Canlyniadau 41–60 o 800 ar gyfer speaker:Delyth Jewell

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd: Streic gan Staff y Comisiwn (25 Ion 2023)

Delyth Jewell: Buaswn i'n dweud mai'r unig ffordd o warantu unrhyw hawliau ar gyfer gweithwyr fyddai os yw employment law yn cael ei ddatganoli i'r lle yma. Ond buaswn i'n gofyn i chi—dwi'n gwybod bod hynny y tu hwnt i beth y byddech yn gallu rhoi unrhyw farn arno—os oedd hynny yn digwydd, ac os oedd employment law yn cael ei ddatganoli, a fyddech chi'n gallu rhoi unrhyw syniad i ni o'r egwyddorion y...

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd: Streic gan Staff y Comisiwn (25 Ion 2023)

Delyth Jewell: Diolch am hynny. Mae'n swnio, felly, taw'r rhesymau ar gyfer y streic yw'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn San Steffan, yn lle unrhyw ddisbíwt sydd rhwng y Comisiwn a'r staff yma. Mae hynny'n adlewyrchu'r sefyllfa gyffredinol yng Nghymru, efallai, pan ydyn ni'n dod i weithwyr yn y sector cyhoeddus, lle mae yna benderfyniadau ariannu yn digwydd yn San Steffan ac mae'r penderfyniadau...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Pwerau Cyfreithiol (25 Ion 2023)

Delyth Jewell: Diolch am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol. Fis Tachwedd y llynedd, cyhoeddodd The Sunday Times adroddiad a ddaeth i'r casgliad fod tystiolaeth o gasineb at fenywod, hiliaeth, homoffobia a llygredd wedi ei ganfod yn Heddlu Gwent, gan gynnwys ymhlith swyddogion a oedd yn gwasanaethu ar y pryd. Ar wahân i hyn, wrth gwrs, mae ymchwiliad wedi'i sefydlu i ymchwilio i bryderon am ddiwylliant a...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Pwerau Cyfreithiol (25 Ion 2023)

Delyth Jewell: 9. Pa gyngor cyfreithiol mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch a oes ganddi'r pwerau cyfreithiol i gynnal neu gomisiynu ymchwiliad i sut mae honiadau yn erbyn swyddogion o fewn lluoedd heddlu Cymru'n cael eu trin? OQ58995

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd: Streic gan Staff y Comisiwn (25 Ion 2023)

Delyth Jewell: 1. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y trafodaethau sydd wedi arwain at staff y Comisiwn yn cyhoeddi streic ar 1 Chwefror? OQ59009

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (25 Ion 2023)

Delyth Jewell: Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cynnal gydag awdurdodau perthnasol ledled Cymru i sicrhau diogelwch menywod mewn mannau cyhoeddus?

7. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cyfrifiad 2021 — Y Canlyniadau o ran y Gymraeg (24 Ion 2023)

Delyth Jewell: Diolch, Llywydd. Mae'r Gymraeg wedi profi nifer o heriau dros y canrifoedd, ac mae hi wedi dyfalbarhau, ond beth rŷn ni angen gweld ydy’r iaith nid yn unig yn goroesi, ond yn blodeuo. Fydd hynny ddim yn dod o fyd y plant yn unig, wrth gwrs; mae'n rhaid ffeindio ffyrdd gwell o normaleiddio dysgu’r iaith ymysg pobl hŷn, oedolion. Mae canolfannau gwych fel Canolfan Soar ym Merthyr yn...

4. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Targedau Ynni Adnewyddadwy (24 Ion 2023)

Delyth Jewell: Diolch, Gweinidog, am y datganiad. Roeddwn i'n falch iawn i glywed beth roeddech chi'n ei ddweud am Ystad y Goron. Os ydyn ni'n mynd i gael obsesiwn, buaswn i'n dweud bod cael obsesiwn am sicrhau dyfodol gwell a mwy llewyrchus i Gymru yn lle eithaf da i ddechrau, i fod yn onest. Felly, buaswn i'n 'associate-io' fy hunan gyda nifer o'r pethau roeddech chi'n eu dweud am hwnna, achos mae gennym...

3. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diwrnod Cofio’r Holocost 2023 (24 Ion 2023)

Delyth Jewell: Ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost, fel mor aml, fe fyddaf i'n meddwl am Zigi Shipper, un a oroesodd Auschwitz, a fu farw'r wythnos ddiwethaf, ar ei ben-blwydd yn naw deg a thair oed. Fe gefais i'r fraint o gyfarfod â Zigi yn San Steffan, ac fe'i clywais ef yn siarad, nid yn unig am yr erchyllterau a wynebodd ef yn ystod y cyfnod hwnnw, pan ganiatawyd i gasineb dyn at fodau dynol eraill goncro pob...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (24 Ion 2023)

Delyth Jewell: Hoffwn i ddatganiad, os gwelwch yn dda, ynghylch hawl y gymuned i brynu. Cafodd ased lleol hardd, sef coedwig clychau'r gog, ger Llanbradach ei ddifetha ychydig fisoedd yn ôl, ac fe gyhoeddodd y cyngor orchymyn i'w adfer. Mae'r safle'n cael ei arwerthu, a bydd rheidrwydd ar y perchennog newydd i adfer y tir. Mae grŵp o drigolion lleol yn ceisio codi arian i brynu'r tir ar gyfer y gymuned,...

