Heledd Fychan: Diolch, Luke, am gyflwyno'r ddadl hon ar bwnc sy'n allweddol bwysig fel rhan o fesurau gwrth-dlodi ac wrth gwrs mewn ymateb i'r argyfwng costau byw.
Heledd Fychan: Nid yw hon yn broblem y byddaf yn cael etholwyr dirifedi'n cysylltu â mi yn ei chylch, ond i'r rhai sy'n gwneud hynny, rwy'n gwybod am y gwahaniaeth mae'n ei wneud, y gwahaniaeth mae'n ei wneud i'w teuluoedd ac i'r unigolion hynny. O ran mesurau eraill, wrth gwrs nid cyfrifoldeb y Gweinidog addysg yn unig mohono, fel y dywedoch chi, yn gwbl briodol; mae'n gyfrifoldeb trawslywodraethol,...
Heledd Fychan: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi gyfeirio at y cytundeb cydweithio, gan ei fod wedi cael ei grybwyll nifer o weithiau? Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn rhan o'r cytundeb, gan gynnwys annog pobl i newid i drafnidiaeth gyhoeddus. A chredaf fod angen i bob un ohonom gymryd cyfrifoldeb, a sicrhau bod y blaenoriaethau yno, ond mae hyn yn rhan o’r argyfwng costau byw, gan fod pobl yn gwbl ddibynnol...
Heledd Fychan: Diolch, Weinidog. Yn sicr, rydym ni i gyd yn gwybod, fel y gwnaethoch chi eu rhestru, y manteision mawr sydd yna o ran iechyd a lles, bioamrywiaeth, ansawdd aer, ac ati. Ond eto i gyd, mae nifer o ofodau gwyrdd yn diflannu, gan gynnwys mewn ardaloedd ledled ein prifddinas, oherwydd datblygiadau amrywiol. Fel y byddwch yn ymwybodol o gwestiynau blaenorol gan Aelodau eraill, mae nifer o...
Heledd Fychan: 1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau ledled Canol De Cymru i gael mynediad at ofodau gwyrdd cymunedol? OQ59118
Heledd Fychan: Rwy'n llwyr gefnogi cais Janet Finch-Saunders am ddadl lawn. Mae angen i ni allu treulio'r holl gynnwys yma—ac rwy'n derbyn eich bod chi wedi ymddiheuro, Dirprwy Weinidog, am beidio â chyhoeddi o flaen llaw—oherwydd mae'n bwysig i'n hetholwyr ein bod ni'n gallu ymgysylltu'n llawn ar faterion fel hyn, ac nid yw cael golwg yn ystod dadl yn caniatáu hynny. Byddwch yn ymwybodol bod llawer...
Heledd Fychan: Diolch, Gweinidog, ond roedd fy nghwestiwn am lesiant trigolion yn benodol. Mae'n dair blynedd yr wythnos hon ers y llifogydd dinistriol ar draws y rhanbarth yr wyf i'n ei gynrychioli a thu hwnt o ganlyniad i storm Dennis. Dair blynedd yn ddiweddarach, mae'r rhan fwyaf o'r gwaith atgyweirio wedi'i gwblhau erbyn hyn, ond mae'r effaith ar blant ac oedolion yr effeithiwyd arnyn nhw yr un mor...
Heledd Fychan: 4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi lles trigolion Canol De Cymru sy'n parhau i wynebu perygl o lifogydd? OQ59119
Heledd Fychan: Hoffwn hefyd ganolbwyntio ar un maes allweddol arall a ddaeth i'r amlwg yn ystod ein hymchwiliad, sef capasiti staffio, neu'n hytrach diffyg capasiti staffio, a sut mae'n un o'r rhwystrau mwyaf i fynd i'r afael ag absenoldeb disgyblion. Fel y clywsom, mae'n broblem a gafodd ei gwaethygu oherwydd absenoldebau staff yn sgil COVID-19, ac anawsterau i sicrhau staff cyflenwi, ond mae heriau eraill...
Heledd Fychan: Hoffwn innau ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor a fy nghyd-Aelodau, y clercod a phawb a gyfrannodd, ynghyd â’r Gweinidog. Mi oedd hwn ymchwiliad pwysig tu hwnt. Fel sydd eisoes wedi ei amlinellu, rydyn ni i gyd yn gwybod pwysigrwydd presenoldeb o ran datblygiad dysgwyr mewn ysgolion, nid yn unig o ran eu cyrhaeddiad academaidd, ond hefyd eu datblygiad cymdeithasol, meddyliol ac emosiynol. Ond...
Heledd Fychan: Diolch, Weinidog. Dwi dal ddim yn siŵr os yw hynny'n golygu y bydd yna fynediad am ddim i deuluoedd incwm isel i'r Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol eleni. Mi fyddwn i'n gofyn, os nad ydych chi'n bendant o hynny eto, mi fyddai'n dda cael eglurder os bydd hynny'n gallu parhau mewn unrhyw ffordd. Oherwydd, fel sydd wedi'i dangos, mae yna fanteision lu o ran y Gymraeg o ran sicrhau mynediad am...
