Llyr Gruffydd: Felly, mae pwysigrwydd cymal cyntaf gwelliant Plaid Cymru, yn fy marn i, yn glir: hynny yw, ein bod ni am gadw'r symudiadau yna mor ddilyffethair ag sy'n bosib. Mae'r ail gymal, wedyn, yn galw ar Fil Pysgodfeydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau bod unrhyw ddeddfwriaeth yn darparu rheolaeth pysgodfeydd sy'n wirioneddol gynaliadwy ac atebol, ac sy'n lleihau'r effaith ar yr amgylchedd...
Llyr Gruffydd: Mae lori'n aros ar y cei pan fyddwn yn glanio. Rydym yn tynnu'r cregyn gleision oddi ar y cwch a chânt eu rhoi yn y lori, mae'r lori'n gyrru i ffwrdd. Ac yna mae'n amser teithio o 16 i 18 awr o ogledd Cymru i ogledd Ffrainc neu i dde'r Iseldiroedd. Os byddant yn archebu gennyf ar ddydd Llun, maent yn disgwyl i'r lori gyrraedd ar ddydd Mawrth am eu bod eisiau eu gwerthu ar ddydd Mercher. Mae...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, am y cyfle i siarad i welliant Plaid Cymru ac ynglŷn â'r cynnig yn ehangach. Mae yna dri chymal i'r cynnig gwreiddiol, ac mae yna ddau ohonyn nhw lle dwi ddim yn meddwl bod gen i broblem â nhw, ar hyd y llinellau a awgrymwyd yn gynharach. Hynny yw, mae yna ddatganiadau digon amlwg: cydnabod pwysigrwydd hanesyddol pysgodfeydd Cymru yn y cymal cyntaf, ac...
Llyr Gruffydd: Mae nifer ohonon ni, wrth gwrs, yn ingol ymwybodol ym mis Mehefin y bydd bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn cyrraedd carreg filltir anffodus eithriadol yn y ffaith y bydd wedi bod mewn mesurau arbennig am bum mlynedd. Nawr, dyna ichi hyd tymor Cynulliad cyfan o fesurau arbennig, sydd, dwi'n meddwl, yn rhywbeth efallai sydd yn tanlinellu pa mor ddifrifol yw'r sefyllfa honno. Ac mae rhywun yn...
Llyr Gruffydd: Mi gafodd cynllun datblygu lleol Wrecsam, wrth gwrs, yn fy rhanbarth i, ei wrthod nôl yn 2013 gan yr arolygwyr cynllunio oherwydd nad oedd digon o dir, medden nhw, wedi’i glustnodi ar gyfer tai, a hynny oherwydd bod rhagamcanion poblogaeth y sir yn dweud y byddai yna 20 y cant o gynnydd yn y boblogaeth—yr ail gynnydd mwyaf drwy Gymru gyfan; yn ail yn unig i Gaerdydd mae'n debyg. Ond,...
Llyr Gruffydd: O ystyried y tân diweddar yn ffatri Kronospan yn y Waun a'r llygredd dilynol a effeithiodd ar yr ardal—dywedir wrthyf mai hwn yw'r ail dân ar bymtheg mewn 18 mlynedd, er bod nifer o drigolion yno'n honni eu bod yn digwydd yn llawer mwy rheolaidd na hynny mewn gwirionedd—a allwch ddweud wrthyf pa mor fodlon ydych chi ynghylch lefel y gwaith monitro a wneir gan Cyfoeth Naturiol Cymru a...
Llyr Gruffydd: Mae'n gofyn y cwestiwn: faint o ystyriaeth roeddech wedi'i rhoi i iteriadau blaenorol o'r cynigion hyn, neu a fuoch yn rhan ohonynt o gwbl? Oherwydd rydych yn swnio fel pe baech yn diystyru'r hyn rydym wedi'i gael hyd yn hyn, gan nad ydych wedi cael cyfle i edrych ar y ffeil a ddarparwyd i chi. Felly, credaf fod cwestiynau mawr i'w gofyn ynglŷn â phwy sy'n gwneud penderfyniadau neu'n...
Llyr Gruffydd: Ond y ffaith amdani yw nad yw CNC yn cefnogi'r cynnig i wneud Cymru gyfan yn barth perygl nitradau, ac er bod achosion y mae angen mynd i'r afael â hwy, mae'n amlwg eu bod yn teimlo y byddai gwneud hynny ar draws 8 y cant o Gymru yn ddigonol i fynd i'r afael â'r mater. Mae pob un ohonom yn edrych ymlaen at weld yr asesiad effaith rheoleiddiol, gan mai dogfen 20 tudalen yn unig oedd y...
