Lee Waters: Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Banc Datblygu Cymru wedi cefnogi 109 o fusnesau yng ngogledd Cymru, gyda chyfanswm o £40 miliwn o fuddsoddiad yn y rhanbarth ers 2016. Mae Busnes Cymru wedi helpu mwy na 6,000 o fusnesau ac entrepreneuriaid i gynhyrchu £30 miliwn o fuddsoddiad, £16 miliwn mewn allforion a bron i 3,000 o swyddi newydd.
Lee Waters: Wel, gyda phob parch i Mohammad Asghar, rwyf newydd ateb y cwestiwn hwnnw. Buaswn yn dweud wrtho mai Llywodraeth y DU—waeth beth fo'i phlaid, Llywodraeth y DU sydd â'r rôl arweiniol i'w chwarae yma. Ac ers i'w blaid ddod i rym, rydym ar ei hôl hi'n druenus. Rydym wedi camu i'r adwy lle na ddylem orfod gwneud hynny i ddarparu'r gwasanaeth hwn. Mae'n bryd bellach i'r Llywodraeth weithredu.
Lee Waters: Diolch am eich cwestiwn. Mae Dawn Bowden yn llygad ei lle fod hwn yn faes heb ei ddatganoli, ond oherwydd methiant y farchnad ac anweithgarwch Llywodraeth y DU, mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod camu i mewn yma i ddargyfeirio adnoddau sylweddol oddi wrth wasanaethau datganoledig i fynd i’r afael â’r methiant amlwg hwn gan Lywodraeth y DU i weithredu. Rydym wedi cyflawni canlyniadau...
Lee Waters: Gwnaf. Mae cymoedd de Cymru wedi cael buddsoddiad sylweddol mewn seilwaith cysylltedd digidol, gyda chynllun Cyflymu Cymru yn buddsoddi dros £66.9 miliwn i ddarparu mynediad at fand eang ffeibr cyflym i dros 244,600 o adeiladau.
Lee Waters: Os wyf wedi deall pwynt yr Aelod yn iawn, mae'r rhanbarthau sy'n bodoli yn seiliedig, yn sicr yn y de-ddwyrain, ar brifddinas-ranbarth Caerdydd, dinas-ranbarth a fu'n cael ei ddatblygu ers rhai blynyddoedd bellach ac sydd wedi cael cefnogaeth yr awdurdodau lleol. Yn sicr, gallwch ddadlau ynglŷn â ble y dylid tynnu’r llinell rhwng rhanbarth canolbarth Cymru a dinas-ranbarth bae Abertawe,...
Lee Waters: Wel, mae'n debyg mai at arweinydd cyngor Caerdydd y dylid cyfeirio'r sylwadau hynny. Mae ymgynghoriad ar waith ar y fframwaith datblygu cenedlaethol, ac edrychwn ymlaen at ystyried pob sylw fel rhan o hynny.
Lee Waters: Na. Ar ôl cynnal ymchwiliad cyhoeddus a edrychodd ar y llwybr du, ni fyddai unrhyw bwrpas sefydlu ymchwiliad arall i fynd i ailedrych ar yr un opsiwn yn union. Felly, nid yw hwnnw'n opsiwn y mae'r comisiwn yn ei ystyried. Maent yn edrych ar opsiynau eraill y credwn y gellir eu cyflwyno'n gyflymach ac yn rhatach ac a fyddai'n cael gwell effaith na'r ffordd a archwiliwyd eisoes. Mae Russell...
Lee Waters: Mae'r Prif Weinidog a Gweinidog yr economi wedi dweud yn glir iawn wrth gadeirydd y comisiwn ein bod yn disgwyl cael argymhellion cynnar erbyn y Nadolig, a dyna yw ein disgwyliad o hyd. Cymerwyd peth amser i gynnull panel o bobl uchel eu parch. Maent wedi cyhoeddi eu cylch gorchwyl a'u ffordd o weithio. Mae'n galonogol iawn na fyddant wedi'u cyfyngu, fel a ddigwyddodd gydag astudiaethau...
Lee Waters: Nid hyd y gwn i.
Lee Waters: Wel, â phob parch—
Lee Waters: Mae Rhun ap Iorwerth yn ddig am imi wneud sylw coeglyd. Mae wedi ein cyhuddo o fod ag agwedd dysgl gardod, felly mae hynny'n eithaf coeglyd, buaswn yn dweud, â phob parch. Ac o ran cynffon côt Alun Cairns, buaswn yn cael trafferth ei chyrraedd, gyda phob parch. Felly, nid oes agwedd daeogaidd yma ac ni chredaf fod defnyddio iaith mor hysterig yn hybu trafodaeth gall ynglŷn â sut y gallwn...
