Canlyniadau 581–600 o 2000 ar gyfer speaker:Mike Hedges

5. Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Teithio Rhatach ( 8 Hyd 2019)

Mike Hedges: Mae'n ddrwg gennyf, mae gennyf broblem gyda daearyddiaeth nawr gan fy mod bob amser wedi credu bod Lerpwl yn Lloegr, ond, ie. Hefyd, mae Lerpwl yn ddinas ac mae dinasoedd yn wahanol. Mae Caerdydd yn wahanol i Abertawe, ac mae Abertawe'n wahanol i Gymoedd y De, ac rwy'n siŵr y bydd pobl yn dweud hynny nes ymlaen. Os oes rhaid torri costau, a gwyddom fod gan Lywodraeth Cymru gynnydd o 2.3 y...

5. Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Teithio Rhatach ( 8 Hyd 2019)

Mike Hedges: Mae teithio rhatach yn dod â manteision sylweddol i unigolion, eu cymunedau, economïau lleol a'r amgylchedd. Mae unrhyw gynnig i gynyddu'r oedran ar gyfer cael pàs bws yn debygol o gynyddu'r risg o unigrwydd ac ynysigrwydd; cynyddu costau gwasanaethau iechyd a gofal; effeithio ar incwm miloedd o bobl hŷn; a thanseilio'r ymateb i'r argyfwng hinsawdd. Fel y gŵyr pawb, rwy'n byw yn...

4. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Digartrefedd ( 8 Hyd 2019)

Mike Hedges: Rwy'n croesawu'n fawr ddatganiad y Gweinidog. Mae digartrefedd yn fater cymhleth sy'n cael ei achosi gan nifer o wahanol ddigwyddiadau. Gall colli swydd, sy'n cyd-ddigwydd â pherthynas yn dod i ben, olygu bod rhywun yn cael ei hun yn ddigartref nad oedd erioed wedi ystyried y byddai hynny'n digwydd iddo ef. Er bod pobl yn aml yn cysylltu digartrefedd â chysgu ar y stryd, mae llawer mwy o...

4. Datganiadau 90 Eiliad ( 2 Hyd 2019)

Mike Hedges: Yr wythnos hon mae’n 45 o flynyddoedd ers agor Sain Abertawe, gorsaf radio leol annibynnol Abertawe. Yn gyntaf oll, hoffwn eu llongyfarch ar eu pen-blwydd yn 45 mlwydd oed. Mae'r bobl sy'n byw yn yr ardal yn gwybod yn iawn pa mor bwysig yw'r sefydliad hwnnw i'n rhan ni o dde-orllewin Cymru, sef Castell-nedd Port Talbot, Abertawe a sir Gaerfyrddin. Dechreuodd ddarlledu ar 30 Medi 1974, fel...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Morlyn Llanw Bae Abertawe ( 1 Hyd 2019)

Mike Hedges: Hoffwn ychwanegu at yr unfrydedd ar draws pleidiau gwleidyddol ar hyn. Bydd morlynnoedd llanw yn datblygu ar draws y byd—mae hynny'n anochel. Mae trydan dibynadwy a chyson yn rhywbeth y mae angen i ni fod yn ei ddatblygu. Yn dilyn y cynnydd tebygol i gostau adeiladu yn Hinkley Point, sy'n bodoli ochr yn ochr â'i gostau storio a gapiwyd, a bron yn sicr—er nad ydym wedi eu cael eto,...

6. Dadl y Pwyllgor Cyllid ar flaenoriaethau gwariant y llywodraeth (25 Med 2019)

Mike Hedges: Diolch. Y fantais, wrth gwrs, i San Steffan yw eu bod yn gallu benthyca ar gyfer gwariant refeniw, oni allant, felly mae ganddynt y sicrwydd hwnnw gan eu bod yn gwybod, hyd yn oed os nad oes ganddynt arian yn dod i mewn, y gallant ei fenthyg i lenwi'r bwlch.