Llyr Gruffydd: Rydych newydd ddweud wrthym y bu 157 o achosion yn 2019. Ydy, mae 157 achos o lygredd yn 157 achos yn ormod. Wrth gwrs, nid oes unrhyw sôn am y 30,000 achos o lygredd carthion yn 2018. Felly, credaf fod angen ychydig o bersbectif arnom wrth drafod y materion hyn. Nawr, dywedasoch eich bod yn awyddus i weithio ar y cyd. Buaswn yn cymeradwyo hynny. Efallai yr hoffech weithio gyda Cyfoeth...
Llyr Gruffydd: 6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fonitro ansawdd aer yn y Gogledd? OAQ54990
Llyr Gruffydd: 2. Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o'r berthynas rhwng rhagamcanion poblogaeth a chynlluniau datblygu lleol? OAQ54991
Llyr Gruffydd: A wnewch chi dderbyn ymyriad—
Llyr Gruffydd: —o ystyried eich bod wedi cyfeirio at lythyr gyda fy enw i arno? A bod yn deg ag aelodau'r pwyllgor, mae'r ffigurau hynny yn ffigurau y gofynnwyd amdanyn nhw gan y Pwyllgor, ac fe wnaeth y Llywodraeth, yn ddidwyll, ddarparu'r ffigurau hynny. Mae gwahaniaeth rhwng yr hyn a gafodd ei gyflwyno yn wreiddiol, a'r hyn a oedd yn ein hwynebu yn ddiweddarach, ond, wrth gwrs, dyna holl bwynt cael...
Llyr Gruffydd: Pa effaith y bydd buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn trafnidiaeth ar gyfer 2020/2021 yn ei chael ar yr argyfwng hinsawdd?
Llyr Gruffydd: A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog perthnasol yn y Llywodraeth ynghylch y tân diweddar yn Kronospan yn y Waun, sydd wedi achosi cryn bryder yn lleol, wrth gwrs? Dyma'r trydydd tân yno mewn cwta dair blynedd, a bu'n llosgi am wythnos, gan achosi llygredd ledled y dref a thu hwnt. Cymerodd 48 awr i roi offer monitro ansawdd aer yn ei le, a gollodd, wrth gwrs, y gwaethaf o'r llygredd, ond er...
Llyr Gruffydd: Mae'n wir, ac rydym i gyd yn ymwybodol fod benthyca'n costio, a dyna'n union y mae angen i ni ei gofio. Ond wrth gwrs, os yw'n ddigon da i lywodraeth leol, ni allaf weld pam nad yw'n ddigon da i Lywodraeth Cymru, cyn belled â'i fod yn cael ei wneud yn y ffordd iawn. Cawsom ein hatgoffa gan Alun Davies, neu fe gwestiynodd y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn rheoli ei hasedau, ac...
Llyr Gruffydd: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i bawb am eu cyfraniadau i'r ddadl hon? Rwy'n credu efallai fod Mike wedi cyfleu'r teimlad sy'n rhedeg fel llinyn arian drwy'r ymchwiliad hwn, sef na fydd y sector preifat yn rhoi unrhyw beth inni am ddim. Ond awn i mewn i hynny gyda'n llygaid yn agored, oni wnawn? Ac rydym yn ymwybodol o hynny. Rwy'n credu, ynglŷn â'r tensiwn rhwng PFI a MIM—nid...
Llyr Gruffydd: O ran ei natur, mae cyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru wedi newid yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi rhoi mwy o gyfyngiadau ar ddefnyddio cyfalaf, a hynny drwy gyflwyno cyfalaf trafodion ariannol. Yn 2019-20, roedd 14.2 y cant o gyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru ar ffurf cyfalaf trafodion ariannol. Dim ond ar gyfer benthyciadau a buddsoddiadau ecwiti...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn o gael y cyfle i siarad yn y ddadl yma heddiw ar ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid i ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru. Fel Cadeirydd y pwyllgor, wrth gwrs, mi hoffwn i ddiolch i bawb a gyfrannodd i’r ymchwiliad yma ac i'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, hefyd, am ei hymateb i'n hadroddiad ni. Mae'r pwyllgor yn croesawu'n fawr...
Llyr Gruffydd: Mae'n ddiddorol fod y cwmni'n nodi'r ffaith bod newid wedi bod yn y galw am y cynhyrchion arbenigol. Nawr, mae hynny'n arwain at gwestiwn ehangach, wrth gwrs—ym mha ffyrdd y gallai Llywodraeth Cymru helpu cwmnïau i ddiogelu eu busnes at y dyfodol, o gofio, wrth gwrs, fod galwadau cymdeithas, a thueddiadau defnyddwyr os mynnwch, yn newid, yn enwedig yng nghyd-destun yr amgylchedd. Tybed...