Huw Irranca-Davies: Diolch, Weinidog, ac mae’n braf clywed y sicrwydd hwnnw, gan ein bod, wrth gwrs, wedi clywed gwahanol straeon dros yr ychydig ddyddiau diwethaf am heriau gyda'r cynhyrchiant a'r gadwyn gyflenwi, a dylem ragweld y bydd camgymeriadau bach wrth inni fynd yn ein blaenau; nid yw pethau'n mynd i fod yn berffaith. Yn gyntaf, clywsom am heriau gyda brechlyn Rhydychen-AstraZeneca, gan y bu oedi dros...
Huw Irranca-Davies: 5. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o unrhyw fylchau rhwng y cyflenwad o frechlynnau a'r capasiti i ddefnyddio'r brechiadau hynny yng Nghymru? OQ56124
Huw Irranca-Davies: Trefnydd, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd ynghylch a fydd yn gofyn i'r cyd-gyngor dros frechiadau ychwanegu gweithwyr angladd rheng flaen, technegwyr corffdai a phereneinwyr at y rhestr o staff gofal iechyd rheng flaen yng Nghymru y mae imiwneiddio galwedigaethol â'r brechiad COVID-19 yn cael ei argymell iddyn nhw? Rwy'n deall bod Gogledd Iwerddon yn debygol o wneud hynny o fewn...
Huw Irranca-Davies: Prif Weinidog, rwy'n falch o glywed am amlder y cyfarfodydd hynny, oherwydd pan osodais i y cwestiwn hwn am y tro cyntaf, fy mwriad oedd gofyn i chi bwyso ar Lywodraeth y DU i roi mwy o gefnogaeth i'r hunangyflogedig ac eraill sy'n dal i fod y tu allan i'r cynlluniau cymorth swyddi sydd ar gael, ac i bwyso arnyn nhw i sicrhau y byddan nhw'n gwarchod, y gwnaethon nhw fethu yn gywilyddus â'i...
Huw Irranca-Davies: 1. Pa sylwadau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU ynghylch darparu cymorth ariannol ychwanegol i gynorthwyo swyddi y mae COVID-19 wedi cael effaith arnynt yng Nghymru? OQ56126
Huw Irranca-Davies: Rwy'n croesawu'r datblygiadau arloesol a wnaed ar gyfer y ddarpariaeth ar-lein o dan yr amgylchiadau anodd hyn, a chredaf eu bod yn ganmoladwy. Ond tybed a ydym yn colli cyfle yma ar gyfer y dyfodol—er ei bod yn rhy hwyr i'r un hwn, mae'n debyg. Tybed a gaf fi ofyn beth yw eich barn ynglŷn ag a fyddai'r Comisiwn yn barod i archwilio cysyniad rwy’n ei gefnogi'n gryf—sy’n rhywbeth y...
Huw Irranca-Davies: Weinidog, a gaf fi ddechrau drwy ganmol y gwaith sydd wedi bod yn mynd rhagddo mewn ysgolion, gyda'r staff addysgu ond hefyd gyda'r penaethiaid a'r dirprwy benaethiaid i sicrhau'r cynnydd sydd wedi'i wneud? Nid wyf eisiau gorbwysleisio'r pwynt, ond mae canllawiau Hwb yn dda iawn ond mae'n rhoi disgresiwn llwyr i'r pennaeth a staff yr ysgol yn seiliedig ar yr amodau yn yr ysgol, yn seiliedig...
Huw Irranca-Davies: Gadewch imi gloi felly drwy ddweud fy mod yn croesawu'n fawr y buddsoddiad ychwanegol yr ydym ni yn ei weld ym maes iechyd meddwl a llesiant eleni. Mae'n hollbwysig, nid yn unig oherwydd y sefyllfa yr ydym ni ynddi yn sgil COVID a'r effeithiau ar ein cymunedau, ond oherwydd y problemau etifeddol o ran iechyd meddwl a llesiant hefyd, a hefyd y gwariant ychwanegol ar COVID-19. Dywedodd Mike, a...
Huw Irranca-Davies: Nid wyf yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid, felly mae'r hyn yr wyf yn mynd i'w ddweud yn ymwneud mwy o lawer â'r effaith ar fy etholwyr a sut yr wyf yn credu y bydd y gyllideb hon yn gweithio. Mae'n gyllideb anodd iawn, fel y dywedodd Mike Hedges wrthym yn ei gyfraniad da iawn, fel y gwna Mike bob tro. Dywedodd, 'Mae hyn cystal â'r hyn a gewch chi gyda'r arian sydd gennych chi', ac rwy'n...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd, a blwyddyn newydd dda ichi gyd.
