Peredur Owen Griffiths: Diolch, Llywydd. Hoffwn i ei gwneud yn glir o'r dechrau mai gwelliant ymchwilgar yw hwn, wedi'i gynllunio i sicrhau'r lluosogrwydd mwyaf posibl i'r cyngor partneriaeth gymdeithasol. Nid yw wedi'i gynllunio i fychanu neb, nac unrhyw sefydliad. Mae'n cael ei gyflwyno yn ddidwyll i sicrhau bod y lleisiau sy'n cael eu clywed fel rhan o'r cyngor newydd a dylanwadol yn cael eu tynnu o gronfa mor...
Peredur Owen Griffiths: O ystyried mai dyma'r gwelliant agoriadol, rwyf eisiau cymryd y cyfle i ddweud ei bod yn fraint cael bod yn rhan o'r broses ddeddfwriaethol hon. Dyma'r Bil cyntaf i mi ei oruchwylio ar ran Plaid Cymru, ac mae wedi bod yn broses addysgiadol a difyr. Hoffwn roi ar y cofnod fy niolch i'r Dirprwy Weinidog, ei swyddogion, y tîm clercio a fy nghydweithwyr yn y pwyllgor am eu gwaith diwyd a chaled....
Peredur Owen Griffiths: Yn olaf, hoffwn ddiolch i’r Gweinidog am ei hymrwymiad parhaus i adolygu protocol proses y gyllideb, sy’n amlinellu dealltwriaeth rhwng y Senedd a Llywodraeth Cymru am y trefniadau ar gyfer craffu ar y gyllideb. Mae’r duedd yn ystod y blynyddoedd diwethaf i ohirio cyhoeddi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn sgil amseru digwyddiadau ariannol y Deyrnas Unedig wedi arwain at broses...
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gyfrannu yn y ddadl yma ar gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru yn rhinwedd fy rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Roedd adroddiad y pwyllgor ar y gyllideb ddrafft yn cynnwys 28 o argymhellion, ac rwy’n falch bod y Gweinidog wedi derbyn y rhan fwyaf ohonyn nhw.
Peredur Owen Griffiths: Serch hynny, hoffwn fynegi rhywfaint o siom ar ddechrau fy nghyfraniad heddiw sef bod newidiadau cyfyngedig iawn wedi'u gwneud rhwng y cyllidebau drafft a therfynol. Gwnaeth ein pwyllgor, yn ogystal â nifer o bwyllgorau eraill, argymhellion pendant mewn nifer o feysydd strategol allweddol ac felly, mae'n drueni bod y Llywodraeth wedi colli cyfle i ymateb yn gadarnhaol i'r rhain cyn y ddadl...
Peredur Owen Griffiths: Sut mae'r Llywodraeth yn cefnogi athrawon gyda'r argyfwng costau byw yn Nwyrain De Cymru?
Peredur Owen Griffiths: Diolch yn fawr i John am ddod â'r ddadl yma.
Peredur Owen Griffiths: Mae’r ddadl hon wedi gwneud imi feddwl am sgwrs ddiweddar a gefais mewn digwyddiad, ac e-bost dilynol a gefais gan etholwr. Roeddwn mewn digwyddiad, a chawsom drafodaeth ynglŷn â beth mae bod Gymro yn ei olygu. Dywedais, yn fy marn i—a dim ond yn fy marn ostyngedig i—os ydych yn galw Cymru'n gartref, ac yn teimlo fel Cymro, yna o'm rhan i, rydych chi'n Gymro. Dyma'r e-bost a gefais,...
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Lywydd. Fel y clywsom gan fy nghyd-Aelod, Luke Fletcher, mae deddfwriaeth wrth-streiciau Llywodraeth y DU yn ergyd drom yn erbyn gweithwyr sy’n ceisio cyflog teg am eu gwasanaethau. Yr hyn sydd hefyd yn amlwg yw bod gan y mesur hwn oblygiadau sy'n peri pryder i agenda ddeddfwriaethol y Senedd hon. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi dod yn gyfarwydd iawn â thuedd...
