John Griffiths: —yn brin, Ddirprwy Lywydd, felly efallai y gallaf symud ymlaen a dweud, i gloi, ein bod yn croesawu'r Bil hwn yn fawr iawn. Mae ein hargymhellion wedi'u nodi. Cyfeiriwyd atynt gan yr Aelod sy'n gyfrifol. I gloi, Lywydd, rydym yn credu y bydd y Bil hwn yn cyflawni ei fwriadau polisi, a charem alw ar y Cynulliad i gefnogi'r egwyddorion cyffredinol.
John Griffiths: Clywsom gan yr Aelod sy'n gyfrifol, yr ombwdsmon cyfredol, a'i gymheiriaid yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon, fod hwn yn arf hollbwysig ym mhecyn cymorth yr ombwdsmon. Mae hefyd yn un sydd ar gael i'r rhan fwyaf o'u cymheiriaid ledled y byd. Nodasom y pryderon a godwyd gan randdeiliaid ynglŷn â chreu cymhlethdod ychwanegol yn y fframwaith rheoleiddio hwnnw sydd eisoes yn orlawn, ond...
John Griffiths: Diolch, Ddirprwy Lywydd. rwy'n falch iawn o siarad yn y ddadl hon fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ac i amlinellu ein canfyddiadau o'r gwaith craffu a wnaethom ar y Bil. Gan fod y Bil wedi cael ei gyflwyno gan y Pwyllgor Cyllid, rydym hefyd wedi cyflawni'r gwaith craffu ariannol ochr yn ochr â'n gwaith craffu cyffredinol. Buaswn yn hoffi diolch i bawb a...
John Griffiths: Roeddwn eisiau mynd i'r afael â phwynt penodol mewn gwirionedd, ac mae'n ymwneud â phwysigrwydd arweinyddiaeth yn ein hysgolion, rhywbeth y clywn yn rheolaidd ei fod yn hollbwysig, ac rwy'n credu'n bendant ei fod. Mae'n rhaid i ni gael y sgiliau arweinyddiaeth cywir a'r timau arweinyddiaeth cywir ar waith os ydym am sicrhau'r math o gynnydd rydym yn dymuno ei weld yn ein hysgolion. Rwyf...
John Griffiths: Ysgrifennydd y Cabinet, tybed a wnewch chi ymuno â mi i ganmol gwaith Kaleidoscope a Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent sy'n darparu ystod eang o weithgareddau ar gyfer y rheini sy'n gwella o'u problemau cyffuriau ac alcohol, fel y gallant ddatblygu diddordebau newydd, dod o hyd i ffyrdd mwy defnyddiol o dreulio eu hamser i gynorthwyo'r broses o wella, ac yn benodol, cydnabod mentrau...
John Griffiths: Rwy'n dymuno siarad yn fyr i gefnogi egwyddorion cyffredinol y ddeddfwriaeth arfaethedig. Rwy'n credu bod llawer wedi'i gofnodi ynghylch sgil-effeithiau yfed gormod o alcohol a'r effeithiau ar iechyd pobl ac mae'r salwch a ddaw yn sgil hynny, unwaith eto wedi'i nodi a'i dderbyn yn helaeth. Ac wrth gwrs, mae'n effeithio hefyd ar y teulu ehangach, yn ogystal â'r unigolyn sy'n yfed...
John Griffiths: Rwy'n falch o siarad heddiw yn rhinwedd fy swyddogaeth o fod yn Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Rydym ni wedi bod yn ystyried y goblygiadau hawliau dynol o adael yr Undeb Ewropeaidd dros y flwyddyn ddiwethaf. Ym mis Rhagfyr, fe wnaethom ni amlinellu nifer o egwyddorion craidd a nodwyd gennym. Ein prif flaenoriaeth yw nad oes unrhyw gwtogi mewn amddiffyniadau...
John Griffiths: Prif Weinidog, ychydig wythnosau yn ôl, rhoddodd Sophie Howe yn ei swydd fel Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru dystiolaeth wrth wynebu craffu gan y Pwyllgor yr wyf i'n ei gadeirio, y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. Soniodd ei bod yn cynnig i Lywodraeth Cymru y dylid clustnodi arian newydd i faes iechyd ar gyfer yr agenda ataliol, ac yn amodol ar waith ar y cyd...
