Rhianon Passmore: Diolch, Llywydd. Hoffwn innau hefyd groesawu’n fawr y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ganmol y dull angerddol ac ymrwymedig o ymdrin â’r maes cyfrifoldeb pwysig hwn y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i gymryd bob tro? Mae Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 yn ddarn pwysig o ddeddfwriaeth, a nodaf yn y...
Rhianon Passmore: Prif Weinidog, yn 2015 dechreuodd siopau a manwerthwyr bach weithredu ar yr un sail â busnesau mawr wrth iddi ddod yn anghyfreithlon iddyn nhw arddangos sigaréts a thybaco yn gyhoeddus. Ar y pryd, dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford, bod ysmygu yn dal i achosi tua 5,450 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn. Bydd tua hanner yr holl ysmygwyr rheolaidd yn...
Rhianon Passmore: Gwnaf.
Rhianon Passmore: Mae’n iawn ein bod yn buddsoddi yn y cyngor gyrfaoedd cywir ar draws Cymru, ac rwy’n falch ein bod yn symud i’r cyfeiriad cywir hwnnw. Felly, rwy’n ddiolchgar am welliant Llywodraeth Cymru sy’n cydnabod yn llawn pa mor hanfodol bwysig yw dysgu oedolion a chefnogi datblygu sgiliau i bobl o bob oed. Yn yr un modd, fel oedolyn sy’n dysgu fy hun, i gloi, ni fyddwn yn sefyll yma heddiw...
Rhianon Passmore: Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel cyn-ddarlithydd gwadd fy hun a chyn-gyfarwyddwr mewn addysg bellach, ond yn bwysicaf oll fel mam, rwyf finnau hefyd yn croesawu’r ddadl hon. Gall pobl Cymru fod yn sicr y bydd Plaid Lafur Cymru—plaid y lliaws ac nid yr ychydig—yn diogelu, yn hyrwyddo ac yn cynyddu cyfleoedd addysgol ar gyfer ein cenedl. Efallai y gallai fod yn werth bwrw golwg ar y cyd dros y...
Rhianon Passmore: Rwyf finnau hefyd yn croesawu’r ddadl hon gan fy nghyd-Aelodau Llafur, Huw Irranca-Davies a Jeremy Miles. Mae’n tynnu sylw at y gwaith da y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi’i wneud eisoes yn ymarferol, ac yn ein herio i barhau a datblygu’r gwaith hwn fel blaenoriaeth genedlaethol ar gyfer Cymru. Ers 2011, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi buddsoddi mwy na £270 miliwn yng nghynllun...
Rhianon Passmore: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gynyddu mynediad i gefn gwlad yn ne-ddwyrain Cymru?
Rhianon Passmore: Dewch inni fod yn glir am y cyd-destun: yn ddiweddar, cawsom etholiad cyffredinol sydd wedi diberfeddu’r Llywodraeth Dorïaidd hon. Mae ei mwyafrif wedi cael ei ddinistrio ac mae awdurdod Theresa May wedi cael ei chwalu. Mae'n anodd erioed cofio ymgyrch lle mae Prif Weinidog wedi ceisio mynd ati i frwydro ymgyrch heb gwrdd â'r cyhoedd nac ateb dim cwestiynau. Roedd hi'n rhyfedd gweld y...
Rhianon Passmore: A wnewch dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: Os yw hynny’n iawn. Rwy'n meddwl mai Syr Nicholas Macpherson, cyn bennaeth y Trysorlys, a adawodd ei swydd y llynedd, a ddywedodd ‘Dim ond blaendal yw’r £1 biliwn i Ulster. Bydd y DUP yn ôl am ragor’ Felly, o ran cysondeb y trefniant hwn wrth symud ymlaen, a ydych chi’n pryderu am hynny?
Rhianon Passmore: Prif Weinidog, yn Islwyn, rydym ni’n wynebu, ar dwmpath hanesyddol Twm Barlwm, pla tipio anghyfreithlon, ac mae'n costio bron i £2 filiwn bob blwyddyn i Gymru mewn costau glanhau, y mae'n rhaid iddynt gael eu talu gan y trethdalwr yn y pen draw. Mae'r drosedd wledig hon yn niweidiol i iechyd pobl ac yn difetha'r mwynhad o'n cefn gwlad godidog. Ers 2007, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu...
Rhianon Passmore: Fel aelod o’r pwyllgor, rwyf finnau hefyd am groesawu’r adroddiad hwn. Mae’n waith cynhwysfawr yn wir. Cadeiriwyd y pwyllgor yn fedrus iawn gan John Griffiths, ac rwy’n awyddus hefyd i gofnodi fy ngwerthfawrogiad o waith staff ein pwyllgor a’n cynorthwyodd yn fedrus. Yn fy nghyfraniad, hoffwn ganolbwyntio ar rai o’r argymhellion yn yr adroddiad ‘"Roeddwn i’n arfer bod yn...
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu gweithwyr yn y sector gofal cymdeithasol?
Rhianon Passmore: Prif Weinidog, mae gan Lywodraeth Cymru raglen Cyfuno arloesol sy'n cyfrannu at lawer o nodau Deddf Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Nod y rhaglen Cyfuno yw annog a grymuso pobl ifanc i gymryd rhan weithredol yn y celfyddydau, diwylliant a threftadaeth, ac yn yr un modd mae’n cynnwys lleoliadau profiad gwaith arloesol. Hefyd, mae'r rhaglen Cyfuno yn 2017 yn cynnwys...
Rhianon Passmore: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi sylwadau ar ragolygon diweddar gan Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu y bydd rhaglen flaengar £1.4 biliwn Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion unfed ganrif ar hugain yn chwarae rhan allweddol ym maes cadarnhaol twf, fel y gwelir yn fy etholaeth gydag agoriad yr Ysgol Uwchradd Islwyn newydd? Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymuno â mi a...
Rhianon Passmore: Pa drafodaethau y mae'r Grŵp Cynghori ar Ewrop wedi'u cael â chynrychiolwyr o lywodraethau datganoledig eraill ynghylch trafodaethau'r DU am adael yr Undeb Ewropeaidd?
Rhianon Passmore: Hoffwn groesawu’r ddadl hon yn gynnes iawn, ynghyd â'r egwyddorion arloesol a blaengar o fewn y Bil hwn ar gyfer y bobl ifanc yr ydym i gyd yn eu cynrychioli. Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am y gwaith cryf, cadarn a chydnerth yn hyn o beth, a hefyd am waith parhaus y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'i Gadeirydd, Lynne Neagle. Mae gan y Bil arloesol hwn, rwy’n credu, y potensial i...
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?