Canlyniadau 41–60 o 400 ar gyfer speaker:James Evans

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (10 Ion 2023)

James Evans: Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad—un gennych chi'ch hun, ar y rheoliadau diffygiol y gwnaethom ni eu cyflwyno yma ar 13 Rhagfyr, Rheoliadau Masnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Cysylltiedig (Diwygio a Swyddogaethau Deddfwriaethol) ac Iechyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael a'r UE) 2022. Dywedoch chi ar 13 Rhagfyr y byddech chi'n dod ymlaen cyn gynted â phosibl...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Iechyd Menywod (14 Rha 2022)

James Evans: Weinidog, fel y gwyddoch yn sicr, fe wnaethom ni fel Ceidwadwyr Cymreig gynnal dadl yn y Siambr hon ar ganser gynaecolegol sy'n effeithio ar fenywod. Roedd gennym alwadau clir yn y ddadl honno y teimlwn y gallent helpu menywod ledled Cymru sy'n dioddef gyda'r clefyd ofnadwy hwn. Yr hyn yr hoffwn ei wybod heddiw gan Lywodraeth Cymru yw beth rydych chi'n ei wneud i fynd i'r afael â chanser...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Yr Argyfwng Costau Byw (14 Rha 2022)

James Evans: Weinidog, cefais fraw wrth ddarllen bod ystadegau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod pris cyfartalog peint o gwrw wedi codi 9 y cant o'i gymharu â'r llynedd, a bellach mae dros 50 o dafarndai yn cau ledled y DU bob mis, o'i gymharu â thua 30 o dafarndai y mis y llynedd. Tafarndai yw curiad calon nifer o gymunedau ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, ac maent yn chwarae rôl gymdeithasol...

6. Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio a Swyddogaethau Deddfwriaethol) ac Iechyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022 (13 Rha 2022)

James Evans: Cyn i mi gychwyn, rwyf eisiau cofnodi nad oes gan fy ngrŵp wrthwynebiad i'r rheoliadau, ond mae gennym ni wrthwynebiadau i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno'r rhain i'r Senedd heddiw. A yw hi'n iawn i ni fel Aelodau o'r Senedd bleidleisio ar reoliadau sydd wedi'u geirio'n wael ac sydd, mewn gwirionedd, yn ddiffygiol? Nododd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad,...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (13 Rha 2022)

James Evans: Trefnydd, rwy'n gofyn am ddatganiad gweinidogol gan y Dirprwy Weinidog Chwaraeon ar y cynigion gan weinyddiaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghyngor Sir Powys i gau canolfannau hamdden a phyllau ar draws fy etholaeth dros y Nadolig a'r flwyddyn newydd, ac o bosibl hyd at fis Ebrill a thu hwnt, heb ymgynghori â thrigolion lleol. Bydd hyn yn drychinebus i bobl yn fy etholaeth i ac ar draws...

10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ardrethi busnes ar gyfer llety hunanddarpar ( 7 Rha 2022)

James Evans: A ydych chi'n meddwl ei bod hi'n drueni fod rhaid inni gael y ddadl hon heddiw? Mae'r pethau hyn yn digwydd oherwydd polisi difeddwl a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i gadw eu cyfeillion ym Mhlaid Cymru'n hapus.

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Diwygio Bysiau ( 6 Rha 2022)

James Evans: Yn eich ymateb chi, Gweinidog, i fy nghydweithiwr Natasha Asghar, fe amlinelloch chi fod Llywodraeth Cymru wedi nodi ffyrdd y gallem ni fynd i'r afael â thrafnidiaeth gyhoeddus wledig. Fel y gwyddoch chi'n iawn, mae trafnidiaeth gyhoeddus wledig yn fy ardal i yn broblem enfawr, ac os allech chi roi ychydig mwy o fanylion am yr ardaloedd y dywedoch chi eich bod wedi'u nodi, byddwn yn...

9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Busnesau bach (30 Tach 2022)

James Evans: Mae busnesau i fyny ac i lawr yn fy etholaeth, ac maent yn chwarae rhan enfawr yn fy nghymuned. Hoffwn eu rhestru i gyd, fel y gwnaeth Luke Fletcher, ond ar ôl fy nghyfraniad y llynedd, cefais e-byst gan bobl a oedd yn eithaf gofidus na wneuthum sôn amdanynt hwy, felly rwy'n credu ei bod hi'n well imi beidio â gwneud hynny mae'n debyg. Ond hoffwn ddweud bod nifer o fusnesau, yn y gogledd...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Dyfodol Hyfyw i Ffermio (30 Tach 2022)

James Evans: Weinidog, mae sicrhau bod gan ein ffermwyr ddyfodol hyfyw yn bwysig iawn, ond un sector yn arbennig sy'n wynebu pwysau enfawr yw ein diwydiant dofednod, gan eu bod yn gorfod ymdopi â ffliw adar a chynnydd enfawr mewn costau ynni. A wnewch chi amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi ein ffermwyr dofednod i sicrhau bod ganddynt ddyfodol cynaliadwy, hyfyw yn y...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysg Wyneb Yn Wyneb (23 Tach 2022)

