Jeremy Miles: Fel y dywedais wrth yr Aelod yn fy ymateb cynharach, bwriadaf gyflwyno datganiad yn nhymor yr haf ar arweinyddiaeth a bydd hwnnw'n nodi ein safbwynt bryd hynny.
Jeremy Miles: Wel, nid wyf wedi bod yn ei ddal yn ôl. Mae'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud yn bwysig iawn. Fe wyddom—a bydd yn cofio o fy natganiad yr wythnos diwethaf ynglŷn â sicrhau bod gennym system sy'n cyflawni safonau a dyheadau uchel ar gyfer ein holl ddysgwyr—mai un o'r pethau sy'n cyfrannu'n allweddol at hynny yw arweinyddiaeth ysgolion ac mae arweinyddiaeth dda mewn ysgolion yn gallu...
Jeremy Miles: Mae'r Aelod yn gofyn cwestiwn pwysig iawn am fater difrifol iawn. Ac mae hi'n iawn, yn amlwg, i nodi'r ffaith ei bod yn fwy heriol ceisio deall profiad plant sy'n cael eu haddysgu gartref, a dyna pam ein bod yn awyddus i sicrhau bod plant yn cael eu haddysgu yn yr ysgol gyda'u cyfoedion, yn ddarostyngedig i'r drefn ddiogelu y mae pob ysgol yn ei gweithredu. Bydd yn gwybod bod y gwaith a oedd...
Jeremy Miles: Wel, ar y pwynt ynglŷn ag arholiadau, rwy'n deall, yn amlwg, y bydd myfyrwyr eleni yn sefyll arholiadau allanol am y tro cyntaf, ac mae rhywfaint o'r cymorth a amlinellais yn fy ateb i Russell George wedi'i fwriadu'n benodol ar gyfer cefnogi'r myfyrwyr hynny. Yr her y buom yn ymgodymu â hi drwy gydol y broses mewn gwirionedd yw colli amser addysgu. Dyna'r cwestiwn sylfaenol y mae dysgwyr eu...
Jeremy Miles: Gallaf, wrth gwrs. Mae'r cymorth sydd ar gael yno i fyfyrwyr ym mhob rhan o Gymru, ac mae ar gael yn gyfartal. A hoffwn ofyn i'ch myfyriwr edrych ar wefan Lefel Nesa, a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru rai wythnosau'n ôl, sydd â chyfres o adnoddau i gefnogi dysgwyr gyda'u harholiadau yn ogystal â dynodiad cynhwysfawr o beth yw'r newidiadau i gynnwys cyrsiau, beth yw'r rhybudd ymlaen llaw...
Jeremy Miles: Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol hwnnw. Ni allaf wneud sylw am fanylion sefyllfa ei etholwyr am resymau y bydd yn eu deall, ond os gwnaiff ysgrifennu ataf am y sefyllfa benodol honno, byddaf yn hapus iawn i gael fy swyddogion i ymchwilio i'r mater.
Jeremy Miles: Mae CBAC wedi cyhoeddi addasiadau i arholiadau, gan leihau cynnwys a darparu gwybodaeth ymlaen llaw i helpu dysgwyr i baratoi. Rydym wedi darparu £24 miliwn o gyllid ar gyfer y flwyddyn arholiadau i ddarparu cymorth gyda phresenoldeb, addysgu, adolygu a phontio i alluogi myfyrwyr Safon Uwch i symud ymlaen. Mae ymgyrch gyfathrebu sy'n cyfeirio dysgwyr at adnoddau adolygu a llesiant defnyddiol...
Jeremy Miles: Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod dysgwyr ledled Cymru yn gallu cael mynediad at addysg o safon uchel a chyrraedd eu potensial llawn. Mae'r system anghenion dysgu ychwanegol newydd yn sicrhau bod yr holl blant a phobl ifanc sydd angen cymorth ychwanegol i ddiwallu angen dysgu ychwanegol yn cael y cymorth wedi'i gynllunio'n briodol a'i ddiogelu.
Jeremy Miles: Countering the effects of poverty on children and young people’s attainment is central to our flagship pupil development grant. Year on year we have extended the PDG to reflect the increase for children eligible for free school meals with funding for 2022-23 now over £130 million.
Jeremy Miles: In recognition of the pressures facing families, on 14 March I announced an additional one off payment of £100 to every child or young person eligible for PDG Access for the upcoming school year.
