Caroline Jones: Diolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, ac fe hoffwn innau ddiolch hefyd i Dr Atherton am ei ail adroddiad blynyddol ers bod yn brif swyddog meddygol. Rwy'n falch bod Dr Atherton wedi dewis defnyddio ei adroddiadau blynyddol er mwyn taflu goleuni ar yr heriau cynyddol sy'n wynebu iechyd cyhoeddus. Y llynedd, amlygodd yr anghydraddoldebau iechyd sydd i'w gweld rhwng y rhai sy'n...
Caroline Jones: Prif Weinidog, er y bu enghreifftiau da o'r cynllun yn cael ei ddefnyddio i wella bywydau etholwyr yn fy rhanbarth i, fel cyllid ar gyfer gofalwyr maeth ychwanegol yng Nghastell-nedd Port Talbot neu weithiwr cymorth ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yn Abertawe, defnyddiwyd y buddsoddiad mwyaf o bron i £1.5 miliwn i wella swyddfeydd cyngor Pen-y-bont ar Ogwr. Does bosib na ddylai'r cynllun...
Caroline Jones: 3. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae'r gronfa buddsoddi i arbed o fudd i Orllewin De Cymru? OAQ51705
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ynghyd â'r Cadeirydd, am eu gwaith ar yr ymchwiliad hwn ac ar gyfer yr adroddiad. Mae problemau iechyd meddwl amenedigol yn gyffredin iawn, ac yn effeithio ar oddeutu 20 y cant o fenywod ar ryw adeg yn ystod y cyfnod amenedigol. Maent hefyd yn fater iechyd cyhoeddus pwysig, nid yn unig oherwydd eu heffaith niweidiol ar y fam, ond...
Caroline Jones: Ysgrifennydd Cabinet, yn ddiweddar cynhaliodd Cymdeithas Feddygol Prydain arolwg o feddygon teulu sy'n cynnig gwasanaethau y tu allan i oriau. Nid yw bron i hanner yr holl ymatebwyr yn darparu unrhyw wasanaethau y tu allan i oriau. Gofynnwyd i'r meddygon teulu hynny nodi'r prif rwystrau i ddarpariaeth y tu allan i oriau: dywedodd 64.3 y cant mai gorflinder o ganlyniad i bwysau dyddiol oedd y...
Caroline Jones: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Beth bynnag yw'r rhesymau dros y penderfyniad yn erbyn EMIS Health Ltd, mae hyn yn effeithio ar nifer o bractisau meddygon teulu ledled Cymru sydd wedi bod yn defnyddio system EMIS ers blynyddoedd lawer. Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn pryderu y bydd hyn yn cael effaith andwyol ar feddygon teulu a chleifion oherwydd maint y newidiadau...
Caroline Jones: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru newydd gyhoeddi y bydd y contract newydd ar gyfer systemau a gwasanaethau clinigol meddygon teulu yn cael ei ddyfarnu i Vision Health Ltd a Microtest Ltd. Mae hyn wedi achosi pryder i nifer o bractisau meddygon teulu sy'n defnyddio systemau a ddarperir gan EMIS Health Ltd. Mae practisau meddygon teulu...
Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Weinidog, yr wythnos diwethaf, bu anhrefn mewn practisau meddygon teulu ac ysbytai ledled y wlad o ganlyniad i fethiant eang yn systemau TG y GIG, gyda llawer o feddygon teulu yn adrodd nad oeddent yn gallu cael gafael ar gofnodion cleifion. Disgrifiodd un meddyg teulu y sefyllfa fel un rwystredig iawn a braidd yn beryglus. Nid oedd ysbytai'n gallu cael gafael ar ganlyniadau...
Caroline Jones: 4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau yng Ngorllewin De Cymru? OAQ51664
Caroline Jones: Prif Weinidog, rydym ni'n derbyn na allwn ni ddarparu'r gwasanaeth iechyd yn yr un modd ag yr oeddem ni 70 mlynedd yn ôl—[torri ar draws.]