Lee Waters: Wel, credaf fod hynny braidd yn orgynhyrfus. Credaf y buaswn yn cael trafferth gyda—[Torri ar draws.]
Lee Waters: A chredaf y buaswn yn cael trafferth—. Buaswn yn cael trafferth—[Torri ar draws.] Gyda phob parch, rydych wedi gofyn eich cwestiwn. Mae eich cwestiwn wedi’i orffen. Rwy'n ceisio ei ateb, os caniatewch i mi wneud hynny.
Lee Waters: Wel, digwyddais siarad â Katherine Bennett ar y bore yr anfonwyd y trydariad hwnnw a dywedodd yn glir wrthyf nad ei geiriau hi oeddent. Rwy’n amau efallai fod gan swyddfa orfywiog y cyn Ysgrifennydd Gwladol y soniwyd amdano gynnau rywbeth i’w wneud â hyn, ond gan roi hynny o'r neilltu am funud, credaf fod daearyddiaeth economaidd yno rydym am ei harchwilio a manteisio arni, ond...
Lee Waters: Wel, a gaf fi ddweud yn gyntaf, yn amlwg, fod Alun Cairns wedi ymddiswyddo yn ystod yr ychydig oriau diwethaf, a chredaf mai dyna oedd y peth iawn i'w wneud o dan yr amgylchiadau? Yn amlwg, mae ein Llywodraeth a'i Lywodraeth yntau wedi anghytuno ynghylch nifer o faterion. Ond dylwn ddweud bod Ken Skates a minnau wedi cael perthynas dwymgalon a phroffesiynol gydag Alun Cairns, ac yn enwedig ar...
Lee Waters: Wel, fel y gŵyr Nick Ramsay, mae hon wedi bod yn broblem ers tua 20 mlynedd, ac nid oes ateb syml iddi. Rydym yn ymwybodol iawn o'r broblem ac wedi treulio peth amser yn ymchwilio i atebion posibl. Bydd yn ymwybodol fod y bont bresennol yn strwythur rhestredig gradd II, ei bod yn ymyl gorlifdir, ac nad oes ateb peirianyddol syml a fyddai'n parchu ei nodweddion presennol neu'n datrys y...
Lee Waters: Wel, nid oes unrhyw gynlluniau uniongyrchol i wella cefnffordd yr A4042 yn Llanelen. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn monitro perfformiad y rhwydwaith cefnffyrdd yn rheolaidd.
Lee Waters: Wel, gallaf ddweud yn glir iawn wrth John Griffiths nad yw Llywodraeth Cymru am weld gwaith dur Orb yn cau. Rydym wedi bod yn trafod gyda Tata ac Undeb Community i weld beth y gellir ei wneud. Mae Tata wedi parhau i ddadlau bod y gwaith yn gwneud colledion sylweddol a bod gorgyflenwad ym marchnad y byd, ac nad ydynt yn teimlo bod ganddo ddyfodol hyfyw. Nawr, mae Undeb Community wedi comisiynu...
Lee Waters: Wel, credaf fod y ffaith eu bod wedi cyrraedd y rownd nesaf yn newyddion gwych, ac rydym wedi eu cefnogi bob cam o’r ffordd, felly byddwn yn parhau i gynnig y gefnogaeth honno iddynt. Mae hwn yn fuddsoddiad rydym yn ei groesawu. Os yw’r cynllun seilwaith mawr hwn am gael ei roi ar waith yn Llundain, nid yw ond yn deg fod y buddion yn cael eu lledaenu ledled y DU.
Lee Waters: Diolch. Credaf fod David Rees wedi crynhoi’r sefyllfa’n dda iawn o ran diffyg arweinyddiaeth Llywodraeth y DU ar ddur a chanslo cyfarfod y cyngor dur. Rydym yn parhau i fod mewn cysylltiad agos â Tata, fel rydym wedi bod ers blynyddoedd lawer. Fel y nodoch, yn argyfwng dur 2016, darparwyd cyllid sgiliau o £10 miliwn gennym tuag at gynnig o £12 miliwn tuag at ddatblygu gweithlu Tata...