Huw Irranca-Davies: A gaf i ofyn, Trefnydd, am ddatganiad gan Weinidog yr amgylchedd ynglŷn ag unrhyw oblygiadau i Gymru yn sgil penderfyniad Llywodraeth y DU dros y penwythnos i ganiatáu trwydded dros dro ar gyfer defnydd plaladdwyr neonicotinoid mewn rhannau o'r DU? O fewn dyddiau i ddiwedd cyfnod pontio'r UE, mae Llywodraeth y DU wedi caniatáu mesur sydd â blas o'r dull hwnnw o ddadreoleiddio yr oeddem ni...
Huw Irranca-Davies: Mae COVID-19 yn amlwg yn effeithio ar ein heconomi wledig a bydd yn parhau i wneud hynny am beth amser i ddod, ond a gaf fi ofyn i'r Gweinidog pa asesiad y mae wedi'i wneud o effaith ychwanegol gadael yr UE ar yr economi wledig a chymunedau drwy golli cymorth amaethyddol a chymorth datblygu gwledig, colli rhaglenni cymdeithasol a rhaglenni seilwaith a ariennir gan yr UE, fel band eang, a heb...
Huw Irranca-Davies: Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi adeiladwyr lleol bach a chanolig i fod yn rhan o'r cynnydd yn nifer y tai a gaiff eu hadeiladu yng Nghymru?
Huw Irranca-Davies: Trefnydd, tybed a gawn ni ddatganiad—a byddai datganiad ysgrifenedig yn gwneud y tro—yn egluro pa drefniadau ar ôl cyfnod y Nadolig fydd ar gyfer slotiau blaenoriaeth i bobl a oedd gynt yn gwarchod, sydd wedi cael blaenoriaeth gan fanwerthwyr, a yw'r rheini'n mynd i barhau neu beidio. Nawr, y rheswm rwy'n gofyn hyn yw fy mod yn gwybod bod Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig...
Huw Irranca-Davies: Dirprwy Weinidog, mae'n braf iawn clywed hynny, ac a gaf i dynnu sylw at ein Cyngor Ieuenctid lleol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sydd â rhai cynrychiolwyr rhagorol, gan gynnwys y maer ieuenctid, Megan Stone, a etholwyd yn ddiweddar, a'r dirprwy faer ieuenctid, Tino Kaseke, sydd â'r tair prif flaenoriaeth ar gyfer y tymor hwn eleni o ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ieuenctid a chynorthwyo ysgolion,...
Huw Irranca-Davies: Prif Weinidog, a gaf i ofyn pa ymdrechion yr ydych chi wedi eu gwneud i gysylltu gydag arweinyddion y prif bleidiau er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw am y cyngor meddygol a gwyddonol a'r data a'r dewisiadau anodd sydd i'w gwneud? Ar yr adeg hon o argyfwng cenedlaethol parhaus, gan wynebu pandemig parhaus, byddai pobl Cymru yn gobeithio y byddai pob arweinydd a llefarydd...
Huw Irranca-Davies: 3. Sut y mae'r Dirprwy Weinidog yn ymgysylltu â phobl ifanc yng Nghymru mewn perthynas â materion cydraddoldeb a hawliau dynol? OQ56030
Huw Irranca-Davies: Rwyf am fynd i'r afael â'r materion sy'n wynebu'r sector lletygarwch, yn benodol y cau am 6 p.m. a gwahardd gwerthu alcohol mewn tafarndai a chlybiau a bwytai, gan wybod, a dweud y gwir, eu bod wedi bod i uffern ac yn ôl eleni. Cawsant eu cau yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf, yna fe wnaethant ailagor ac roeddent yn gweithio yn ôl rheoliadau newydd, fe wnaethant fuddsoddi mewn mesurau...
Huw Irranca-Davies: Cyfeiriaf yr Aelodau at fy niddordeb yn y rôl ddi-dâl o gadeirio grŵp llywio buddsoddi rhanbarthol Cymru, ond mae fy nghwestiwn y tu hwnt i waith y grŵp hwnnw. Rwyf wedi derbyn sylwadau, Weinidog, gan gynrychiolwyr o'r sector addysg uwch yng Nghymru, gyda'u pryderon ynghylch cronfa ffyniant gyffredin y DU a chynigion Llywodraeth y DU. A nodant y bydd cronfa ffyniant gyffredin y DU yn...
Huw Irranca-Davies: Trefnydd, a gaf i ofyn ichi am un datganiad? Gallai fod yn ddatganiad ar ôl i'r Gweinidog Iechyd gyfarfod â'r sector fferylliaeth gymunedol yr wythnos nesaf. Gallai fod yn ddatganiad ysgrifenedig os yw'n newyddion da. Os yw'n ddatganiad llafar, efallai y byddai modd inni ei gael ar y llawr fel y gallem ei gwestiynu. Mae'n ymwneud â swyddogaeth fferyllfeydd cymunedol wrth ymateb i'r her yn...