Caroline Jones: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, rydym ni'n derbyn bod yn rhaid i wasanaethau newid ac na allwn ni ddarparu iechyd yn yr un ffordd ag yr oeddem ni 70 mlynedd yn ôl. Fodd bynnag, mae'n rhaid i unrhyw newid fod yn seiliedig ar angen clinigol a chael ei arwain yn glinigol. Trwy ddweud hynny, nid wyf yn golygu cyfarwyddwr clinigol y bwrdd iechyd lleol. Mae angen i newid gael ei ysgogi gan y...
Caroline Jones: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i atal llifogydd yng Ngorllewin De Cymru?
Caroline Jones: Gwnaf, David.
Caroline Jones: Ie, ond mae wedi bod yn y papur, David, ac ar y newyddion, fod eich plaid chi hefyd am ei thorri.
Caroline Jones: Rhaid i Lywodraeth y DU roi'r gorau i wastraffu trethi trethdalwyr gweithgar a chanolbwyntio yn hytrach ar sicrhau bod cwmnïau amlwladol mawr yn talu eu cyfran deg. Dylent gael gwared ar HS2 a buddsoddi mewn prosiectau seilwaith sydd o fudd go iawn i'r DU, megis band eang cyflym iawn a chysylltedd symudol ym mhobman. Mae angen i Lywodraeth Cymru ddysgu o gamgymeriadau'r gorffennol. Mae...
Caroline Jones: Na, na, na. Mae'n ffaith. Mae'n ffaith. Y ffaith hon. Yn yr ychydig ddyddiau diwethaf clywsom am brosiect—[Torri ar draws.] Na. Clywsom am brosiect sydd i fod i ddarparu ffynhonnau, pympiau dŵr a systemau dyfrhau ledled Affrica ddeheuol, ac eto, ni chyrhaeddodd bron 70 y cant o'r cyllid hwnnw y bobl roedd i fod i'w cyrraedd. Aeth ar ffioedd ymgynghori, gyda staff yn cael eu talu £600 y...
Caroline Jones: Oedd, roedd hi. Dyna pam y gadawodd. Dyled a ddefnyddir i ariannu prosiectau balchder fel HS2, a fydd yn costio dros £70 biliwn i drethdalwyr y DU ac sydd wedi ei gamreoli'n aruthrol—a'r ffrae sy'n ymwneud â staff sy'n gadael yn cael gordaliad o bron £2 filiwn yw'r ddiweddaraf mewn cyfres o enghreifftiau o wastraff, sydd wedi arwain at fwy na dyblu'r costau, ac mae rhai...
Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Hoffwn gynnig y gwelliant a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod, Neil Hamilton. Cyflwynodd UKIP welliant 1 i dynnu sylw at y sefyllfa rydym ynddi o ran economi Cymru. Mae'r Ceidwadwyr a Llafur yn beio'i gilydd am y sefyllfa economaidd enbyd yng Nghymru, a'r ffaith amdani yw bod y ddwy blaid ar fai. Mae Llafur wedi bod yn gyfrifol am ddatblygu economaidd yng Nghymru ers bron 20...
Caroline Jones: Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau. Hoffwn roi sicrwydd i chi fod y gwaith yn mynd rhagddo ac y byddwn yn nodi ac yn mynd i'r afael â'r holl bwyntiau a godwyd gennych. Diolch.
Caroline Jones: Diolch i Simon am gydnabod y gwaith cadarnhaol sy'n parhau. Mae gennym hidlyddion dŵr a ffynhonnau o gwmpas yr adeiladau, sy'n lleihau'r angen am ddŵr potel. Rydym yn darparu cyfleusterau ailgylchu helaeth ar draws yr ystâd ar gyfer y rhan fwyaf o ddeunyddiau, gan gynnwys plastig, ac mae gennym arwyddion clir a mentrau cyfathrebu er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r cyfleusterau ailgylchu, ac...