Mark Drakeford: Llywydd, diolch yn fawr. Am 70 o flynyddoedd, rydym wastad wedi gwybod y byddai'r amser hwn yn dod. Ond, yn y diwedd, daeth yn gyflym ac yn annisgwyl. Mae'n anodd credu nawr ein bod wedi ymgynnull yma yn y Senedd ddim ond cwpwl o fisoedd byr yn ôl i ddathlu cyflawniad unigryw y Jiwbilî Blatinwm. Roedd y Frenhines yn fregus, yn dilyn ei blynyddoedd o wasanaeth a hunanaberth. Henaint ni ddaw...
Mark Drakeford: Diolch i Peter Fox am yr hyn y dywedodd ef. Byddaf i'n meddwl yn ofalus am yr hyn y dywedodd. Mae'n rhaid i mi ddweud, Llywydd, mae gennym ni fôr o ddata. Rydym ni'n cyhoeddi mynydd o ddata fel Llywodraeth. Nid yw'n broblem o fod heb ddigon o ddata, yr hyn nad ydym ni bob amser yn ei wneud gymaint ag y byddem ni eisiau ei wneud yw canolbwyntio ar yr esboniad sydd y tu ôl i'r data hynny, y...
Mark Drakeford: Diolch i Rhun ap Iorwerth. Wrth gwrs, rydyn ni eisiau cydweithio gyda Plaid Cymru ar bopeth sydd yn ein cytundeb. Fel y dywedodd e, rydyn ni wedi dechrau ar hwnna yn gyflym yn barod, a dwi'n edrych ymlaen at fis Rhagfyr pan fydd cyfle i ni adrodd ar bopeth sydd yn y cytundeb yn llawn. Rydyn ni wedi bod yn siarad heddiw, Llywydd, am nifer o bethau lle rydyn ni wedi cydweithio yn...
Mark Drakeford: Llywydd, diolch yn fawr. A gaf i ddiolch i Andrew R.T. Davies am yr hyn y dywedodd ef am y gallu i gydweithio pan fydd yr amgylchiadau'n caniatáu hynny? Bydd cyfleoedd yn y flwyddyn i ddod hefyd i barhau i wneud hynny pan fo gennym rai agendâu ar y cyd. Gwaith y gwrthbleidiau yw gwrthwynebu, Llywydd, felly rwy'n deall, pan fydd arweinydd yr wrthblaid yn gafael mewn un ystadegyn o rywle...
Mark Drakeford: Yn y cyd-destun hwnnw, Llywydd, gwnawn ni bopeth o fewn ein gallu ni i gefnogi pobl drwy'r argyfwng hwn. Mae polisïau ar draws 20 mlynedd o ddatganoli wedi rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl: teithio am ddim ar fysiau i nifer cynyddol o ddinasyddion Cymru; presgripsiynau am ddim i bawb; brecwastau am ddim yn ein hysgolion cynradd ac yn awr, cinio ysgol am ddim hefyd; rydym ni wedi cadw'r...
Mark Drakeford: Dirprwy Lywydd, wythnos diwethaf cafodd adroddiad blynyddol cyntaf tymor y Senedd hon ei gyhoeddi. Mae'n nodi'r gwaith rydyn ni wedi'i wneud tuag at gyflawni ein hamcanion llesiant. Cafodd rhaglen llywodraethu'r Llywodraeth hon ei chyhoeddi llai na chwe wythnos ar ôl yr etholiad ym mis Mai 2021. Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i fynd ati'n gyflym i daclo'r heriau sy'n wynebu Cymru ac i...
Mark Drakeford: Rwy'n diolch i'r Aelod am hynny, Llywydd, a chydnabod y gwaith a gafodd ei wneud gan weinyddiaeth Geidwadol flaenorol cyngor Mynwy, a gyflwynodd dri datrysiad posibl i'r anawsterau sydd wedi'u cydnabod y mae rhannau o Gas-gwent yn eu hwynebu. Mae'r cyngor sir presennol wedi rhannu'r tri datrysiad posibl hynny ac maen nhw wrthi'n ymgynghori ar y ddau gyntaf—cynllun teithio llesol yng...
Mark Drakeford: Llywydd, mae astudiaethau yng Nghas-gwent a'r cyffiniau wedi'u cynnal, ac mae cyngor sir Fynwy yn ystyried cyfleoedd trafnidiaeth gynaliadwy. Bydd y Bil aer glân sydd ar ddod yn cynnwys cynigion i wella ansawdd aer ledled Cymru, gan gynnwys etholaeth Mynwy.
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, roeddem yn falch o gael yr adroddiad, wrth gwrs, ar ôl ei gomisiynu, a byddwn eisiau ystyried ei argymhellion yn ofalus iawn. Bydd uwchgynhadledd orthopedig ym mis Awst y bydd y Gweinidog yn ei harwain, a bydd hynny'n dod â phobl, nid yn unig o Lywodraeth Cymru, ond o'r gymuned glinigol ehangach, o gwmpas y bwrdd i ystyried yr argymhellion a llunio cynllun gweithredu. Mae...
Mark Drakeford: Llywydd, mae'r bwrdd orthopedig cenedlaethol wedi cynnal adolygiad o'r gwasanaethau orthopedig ledled Cymru. Mae'r bwrdd wedi defnyddio'r wybodaeth o'r adolygiad hwn i gynnig glasbrint ar gyfer dyfodol gwasanaethau orthopedig. Dosbarthwyd y strategaeth a'r glasbrint yn eang yr wythnos diwethaf.
