Canlyniadau 41–60 o 800 ar gyfer speaker:Hefin David

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gofal Cymdeithasol (25 Hyd 2022)

Hefin David: 5. Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i weithlu gofal cymdeithasol Cymru? OQ58637

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Trafnidiaeth Gyhoeddus yn Nwyrain De Cymru (19 Hyd 2022)

Hefin David: Gwn ein bod yn awyddus i edrych ymlaen yn hytrach nag yn ôl, ond mae’n werth nodi mai’r rheswm pam fod gennym wasanaeth bysiau o gwbl bellach yw oherwydd y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau, a’i gynllun olynol, a gychwynnwyd yn ystod argyfwng y coronafeirws. Ac roedd honno'n enghraifft o Lywodraeth Cymru yn camu i'r adwy i gynorthwyo gwasanaeth preifat. Nawr, credaf fod gan y...

QNR: Cwestiynau i Gweinidog yr Economi (19 Hyd 2022)

Hefin David: Pa gefnogaeth all Llywodraeth Cymru ei ddarparu i fusnesau bach sy'n ei chael hi'n anodd y gaeaf hwn oherwydd yr argyfwng costau byw?

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gofal Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau (18 Hyd 2022)

Hefin David: O ran y pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans, a gafodd ei grybwyll gan arweinydd yr wrthblaid, nid yw mor syml â darparu mwy o staff yn y gwasanaeth ambiwlans yn unig—mwy o yrwyr ambiwlans, er enghraifft, neu barafeddygon. Nid yw'n mynd i ddatrys y broblem, yn rhannol oherwydd y ffaith, ymhellach i lawr y ffordd, bod gofal cymdeithasol yn wynebu argyfwng, y mae'r Prif Weinidog yn ei gydnabod,...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gofal Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau (18 Hyd 2022)

Hefin David: 4. Pa gymorth mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu ar gyfer gofal meddygon teulu y tu allan i oriau? OQ58586

5. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Adolygiad o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 (12 Hyd 2022)

Hefin David: Rwy'n byw yn fy etholaeth, yng Nghaerffili, ac mae gennym ardal sydd â chrynodiad o ffermydd, ac o amgylch y ffermydd hynny ceir llawer o dai, a gallwch ddychmygu bod etholwyr yn poeni'n fawr ynglŷn â sut yr ymdrinnir â slyri a sut y caiff y materion hyn eu rheoleiddio—efallai'n fwy felly nag mewn ffermydd sy'n fwy ynysig ac yn llai agos at gymunedau. Felly, rwy'n credu bod y rheoliadau...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Y Gronfa Ffyniant Bro (28 Med 2022)

Hefin David: Ac mae'n achosi problem wirioneddol; mae’r newid arweinyddiaeth yn y Trysorlys ac yn y Llywodraeth wedi arwain at lawer o ansicrwydd, er bod ansicrwydd yno eisoes. Ar hyn o bryd, mae gennym Lywodraeth sy'n rhoi eu troed ar y sbardun a'r brêc ar yr economi ar yr un pryd, ac yn gorweithio'r injan—nid yw'n syndod nad ydynt wedi denu sylw at godi'r gwastad. Efallai eu bod wedi denu sylw at...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Y Gronfa Ffyniant Bro (28 Med 2022)

Hefin David: 2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Thrysorlys EF ynglŷn â chronfa ffyniant bro Llywodraeth y DU? OQ58438

6. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Qatar 2022 (27 Med 2022)

Hefin David: Yn fy marn i, nid wyf yn credu y dylai Qatar fod yn cynnal cwpan y byd o gwbl; rwy'n credu ei fod yn adlewyrchiad echrydus o werthoedd FIFA bod gwlad sydd â hanes hawliau dynol fel ei hanes nhw, ac nid yn unig wrth drin pobl LHDTC+—ond hefyd y driniaeth echrydus o weithwyr mudol a ddatgelwyd gan Gary Neville yn ddiweddar yn dangos na ddylai'r cwpan y byd hwn erioed fod wedi mynd i Qatar. ...

