Mabon ap Gwynfor: Er enghraifft, mae ffermydd cig oen wedi elwa yn sgil tynhau protocolau diheintio a rhoi mwy o bwyslais ar ansawdd a phrydlondeb bwydo colostrwm, yn ogystal â thriniaeth ddethol wedi'i thargedu mewn ŵyn. Ar ffermydd gwartheg, mae'r defnydd a dreialwyd o dechnoleg bolws wedi rhoi system rhybudd cynnar i ffermwyr, gan dynnu eu sylw at haint posibl mewn buwch pan fydd yn gofyn tarw neu yng...
Mabon ap Gwynfor: Dwi'n croesawu'r datganiad yma heddiw, oherwydd mae ymwrthedd gwrthficrobaidd yn cael effaith andwyol ar ein ffermydd ac ar iechyd cyhoeddus. Yn wir, erbyn 2050, amcangyfrifir y bydd ymwrthedd gwrthficrobaidd yn achosi 10 miliwn o farwolaethau yn fyd-eang, ac yn costio $100 triliwn i economi'r byd. Felly, wrth ystyried hyn, pa asesiadau economaidd y mae'r Llywodraeth wedi ei wneud o impact...
Mabon ap Gwynfor: —ar hyn o bryd ac yn llai disruptive na'r hyn sydd yn mynd ymlaen. Pryd ydych chi'n mynd i dderbyn bod y bwrdd yn rhy fawr ac yn aneffeithiol ac angen ei aildrefnu? Diolch.
Mabon ap Gwynfor: Mae'n amlwg i bawb bellach mai cam sinigaidd gwleidyddol oedd tynnu'r bwrdd allan o fesurau arbennig llai na tair blynedd yn ôl. Ac, yn yr amser hynny, mae rhai pethau wedi gwaethygu: fasgwlar, wroleg, adrannau brys, er enghraifft. Ond, mae gen i gyfres o gwestiynau yma y mae etholwyr Dwyfor Meirionnydd wedi gofyn i fi eu rhoi ger eich bron chi heddiw. Rydyn ni wedi bod yma o'r blaen, ac...
Mabon ap Gwynfor: A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ynghylch diweddariad i'r system gyfrifiadurol o fewn y gwasanaeth iechyd gwladol? Mae gen i, er enghraifft, glaf canser yn Ninas Mawddwy sydd wedi gorfod mynd i gael triniaeth gychwynnol drwy fynd i weld y meddyg yn lleol yn Nolgellau, ac yna yn gorfod mynd i'r ysbyty ym Mronglais yn Aberystwyth, ac yna yn ei dro yn mynd lawr i Glangwili yng...
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn i Luke Fletcher am gyflwyno'r cynnig yma, ac i bawb a'i gefnogodd o. Mae EMA wedi bod yn gymorth hanfodol i nifer fawr o fyfyrwyr yng Nghymru ers iddo gael ei gyflwyno gyntaf. Cafodd ei gyflwyno fel peilot nôl yn 1999 cyn iddo gael ei rolio allan ar draws y Deyrnas Gyfunol yn 2004-05. Mae'n gresyn bod Llywodraeth Lloegr wedi cael gwared ar y lwfans, ond mae’n arwydd...
Mabon ap Gwynfor: Dydy'r Llywodraeth yma ddim yn gwneud eironi, mae'n rhaid. Ar yr un llaw, ddoe, roedd y Dirprwy Weinidog yn cyhoeddi bod cynlluniau i adeiladu llawer iawn o ffyrdd gwledig Cymru am gael eu hatal, gan sôn bryd hwnnw am bwysigrwydd trafnidiaeth cyhoeddus a sut mae'r mwyaf difreintiedig, menywod, yr anabl a phobl bregus eraill sydd yn dibynnu fwyaf ar drafnidiaeth cyhoeddus a pha mor bwysig ydy...
Mabon ap Gwynfor: Diolch am yr ateb. Llwyddiant y rhaglen weithredu genedlaethol ar fawndiroedd yw ei gallu i gyflawni ar unwaith, ond mae wedi dod i fy sylw fod llawer o waith yn cael ei ddal yn ôl neu nad yw'n mynd rhagddo oherwydd bod tirfeddianwyr yn aros i weld a fydd hi'n ofynnol cynnwys mawn diraddiedig yn y cynllun ffermio cynaliadwy newydd, neu a fyddai'n well iddynt ymgymryd â'r gwaith drwy'r...
Mabon ap Gwynfor: Diolch, Weinidog, am yr ateb hwnnw.
Mabon ap Gwynfor: Os gallaf newid i'r sector arall yn eich portffolio, o amaethyddiaeth i ddyframaethu a physgodfeydd, mae'r data diweddaraf ar y diwydiant pysgota yng Nghymru yn dangos i ni fod pysgod asgellog a physgod cregyn a ffermir wedi gweld gostyngiad enfawr o 82 y cant yn eu gwerth rhwng 2019 a 2021. Dros y 10 mlynedd diwethaf, rydym wedi gweld glaniadau fflydoedd pysgota Cymru yn gostwng 75 y cant yn...
