Lesley Griffiths: Diolch. Gwn fod Gweinidog yr Economi wedi cael trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch porthladdoedd rhydd. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud iddynt gael dechrau anodd, ond fel y gwyddoch, gwnaethom lansio ein rhaglen porthladd rhydd yng Nghymru gyda Llywodraeth y DU ar 1 Medi, rwy'n credu. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn ailddychmygu rôl porthladdoedd yn nyfodol economi...
Lesley Griffiths: Diolch. Rwyf wedi cael sgyrsiau rheolaidd gyda Gweinidog yr Economi ynghylch hen safle Alwminiwm Môn yng Nghaergybi. Rwy’n siŵr fod yr Aelod yn ymwybodol fod manylion gwerthiant y safle wedi’u cyhoeddi’n ddiweddar, a bod hyn yn newyddion da i ogledd Cymru.
Lesley Griffiths: Nid wyf yn credu bod yna ddiffyg. Credaf ei bod yn agenda gyflenwol. Felly, mae’n wirioneddol bwysig fod ein ffermwyr yn cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, ac maent yn gwneud hynny, a byddant yn cael eu gwobrwyo am hynny; mae hynny'n gwbl briodol. Mae'r gorchudd coed o 10 y cant y gofynnwn amdano'n golygu rhannu'r baich ledled Cymru. Os nad yw ffermwyr yn dymuno plannu coed, nid oes raid iddynt...
Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n credu eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn. Yn sicr yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf a'r cyfyngiadau symud dilynol, ond yn ystod y pandemig, mewn gwirionedd, rwy'n credu bod llawer o bobl wedi mynd ati am y tro cyntaf i brynu gan eu cigyddion lleol, eu marchnad leol, ac fel y dywedwch, daeth llawer o'n cynhyrchwyr bwyd a diod o hyd i ffyrdd newydd o werthu eu cynnyrch yn...
Lesley Griffiths: Diolch. Mae Llywodraeth Cymru'n darparu buddsoddiad a chymorth sylweddol i'r diwydiant bwyd. Mae ein rhaglen masnachu bwyd yn sicrhau archebion cynnyrch Cymreig newydd gan fanwerthwyr, a bydd canllawiau caffael cyhoeddus newydd yn blaenoriaethu buddion economaidd-gymdeithasol ehangach. Bydd ein polisi prydau ysgol am ddim hefyd yn agor cyfleoedd i gyflenwyr a chynhyrchwyr lleol.
Lesley Griffiths: Wel, rydym yn gwneud llawer iawn i sicrhau bod hynny'n digwydd. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi na ddylai ymwneud â'r dewis rhataf bob amser; mae yna werth cymdeithasol, ac fe fyddwch yn ymwybodol, fel y dywedwch, o'r hyn a wnawn mewn perthynas â chaffael i sicrhau bod hynny'n digwydd. Rwy'n cytuno â llawer sydd ym Mil bwyd Peter Fox, fel y mae'n gwybod. Rwy'n credu y gallwn wneud llawer o...
Lesley Griffiths: Diolch. Nid wyf am anghytuno ag unrhyw beth rydych chi'n ei ddweud. Rwy'n credu eich bod chi'n iawn; y ffigur a glywais gan rai ffermwyr yw 30 y cant, felly rwy'n meddwl eich bod chi'n hollol iawn i ddweud bod 23.5 y cant yn isel yn ôl pob tebyg. Mae'n gyfnod ansicr a phryderus iawn i'n ffermwyr, ac rwy'n cydnabod hynny'n llwyr. Rwyf wedi ceisio rhoi rhywfaint o sicrwydd iddynt gyda pharhad...
Lesley Griffiths: Wel, mae hyn yn sicr yn rhywbeth y bûm yn edrych arno ers imi ddod yn ymwybodol ohono. Yn amlwg, mae angen inni blannu mwy o goed; rydym yn gwybod hynny, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â hynny. Gosododd Cymru Sero Net darged i blannu 43,000 hectar o goetir newydd erbyn 2030, ac rydym yn bwriadu gwneud hynny fel rhan o'n coedwig genedlaethol i Gymru. Yn amlwg, fel rhan o'r cynllun...
Lesley Griffiths: Diolch. Mae'r system fwyd yn gweithredu ar lefel y DU gyfan, ac mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig eraill i nodi risgiau, ac mae'n ymgysylltu â rhanddeiliaid i'w rheoli. Yng Nghymru, rydym yn hyrwyddo diogelwch drwy fuddsoddi yn y diwydiant gweithgynhyrchu bwyd, cefnogi amaeth a darparu cymorth sylweddol i amrywiaeth eang o brosiectau cymunedol.
Lesley Griffiths: Diolch. Yn sicr ni fyddem am weld gostyngiad yn nifer y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth hwn. Efallai eich bod yn ymwybodol fy mod wedi sefydlu grŵp cynghori technegol yn ddiweddar i helpu gyda chymorth cyfannol i'r rhaglen TB, ac rwyf wedi penodi'r Athro Glyn Hewinson, y gwyddoch amdano rwy'n siŵr, i arwain y gwaith hwn. Mae'n ddull cyfannol o weithredu ein rhaglen TB, i ategu'r cymorth a...
Lesley Griffiths: Nid wyf yn credu mai'r clustffonau sydd ar fai, oherwydd nid oedd y rheini ar y stand.
Lesley Griffiths: Ymddiheuriadau.
Lesley Griffiths: Popeth yn iawn.
Lesley Griffiths: Mae'n ddrwg gennyf, Lywydd, rwy'n cael problemau; mae sŵn ofnadwy ar fy mhorthiant sain ac ni allaf glywed.
Lesley Griffiths: Gallai fod.
Lesley Griffiths: Mae'n ddrwg gennyf. Neu a fyddai modd imi wrando yn rhywle arall?
Lesley Griffiths: Mae'n ddrwg gennyf.
Lesley Griffiths: Diolch. Fe atebaf y pwynt hwnnw yn gyntaf. Fel y dywedwch, mae newydd ddod yn ôl i fy mhortffolio yr wythnos diwethaf. Gofynnais am gyfarfod gyda Cyfoeth Naturiol Cymru. Ar y gwaith a wnaeth y Gweinidog Newid Hinsawdd gyda CNC, rwy'n gwybod bod adnoddau sylweddol wedi eu rhoi mewn perthynas â sicrhau ein bod yn cael y parc cenedlaethol hwnnw. Yn amlwg, roedd yn ymrwymiad ym maniffesto fy...
Lesley Griffiths: Nid ydynt wedi gofyn i mi am gyfarfod. Yn amlwg, efallai fod busnesau wedi trafod y peth gyda'r Gweinidog perthnasol yn hytrach na gyda fi, sydd â'r cyfrifoldeb cyffredinol am ogledd Cymru. Fel y dywedais, fe wnaeth rhai busnesau ei grybwyll—o'i blaid ac yn ei erbyn—a dywedais y byddwn yn dwyn eu sylwadau i sylw'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol. Byddwn yn hapus iawn pe bai Go North...
Lesley Griffiths: Nid wyf wedi cynnal unrhyw drafodaethau penodol gydag unrhyw faes o fewn y diwydiant twristiaeth yng ngogledd Cymru. Mae'n rhaid imi ddweud, dros yr haf, ychydig o'r sefydliadau a'r busnesau y gwneuthum eu cyfarfod—treuliais amser ym mhob ardal awdurdod lleol, a hwy oedd yn dewis pwy y byddwn yn cyfarfod â hwy—fe wnaeth rhai pobl ofyn imi ynglŷn â'r ardoll ymwelwyr. Ni chefais unrhyw...