I want to write to Gareth Davies
Gareth Davies: A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Gareth Davies: O'r gorau. Ond heb unrhyw dystiolaeth bendant a heb raw yn y ddaear, pryd y bydd fy etholwyr yn y Rhyl, Prestatyn, Rhuddlan, Llanelwy a'r cyffiniau yn cael y cyfleuster hwn i dynnu'r pwysau oddi ar Ysbyty Glan Clwyd? Rwy'n gwybod fod fy amser ar ben, ond hoffwn annog yr Aelodau i gefnogi gwelliannau 1, 3 a 4 fel y'u gwelir ar yr agenda. Diolch.
Gareth Davies: Yn bendant, mae'n wych, Carolyn, a byddaf yn crybwyll hynny yn nes ymlaen yn fy araith, a rhai o fanylion hynny. Un o'r pethau mwyaf gwallgof yn yr agenda hon oedd cau ysbyty cymunedol Conwy yn 2003 i baratoi'r ffordd ar gyfer ehangu Ysbyty Cyffredinol Llandudno, a gafodd ei israddio wedyn i statws cymunedol ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Mae'n anhygoel. Yna, gwelodd gogledd Cymru...
Gareth Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac mae'n bleser cyfrannu at y ddadl hon y prynhawn yma. Fel rhywun a fu'n gweithio yn y GIG am 11 mlynedd cyn cael fy ethol i'r Senedd, a rhywun sydd â'i wreiddiau'n ddwfn yn ardal y Rhyl a Phrestatyn, rwy'n teimlo fy mod yn eithaf cymwys i rannu rhywfaint o hanes a gwirioneddau am ofal iechyd yn sir Ddinbych a gogledd Cymru, a'r pwysau ar y gofal hwnnw, yn wir....
Gareth Davies: Rwy'n falch fod y cwestiwn hwn wedi'i godi heddiw, a diolch i'r Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy am ei ofyn, gan ei fod yn enghraifft berffaith o ragrith llwyr yn y Blaid Lafur Gymreig. Mewn un anadl, maent yn cefnogi tâl-feistri'r undebau sy'n dal i fod yn benderfynol o ddifa'r wlad, gyda streic ar ôl streic ar ôl streic, ond gyda'r anadl nesaf, maent yn gofyn i bobl weithio llai o...
Gareth Davies: Diolch am eich ateb, Weinidog. Diolch i waith Llywodraeth y DU ar gynyddu nifer swyddogion yr heddlu yng ngogledd Cymru, mae cyfraddau troseddu'n lleihau yn y Rhyl. Ond mewn cyfarfod diweddar gyda’r heddlu lleol, nodwyd mai ymddygiad gwrthgymdeithasol gan bobl mor ifanc â 13 oed yw hyd at 75 y cant o’r holl ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol tref y Rhyl. Yn anffodus, mae diffyg...
Gareth Davies: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiogelwch cymunedol yn y Rhyl a Phrestatyn? OQ58989
Gareth Davies: Diolch am eich datganiad y prynhawn yma, Gweinidog. Cyn i mi gael fy ethol i'r Senedd, roeddwn i'n gweithio ym maes ffisiotherapi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, felly rydw i yn ymwybodol iawn o'r problemau sy'n wynebu AHPs wrth ddarparu gofal o ansawdd da yn y gymuned. Rwy'n croesawu'r datganiad heddiw a chyhoeddi'r £5 miliwn, oherwydd mae wir yn gam i'r cyfeiriad cywir. Ni allaf...
Gareth Davies: A gaf i ofyn am ddatganiad gan Weinidog yr Economi y prynhawn yma ar gau HSBC yn Ninbych sydd ar fin digwydd ym mis Awst? Nawr, rwy'n deall ei fod yn rhan o gau 114 o fanciau ledled y wlad, rwy'n credu, ond rydw i wir yn credu bod HSBC wedi bod yn gibddall yn ei strategaeth o gau banciau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Tref wledig yw Dinbych yng nghanol Dyffryn Clwyd, ac mae HSBC yn un...
Gareth Davies: A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Gareth Davies: Pan gyfarfuoch â’r nyrsys a oedd yn streicio ar y llinell biced, a wnaethoch chi roi gwybod iddynt fod iechyd wedi’i ddatganoli i’r Llywodraeth Lafur yng Nghymru ers bron i 25 mlynedd?
