynwy? Rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelod Delyth Jewell wedi codi hyn yn gynharach yn un o'i chwestiynau ynghylch y meddygon teulu sy'n ymddeol ac sy'n gadael eu practisau, ac rwy'n derbyn...
Natasha Asghar: Weinidog, mae'n ffaith bod llai na hanner y plant yn cerdded neu'n beicio i'r ysgol. Mae ymchwil yn dangos bod annog teithio llesol i'r ysgol yn cael ei lesteirio gan faterion yn ymwneud â faint o draffig a geir y tu allan i giatiau'r ysgol. Rwyf bob amser wedi cefnogi cyfyngiadau cyflymder 20 mya y tu allan i ysgolion i helpu i gadw ein plant yn ddiogel, ond mae rhai cynghorau yng Nghymru...
Natasha Asghar: Diolch. Mae etholwr, sy'n bennaeth gwyddoniaeth a thechnoleg mewn ysgol yng Nghymru, wedi cysylltu â mi yn ddiweddar i wrthwynebu cynigion i integreiddio ffiseg, cemeg a bioleg fel un cymhwyster. Mae fy etholwr yn credu'n gryf fod y cynigion hyn yn amddifadu disgyblion o ddewisiadau ac yn gwanhau ansawdd addysgu gwyddoniaeth yng Nghymru yn ddifrifol drwy leihau ehangder addysg wyddonol...
Natasha Asghar: Ddirprwy Weinidog, heb os, mae Maes Awyr Caerdydd wedi bod yn faich ariannol ar y trethdalwr. Fe’i prynwyd gan Lywodraeth Cymru am £52 miliwn yn 2013, ac yn 2021, £15 miliwn yn unig oedd y pris a roddwyd arno. Mae wedi gwneud colled cyn treth ym mhob cyfnod ers ei brynu, ac mae wedi cymryd miliynau o bunnoedd o arian trethdalwyr ar ffurf grantiau ac ad-daliadau dyled er mwyn iddo barhau'n...
Natasha Asghar: Diolch, Ddirprwy Weinidog. Unwaith eto, rwyf bob amser yn teimlo, pan fyddaf yn siarad am Faes Awyr Caerdydd, mai rhywun arall sydd ar fai bob amser, er na allaf ddweud na chaf fy synnu gennych, Ddirprwy Weinidog, gan ei bod yn amlwg nad ydych yn talu llawer o sylw i'r pethau nad ydych yn eu hoffi. Os nad ydych yn hoffi ffyrdd, rydych yn rhoi'r gorau i'w hadeiladu; os nad ydych yn hoffi...
Natasha Asghar: Diolch yn fawr, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, clywsom ddoe fod Wizz Air yn rhoi'r gorau i'w holl hediadau i mewn ac allan o Faes Awyr Caerdydd, sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru, gan roi ergyd arall eto i’w hyfywedd. Dywedodd eich Llywodraeth fod y cam hwn, a dyfynnaf, yn 'syndod.' Fodd bynnag, ym mis Awst y llynedd, cyhoeddodd eich cyd-Aelod Cabinet, Julie James, ddatganiad ysgrifenedig yn...
Natasha Asghar: 1. Pa gamau fydd y Gweinidog yn eu cymryd i wella canlyniadau addysgol disgyblion ysgol yn 2023? OQ58911
Natasha Asghar: Diolch i'r Gweinidog ac rwy'n croesawu ei ddatganiad yn fawr heddiw. Mae defnyddio radioisotopau meddygol yn rhan bwysig o ymarfer meddygol modern. Mae eu defnydd mewn technegau delweddu diagnostig anfewnwthiol yn gynnar yn ystod triniaeth yn helpu i adnabod a dosbarthu cyflyrau difrifol a chyffredin fel clefyd y galon, ac yn y pen draw, canser. Mae tarfu ar y gadwyn gyflenwi radioisotopau,...
Natasha Asghar: Gweinidog, diolch yn fawr am eich datganiad y prynhawn yma. Nawr, heb os, mae technoleg yn datblygu'n gyflym iawn, gyda chwmnïau'n cyflwyno datblygiadau mawr i wella canlyniadau iechyd. Felly, byddai gen i ddiddordeb gwybod, Gweinidog, pa ddyfeisiau technoleg, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru yn ymchwilio iddynt i leddfu'r pwysau ar ein gwasanaeth iechyd y gaeaf yma ac wrth symud ymlaen? Y...
Natasha Asghar: Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod uchel iawn ei barch Peter Fox am ei ddatganiad heddiw, yn ogystal â chofnodi fy niolch iddo ef a'i dîm am eu holl ymdrech yn drafftio'r Bil sydd o'n blaenau heddiw. Nawr, fel yr Aelod rhanbarthol dros Ddwyrain De Cymru, rwy'n cynrychioli ychydig dros 650,000 o bobl ac ar ôl cyfarfod â channoedd ohonynt dros yr wythnosau diwethaf, gallaf eich...
Natasha Asghar: Diolch o galon, Lywydd. Mae'r Sul hwn yn nodi dechrau gŵyl Iddewig Hanukkah, a elwir hefyd yn Chanukah. Gŵyl y goleuni yw Hanukkah sy'n para wyth diwrnod ac mae'n achlysur hynod lawen i'r gymuned Iddewig ar draws y byd. Yn ystod Hanukkah caiff canhwyllau eu cynnau ar ganhwyllbren naw cangen arbennig a elwir yn menora. Caiff cannwyll ei chynnau bob dydd a gosodir menora wedi'i goleuo ger...
Natasha Asghar: Diolch. Mae osteoporosis, fel rwy'n siŵr y byddwch yn deall ac yn gwybod yn well na fi, yn effeithio ar fwy na 180,000 o bobl yng Nghymru, a gall gwasanaethau cyswllt toresgyrn helpu i drawsnewid ansawdd bywyd llawer o bobl hŷn yng Nghymru a sicrhau arbedion costau i'r GIG. Ar hyn o bryd, dim ond dwy ran o dair o bobl yng Nghymru dros 50 oed sydd â mynediad at y gwasanaethau cyswllt...
Natasha Asghar: 1. Pa gamau mae'r Gweinidog yn eu cymryd i wella gwasanaethau cyswllt toresgyrn yng Nghymru? OQ58875
Natasha Asghar: Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad os gwelwch chi'n dda gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar oedi eto cyn cwblhau prosiect metro de Cymru? Un o brif amcanion prosiect metro de Cymru yw annog pobl i ddod oddi ar y ffyrdd ac, yn naturiol, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Ym mis Chwefror 2021, dywedodd prif weithredwr Trafnidiaeth Cymru y byddai oedi o ganlyniad i'r pandemig, a 2023 yn...