Canlyniadau 581–600 o 900 ar gyfer speaker:Carl Sargeant

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Canolfannau Cymuned o ran Datblygu Cymunedol
(16 Tach 2016)

Carl Sargeant: Rwy’n ddiolchgar am y cwestiwn perthnasol iawn y mae’r Aelod yn ei ofyn heddiw. Mae’n hollol iawn—nid ddylem anghofio gwerth hanesyddol rhai o’r adeiladau hyn, a hefyd y gwerth sentimental a’r parch y maent yn eu cynrychioli. Wrth gwrs, mae gennym y rhaglenni sy’n edrych ar ddull a wnaed yng Nghymru o drosglwyddo asedau cymunedol, ond rydym mewn cyfnod anodd o galedi, ac rydym...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Hyrwyddo Rhianta Cadarnhaol
(16 Tach 2016)

Carl Sargeant: Mae gan rieni fynediad at ystod o wasanaethau sy’n hyrwyddo rhianta cadarnhaol, wedi’u darparu gan bartneriaid mewn llywodraeth leol, iechyd ac addysg. Mae hyn yn ffurfio rhan o becyn o fesurau i hyrwyddo rhianta cadarnhaol, gan gynnwys yr ymgyrch ‘Magu Plant. Rhowch amser iddo’ a’n buddsoddiad sylweddol yn rhaglenni Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Canolfannau Cymuned o ran Datblygu Cymunedol
(16 Tach 2016)

Carl Sargeant: Rwy’n ddiolchgar am y nifer o drafodaethau rwyf wedi eu cael gyda’r Aelod, ac yn wir, gyda Jayne Bryant, yr Aelod sy’n gymydog iddo, yn enwedig mewn perthynas â Chasnewydd. Ni allaf ymrwymo i ddyfodol unrhyw raglen, ac rwyf wedi dweud yn glir iawn, ac rwyf wedi ysgrifennu at bob Aelod Cynulliad, y byddaf yn gwneud penderfyniad yn ystod y mis nesaf, a fydd yn seiliedig ar gyngor da. Y...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Canolfannau Cymuned o ran Datblygu Cymunedol
(16 Tach 2016)

Carl Sargeant: Diolch i John Griffiths am ei gwestiwn. Mae ‘Symud Cymru Ymlaen’ yn nodi ein hymrwymiad i sicrhau bod gwasanaethau a chyfleusterau’n cefnogi datblygu cymunedol. Byddwn yn hyrwyddo fferyllfeydd cymunedol, yn cryfhau’r ddarpariaeth gymunedol ar draws y GIG, yn datblygu ysgolion cymunedol ac yn treialu canolfannau dysgu cymunedol, yn ogystal â datblygu dull a wnaed yng Nghymru mewn...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Y Rhaglen Cymunedau am Waith
(16 Tach 2016)

Carl Sargeant: Mae’r Aelod yn hollol iawn, ac fel y soniais yn gynharach yn fy nghyfraniadau, rwy’n credu bod yn rhaid i’r Llywodraeth hon ganolbwyntio ar ddau faes, sef adfywio economaidd a datblygu’r swyddi, y sgiliau a chyfleoedd a hyder i bobl allu mynd i mewn i’r farchnad, er mwyn rhoi sefydlogrwydd hirdymor iddynt. Un elfen yn unig o’r jig-so yw’r rhaglen Cymunedau am Waith, ac Esgyn,...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Y Rhaglen Cymunedau am Waith
(16 Tach 2016)

Carl Sargeant: Unwaith eto, heb achub y blaen ar fy mhenderfyniad wrth gwrs, a gwn nad oedd yr Aelod yn bwriadu awgrymu hynny, credaf fod rhaglen Esgyn a Cymunedau am Waith yn gwneud gwaith gwych yn ein cymunedau. Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion drafod opsiynau gyda Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru i ymestyn rhaglen Cymunedau am Waith y tu hwnt i fis Ebrill 2018. Rwyf wedi gofyn iddynt roi cyngor i mi...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Y Rhaglen Cymunedau am Waith
(16 Tach 2016)

