Sam Rowlands: Diolch yn fawr iawn. Yn ogystal â hyn, mae dadansoddiad a gyflawnwyd gan y Ganolfan Economeg ac Ymchwil Busnes yn dangos y gallai porthladd rhydd Ynys Môn ddod â hyd at 13,000 o swyddi i ogledd Cymru dros gyfnod o 15 mlynedd. Gallai hefyd godi cynnyrch domestig gros ar draws y DU erbyn 2030. Hefyd, mae Stena Line, fel y soniwyd eisoes, yn dweud y byddai statws porthladd rhydd yn...
Sam Rowlands: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddweud ei bod yn bleser gallu cloi dadl y Ceidwadwyr Cymreig heddiw ar borthladdoedd rhydd, a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar? Fel yr amlinellwyd gan Paul Davies wrth agor y ddadl heddiw ac fel y nodwyd ym mhwynt 1 ein cynnig, mae gan borthladdoedd rhydd rôl i'w chwarae yn hybu economi Cymru. Fel y mae'r Gweinidog newydd ei grybwyll, yn sicr,...
Sam Rowlands: Hoffwn adleisio’r sylwadau a godwyd gan yr Aelod dros Arfon, a chydnabod bod angen y ffocws pwysig hwn ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig ar gyfer ardaloedd gwledig, mewn ardaloedd fel Arfon ac ar draws gogledd Cymru—y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli, wrth gwrs. Ddirprwy Weinidog, rwy’n siŵr eich bod yn un o ddarllenwyr brwd maniffesto’r Ceidwadwyr Cymreig, yn enwedig yr un ar...
Sam Rowlands: Wrth gwrs.
Sam Rowlands: Yn hollol. Mae Mark Isherwood yn codi pwynt pwysig o'i brofiad yma yn y Senedd, ac rwy'n cytuno'n llwyr â phob pwynt y mae ef wedi'i wneud yn y fan yna oherwydd mae pwynt ehangach yma ynghylch gwasanaethau ataliol nad ydyn nhw'n cael eu cefnogi'n iawn, a'r effaith ganlyniadol ar gyllidebau mewn mannau eraill o fewn rheolaeth Llywodraeth Cymru. Wrth gwrs, mae'n deg dweud bod y gyllideb hon...
Sam Rowlands: A gaf i ddiolch hefyd i Weinidog Llywodraeth Cymru am gyflwyno'r drafodaeth heddiw ar gyllideb ddrafft 2023-24? Wrth gwrs, mae'n cael effaith hynod bwysig ar ein cymunedau, ar bawb yng Nghymru, ac mae'n rhywbeth, rwy'n siŵr, y mae pawb wedi bod yn aros amdani'n eiddgar. Mae'n amlwg o'n hochr ni y meinciau a thrwy gydol y cyfraniadau hyd yma, ynghyd â'n gwelliant i'r ddadl yn y gyllideb...
Sam Rowlands: Hoffwn yn gyntaf ategu'r sylwadau a wnaed ynghylch effaith ddinistriol y cynllun arfaethedig i gau safle 2 Sisters yn Llangefni, a'r pwysigrwydd gwirioneddol i Lywodraethau'r DU a Chymru weithio gyda'i gilydd i sicrhau canlyniad mor gadarnhaol â phosibl. Felly, rwy’n sicr yn cefnogi galwadau'r Aelod dros Ynys Môn am hynny. Mae wedi bod yn gadarnhaol, Gweinidog, fel yr wyf i'n siŵr y...
Sam Rowlands: Diolch, Ken Skates, am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn yma heddiw. Rwy'n sicr yn rhannu rhywfaint o siom ynghylch penderfyniadau i beidio â gallu cefnogi'r cais am gyllid ffyniant bro ar gyfer prosiect Porth Wrecsam. Ond rwy'n falch o glywed ymateb cadarnhaol y Gweinidog o ran y trafodaethau parhaus gyda phartneriaeth Porth Wrecsam, a'r ymgysylltu hwnnw gyda'r clwb pêl-droed yn Wrecsam, i...
Sam Rowlands: A gaf fi ddiolch i Rhun ap Iorwerth am gyflwyno'r cwestiwn amserol heddiw? Hoffwn ategu sylwadau'r Aelod dros Ynys Môn. Yn bennaf oll, mae'n newyddion trychinebus i drigolion Ynys Môn, yn enwedig yn Llangefni, ac fel y clywsom, mae yna 730 o swyddi mewn perygl difrifol yng nghwmni 2 Sisters Food Group yno. Mae'n hynod o ddifrifol, yn enwedig yng nghyd-destun y pwysau sydd ar Ynys Môn ar...
Sam Rowlands: Diolch, Janet Finch-Saunders, am roi munud o'ch amser i minnau hefyd yn y ddadl hynod bwysig hon. Ac yn sicr rwyf am adleisio sylwadau cyd-Aelodau ynghylch cefnogaeth i'r potensial pwysig a'r diwydiant pwysig hwn ar gyfer y dyfodol. Ac wrth gwrs, yn hyn i gyd, mae gan ogledd Cymru, yn enwedig y gogledd-ddwyrain, gyfle gwych i weld y dechnoleg hon yn ffynnu. Ac ar y pwynt hwn, hoffwn gofnodi'r...