Jeremy Miles: Fe wnaeth yr Aelod rai pwyntiau pwysig iawn yn ei chwestiwn hi yn y fan yna, ac rwy'n falch o'i chlywed hi'n sôn am yr ysgol y mae hi'n llywodraethwr ynddi sy'n canolbwyntio mor amlwg ar bwysigrwydd sicrhau bod disgyblion yn yr ysgol sy'n golygu'r amgylchedd gorau er eu llesiant nhw, ond, yn amlwg, yn sicr yr amgylchedd gorau o ran eu haddysg. Rydym ni wedi bod yn gwneud darn sylweddol o...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Mae hi'n gwbl gywir i ddweud bod angen parhau i gefnogi ysgolion drwy'r cyfnod y maen nhw'n mynd drwyddo ar hyn o bryd, sy'n gyfnod sy'n parhau i fod yn heriol, wrth gwrs. Mi wnaeth hi ofyn tua'r diwedd am gadarnhad o'r hyn sydd wedi cael ei wario yn cefnogi'n hysgolion ni. Yn y flwyddyn ariannol hon, er enghraifft, mae yna ryw £278 miliwn o arian yn...
Jeremy Miles: Rwy'n diolch i Laura Jones am y croeso a roddodd hi i'r mentrau a gyhoeddwyd yn y datganiad heddiw. O ran ei phwynt agoriadol ynglŷn ag ysgolion cymunedol, mae hi'n gwybod y ceir amrywiaeth o brofiadau mewn ysgolion ledled Cymru ynglŷn ag i ba raddau y gallan nhw, yn eu hamgylchiadau eu hunain—eu cam nhw ar y daith, os hoffech chi. Mae'r cyfleusterau gan rai i allu gwneud hynny, efallai...
Jeremy Miles: Fe fyddwn ni'n gweithio, Dirprwy Lywydd, gyda Chyngor y Gweithlu Addysg a'n sefydliadau addysg gychwynnol i athrawon ar gyfer sicrhau bod priodoleddau anfantais addysgol, ac effaith hynny ar gyflawniad addysgol a sut y gellir goresgyn hynny, yn elfen amlwg o'n rhaglenni addysg gychwynnol ni ar gyfer athrawon. Fe fyddwn ni hefyd yn cynnwys hon fel nodwedd allweddol o hyfforddiant sefydlu a...
Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae taclo effaith tlodi ar gyrhaeddiad wrth wraidd cenhadaeth ein cenedl ym maes addysg. Dyna'r unig ffordd y gallwn ni lwyddo i gyrraedd y nod o sicrhau safonau uchel a dyheadau uchelgeisiol i bawb. Wrth wireddu'r weledigaeth hon, dwi wedi ymrwymo i osgoi defnyddio dulliau sy'n canolbwyntio ar ddiffygion; yn hytrach fe fyddwn ni'n canolbwyntio ar gamau cadarnhaol i...
Jeremy Miles: Diolch i Mike Hedges am yr awgrym hwnnw. Rydym yn adolygu ein canllawiau ar hyn o bryd, a byddaf yn sicrhau bod y pwynt hwnnw'n cael ei ystyried yn llawn yn yr adolygiad. Rwy'n cydnabod y pwyntiau a wnaeth yn ei gyfraniad i'r ddadl yn gynharach ar y pwnc hwnnw. Cytunwn na ddylai plant a phobl ifanc fod o dan anfantais oherwydd dyled prydau ysgol, ac rydym eisoes wedi gweithredu. Ym mis...
Jeremy Miles: Yn 2019, Ddirprwy Lywydd, ni oedd y Llywodraeth gyntaf yn y Deyrnas Unedig i wneud canllawiau ar wisg ysgol yn statudol i gynorthwyo cyrff llywodraethu yn well wrth iddynt wneud eu penderfyniadau ar bolisïau gwisg ysgol o ran mynediad, fforddiadwyedd a hyblygrwydd. Byddwn yn parhau i weithio gydag ysgolion a chyrff llywodraethu i sicrhau bod y canllawiau'n cefnogi fforddiadwyedd i deuluoedd...
Jeremy Miles: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i agor drwy ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r cynnig heddiw? Mae'r camau sydd wedi cael eu nodi yn rhai rydyn ni fel Llywodraeth yn eu cymryd. Felly, rydyn ni'n hapus i gefnogi'r cynnig a symudwyd gan Sioned Williams yn ogystal â'r gwelliant a symudwyd gan Laura Jones. Rydyn ni'n gwybod bod tlodi yn gallu tanseilio gallu plant i ddysgu, yn gallu cyfyngu ar eu...
Jeremy Miles: Yn ffurfiol.
Jeremy Miles: Diolch i Sioned Williams am gydnabod bod geiriad y dyletswydd o ran y Gymraeg, yn fy marn i o leiaf, yn annog y comisiwn i fod yn uchelgeisiol, ond wrth gwrs rŷn ni'n derbyn bod cyfle i edrych eto ar hwnnw.