Canlyniadau 41–60 o 2000 ar gyfer speaker:Siân Gwenllian

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (20 Med 2022)

Siân Gwenllian: Hoffwn godi ddau fater efo'r Trefnydd y prynhawn yma. Gobeithio bydd y teulu brenhinol yn cael cyfle am alaru tawel, personol, rŵan bod y cyfnod galaru cyhoeddus ar ben. Mae yna rai cwestiynau pwysig yn codi o rai o gyhoeddiadau'r wythnos diwethaf, a hoffwn wybod sut mae'r Llywodraeth am ymateb i'r rhain. Yn benodol, wrth gwrs, mae'r penderfyniad i roi'r teitl 'Tywysog Cymru' i William, a...

1. Cynnig o gydymdeimlad a theyrngedau i Ei Mawrhydi Y Frenhines (11 Med 2022)

Siân Gwenllian: Diolch am y cyfle i gyflwyno ychydig o eiriau yn ein Senedd genedlaethol ar gychwyn wythnos sy'n arwain at angladd y ddiweddar Frenhines Elizabeth II, ac dwi'n gwneud hynny fel trefnydd busnes a dirprwy arweinydd grŵp Plaid Cymru, a hefyd fel Aelod etholaeth Arfon. Mae fy etholaeth yn cynnwys yr hyn a elwir yn 'dref frenhinol Caernarfon'. Dyma i chi dref arbennig—tref lle mae’r Gymraeg...

Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor (13 Gor 2022)

Siân Gwenllian: Rydw i'n cynnig yn ffurfiol.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau Deintyddol y GIG yn Arfon (13 Gor 2022)

Siân Gwenllian: Dwi'n falch iawn o glywed hynny, oherwydd mae nifer fawr o etholwyr Arfon yn cysylltu â mi am y diffyg darpariaeth. Mae yna nifer cynyddol yn methu â chofrestru efo deintydd NHS, yn cynnwys plant, a does yna ddim lle efo deintyddion yn unman yn y gogledd. Mae'r gwasanaeth brys dan straen hefyd, efo un claf yn honni iddo geisio cysylltu â'r rhif arbennig dros 200 o weithiau mewn diwrnod, ac...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau Deintyddol y GIG yn Arfon (13 Gor 2022)

Siân Gwenllian: 2. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am sefyllfa gwasanaethau deintyddol a ddarperir drwy’r GIG yn Arfon? OQ58352

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (12 Gor 2022)

Siân Gwenllian: Beth oedd canlyniad y trafodaethau gafodd Gweinidogion gyda rhanddeiliaid ym Mangor ynghylch cynlluniau i wella canol y ddinas?

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru ( 5 Gor 2022)

Siân Gwenllian: Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a Gweinidogion eraill am gynlluniau i wella canol dinas Bangor?

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyllidebu ar Sail Rhywedd (29 Meh 2022)

Siân Gwenllian: Diolch yn fawr. GDP ydy’r mesur mwyaf cyffredin o incwm cenedlaethol—model sydd, wrth gwrs, yn mesur maint y gacen a faint rydym ni yn ei gynhyrchu efo'n hadnoddau ni yn hytrach na safon byw a chydraddoldeb. Ac mi fyddai cyllidebu ar sail rhywedd yn defnyddio offerynnau fel gwerthusiadau polisi ac asesiadau effaith er mwyn inni fod yn ymwybodol o’r holl ffyrdd y mae cyllidebau’r...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyllidebu ar Sail Rhywedd (29 Meh 2022)

Siân Gwenllian: 1. Pa effaith fydd y cynlluniau cyllidebu ar sail rhywedd yn ei chael ar etholaeth Arfon? OQ58276

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd (29 Meh 2022)

Siân Gwenllian: Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi gael gyda Gweinidogion eraill am gynlluniau i wella canol dinas Bangor?

