Russell George: Diolch am eich ateb, Drefnydd. Rydych wedi sôn eisoes, ac mae eich rhagflaenwyr wedi sôn, am ddiwygio'r system ardrethi busnes yng Nghymru. O ran rhyddhad ardrethi busnes llawn, gall eiddo, wrth gwrs, sydd â gwerth ardrethol o hyd at £12,000 elwa o ryddhad ardrethi yn Lloegr, ond yng Nghymru, mae'r ffigur hwnnw'n berthnasol i eiddo busnes sydd â gwerth ardrethol o hyd at £6,000 yn unig....
Russell George: 3. A wnaiff y Gweinidog esbonio sut y gall dyfarnu rhyddhad ardrethi busnes yn ôl disgresiwn gefnogi busnesau bach a chanolig? OAQ54311
Russell George: Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y gwelliannau hynny yn enw Darren Millar. Hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am y newyddion diweddaraf am gynnydd tasglu'r Cymoedd a hefyd am ei ddiweddariad cynharach a anfonwyd drwy e-bost at yr Aelodau y prynhawn yma; nid wyf wedi cael amser i edrych ar hwnnw'n fanwl iawn. Hoffwn ailadrodd cefnogaeth y Ceidwadwyr Cymreig i dasglu'r Cymoedd. Credaf fod—....
Russell George: Pam na wnaethoch chi ddweud hynny?
Russell George: Diolch am eich ateb, Prif Weinidog. Mae lefel y gwasanaeth ar y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru wedi bod yn gwbl annerbyniol dros yr haf. Rwyf i wedi derbyn dwsinau ar ddwsinau o gwynion, naill ai drwy bobl yn fy nghynnwys yn eu gohebiaeth eu hunain at Trafnidiaeth Cymru, neu etholwyr yn cysylltu â mi yn uniongyrchol—heb sôn am y problemau a godwyd ar gyfryngau cymdeithasol. Mae'r...
Russell George: 6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am berfformiad y gwasanaethau a ddarperir gan Trafnidiaeth Cymru? OAQ54313
Russell George: Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn ddiweddar, cyfarfûm â swyddog gweithredol cangen sir Drefaldwyn o Undeb Amaethwyr Cymru, ac ar ran aelodau sir Drefaldwyn, codwyd nifer o faterion, a oedd yn cynnwys mwy a mwy o achosion o ddwyn offer a chyfarpar fferm, yn ogystal â chyflwyno parthau perygl nitradau, a’u hymgyrch i leihau’r nifer o ymosodiadau gan gŵn ar dda byw. O ran parthau perygl...
Russell George: 2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gymuned ffermio yng nghanolbarth Cymru? OAQ54260
Russell George: Diolch am eich ateb, Dirprwy Weinidog. Wrth gwrs, mae'n rhaid i Trafnidiaeth Cymru sicrhau bod addasiadau rhesymol ar gael ar gyfer pobl anabl yn dilyn y Ddeddf. Nawr, addasiad rhesymol ar drên lle gallech chi fod yn eistedd am dros dair awr rhwng Aberystwyth a Birmingham International, yn syml, wrth gwrs, yw toiled i'r anabl sydd wedi'i gynllunio'n briodol. Mae'n wir ar hyn o bryd bod...
Russell George: 4. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am weithredu Deddf Cydraddoldeb 2010 yng Nghymru? OAQ54259
Russell George: Diolch ichi am eich ateb, Weinidog. Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi ei bod yn hanfodol ymgysylltu â busnesau ledled Cymru, wrth gwrs, er mwyn paratoi ar gyfer Brexit. Fe sonioch eich bod wedi bod yn siarad â rhai o'r sefydliadau allweddol ac maent o amgylch y bwrdd yn eich cyfarfodydd hefyd. Ond rwy'n pryderu'n arbennig am fusnesau bach, annibynnol nad ydynt o bosibl yn aelodau o...
Russell George: Diolch i chi, Weinidog. Rwy'n falch o glywed yr ateb hwnnw. Mae aelod o grŵp mynediad Sir Drefaldwyn wedi cysylltu â mi i ddweud eu bod wedi derbyn cwyn arall gan ddefnyddiwr cadair olwyn am nad oeddent yn gallu defnyddio toiled ar reilffordd y Cambrian, sy'n golygu, mewn rhai achosion, fod pobl wedi gorfod, yn eu geiriau hwy, gwisgo cewynnau oedolion. Yn sgil Deddf Cydraddoldeb 2010 wrth...
Russell George: Yn ystod 20 mlynedd cyntaf datganoli, rydym wedi datrys un her y mae Cymru wedi'i hwynebu dros gyfnod dad-ddiwydiannu i bob pwrpas, sef lefel uwch o ddiweithdra na chyfartaledd y DU. Rydym wedi gostwng y lefel i gyfartaledd y DU ac yn wir, ar sawl achlysur yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae wedi gostwng yn is na chyfartaledd y DU, ac am y tro cyntaf, fel y dywedaf unwaith eto, mae cyfraddau...
Russell George: Wel, diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n gwerthfawrogi eich bod yn siarad yn onest am rai o heriau economi Cymru hefyd. Mae dwy brif elfen i'r cynllun gweithredu ar yr economi, y cynlluniau busnes rhanbarthol a'r cynllun ar gyfer yr economi sylfaenol, sy'n dal heb eu cyflawni. Felly, rwyf am ofyn i chi a fyddech yn edrych ar rai o'r syniadau sydd gennym ar y meinciau hyn, er enghraifft ar...
Russell George: Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae eich Dirprwy Weinidog, wrth gwrs, wedi dweud yn ddiweddar fod Llywodraeth Cymru wedi esgus gwybod beth y mae'n ei wneud mewn perthynas â'r economi dros yr 20 mlynedd diwethaf, ac nad yw ymdrechion i wella'r economi dan ddatganoli wedi gweithio. Yn bersonol, credaf ei bod yn braf clywed Gweinidog yn siarad yn onest iawn am yr economi. Roeddwn yn cytuno'n...
Russell George: Diolch, Lywydd. Weinidog, a oeddech yn cytuno â'r Prif Weinidog pan ddywedodd fod gwelliannau mawr wedi bod i economi Cymru ers datganoli?
Russell George: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau trên ar reilffordd y Cambrian? OAQ54198
Russell George: 3. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am ymgysylltiad Llywodraeth Cymru â busnesau bach ar barodrwydd ar gyfer Brexit? OAQ54221
Russell George: Diolch am eich ateb, Prif Weinidog. Yn yr wyth mlynedd ers i mi fod yn Aelod Cynulliad, yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf y mae fy swyddfa a minnau wedi derbyn y pryderon mwyaf sylweddol ynghylch amseroedd ymateb araf ambiwlansys. Mewn llythyr ataf i y llynedd, cadarnhaodd prif weithredwr gwasanaeth ambiwlans Cymru i'm hetholwyr mai naw munud oedd amser trosglwyddiad ambiwlans cyfartalog...
Russell George: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys? OAQ54197