Mabon ap Gwynfor: Diolch, Llywydd. Rydyn ni bellach ar ddechrau, neu, mewn rhai achosion, yng nghanol, y tymor wyna. Yn naturiol, felly, rydyn ni'n troi ein golygon at sicrhau diogelwch ein stoc rhag ymosodiadau. Mae data diweddaraf NFU Mutual yn dangos bod cŵn allan o reolaeth yn bygwth defaid yng Nghymru, gyda'r data yn dangos bod anifeiliaid gwerth tua £440,000 wedi cael eu niweidio yn ddifrifol neu eu...
Mabon ap Gwynfor: Diolch am yr ateb yna. Roedd hi'n eironig iawn darllen datganiad y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus yn y Gymru wledig ac yntau yn sôn am y gwasanaeth Sherpa i'r Wyddfa fel enghraifft dda o'r math o system y dylid ei ledaenu ar draws Cymru. Yr eironi ydy, wrth gwrs, fel y saif pethau, gall y gwasanaeth yma fod o dan fygythiad oherwydd methiant y Llywodraeth i...
Mabon ap Gwynfor: 3. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynglŷn ag effaith cyllideb ddrafft y Llywodraeth ar ddyfodol parciau cenedlaethol? OQ59135
Mabon ap Gwynfor: 5. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynglŷn ag effaith Bil Amaethyddiaeth (Cymru) ar y rhaglen weithredu genedlaethol ar fawndiroedd? OQ59136
Mabon ap Gwynfor: Cafodd y cyhoeddiad ynglŷn â'r penderfyniad i atal ffordd osgoi Llanbedr ei wneud yn hydref 2021. Hwn oedd y penderfyniad anghywir ac fe ddaeth fel pilsen chwerw iawn ar ôl degawdau o addewidion. Felly, er ein bod ni'n derbyn bod yn rhaid gwneud popeth i fynd i'r afael â newid hinsawdd, nid yn unig y dylai'r weithred hon ganiatáu pontio cyfiawn, ond dylai hefyd fod yn gymesur â'r...
Mabon ap Gwynfor: A yw'r Gweinidog yn cydnabod mai 45 y cant yw'r gyfradd dreth incwm bersonol uchaf yn yr Almaen, tra'i fod yn 55 y cant yn Awstria, ac a ydych chi wedi gweld pobl yn symud o Awstria i'r Almaen, yn seiliedig ar y cyfraddau treth uchel yn Awstria?
Mabon ap Gwynfor: Ar ddechrau mis Ionawr, fe wnes i godi'r mater o ddiffyg asesiadau Cymraeg amserol i blant a phobl ifanc niwro-amrywiol. Mae gen i ambell i achos yn fy etholaeth o blant sydd angen asesiadau cyfrwng Cymraeg ond yn gorfod aros blynyddoedd am yr asesiadau hynny. Mae yna un, er enghraifft, wedi bod yn aros am asesiad ers mis Chwefror, ac fe gafodd asesiad cychwynnol ar-lein gan gwmni Healios rai...
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn i'r Dirprwy Weinidog am yr ateb hynny, a'r geiriau cynnes iawn sydd wedi cael eu rhoi yn cefnogi cael darpariaeth yn yr ardaloedd gwledig, ond ymhellach i hynny, mae wedi dod i fy sylw i fod y cynllun bus emergency scheme, a gafodd ei gyflwyno yn ystod COVID, am gael ei arallgyfeirio er mwyn digolledi anghenion eraill o fewn y Llywodraeth, ac felly bod y pres yma'n dirwyn...
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi am gychwyn drwy gydnabod bod yna lot o waith yn mynd ymlaen ar hyn o bryd efo gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus Cymru. Roedd adroddiad diweddar Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru, er enghraifft, yn ddifyr iawn, efo un ystadegyn arbennig o ddifyr a oedd yn dweud bod dwy ran o dair o siwrneiau pobl y gogledd yn 15 km neu lai, ond roedd y data yna wedi...
Mabon ap Gwynfor: Mae'r siwrnai er mwyn cyrraedd y rhan yma o'r daith wedi bod yn un hir ac, ar adegau, wedi bod yn reit dymhestlog. O'r eiliad y cafwyd y datganiad fod y Deyrnas Gyfunol am adael yr Undeb Ewropeaidd, roedd hi'n amlwg bod yna her anferthol am fod o flaen y sector amaethyddol. Dechreuwyd y daith efo cam gwag, wrth i'r Llywodraeth gyflwyno 'Brexit a'n tir'. Ond, o ludw y cynllun hwnnw, dysgwyd...