Gareth Davies: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Peidiwch â phoeni, rwy'n falch o'ch hysbysu na fyddaf yn gofyn am apiau canlyn ar-lein heddiw. Mae etholwyr o ardal y Rhyl wedi cysylltu â mi i ddweud eu bod yn poeni am niferoedd cathbysgod mewn dyfroedd lleol, yn enwedig o gwmpas pwll Brickfield, fel y sonioch chi, Weinidog, oddi ar Heol Cefndy yn y Rhyl, ac afonydd Clwyd a Dyfrdwy. I roi'r cefndir yn...
Gareth Davies: 6. Pa fesurau mae Llywodraeth Cymru'n ymgymryd â hwy i leihau'r boblogaeth cathbysgod yn sir Ddinbych? OQ58949
Gareth Davies: Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth y prynhawn yma ar y newyddion bod uwch gynghorwyr sir Ddinbych wedi bod yn cwrdd yn breifat i drafod gostyngiadau mewn ffioedd cartrefi gofal fydd yn mynd â'r hyn y mae'r sir yn ei gynnig yn is na rhai o awdurdodau eraill y gogledd ac yn effeithio ar rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn fy etholaeth. Dywedodd cadeirydd Fforwm Gofal...
Gareth Davies: Prif Weinidog, cyflwynwyd cynllun Dechrau'n Deg yn ôl yn 2007 fel un o brif flaenoriaethau'r Llywodraeth ar gyfer mynd i'r afael â thlodi yng Nghymru, ond ar hyn o bryd Cymru sydd â'r gyfradd uchaf o blant sy'n byw mewn tlodi o'i chymharu â gweddill gwledydd y DU. Prif Weinidog, mae hyn yn gwbl annerbyniol ac yn record ddamniol o 25 mlynedd o Lywodraeth Lafur yma yng Nghymru. Felly, pa...
Gareth Davies: Hoffwn ddiolch i Peter Fox am godi'r mater pwysig hwn yn ei ddadl fer heddiw. Rwy'n cynnal rhaglen o ymweliadau â chartrefi gofal yn fy etholaeth ar hyn o bryd, gan fy mod eisiau gweld drosof fy hun beth yw rhai o'r problemau'n lleol yn fy rhan i o'r byd, a ledled Cymru yn wir. Y thema sy'n dod i'r amlwg yw bod llawer o gartrefi gofal yn methu cyrraedd eu capasiti oherwydd eu bod yn brin o...
Gareth Davies: Mae arnaf ofn fod Llywodraeth Lafur Cymru yn honni ei bod o blaid gofal iechyd cyffredinol, ond mae'n profi unwaith eto nad yw hyn yn wir. Yn hytrach na bod yn hollgynhwysol, mae'n dangos ei bod o blaid gofal iechyd yn ne Cymru'n unig, gyda gogledd Cymru, unwaith eto, yn cael ei adael ar ôl gan wleidyddion ym Mae Caerdydd. Rydym wedi galw gwasanaeth ambiwlans awyr Cymru yn amhrisiadwy, a...
Gareth Davies: Fel y gwyddom, mae caru eich afu yn golygu caru eich iechyd a'ch lles yn gyfan. Fodd bynnag, fel y dywed y diwrnod hwn wrthym, mae clefyd yr afu a chanser yr afu yn cael effaith gydol oes ar fywydau dioddefwyr. Mae'r diwrnod hwn hefyd yn tynnu sylw at y modd y mae canser yr afu yn cael effaith ar fwy a mwy o fywydau, gan ei fod yn prysur ddod yn achos marwolaethau canser cyflymaf yn y DU,...
Gareth Davies: Dim ond ceisio bod yn gwrtais oeddwn i.
Gareth Davies: Unwaith eto, rydym ni mewn sefyllfa o fod yn siarad am bwysau'r gaeaf yng nghanol gaeaf noethlwm, sef ymagwedd adweithiol yn hytrach na bod yn rhagweithiol, Gweinidog. Fe fyddai unrhyw Lywodraeth ddoeth yn gwneud y math yma o ddatganiad pan fo'r haul yn tywynnu, pryd maen nhw yn eu siorts a'u sandalau. Ond rwyf i eisiau canolbwyntio fy nghwestiwn ar sut mae pwysau'r gaeaf yn effeithio ar...