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Hyfforddiant Meddygol drwy gyfrwng y Gymraeg (22 Meh 2022)

Siân Gwenllian: Mi wnes i holi’r Gweinidog iechyd yma yn y Siambr yn ddiweddar ynghylch sut y gallai’r ysgol feddygol newydd ym Mangor helpu i wireddu polisi ardderchog 'Mwy na Geiriau', ond rhaid imi ddweud, siomedig oedd yr ateb ges i. Dyna pam dwi’n parhau efo’r thema efo chi yma heddiw yma. O’r hyn dwi’n ei ddeall, prin ydy’r nifer o siaradwyr Cymraeg sy’n hyfforddi drwy’r ysgol...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Hyfforddiant Meddygol drwy gyfrwng y Gymraeg (22 Meh 2022)

Siân Gwenllian: 2. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am hyfforddi darpar feddygon drwy gyfrwng y Gymraeg yn ysgol feddygol Bangor? OQ58233

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Iechyd Meddwl Amenedigol (21 Meh 2022)

Siân Gwenllian: Diolch yn fawr. Wythnos nesaf, mi fyddai’n cyd-noddi digwyddiad i nodi pen-blwydd cyntaf yr uned mamau a babanod yn y de, sef Uned Gobaith. Fel dŷch chi’n gwybod, cafodd yr uned yma ei hagor yng nghanol y pandemig, a does yna ddim dwywaith ei bod hi wedi wynebu heriau oherwydd hynny, ond hefyd mae hi yn datblygu i fod yn adnodd gwerthfawr i famau sy’n datblygu problemau iechyd meddwl o...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Iechyd Meddwl Amenedigol (21 Meh 2022)

Siân Gwenllian: 6. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am wasanaethau i gefnogi menywod yn Arfon sy’n cael eu heffeithio gan broblemau iechyd meddwl amenedigol? OQ58234

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Ysgol Feddygol Gogledd Cymru (15 Meh 2022)

Siân Gwenllian: Diolch i chi am y diweddariad, a dwi'n edrych ymlaen i weld yr ysgol feddygol yn cael canolfan newydd sbon yng nghanol dinas Bangor maes o law, fydd yn gallu cyfrannu yn ogystal at y gwaith o adfywio'r stryd fawr yn y ddinas. Mae strategaeth eich Llywodraeth chi, 'Mwy na geiriau', yn pwysleisio bod cael gofal yn eich iaith gyntaf yn allweddol i ansawdd y gofal yna. Mae hyn yn wir am blant...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Ysgol Feddygol Gogledd Cymru (15 Meh 2022)

Siân Gwenllian: 6. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am yr hyfforddiant meddygol sydd ar gael yn ysgol feddygol gogledd Cymru? OQ58186

QNR: Cwestiynau i Gweinidog yr Economi (15 Meh 2022)

Siân Gwenllian: A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am nifer y swyddi sydd wedi'u creu ym Mharc Bryn Cegin, Bangor?

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ( 8 Meh 2022)

Siân Gwenllian: Fel yr Aelod dros Arfon, sy'n cynnwys Ysbyty Gwynedd wrth gwrs, dwi wedi bod yn bur bryderus am y bwrdd iechyd ers tro, ac mae arnaf ofn na fydd y cyhoeddiad ddoe yn ein symud ymlaen at ddyddiau gwell. Dros y blynyddoedd, mae etholwyr wedi tynnu sylw at eu pryderon, rhai ohonyn nhw yn ymwneud efo colli gwasanaethau o Ysbyty Gwynedd. Bu'n rhaid inni ymladd bygythiad i'r gwasanaethau mamolaeth....

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd — Diwygio ein Senedd: Llais cryfach i bobl Cymru ( 8 Meh 2022)

Siân Gwenllian: Dwi'n falch iawn i gyfrannu i’r ddadl hollbwysig hon fel aelod o’r pwyllgor diben arbennig fu’n gweithio ar yr adroddiad sydd yn destun ein trafodaeth ni heddiw yma. Gwaith y pwyllgor oedd edrych ar gasgliadau adroddiadau blaenorol ar ddiwygio seneddol ac yna gwneud argymhellion ar gyfer cyfarwyddiadau polisi ar gyfer deddfwriaeth gan y Llywodraeth i ddiwygio’r Senedd. Yn gefnlen i...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.