Peredur Owen Griffiths: Mae hynny'n dda iawn. Diolch, Gomisiynydd, am yr ateb hwnnw. Mae'n dda clywed bod cynnydd yn cael ei wneud. Drwy Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal, rwyf wedi bod yn ffodus o gael ymgyrchydd gwleidyddol brwd yn dod i fy swyddfa ar interniaeth. Mae Kevin, sydd ag uchelgais i fod yn gynghorydd, yn anabl ac mae angen defnyddio sgwter symudedd i deithio o gwmpas. Yn ystod ei gyfnod yn y swyddfa, rwyf...
Peredur Owen Griffiths: Diolch. Ie, fel y dywedwch, mae amser yn brin, oherwydd mae'n ddyddiad penodol, ac fel y dywedwch, hoffwn ddeall pa estyniad sy'n bosibl a'r hyn y gallem ei wneud yma i helpu gyda'r ymyl clogwyn hwnnw. Mae natur frysiog y Bil hwn yn codi'r posibilrwydd real iawn o reoliadau allweddol mewn ystod o feysydd polisi naill ai'n cael eu disodli gan ddewisiadau amgen o safon is neu'n cael eu hepgor...
Peredur Owen Griffiths: Mae Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio), a gyflwynwyd ym mis Medi y llynedd, wedi bod yn drychineb llwyr—Bil a gynlluniwyd i gael gwared ar yr holl gyfraith yr UE a ddargedwir sy'n weddill o lyfr statud y DU erbyn degfed pen-blwydd refferendwm Brexit fan bellaf. Mae'r Bil yn cyflwyno cymal machlud, lle bydd y mwyafrif o gyfraith yr UE a ddargedwir—miloedd o ddarnau o...
Peredur Owen Griffiths: Diolch yn fawr am yr ateb yna.
Peredur Owen Griffiths: Fis diwethaf, datgelodd eich Llywodraeth gynllun gweithredu LHDTC+ newydd. Hefyd, fe wnaethoch nodi bwriad i ddechrau negodi gyda Llywodraeth y DU i ddatganoli pwerau sy’n ymwneud â chydnabod rhywedd. Mae hwn yn gam cadarnhaol ac mae’n rhywbeth y mae Plaid Cymru, mewn egwyddor, yn ei gefnogi’n llwyr. Y Llywodraeth Dorïaidd bresennol yw’r Llywodraeth fwyaf anflaengar a llawn casineb...
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r sôn am y cyflog byw gwirioneddol mewn gofal cymdeithasol yn eich datganiad ar waith teg ddoe. Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu'n gryf ers blynyddoedd lawer dros godiad cyflog i’r staff ymroddedig a chwbl hanfodol sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol. Mae taliadau untro, fel yr un a welsom yn ystod y pandemig, i’w croesawu, ond nid ydynt yn gwneud y tro...
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Llywydd, a Dydd Gŵyl Dewi hapus i bawb.
Peredur Owen Griffiths: Diolch am yr ateb yna, Weinidog.
Peredur Owen Griffiths: Yn y ddogfen a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Sefydliad Bevan, 'A snapshot of poverty in winter 2023', canfuwyd bod dyled yn broblem sylweddol. Roedd mwy na chwarter y bobl a holwyd wedi benthyca arian rhwng mis Hydref 2022 a mis Ionawr 2023, gydag 13 y cant mewn ôl-ddyledion ar o leiaf un bil. Yn ychwanegol at hynny, roedd mwy nag un o bob 10 hefyd yn poeni am golli eu cartref dros y tri mis...
Peredur Owen Griffiths: 1. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i helpu teuluoedd yn Nwyrain De Cymru sydd wedi mynd i ddyled? OQ59162
Peredur Owen Griffiths: 1. Beth mae'r Comisiwn yn ei wneud i sicrhau bod ystad y Senedd yn gwbl hygyrch i bobl anabl? OQ59165