Sam Rowlands: Rwy’n ddiolchgar am allu siarad yn nadl bwysig iawn y Ceidwadwyr Cymreig heddiw ar ynni adnewyddadwy ar y môr, a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar, ac wrth gwrs, a agorwyd gan Janet Finch-Saunders. Ac ers dod yn Aelod o'r Senedd yma dros Ogledd Cymru, rwyf wedi bod yn eiriolwr enfawr o blaid y manteision gwych y mae ynni adnewyddadwy ar y môr yn eu darparu, ond hefyd yr...
Sam Rowlands: Diolch, Weinidog. Os caf, hoffwn ganolbwyntio fy nghwestiwn olaf ar gyfarfodydd cyngor rhithwir. Mae'n fater rwyf wedi'i godi sawl gwaith yma yn y Siambr, ac mae'n fater a godais gyda chi yr wythnos diwethaf yn ogystal. Hefyd, gwelsom stori arall yn y cyfryngau ddoe yn dangos llanast o sefyllfa lle mae'n edrych fel pe bai gweithred rywiol honedig wedi digwydd dros gyfarfod Zoom yn ystod un o...
Sam Rowlands: Diolch am eich ymateb, Weinidog. Mater allweddol mewn perthynas â'r cyllid i awdurdodau lleol yw’r ffordd y caiff y cyllid hwnnw ei ddosbarthu. Fel y gwyddoch, daw rhan sylweddol o gyllid y cynghorau hynny ar ffurf grantiau. Credaf fod oddeutu £1.4 biliwn o’r cyllid y bydd y cynghorau hynny’n ei gael yn dod mewn grantiau. Wrth gwrs, mae’r arian ei hun i’w groesawu, ond efallai y...
Sam Rowlands: Diolch, Lywydd. Cyn imi ofyn fy nghwestiwn, rwy’n siŵr, Lywydd, yr hoffech ymuno â mi i groesawu aelodau o Senedd Canada, sydd wedi ymuno â ni heddiw drwy Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad, ac sy'n cael y pleser o arsylwi ar ein trafodion y prynhawn yma. Rwy’n siŵr y byddant yn mwynhau'r profiad cymaint â ni. Prynhawn da, Weinidog. Fe wnaethoch grybwyll, mewn ymateb i un o’ch...
Sam Rowlands: Prynhawn da, Gweinidog. Efallai eich bod chi'n cofio fy mod i, ar 15 Tachwedd, yn ystod y datganiad busnes, wedi galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn amlinellu costau economaidd llawn cyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn o 20 mya yng Nghymru. Gofynnais i am hyn yn sgil llythyr a gafodd pob cynghorydd yng Nghymru gan y Llywodraeth yn amlinellu y byddai'r newid terfyn cyflymder o 20 mya yn...
Sam Rowlands: Yn sicr, credaf fod hynny'n bryder gwirioneddol, ac mae'n rhywbeth y gwnaethom ni fel pwyllgor ymchwilio iddo, ac rydym yn gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru'n awyddus i edrych ymhellach arno eu hunain hefyd. A Mark Isherwood, credaf eich bod yn llygad eich lle i’w godi yma y prynhawn yma. Ond ceir pryder hefyd mewn rhai awdurdodau lleol yng Nghymru fod llawer yn amharod i roi neu...
Sam Rowlands: A gaf fi gofnodi fy niolch yn gyntaf i Gadeirydd y pwyllgor, John Griffiths, am ei gadeiryddiaeth a’i waith yn llunio adroddiad y pwyllgor heddiw, ochr yn ochr â fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor, y Gweinidogion a roddodd dystiolaeth, y clercod, tîm cymorth y pwyllgor, wrth gwrs, a'r llu o sefydliadau a ddarparodd dystiolaeth ar gyfer yr adroddiad rydym yn ei ystyried yma heddiw? Ac fel yn...
Sam Rowlands: Weinidog, rwy'n ddiolchgar am eich ymateb i'r Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy, a gododd fater hynod o bwysig y prynhawn yma. Rwy'n ymwybodol fod y sector peirianneg sifil yn hynod bryderus am ddiffyg darpariaeth sgiliau addas, yn enwedig ar gyfer gweithwyr tir yng Nghymru. Mae'n ymddangos nad oes darpariaeth ar hyn o bryd yn unrhyw un o golegau addysg bellach Cymru ar gyfer prentisiaethau...
Sam Rowlands: Diolch i'r Aelod am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn heddiw, ac rwy'n sicr yn cefnogi llawer o'r teimladau a fynegwyd gan Aelod etholaeth Ynys Môn yno hefyd. Ac mae'r newyddion fod gwaith ar y gweill er mwyn ailagor y bont yn newyddion i'w groesawu, wrth gwrs, Weinidog. Ond rwyf i a Mark Isherwood fel cyd-Aelod o ogledd Cymru, wedi ymuno â chyfarfodydd gyda'r AS Virginia Crosbie gyda...
Sam Rowlands: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl ysgolion ffydd yng Ngogledd Cymru?