Carl Sargeant: Credaf y byddai’n deg egluro ynglŷn â’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf. Nid wyf wedi gwneud penderfyniad ynglŷn â hynny eto, fel y gŵyr yr Aelod yn iawn, ac nid wyf ychwaith wedi dweud mai’r bwriad yw i’r rhaglen hon gymryd lle rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, er fy mod wedi dweud, cyn belled ag y gallwn gynnal rhaglen Esgyn a’r rhaglen Cymunedau am Waith, y byddaf yn parhau i wneud...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Gwella Cyfleusterau Chwarae i Blant
(16 Tach 2016)

Carl Sargeant: Mae’n amlwg fod gan y Cynulliad hwn rôl strategol iawn yn y ffordd yr ydym ni’n rheoli ac yn creu polisi. Efallai y bydd yr Aelod am ailystyried y cwestiwn hwnnw, gan ei fod yn gynghorwr yn yr awdurdod lleol y mae’n sôn amdano. Mae’n safbwynt diddorol, wrth iddo sôn am ‘eich plaid chi’ yn cau canolfannau chwarae ac ysgolion ac ati. Dyma ddyn a oedd yn arfer bod yn aelod o’n...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Y Rhaglen Cymunedau am Waith
(16 Tach 2016)

Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod dros Orllewin De Cymru am ei chwestiwn. Mae Cymunedau am Waith yn weithredol ledled Cymru. Mae’n chwarae rhan allweddol yn cefnogi fy ymrwymiad i gynyddu cyflogadwyedd fel llwybr allan o dlodi. Mae’r rhaglen eisoes yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig, gan gefnogi 5,630 o bobl, gydag 898 ohonynt wedi cael mynediad uniongyrchol i...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Gwella Cyfleusterau Chwarae i Blant
(16 Tach 2016)

Carl Sargeant: Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod dros Ddelyn am ofyn y cwestiwn pwysig hwnnw i mi. Mae’n bleser croesawu Ysgol Merllyn a’r prif weinidog, Tony, gyda’i enw hanesyddol, i’r Siambr hefyd. Mae’r Aelod yn crybwyll pwynt pwysig iawn. Yn wir, mae’r canllawiau statudol, ‘Cymru—Gwlad sy’n Creu Cyfle i Chwarae’ yn nodi’r hyn sy’n ofynnol gan awdurdodau lleol wrth iddynt gyflawni...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Gwella Cyfleusterau Chwarae i Blant
(16 Tach 2016)

Carl Sargeant: Rwy’n llwyr gydnabod pryderon yr Aelod. Yn wir, deuthum i fyd gwleidyddiaeth oherwydd mannau chwarae yn fy ardal i—roeddwn am wneud yn well ar ran y gymuned, ac yn wir, yn hunanol iawn, ar ran fy merch, pan oeddwn yn mynd â hwy i’r parc ac nid oedd yn cyrraedd y safon. Felly, credaf fod gan yr Aelod bwynt dilys. Rydym wedi cyflwyno asesiadau o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae ar gyfer...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Rhentu Craff Cymru
(16 Tach 2016)

Carl Sargeant: Wel, rydych yn—. ‘Na’, yw’r ateb i gwestiwn yr Aelod, ac nid wyf wedi dweud ein bod yn mynd i’w troseddoli, chwaith. Rydych yn siarad ar eich cyfer eto, fel rydych yn ei wneud ar eich taflenni, yn gyffredinol.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Gwella Cyfleusterau Chwarae i Blant
(16 Tach 2016)

Carl Sargeant: Rwy’n ddiolchgar am gwestiwn yr Aelod heddiw. Rydym yn gweithio ar draws yr holl feysydd polisi sy’n gysylltiedig â Llywodraeth Cymru i ddatblygu strategaethau i gynyddu cyfleoedd chwarae i blant. Amlinellir y meysydd hyn yn ‘Cymru—Gwlad sy’n Creu Cyfle i Chwarae’, gan gynnwys ysgolion, cynllunio, traffig a thrafnidiaeth, ac iechyd a llesiant.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Rhentu Craff Cymru
(16 Tach 2016)