5. Cwestiynau Amserol: Bearmach Cyf (21 Med 2022)

Hefin David: Mae hwnnw'n ateb cychwynnol defnyddiol. Cefais wybod ddydd Llun 12 Medi gan gyngor Caerffili am Bearmach. Maent wedi cynhyrchu a chyflenwi partiau sbâr ar gyfer cerbydau Land Rover hŷn, ac wedi'u lleoli, fel y dywedais, ar ystad ddiwydiannol Pantglas. Roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi gwybod i'r cyngor yn hwyr y dydd Gwener blaenorol, ac rwy'n deall bod y cwmni wedi derbyn cymorth grant gan...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd: Diogelu Coetiroedd Hynafol (21 Med 2022)

Hefin David: Diolch am yr ateb hwnnw. Cafodd y mater yr wyf am ei godi ei grybwyll yng nghwestiynau'r llefarwyr. Mae bob amser yn dda gweld llefarwyr ar ran y pleidiau yn cymryd rhan, ni waeth pa mor fach, yng ngwaith Aelodau a etholir yn uniongyrchol. Dros yr haf, dychrynodd trigolion Llanbradach yn fy etholaeth wrth weld bod contractwyr wedi dechrau cloddio tir ar safle a elwir yn goedwig clychau'r gog...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd: Diogelu Coetiroedd Hynafol (21 Med 2022)

Hefin David: 8. Pa bolisïau a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru sydd ar waith i ddiogelu coetiroedd hynafol? OQ58392

5. Cwestiynau Amserol: Bearmach Cyf (21 Med 2022)

Hefin David: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y newyddion diweddar bod Bearmach Cyf. ar Ystâd Ddiwydiannol Pantglas, Bedwas, wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr? TQ659

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Y Sector Darlledu yng Nghymru (20 Med 2022)

Hefin David: Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol o'r cynghorydd Plaid Cymru y tynnwyd llun ohono yn dal gwn, gan fygwth atal pobl o Loegr rhag dod i mewn i Gymru, a adroddwyd gan y Local Democracy Reporting Service. [Torri ar draws.] Mae'r cynghorydd wedi cael ei wahardd gan eich plaid; peidiwch â gweiddi 'Dewch ymlaen' arnaf i. Mae wedi cael ei wahardd gan eich plaid. Cafodd ei adrodd gan y Local...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Y Sector Darlledu yng Nghymru (20 Med 2022)

Hefin David: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth i'r sector darlledu yng Nghymru? OQ58389

1. Cynnig o gydymdeimlad a theyrngedau i Ei Mawrhydi Y Frenhines (11 Med 2022)

Hefin David: Y broblem am gael fy ngalw ar yr adeg yma yn y ddadl yw dod o hyd i rywbeth gwreiddiol i'w ddweud, ond fe wnaf yr hyn y mae eraill wedi'i wneud a myfyrio ar fy myfyrdodau a fy atgofion personol fy hun o'i Mawrhydi. Yn enwedig, yn y Siambr hon yn 2016, roeddwn i'n eistedd mae'n debyg lle mae Jack Sargeant yn eistedd nawr, yn union gyferbyn â'r Prif Weithredwr, sef lle'r oedd y Frenhines yn...

11. Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022 (12 Gor 2022)

Hefin David: A wnewch chi dderbyn ymyriad?

11. Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022 (12 Gor 2022)

Hefin David: Rwy'n credu fod hynny'n—. Mae'n ddrwg gen i, rwy'n siŵr eich bod chi am fwrw ymlaen â phethau, ond rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn—[Chwerthin.] Y ffordd roedd hi'n edrych arna i oedd hynny. Rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn bod trigolion yn cael eu clywed, ac rwy'n rhoi croeso gofalus iawn i'r cynigion hyn. Rwy'n credu, ar y cyfan, y bydd trigolion Caerffili, mewn rhai...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Costau Ynni Uwch (12 Gor 2022)

Hefin David: Rwy'n gwerthfawrogi'r ateb yna, Prif Weinidog. Ar 24 Mehefin, ymwelais ag Aber Hotel yn Abertridwr yn fy etholaeth, ac mae'n fusnes teuluol lleol sydd wedi neilltuo tair o'i ystafelloedd i ddarparu banc bwyd i gymuned Abertridwr. Mae'n fusnes hanfodol ac yn rhan o rwydwaith a gwe o fusnesau ar draws rhannau gogleddol fy etholaeth sy'n darparu ffordd o fyw a chyflogaeth hanfodol i bobl yn y...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (12 Gor 2022)

Hefin David: Pa gefnogaeth y mae—[Chwerthin.] Mae'n ddrwg gen i. Roedd Alun Davies yn bod yn wirion iawn yn y fan yna; fe wnaeth i mi chwerthin.


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.