James Evans: Weinidog, diolch i chi am eich ateb. Roeddwn yn pryderu'n fawr wrth ddarllen bod y Democratiaid Rhyddfrydol sy'n gyfrifol am Gyngor Sir Powys yn ystyried gorfodi plant i fethu un diwrnod yr wythnos o'r ysgol o blaid addysg rithwir fel y'i gelwir. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno bod hyn yn rhoi llawer iawn o bwysau ar rieni a disgyblion. Ac rwy'n gobeithio y byddwch hefyd yn cytuno—ac fe...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Lleihau Allyriadau Carbon (23 Tach 2022)

James Evans: Diolch, Ddirprwy Weinidog. Mae pob un ohonom yn y Siambr hon yn derbyn bod problem enfawr gyda newid hinsawdd, ac ni all unrhyw un wadu hynny. Mae eich Llywodraeth yn aml yn sôn am fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Yn wir, gwrthododd Llywodraeth Cymru fynd i’r COP27 diweddar yn yr Aifft, fel y dywedodd y Gweinidog, oherwydd pryderon ynghylch yr ôl troed carbon. Mae hwnnw’n...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Lleihau Allyriadau Carbon (23 Tach 2022)

James Evans: 3. Beth mae'r Gweinidog wedi'i wneud i leihau ôl-troed carbon ei hadran yn ystod y flwyddyn ddiwethaf? OQ58745

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysg Wyneb Yn Wyneb (23 Tach 2022)

James Evans: 2. Pa gamau mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod addysg yn cael ei ddarparu mewn fformat wyneb yn wyneb? OQ58743

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Fferm Gilestone (22 Tach 2022)

James Evans: Hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am eich ateb. Mae pryder enfawr yn fy ardal i ynghylch Lywodraeth Cymru yn prynu fferm Gilestone am £4.25 miliwn a'r diwydrwydd dyladwy o amgylch hynny, a'r defnydd posibl o dir ar gyfer yr ardal honno yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, rwy'n ymwybodol eich bod chi'n trafod gyda pherchnogion gŵyl y Dyn Gwyrdd, ond hoffai pobl leol i mi gynnig ateb arall i Lywodraeth...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Fferm Gilestone (22 Tach 2022)

James Evans: 7. A yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried ffyrdd gwahanol o ddefnyddio'r tir ar Fferm Gilestone ar wahân i'r brydles arfaethedig ŵyl y Dyn Gwyrdd? OQ58744

11. Dadl Fer: Rasio ceffylau: Ased economaidd ac ased chwaraeon i Gymru (16 Tach 2022)

James Evans: Gallaf weld fod yr amser wedi dod i ben, felly byddaf mor fyr ag y gallaf. Mae rasio ceffylau i mi wedi bod yn angerdd gydol oes. Roedd gan fy mam ddiddordeb brwd mewn marchogaeth ceffylau, fel fy nain, ac roedd fy hen nain yn marchogaeth ceffylau hyd nes ei phen-blwydd yn naw deg oed, felly mae gennyf ddiddordeb mawr yn y gamp er pan oeddwn yn ifanc iawn. Yn wahanol i Aelodau eraill, rwy'n...

6. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ansawdd Dŵr (15 Tach 2022)

James Evans: Diolch, Llywydd, a diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Rwy'n cytuno'n llwyr â'ch sylw mai dull Cymru gyfan yw hwn, ac mae angen nifer o randdeiliaid ac asiantaethau i ddod ynghyd i fynd i'r afael ag ansawdd dŵr, oherwydd ni ellir rhoi unrhyw un rhan o'r bai ar un parti. Roeddwn i'n eithaf bodlon yn eich datganiad bod gennych chi grŵp gorchwyl a gorffen yn edrych ar fesurau lliniaru...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Tai Cymdeithasol (15 Tach 2022)

James Evans: Prif Weinidog, dangosodd cais rhyddid gwybodaeth diweddar fod tua 4,500 o aelwydydd yn aros am dai cymdeithasol ym Mhowys. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi bod hynny'n peri pryder mawr. Rwy'n siŵr bod yr unigolion hynny a'r bobl hynny ar y rhestr aros honno, fel yr wyf i, eisiau gwybod heddiw beth yr ydych chi a'ch Llywodraeth yn ei wneud i ddatrys y broblem hon, oherwydd, fel y...

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad — 'Adroddiad Blynyddol 2021/22' ( 9 Tach 2022)

James Evans: Fel aelod newydd o'r pwyllgor hwn, mae wedi bod yn agoriad llygaid i mi weld proses ddeddfwriaethol y Senedd a'r holl gydweithio rhynglywodraethol ac ehangder y gwaith y mae'r pwyllgor yn ei wneud. Hoffwn gofnodi fy niolch i'n Cadeirydd, Huw Irranca-Davies, am y gwaith ardderchog y mae'n ei wneud yn cadeirio'r pwyllgor hwnnw, ac i'n his-gadeirydd a gamodd i'r adwy y diwrnod o'r blaen a...

6. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig — 'Codi’r bar: Sicrhau dyfodol y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu' ( 9 Tach 2022)

James Evans: Mae llawer i'w groesawu yn yr adroddiad hwn a hoffwn ddiolch i'r pwyllgor a'i aelodau, dan arweiniad fy nghyd-Aelod Paul Davies, am eu gwaith ar lunio'r adroddiad gwych hwn. Fel y noda'r adroddiad, roedd yna ddarogan gwae y byddai diweithdra torfol yn ystod y pandemig, ond diolch i gynllun ffyrlo Llywodraeth y DU, llwyddwyd i osgoi diweithdra torfol yng Nghymru oherwydd Llywodraeth y DU....


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.