Buffy Williams: Diolch yn fawr, Weinidog. Rydym yn hynod ffodus yng Nghymru i gael ystod mor amrywiol o wasanaethau a chymorth wedi'i ddarparu gan y trydydd sector. Yn y Rhondda yn unig mae gennym gyn-filwyr Rhondda, Plant y Cymoedd, Men's Sheds, y Ffatri Gelf a Cymorth i Fenywod RhCT, ymhlith cannoedd o rai eraill. Ers dod yn Aelod o'r Senedd, rwyf wedi cael cyfle i ymweld â Dyfodol Gwell Barnardo's,...
Buffy Williams: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl sefydliadau'r trydydd sector o ran sicrhau cyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru? OQ57968
Buffy Williams: Diolch, Prif Weinidog. Ni fu'r cyferbyniad rhwng gweithredoedd y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan a Llywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur Cymru erioed mor eglur. Mae Prif Weinidog y DU wedi torri'r gyfraith, wedi diystyru rheolau COVID ac wedi gwastraffu biliynau ar gontractau i'w ffrindiau. Nid yw ei Lywodraeth yn fodlon cefnogi ymdrechion adfer tomenni glo yng Nghymru, ac mae wedi ein...
Buffy Williams: 2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i wella bywydau pobl yn Rhondda? OQ57967
Buffy Williams: Heddiw, byddaf yn siarad am gronfa Rhian Griffiths Forget Me Not, cronfa deyrnged er cof am Rhian Griffiths, a fu farw yn 25 oed ym mis Mehefin 2012 o ganser ceg y groth. Roedd Rhian yn ferch a chwaer annwyl iawn, a oedd wedi ymrwymo i'w gwaith fel athrawes feithrin. Drwy gydol ei hamser yn cael triniaeth yn Felindre, roedd hi'n glaf yr oedd gan bobl feddwl mawr ohoni yn yr ysbyty. Er...
Buffy Williams: Weinidog, yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â Ruby, sy'n ddisgybl chweched dosbarth yn Ysgol Gyfun Cwm Rhondda ac yn aelod ifanc o'r Senedd dros y Rhondda. Gwn y bydd y Gweinidog yn ymweld â'r ysgol yn fuan, yn dilyn y cynlluniau cyffrous i adeiladu ysgol newydd sbon ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, ac rwy'n siŵr y byddai Ruby wrth ei bodd yn rhoi taith o'r ysgol ichi. Buom yn trafod...
Buffy Williams: Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r disgyblion mwyaf difreintiedig yn Rhondda?
Buffy Williams: Diolch, Dirprwy Lywydd, a hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad heddiw. Mae'r golygfeydd trawiadol a welsom yn Nhylorstown a Wattstown yn ôl yn 2020 wedi cael effaith drawiadol ar rai o aelodau ein cymunedau yn y Rhondda. Mae'r Gweinidog yn iawn, mae'n rhaid i'n blaenoriaeth fod ar sicrhau bod y bobl sy'n byw ac yn gweithio ger tomenni glo yn teimlo'n ddiogel, nid yn unig yn awr ond...
Buffy Williams: Diolch am gyflwyno'r ddadl hon, Mike. Maent yn dweud nad oes unrhyw beth yn sicr mewn bywyd ar wahân i farwolaeth a threthi. Wel, gallaf ddweud wrth y Siambr heddiw nad oes unrhyw beth yn sicr ar wahân i farwolaeth, trethi ac eglwysi a chapeli yn y Rhondda. Ni allwch yrru o'r Cymer i fyny i Dreherbert neu o Drehafod i Faerdy heb basio eglwys neu gapel. Rwyf wedi cael sawl sgwrs gyda Rhys ab...