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ynni adnewyddadwy ar y môr (18 Ion 2023)

Delyth Jewell: Dwi wir yn croesawu’r ddadl hon. Mae’r Deyrnas Gyfunol, fel rydyn ni wedi clywed yn barod, yn un o arweinwyr y byd o ran potensial yn ein hynni adnewyddadwy ar y môr. Dwi’n meddwl y bydd y gair ‘potensial’ yn caei ei grybwyll nifer o weithiau yn y ddadl. Mae gan Gymru y potensial i fod yn gawr yn y sector yma. Fel mae pethau’n sefyll, mae potensial y sector ond yn cael ei...

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: 'Dyfodol bysiau a threnau yng Nghymru' (18 Ion 2023)

Delyth Jewell: Diolch i'r Cadeirydd ac i'r tîm clercio am eu gwaith pwysig yn y maes yma. Mae e'n gwbl amlwg—ac mae'n dod yn amlwg wrth i ni glywed y ddadl yma'n barod—bod trafnidiaeth bws a thrên yn chwarae rhan hanfodol wrth i ni geisio cyrraedd ein targedau newid hinsawdd, a chreu cymdeithas lle mae pawb yn gallu cyrraedd y gwasanaethau maen nhw eu hangen, boed hynny yn y maes gofal, hamdden,...

3. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Llifogydd (17 Ion 2023)

Delyth Jewell: Gweinidog, mae'r llifogydd sydd, unwaith eto, wedi dinistrio bywydau pobl nid yn unig yn difrodi carpedi a phapur wal. Pan fydd dŵr budr yn cael ei lanhau i ffwrdd, nid staeniau ffisegol yn unig sydd ar ôl. Mae pobl yn cael eu gadael gydag archoll, maen nhw'n ofnus ac yn ansicr o'r hyn a ddaw yn sgil y glaw trwm nesaf. Rydym ni wedi clywed eisoes gan Jayne Bryant bod adroddiad y Groes Goch,...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (17 Ion 2023)

Delyth Jewell: Hoffwn i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, ar ddiogelwch menywod mewn ardaloedd trefol ar ôl iddi dywyllu. Rwyf i wedi codi'r pwynt o'r blaen bod angen digon o oleuadau ger gorsafoedd rheilffordd a safleoedd bysiau. Rwy'n bryderus bod ail awdurdod lleol yn fy rhanbarth i wedi penderfynu diffodd goleuadau stryd dros nos. Mae disgwyl i Gasnewydd ddilyn Caerffili wrth wneud hyn. Rwyf i...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Mynediad at Feddygfeydd (17 Ion 2023)

Delyth Jewell: Diolch, Prif Weinidog. Mae etholwyr wedi cysylltu â mi gyda phryder am newyddion bod dwy wahanol feddygfa yn fy rhanbarth i ar fin cau. Roedd Canolfan Feddygol Aber yn bwriadu cau ei meddygfa ym Medwas, a fyddai'n golygu bod cleifion ym Medwas, Tretomas a Machen yn gorfod mynd i Abertridwr neu Lanbradach, ac ni fyddai'r rheini'n deithiau rhwydd, os nad oes gennych chi gar, yn enwedig os...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Mynediad at Feddygfeydd (17 Ion 2023)

Delyth Jewell: 7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad at feddygfeydd yn Nwyrain De Cymru? OQ58977

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (11 Ion 2023)

Delyth Jewell: Diolch. Mae’r pwynt ynglŷn â chynefinoedd trefol yn wirioneddol bwysig; rwy'n cytuno'n llwyr. Rwy’n mynd i siarad am rywbeth arall ym mhortffolio’r Dirprwy Weinidog nesaf, ond diolch yn fawr iawn am hynny, Weinidog. Hoffwn sôn yn fy nghwestiwn olaf am ddiogelwch menywod ar drenau. Dangosodd arolwg diweddar gan Railwatch fod 60 y cant o fenywod wedi bod mewn sefyllfa lle cawsant eu...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (11 Ion 2023)

Delyth Jewell: Weinidog, yr wythnos hon, adroddwyd bod colli peillwyr byd-eang yn achosi 500,000 o farwolaethau cynnar y flwyddyn oherwydd lleihad y cyflenwad o fwyd iach. Dywed gwyddonwyr y gellir priodoli oddeutu 1 y cant o’r holl farwolaethau bellach i golli peillwyr. Fel hyrwyddwr rhywogaethau ar gyfer y gardwenynen feinlais, un o’n gwenyn sy'n wynebu'r perygl mwyaf o ddiflannu, mae hyn yn peri...

7. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Bioamrywiaeth (10 Ion 2023)

Delyth Jewell: Diolch, Gweinidog. Ro'n i'n mynd i ddweud bod e'n hyfryd eich clywed chi'n swnio mor evangelical am hyn, ond nid jest 'hyfryd', mae e'n rili pwerus, dwi'n meddwl. Blwyddyn newydd, gobaith newydd, dwi'n gobeithio. Dwi wir yn golygu hynny. Dwi'n meddwl bod lot o bethau rili i'w croesawu fan hyn. Yn sicr, mae hynny mewn cyferbyniad eithaf stark gyda pha mor argyfyngus ydy'r sefyllfa. Nawr, dŷn...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (10 Ion 2023)

Delyth Jewell: Diolch, Llywydd. Hoffwn i ofyn am ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, yn amlinellu a yw deddfwriaeth yng Nghymru sy'n ymdrin â digartrefedd yn ddigon tosturiol. Ychydig ar ôl y Nadolig, cefais wybod am ddyn digartref a oedd wedi gofyn am gymorth gan eglwys Gatholig yn fy rhanbarth i. Roedd y dyn wedi'i ryddhau o'r carchar ac roedd wedi colli ei fflat. Roedd wedi cysylltu â'r gwasanaethau...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.