Jack Sargeant: Yng nghanol gaeaf oer a thwf sylweddol mewn tlodi, gyda chwyddiant yn rhemp a chyflogau'n llusgo ar ôl, rydym yn caniatáu i gwmnïau ynni newid pobl i'r ffordd fwyaf drud ac ansicr o dalu am ynni—cannoedd o filoedd o bobl. Ac o'r 500,000 o geisiadau am orchmynion llys i newid preswylwyr yn orfodol, dim ond 72 a gafodd eu gwrthod, a hynny er gwaethaf y gofyniad honedig i gwmnïau ynni...
Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, ac wrth agor y ddadl fer heddiw hoffwn roi munud o fy amser i Sioned Williams a Jane Dodds. Mae 'argyfwng costau byw' yn ffordd arall o ddweud bod nifer cynyddol o bobl yn cael eu gorfodi i fyw mewn tlodi. Mae'n arwydd o fethiant llunwyr polisi a'r ffordd y caiff ein heconomi ei threfnu. Nid yw'n anochel, ac fe allwn ac fe ddylem geisio gwneud bywydau pobl...
Jack Sargeant: A gaf fi ddiolch i Jenny Rathbone am ei hawgrym? Mae hynny'n sicr yn rhywbeth y byddwn yn ymchwilio iddo ymhellach. Mae’n awgrym gwerthfawr gan yr Aelod. Wrth gwrs, mae unrhyw awgrymiadau ynglŷn â gwaith y pwyllgor i'w croesawu bob amser. Lywydd, roedd yr her sy’n wynebu’r rheini sy’n rhedeg pyllau nofio yn fater a godwyd yn ymchwiliad y pwyllgor diwylliant, fel y clywsom heddiw, ac...
Jack Sargeant: Wrth gwrs.
Jack Sargeant: Diolch i’r pwyllgor diwylliant am ymgymryd â’r gwaith hwn a chodi’r mater pwysig hwn. Lywydd, rwy’n codi i gyfrannu heddiw yn fy rôl fel cadeirydd y Pwyllgor Deisebau. Mae un o'r deisebau mwyaf poblogaidd ers dechrau'r flwyddyn hon wedi canolbwyntio ar effaith costau ynni uchel ar byllau nofio a chanolfannau hamdden. Mae’r ddeiseb o’r enw 'Diogelu canolfannau hamdden a phyllau...
Jack Sargeant: Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb, ac am arweinyddiaeth ei gyd-Aelod yn Llywodraeth Cymru Jane Hutt ar y mater hwn. Nid yw hyn yn ddim llai na sgandal genedlaethol. Rydym wedi gweld cannoedd o orchmynion llys yn cael eu cyhoeddi ar y tro, ac erbyn hyn mae data'n dangos, o'r 500,000 o orchmynion y ceisiwyd amdanynt ar gyfer newid gorfodol i fesuryddion rhagdalu, dim ond 72 a gafodd eu...
Jack Sargeant: Rwy'n ddiolchgar, Lywydd, am ganiatáu imi gael cyfle i gywiro'r cofnod. Mewn cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol, ni chafodd ei wneud yn ysgafn, ond anghofiais atgoffa'r Aelodau o fy muddiant fel aelod balch o undeb llafur, wrth ofyn cwestiwn am y streic. Felly, rwy'n ddiolchgar am y cyfle i atgoffa'r Aelodau fod hynny ar gael ar-lein, ond hefyd am y cyfle i ddweud, yn y Siambr ger eich bron...
Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Lywydd. Mae'n amlwg fod gwaith sylweddol yn cael ei wneud i hyrwyddo gwaith ein Senedd genedlaethol, a gellid gwneud hyn drwy'r gweithredoedd mawr, fel y sonioch chi, gydag ymgysylltiad â'r holl seneddau, neu weithredoedd llai efallai hyd yn oed. Nawr, mae Cymru, fel cenedl, yn lle hael a chroesawgar, ac felly hefyd ein Senedd, ac rwy'n siŵr fod yr Aelodau, fel finnau, wedi...