Carl Sargeant: Dyma’r peth iawn i’w wneud, yn bendant. Mewn gwirionedd, credaf fod yr Aelodau gyferbyn wedi pleidleisio yn erbyn y ddeddfwriaeth, felly nid wyf yn synnu eich bod yn cwyno am y peth yn awr. Gadewch i mi ddweud wrthych am y staff. Rwyf wedi ymweld â’r cyfleuster, a mentraf ddweud nad wyf yn credu bod yr Aelod wedi ymweld â’r cyfleuster, ac mae awgrymu eu bod mewn anhrefn yn rwtsh...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Rhentu Craff Cymru
(16 Tach 2016)

Carl Sargeant: Mae tîm Rhentu Doeth Cymru wedi bod o dan bwysau aruthrol, yn enwedig yn y misoedd diwethaf, gyda’r rhuthr hwyr o gofrestriadau. Yn anochel, mae rhai cwestiynau wedi cymryd mwy o amser nag arfer i’w hateb. Rwy’n canmol yr ymdrech enfawr a wnaed gan y tîm i reoli’r galw, fodd bynnag, sy’n cynnwys recriwtio mwy o staff.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Tai Cymdeithasol a Fforddiadwy
(16 Tach 2016)

Carl Sargeant: Wel, nid wyf yn argyhoeddedig na allwn wneud mwy. Credaf mai’r hyn rydym wedi’i ddweud yw bod y model 20,000 rydym yn ei ddefnyddio yn ddechrau yn y broses o edrych ar fodelu ariannol a’r gallu i ddarparu 20,000 o gartrefi. Nid wyf yn pryderu ynglŷn â llunio’r ffordd y mae hynny’n edrych o ran cyfansoddiad yr 20,000. Os gallwn gael mwy o gartrefi rhatach, sy’n arbed ynni i...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Tai Cymdeithasol a Fforddiadwy
(16 Tach 2016)

Carl Sargeant: Diolch am gwestiwn yr Aelod. Yn wir, ymddengys bod y llefarydd tai wedi trosglwyddo’r awennau i’r Aelod ar y meinciau cefn yn y fan honno. Byddwn yn annog yr Aelod i ddarllen yr adroddiad llawn ar amcangyfrifon Alan Holmans. Yn wir, bydd angen 174,000 o gartrefi neu fflatiau—mae hyn yn cyfateb i oddeutu 8,700 o gartrefi newydd bob blwyddyn, a fyddai’n golygu bod oddeutu 3,300 yn dai...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Tai Cymdeithasol a Fforddiadwy
(16 Tach 2016)

Carl Sargeant: Wrth gwrs, mae llawer o arferion da ledled Cymru o ran atebion tai. Yn wir, mae awdurdod Llafur Sir y Fflint hefyd wedi cyflwyno cynllun adeiladu tai cyngor, ac yn wir, maent yn diogelu’r sylfaen asedau ar y sail eu bod yn gwneud cais i wahardd yr hawl i brynu hefyd. Felly, rwy’n canmol pobl sy’n buddsoddi yn eu cymunedau, waeth i ba blaid y maent yn perthyn.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Tai Cymdeithasol a Fforddiadwy
(16 Tach 2016)

Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei chwestiynau; mae hi’n angerddol iawn ynglŷn â chefnogi tai yn ei hetholaeth. Byddwn yn darparu tai ar draws deiliadaethau i fodloni anghenion tai a dyheadau amrywiol eich preswylwyr. Bydd buddsoddi mewn tai o fudd i’r economi leol ac yn creu cyflogaeth. Mae cartrefi newydd hefyd yn cynyddu buddsoddiad lleol drwy rwymedigaethau cynllunio a threthi cyngor, ac yn...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(16 Tach 2016)

Carl Sargeant: Dylid cyfeirio hynny at sylw Ken Skates, er mwyn—. Ef yw’r Gweinidog trafnidiaeth, ac efallai yr hoffai’r Aelod ysgrifennu at yr Aelod.

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.