Heledd Fychan: Diolch, Llywydd. Weinidog, ddoe, yn ystod y ddadl ar y gyllideb ddrafft, gofynnais i'r Gweinidog cyllid ystyried goblygiadau'r gyllideb o ran y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg, ac, yn benodol, os oedd cynlluniau i gefnogi mynediad am ddim i deuluoedd lleol neu deuluoedd incwm isel i Eisteddfod yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol eleni. Y llynedd, fe wnaethoch fuddsoddi mewn mynediad am...
Heledd Fychan: Ie. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dim ond eisiau gwirio oeddwn i, mewn gwirionedd, fy mod i wedi clywed yn gywir yn gynharach, a hoffwn ofyn am ddyfarniad, Dirprwy Lywydd, ynglŷn ag a oedd yr iaith a ddefnyddiwyd ac un ymadrodd yn benodol a ddefnyddiwyd gan Hefin David yng nghwrs y ddadl yn dderbyniol. Wna i ddim ailadrodd y geiriau, ond roedden nhw'n eithafol, yn ansensitif, ac mewn...
Heledd Fychan: Yn ail, os caf i droi at y Gymraeg, dyma'r gyllideb ddrafft cyntaf ers cyhoeddi canlyniadau'r cyfrifiad, fel y soniodd Delyth Jewell, a gwyddom fod angen buddsoddiad sylweddol mewn nifer o feysydd os am gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Serch hynny, mae toriad termau real o 2.4 y cant mewn gwariant ar y Gymraeg yn y gyllideb hon. Pa asesiad sydd wedi ei wneud o ran...
Heledd Fychan: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n credu, yn glir iawn, wrth wrando ar y ddadl hon, bod dau beth yn fy nharo i: yn gyntaf, yn sicr y risg fwyaf i Gymru a'i dinasyddion yw parhau i fod yn rhan o'r DU a pheidio â bod â'r ysgogiadau hyn o dan ein rheolaeth, ac yn ail mai celwyddau oedd yr holl addewidion difidend Brexit. Nid ydyn ni yn gweld hynny'n cael ei adlewyrchu yn y realiti yma yng Nghymru....
Heledd Fychan: Rwy'n credu bod angen pwynt o drefn yma, oherwydd dydyn ni ddim yn trafod y cytundeb cydweithio; rydyn ni'n trafod y gyllideb ddrafft. Ac os oes unrhyw un yn ceisio sgorio pwyntiau gwleidyddol, fe fyddwn i'n dweud mai ein cyd-Aelod Hefin David sy'n gwneud hynny. Dydw i ddim yn gweld perthnasedd hyn o ran y gyllideb ddrafft. Hoffwn wybod pam eich bod chi'n meddwl bod ein gwelliant ni'n...
Heledd Fychan: Trefnydd, rydyn ni i gyd wedi ein dychryn, yn briodol, gan y dystiolaeth sydd wedi ei chyflwyno yn ymwneud â rhywiaeth, casineb at fenywod a hiliaeth o fewn Undeb Rygbi Cymru. Fel y bydd yr Aelodau yn ymwybodol, cafodd un o bwyllgorau craffu'r Senedd gyfle i holi URC a Dirprwy Weinidog y celfyddydau a chwaraeon yr wythnos ddiwethaf ar y mater. Yn ystod y sesiwn graffu gyda Llywodraeth Cymru,...
Heledd Fychan: Diolch, Weinidog, am y diweddariad heddiw, ac am gael gweld y datganiad ymlaen llaw. Dwi'n croesawu'n benodol fod y Gweinidog yn nodi ymrwymiad i sicrhau bod pob dysgwr ym mhob ysgol yn cael y cyfle gorau i fod yn siaradwr Cymraeg hyderus. Mae hon yn egwyddor bwysig, ac yn mynd â ni'n bellach na'r ymrwymiad sydd yn strategaeth 'Cymraeg 2050', sy'n dweud mai nod y Llywodraeth yw sicrhau bod o...
Heledd Fychan: Diolch, Weinidog. Wrth ymweld ag ysbytai a llinellau piced yn fy rhanbarth, mae staff wedi rhannu gyda mi, dro ar ôl tro, y straen aruthrol sydd arnyn nhw, a’r ffaith bod nifer o'u cydweithwyr profiadol yn gadael yn wythnosol. Dŷn nhw'n methu dygymod mwyach gyda’r pwysau sydd arnynt, y straen o fethu rhoi’r gofal gorau posibl i bob claf oherwydd maint y galw a’r straen, ynghyd...
Heledd Fychan: Diolch, Dirprwy Weinidog. Ond rydyn ni'n gwybod y bydd cynghorau'n torri'r gwasanaethau hanfodol hyn—gwasanaethau sydd, fel rydych chi'n amlinellu, yn gwbl bwysig o ran Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol, iechyd a lles ac yn y blaen. Rydyn ni'n gwybod bod y toriadau yma'n dod o 1 Ebrill oni bai bod rhywbeth yn newid yn ddirfawr. Rydyn ni'n gwybod nad yw setliad ariannol wedi bod yn ddigonol i...