Jack Sargeant: Unwaith eto, Gwnsler Cyffredinol, enghraifft arall o ddeddfwriaeth ymosodol gan Dorïaid y DU, un sy'n ceisio creu rhaniadau rhwng gweithwyr. Mae'n ceisio gwneud iawn am 12 mlynedd o fethiant y Torïaid drwy feio gweithwyr allweddol. Hwy yw'r union weithwyr y gwnaethant glapio iddynt yn ystod y pandemig. Gwnsler Cyffredinol, mae'r hawl i streicio'n hawl sylfaenol, a dylai arweinwyr ar draws y...
Jack Sargeant: Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb y prynhawn yma. Rwy'n siŵr y bydd yn ymwybodol o'r adroddiad a gyhoeddwyd ddoe gan Bwyllgor Deisebau'r Senedd a gadeirir gennyf. Cafodd yr adroddiad ei gymeradwyo gan fwyafrif o'r pwyllgor, ac fe wnaeth argymell treialu wythnos pedwar diwrnod o fewn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Bydd y peilot yn adeiladu ar dystiolaeth treialon y sector...
Jack Sargeant: 3. Pa gyngor cyfreithiol mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â'i gallu i gynnal treial wythnos pedwar diwrnod yng Nghymru? OQ58997
Jack Sargeant: 6. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar effaith Bil Streiciau Trafnidiaeth (Lefelau Gwasanaeth Lleiaf) Llywodraeth y DU ar y setliad datganoli? OQ58999
Jack Sargeant: 2. Sut mae'r Comisiwn yn hyrwyddo Senedd Cymru i'r byd? OQ59007
Jack Sargeant: 1. Pa gyngor mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei roi i Lywodraeth Cymru ynghylch a yw prosesu cannoedd o warantau llys ar y tro, gan ganiatáu i gwmnïau ynni osod mesuryddion rhagdalu heb wiriadau unigol, yn torri hawliau sifil trigolion Cymru? TQ713
Jack Sargeant: Rwy'n ymuno â galwadau gan Aelodau'r gwrthbleidiau wrth groesawu'r cyhoeddiad a'r datganiad heddiw gan y Gweinidog a'i fwriadau a ddymunir, gyda chanlyniadau lleihau'r pwysau ar ein hysbytai. Gweinidog, rydych chi wedi sôn am gyllid o fewn eich datganiad heddiw, ond er mwyn cyflawni'r canlyniadau a ddymunir yr ydym ni i gyd eisiau eu gweld, rhaid i becyn ariannu cynaliadwy fod ar waith. A...
Jack Sargeant: A gaf fi ddiolch i’r Gweinidog am ei hateb? Bydd yn ymwybodol fy mod, dros y deufis diwethaf, wedi bod yn codi mater gosod mesuryddion talu ymlaen llaw ac yn galw am waharddiad ar unwaith ar osod y mesuryddion hyn. Golyga'r mesuryddion hyn fod trigolion tlotaf ein cymdeithas yn talu mwy am eu hynni, a Lywydd, rwyf wedi siarad â nifer o elusennau sydd wedi rhoi tystiolaeth i mi fod...
Jack Sargeant: 2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda phartneriaid llywodraeth leol am sut y gallant gefnogi trigolion yn ystod yr argyfwng costau byw? OQ58962
Jack Sargeant: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad, yn arbennig y cyfeiriadau at y ganolfan ymchwil technoleg uwch ac at y diwydiant dur? Ond un elfen allweddol o economïau'r dyfodol, yng Nghymru ac ar draws y byd, fydd seilwaith digidol a chysylltedd digidol. Llywydd, rwyf yn datgan buddiant fel aelod di-dâl o gonsortiwm y prosiect, consortiwm prosiect 5G, dan arweiniad Prifysgol Bangor. Mae'r...
Jack Sargeant: Mae'n briodol fy mod yn dilyn cyfraniad fy nghyd-Aelod Joel James fel Cadeirydd Pwyllgor Deisebau'r Senedd y mae Joel hefyd yn aelod ohono. Rwy'n dymuno dweud ychydig eiriau yn rhinwedd y swydd honno heddiw, Lywydd, gan ganolbwyntio ar ddeiseb o'r enw, 'Helpwch Gymunedau yng Nghymru i Brynu Asedau Cymunedol: Gweithredwch Ran 5 o Bennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011'. Galwai ar 'y Llywodraeth...
Jack Sargeant: diolch am bopeth, Gareth Bale.