Buffy Williams: Weinidog, mae cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth yn y Rhondda wedi cael eu siomi gan Lywodraethau Torïaidd olynol yn San Steffan. Dro ar ôl tro, rydym wedi colli cyflogaeth o ganlyniad uniongyrchol i'w penderfyniadau. Collodd ein cyndeidiau eu diwydiant. Yn fwy diweddar, rydym wedi colli’r swyddfa dreth, swyddi’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau, swyddfeydd yr Adran Gwaith a Phensiynau...
Buffy Williams: Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Rwyf wedi gweithio yn y Rhondda i gefnogi ein cymunedau ers 20 mlynedd. Nid wyf erioed wedi teimlo mor bryderus na dig ag yr wyf i'n teimlo ar hyn o bryd. Mae trigolion yn fy etholaeth i yn wynebu argyfwng costau byw heb fod unrhyw fai arnyn nhw eu hunain. Mae teuluoedd sy'n byw mewn tlodi wedi cael eu taflu i dlodi dyfnach, ac mae teuluoedd sy'n gweithio yn...
Buffy Williams: 7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiau'r argyfwng costau byw ar gymunedau yng Nghanol De Cymru? OQ57777
Buffy Williams: Gwn pa mor brysur yw’r Gweinidog, felly nid wyf yn siŵr a gafodd gyfle i wylio’r clip ar Channel 4 News yr wythnos diwethaf, a oedd yn sôn ynglŷn â sut y mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar drigolion mewn cymunedau fel Pen-rhys yn fy etholaeth. O’r e-byst a’r negeseuon a gefais ddoe yn unig, gwn fod y pecyn cymorth gwerth £330 miliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi’i...
Buffy Williams: Mae cam-drin plant yn rhywiol yn cael effeithiau pellgyrhaeddol a hirhoedlog ar iechyd corfforol a meddyliol. Gall plant sydd wedi dioddef trawma lluosog ddatblygu anhwylder straen wedi trawma, iselder a gorbryder. Yn ystod chwe mis cyntaf 2021-22, bu cynnydd o 65 y cant i nifer atgyfeiriadau cam-drin rhywiol a chamfanteisio ar blant y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, o'i...
Buffy Williams: 1. Pa gymorth sydd ar gael i blant sydd wedi dioddef cam-drin a chamfanteisio rhywiol? OQ57540
Buffy Williams: Weinidog, nid yw’r pandemig hwn wedi effeithio’n gyfartal ar ddisgyblion mewn ysgolion. Mae’r cannoedd o filiynau o bunnoedd rydych wedi’i ddyrannu i wneud ysgolion yn ddiogel mewn perthynas â COVID wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, ond mae grwpiau penodol o ddisgyblion o hyd sydd wedi bod dan fwy o anfantais nag eraill. Rydym wedi gweld galw digynsail am wasanaethau iechyd...
Buffy Williams: 8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y pandemig ar y bwlch cyrhaeddiad? OQ57489
Buffy Williams: Diolch i Jack fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau am sicrhau y gellid cynnal y ddadl hon ar fyr rybudd. Nid yw sgrinio serfigol yn brofiad dymunol a dweud y lleiaf, ac rwy'n siŵr nad fi yw'r unig fenyw yng Nghymru i fod wedi gohirio neu gasáu mynychu apwyntiad sgrinio, ond rydym hefyd yn deall mai sgrinio serfigol yw un o'r apwyntiadau pwysicaf y gallwn eu mynychu fel menywod ac yn ddi-os,...
Buffy Williams: Diolch, Ddirprwy Weinidog. Ers dechrau'r pandemig, gwelsom feddygfeydd meddygon teulu yn newid y ffordd y maent yn gweithredu yn llwyr. Yn y Rhondda, mae hyn wedi golygu cynnydd anferth yn nifer y trigolion y mae meddygon teulu yn eu cynnal. Ni fydd angen cymorth meddygol ar tua 20 y cant o'r trigolion hyn ac yn hytrach byddant yn elwa o bresgripsiynu cymdeithasol. Yn ddiweddar, ymwelais â...
Buffy Williams: 6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno presgripsiynu cymdeithasol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg? OQ57442