John Griffiths: 8. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd tuag at ddull mwy ataliol o ymdrin ag iechyd gwael yng Nghymru? OAQ51891
John Griffiths: Os yw'r carchardai'n orlawn iawn, fel y maent, a bod llawer o bobl yno na ddylent fod yno yn y lle cyntaf, rwy'n credu ei fod yn gwneud adsefydlu yn llawer mwy anodd. Ceir llawer gwell ffyrdd o ymdrin â'r bobl anffodus hyn mewn llawer o ffyrdd, pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, problemau camddefnyddio sylweddau—mae'n bosibl iawn eu bod yn anllythrennog neu'n anrhifog neu'n meddu ar...
John Griffiths: Cytunaf â nifer o'r siaradwyr heddiw mai hanes o bolisïau anflaengar ac anghynhyrchiol sydd i gyfiawnder troseddol yng Nghymru a Lloegr. Byddem yn gwneud lawer yn well, rwy'n siŵr, pe bai cyfrifoldeb dros gyfiawnder troseddol yma yng Nghymru wedi'i ddatganoli. Fel y mae llawer wedi dweud, gennym ni yng Nghymru a Lloegr y mae'r gyfradd garcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop—dyna ystadegau...
John Griffiths: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer adfywio yng Nghasnewydd?
John Griffiths: Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Gwyddom fod polisïau cyni Llywodraeth y DU yn rhoi cryn bwysau ar ein hawdurdodau lleol, ac yn amlwg, rhaid iddynt gyflawni'r hyn y byddai llawer yn ei ddweud yw eu prif gyfrifoldebau statudol o ran addysg a gwasanaethau cymdeithasol, er enghraifft. Ond mae gwasanaethau hamdden, llyfrgelloedd, amgueddfeydd, gwasanaethau ieuenctid a llawer o...
John Griffiths: 4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gynorthwyo awdurdodau lleol i warchod eu gwasanaethau anstatudol? OAQ51814
John Griffiths: Felly, rwy'n gofyn am hyfforddiant beicio hefyd, ac mae Her Teithio Cymru wedi dod i ben o ran newid ymddygiad yn y gweithle, Ysgrifennydd y Cabinet, heb unrhyw beth i gymryd ei le.
John Griffiths: Byddaf yn gyflym iawn. Mae'r cyfan yn gysylltiedig â newid ymddygiadol, Dirprwy Lywydd.
John Griffiths: A gaf i groesawu'n fawr iawn y datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, a'ch ymrwymiad chi, sydd yn fy marn i yn glir iawn? Mae rhai o'r atebion yr ydych chi wedi'u rhoi ar gyllid, er enghraifft, i'w croesawu’n fawr, rwy'n credu. Rwy'n ffyddiog y byddwch chi'n cael y gefnogaeth ar draws y Siambr hon, yr ydych chi'n chwilio amdani o ran y penderfyniadau anodd ynghylch gweithredu. A gaf i ddweud fy...
John Griffiths: Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo a datblygu'r iaith Gymraeg yng Nghasnewydd?
John Griffiths: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu datganiad a chynllun gweithredu'r Llywodraeth. Fel y clywsom ni, mae'n ymddangos bod y niferoedd sy'n cysgu ar y stryd yn cynyddu o ran y cyfrif sy'n digwydd. Dyna pam fy mod i'n falch iawn bod y pwyllgor yr wyf yn gadeirydd arno, y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn gwneud astudiaeth ynglŷn â phobl sy'n cysgu ar y stryd....
John Griffiths: Ysgrifennydd y Cabinet, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, rwy'n credu ei fod wedi cael ei dderbyn yn eang, ac rwy'n credu y byddai Llywodraeth Cymru yn sicr yn cefnogi symudiad tuag at ymagwedd fwy ataliol wrth ymdrin ag afiechyd yng Nghymru, a bod yn fwy rhagweithiol. Lle y ceir enghreifftiau, megis yr enghraifft arbennig o dda yng Nghasnewydd, rwy'n credu, lle...