Mark Drakeford: Wel, dwi ddim wedi clywed hynny, Llywydd. Dwi'n cydnabod y ffaith, yn y gorffennol, fod rhai problemau wedi cael eu codi, ond nawr mae system newydd gyda ni ac mae uwch swyddogion yn y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru a dros y ffin yn Lloegr yn dod at ei gilydd. Roedden nhw'n cwrdd ddydd Gwener ddiwethaf, ac maen nhw'n gweithio trwy unrhyw broblemau, lawr at lefel unigolion, os oes problemau...
Mark Drakeford: Llywydd, mae'r llif cleifion rhwng gogledd Cymru a Lloegr yn cael ei reoli rhwng y cyrff iechyd ar ddwy ochr y ffin. Mae'r egwyddorion ar gyfer darparu gofal iechyd trawsffiniol wedi eu nodi yn y datganiad gwerthoedd ac egwyddorion trawsffiniol sydd wedi eu cytuno rhwng y gwasanaeth iechyd yng Nghymru a'r gwasanaeth iechyd yn Lloegr.
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, mae 10 elfen wahanol yn y pecyn o fesurau a gyhoeddwyd gennym gyda'n gilydd ar 4 Gorffennaf, ac mae'r rheini'n fesurau y byddwn ni'n eu datblygu gyda'r brys sydd ei angen er mwyn gwneud gwahaniaeth o ran ailgydbwyso, fel y dywedais i, y sectorau rhentu tymor byr a thymor hir. Rwy'n pryderu am yr hyn y mae'r Aelod wedi'i ddweud y prynhawn yma, a bydd gennyf ddiddordeb mewn gwybod...
Mark Drakeford: Llywydd, rydym yn sicrhau bod mecanweithiau cadarn ar waith ar gyfer y sectorau rhentu tymor hir a thymor byr. Mae'r mesurau yn cynnwys cyflwyno cynllun trwyddedu statudol ar gyfer pob llety gwyliau, a sicrhau bod rhyddhad ardrethi busnes yn canolbwyntio ar yr eiddo gwyliau hynny sy'n cael eu rhentu am y rhan fwyaf o'r flwyddyn.
Mark Drakeford: Diolch i'r Aelod am y cwestiynau yna, Llywydd. Rydym yn wir yn cynnig mesurau i gyfyngu ar yr effaith ar fusnesau llai, ac mae hynny'n cynnwys y ffi gofrestru flynyddol. Byddwn yn edrych ar ofynion labelu gorfodol, byddwn yn edrych ar sut y gellid cynllunio rhwymedigaethau dychwelyd ar-lein i weld a all hynny liniaru rhai o'r effeithiau ar y cwmnïau, ond mae'r egwyddor yn syml. Dyma'r un...
Mark Drakeford: Llywydd, ein nod yw datblygu'r cynllun fel partneriaeth â Llywodraethau'r DU a Gogledd Iwerddon. Mae absenoldeb Gweithrediaeth yng Ngogledd Iwerddon a'r cythrwfl yn San Steffan ill dau'n effeithio ar yr amserlen ar gyfer cyhoeddi ffurf terfynol y cynllun. Mae'n ymddangos bod hynny bellach yn debygol o gael ei ohirio ymhellach i'r hydref.
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, rwy'n credu imi ddweud yn fy ateb diwethaf fod gennym eisoes, drwy Busnes Cymru, sy'n ffynhonnell cyngor diduedd a ariennir gan Lywodraeth Cymru i fusnesau yma yng Nghymru, ymgynghorwyr arbenigol ar effeithlonrwydd adnoddau. Maen nhw eisoes yn gwneud y pethau y mae'r Aelod wedi cyfeirio atyn nhw sy'n digwydd mewn mannau eraill. Nid oes angen i ni ailddyfeisio pethau pan fyddwn...
Mark Drakeford: Diolch i Hefin David am y cwestiwn yna. Rwy'n ymwybodol o'r cwmni y soniodd amdano a'r gwaith y mae'n yn ei wneud. Bydd cwmnïau fel hynny, Llywydd, sy'n wynebu'r cynnydd syfrdanol mewn prisiau ynni, yn dilyn yr hyn sy'n digwydd yn San Steffan yn ofalus iawn ac rwy'n siŵr y bydd eu pryder yn cynyddu gan mai'r gystadleuaeth i leihau faint o adnoddau sydd ar gael i helpu cwmnïau a'r economi...
Mark Drakeford: Llywydd, nid oeddwn wedi cyfeirio'n fwriadol iawn at gynlluniau'r Aelod dros Ynys Môn ei hun i fod yn rhan o ddraen dawn. Felly—[Chwerthin.] Dim ond i fod yn siŵr; roeddwn i wedi gwneud yn siŵr nad oeddwn i'n gwneud hynny. Mae busnesau yng Nghymru yn wynebu prisiau ynni uchel iawn, nad ydyn nhw, yn wahanol i filiau domestig, wedi'u capio. Cyfarfu Gweinidog yr Economi â chyngor busnes...
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, fe geisiaf fod yn gydsyniol hefyd, oherwydd, wrth gwrs, rwy'n cytuno'n llwyr ag ef fod gwerthu Cymru fel economi cyflog isel yn bolisi aflwyddiannus o gyfnod Thatcher, ac nid ydym yn bwriadu ail-greu hynny heddiw. Mewn gwirionedd, cynhyrchodd prifddinas-ranbarth Caerdydd restr o ddinasoedd lle mae cyflogau graddedigion yn wahanol—mannau lle mae Cymru'n cynnig mwy na rhai...