6. Dadl y Pwyllgor Cyllid ar flaenoriaethau gwariant y llywodraeth (25 Med 2019)

Mike Hedges: Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y drafodaeth hon oherwydd rwy'n credu bod angen i ni gael mwy o drafodaethau yn gyffredinol ynghylch gwariant disgwyliedig yn hytrach na siarad am linellau gwariant ac a ddylid cael £10 i £15 miliwn ychwanegol yma neu acw, ond siarad amdano fel pwynt cyffredinol mewn gwirionedd. Roeddwn innau hefyd yn falch iawn ein bod wedi cael cyfarfod cyllid yn...

7. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Yr Adolygiad Annibynnol ar Ddatgarboneiddio Cartrefi Cymru (24 Med 2019)

Mike Hedges: Rwy'n croesawu'r datganiad. Mae newid yn yr hinsawdd yn galw am weithredu. Mae gan yr atmosffer tua 21 y cant o ocsigen ar lefel y môr. Islaw 19.5 y cant, mae'r gallu i weithio yn lleihau; islaw 17 y cant, mae pethau'n mynd yn anodd, a phan fyddwch yn cyrraedd 15 y cant, mae pobl yn marw. Bydd cynnydd yn lefel y môr yn gorlifo dinasoedd ac ardaloedd arfordirol, bydd stormydd yn cryfhau—yn...

3. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Y Rhaglen Tai Arloesol — Blwyddyn 3 (24 Med 2019)

Mike Hedges: A gaf i groesawu'n fawr ddatganiad y Gweinidog? Mae'r Gweinidog wedi nodi'r pedair her allweddol: nid oes digon o adeiladu tai i ddiwallu'r angen; yr argyfwng newid hinsawdd; poblogaeth sy'n heneiddio; a dim digon o bobl wedi eu cymhwyso yn y crefftau adeiladu. Credaf ei bod yn anffodus ein bod ni mewn rhan o'r byd heddiw lle mae'r hyn yr ydym yn sôn amdano, sy'n fater allweddol, bron yn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Bargeinion Dinesig yng Ngorllewin De Cymru (24 Med 2019)

Mike Hedges: Rwyf i wedi bod yn gefnogwr brwd o'r bargeinion dinesig o'r adeg pan feddyliwyd amdanyn nhw gyntaf. Rwy'n credu ym mhwysigrwydd y fargen ddinesig i'r de-orllewin. Rwy'n croesawu cefnogaeth Llywodraeth Cymru, a chyn i neb arall ddweud unrhyw beth, cefnogaeth Llywodraeth San Steffan, oherwydd nid oes ots gen i o ble y daw'r arian cyhyd â'i fod yn dod i mewn i'm hardal i. Yr hyn y byddwn i'n ei...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Trethi Ail Gartrefi (18 Med 2019)

Mike Hedges: Buaswn yn rhoi ateb syml i chi: pam na wnewch chi ddod â'r rhyddhad ardrethi busnes ar dai a fflatiau i ben? Pe baech yn gwneud hynny, ni fyddai’n gwneud unrhyw les iddynt gael eu galw’n fusnesau. Ni allaf weld unrhyw reswm da dros roi rhyddhad ardrethi busnes i dai a fflatiau. Pe baech yn dod â hynny i ben, byddech yn cael gwared ar yr anghysondeb, a gallwch wneud hynny yfory.

6. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Goblygiadau Cylch Gwario 2019 Llywodraeth y DU i Gymru (17 Med 2019)

Mike Hedges: Yn gyntaf oll, hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Yn ail, hoffwn i ddiolch i'r Canghellor, Sajid Javid, am gadarnhau'r hyn yr wyf i wedi bod yn ei ddweud ers imi gael fy ethol yn 2011: polisi gwleidyddol yw cyni ac nid polisi economaidd. Mae'r ddyled genedlaethol wedi codi o £1.78 triliwn i £1.82 triliwn yn y flwyddyn ddiwethaf, felly nid oes gennym lai o ddyled fel gwlad. Ac...

4. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Gwella Sicrwydd Deiliadaeth (17 Med 2019)

Mike Hedges: Fel y gŵyr pob un ohonom ni, bu cynnydd sylweddol yn nifer y bobl mewn llety preifat ar rent gan fod nifer y tai cyngor wedi gostwng, ac mae llawer o'r tai hynny a fuasai ar gael i brynwyr am y tro cyntaf wedi cael eu prynu gan landlordiaid preifat a bellach yn cael eu rhentu'n breifat. Mae hyn yn sefyllfa lle mae pawb ar ei golled. Er fy mod yn croesawu treblu'r cyfnod rhybudd y mae angen i...

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (17 Med 2019)

Mike Hedges: Hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth am swyddogaeth arolygwyr cynllunio a'r rheolau y maent yn gweithio oddi tanynt. Mae'n hysbys nad wyf yn credu bod swyddogaeth i arolygwyr cynllunio sy'n goruwchreoli penderfyniadau democrataidd a wneir gan bwyllgorau cynllunio cynghorau, yn hytrach na'r ombwdsmon a'r adolygiad barnwrol ar gyfer pob penderfyniad arall a wneir gan gynghorau. Nid wyf...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Diogelwch ar yr M4 yn Ardal Abertawe (17 Med 2019)

Mike Hedges: A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna? Fel y mae'n gwybod yn iawn, bu nifer fawr o ddamweiniau o wahanol raddau o ddifrifoldeb rhwng cyffordd 45 a chyffordd 47, sy'n cwmpasu fy etholaeth i. Gallwn ei barhau i etholaeth David Rees hefyd, ond ni wnaf hynny—rwy'n credu y caiff ef gyfle yn ddiweddarach. Credaf ei bod yn broblem yn y fan honno. Mae nifer o ddefnyddwyr rheolaidd y...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Diogelwch ar yr M4 yn Ardal Abertawe (17 Med 2019)

Mike Hedges: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch ar yr M4 yn ardal Abertawe? OAQ54294

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Darpariaeth Gwasanaethau Anstatudol (17 Gor 2019)

Mike Hedges: Gan fod cyllidebau llywodraeth leol wedi lleihau a'n bod wedi gorfod ateb y galw cynyddol ar ofal cymdeithasol ac anghenion addysg, mae gwasanaethau anstatudol, neu wasanaethau â dyletswydd statudol sylfaenol, megis llyfrgelloedd, wedi cael eu torri, a'u torri'n ddifrifol ledled Cymru. Mae toriadau o'r fath wedi arwain at doriad yn amserau agor llyfrgelloedd ac mae rhai llyfrgelloedd wedi...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Prosiectau Ynni Dŵr (17 Gor 2019)

Mike Hedges: Gwyddom fod pob afon yn llifo i lawr y rhiw ac yn llifo i'r môr dros wyneb y tir. A gwyddom hefyd y gellir trosi hyn yn drydan naill ai drwy adeiladu argaeau ar draws yr afon, ac yna rhyddhau'r dŵr, neu drwy ddefnyddio cerrynt yr afon i gynhyrchu trydan. Gwyddom fod hyn yn digwydd ym mhob cwr o'r byd—UDA, Tsieina, Rwsia, ar draws De America. A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Darpariaeth Gwasanaethau Anstatudol (17 Gor 2019)

Mike Hedges: 7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth gwasanaethau anstatudol gan awdurdodau lleol? OAQ54249

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (16 Gor 2019)

Mike Hedges: Hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ynglŷn â llosgi. Byddai llawer ohonom ar draws y Siambr yn hoffi gweld diwedd ar losgi anfeddygol. Y llynedd, rhybuddiodd prif gynghorydd gwyddonol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, yr Athro Syr Ian Boyd, y byddai buddsoddiad pellach mewn gweithfeydd ynni o wastraff yn arafu cyfraddau ailgylchu'r DU. Un ffordd o ddileu'r gwerth mewn...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.