Mark Reckless: Yn eu paratoadau ar gyfer y posibilrwydd o Brexit 'dim bargen', argymhellodd Gweinidogion y DU dros y GIG, yn Lloegr o leiaf, ganiatáu i fferyllwyr amnewid cyffuriau penodol am rai gydag effeithiau tebyg, lle y mae eu barn broffesiynol yn cefnogi hynny. A yw'r Gweinidog yn cytuno, yn gyffredinol, y dylem ganiatáu mwy o ddisgresiwn i fferyllwyr ddefnyddio eu barn broffesiynol i wasanaethu eu...
Mark Reckless: 7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith o adeiladu a chynllunio ar gyfer Ysbyty Athrofaol y Grange? OAQ53138
Mark Reckless: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi presennol Llywodraeth Cymru ar ffordd liniaru'r M4?
Mark Reckless: Paul Davies.
Mark Reckless: A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn croesawu cymaint yn fwy cystadleuol yw ein ffermwyr ffrwythau a llysiau bellach o gymharu â chynhyrchwyr Ewropeaidd oherwydd y gyfradd gyfnewid is?
Mark Reckless: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am awdurdodau lleol yn cydweithredu wrth lunio cynlluniau datblygu lleol?
Mark Reckless: A allai Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau'r warant cyllid gwaelodol a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â gwariant yng Nghymru, a chymharu a chyferbynnu hynny ag unrhyw gyllid gwaelodol a oedd yn ei le o dan Lywodraethau Llafur blaenorol yn y DU?
Mark Reckless: Os mai Ysgrifennydd y Cabinet sydd wrth y llyw, a allwn ddisgwyl i gyfraddau treth yng Nghymru fod yn uwch neu'n is ymhen pum mlynedd?
Mark Reckless: 3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am strategaeth tymor hir Llywodraeth Cymru ar gyfer lefelau trethiant yng Nghymru? OAQ53044
Mark Reckless: A wnaiff yr Ysgrifennydd ildio ar y pwynt hwn? Onid gwirionedd y mater yw nad ydym ni wedi gweithredu'r canlyniad, ac oni wnaeth ef wrando ar David Melding a'r hyn a ddywedodd ef? Pa bynnag mor gryf yr ydych chi o blaid 'aros' neu'r UE, yn gyntaf oll, mae'n rhaid ichi wneud yr hyn a ddywedodd y refferendwm, sef gadael.
Mark Reckless: Tybed a oes modd iddo hefyd ymdrin â'i welliant ei hun, sy'n dweud y bydd y DU yn aros yn y farchnad sengl, i bob pwrpas. Onid i Ogledd Iwerddon y byddai hynny, mewn gwirionedd, yn digwydd? Ac yna mae'n dweud bod Llywodraeth y DU wedi amharu ar Brexit. Mewn gwirionedd, hyd yn hyn, rydym yn mynd i adael ar 29 Mawrth, ac rwy'n gobeithio ac yn credu y bydd hynny'n dal i ddigwydd, ac onid yw e'n...
Mark Reckless: Cyfarfûm â Jeremy Corbyn am y tro cyntaf yn y lobi 'na'; roeddem ymysg yr 13 AS a oedd yn pleidleisio yn erbyn sefydlu'r Gwasanaeth Gweithredu Allanol Ewropeaidd, a chyfarfûm ag ef ar sawl achlysur wedi hynny ar amryw o faterion yr UE lle'r oeddem o'r un farn. Gobeithio ei fod yn dal i fod o'r un farn, oherwydd yn fy marn i, pan bleidleisir yn erbyn y cytundeb ymadael hwn yn Nhŷ'r...
Mark Reckless: Agorodd Ysgrifennydd y Cabinet y ddadl hon drwy ddweud ein bod ni'n pleidleisio cyn Tŷ’r Cyffredin, ei fod eisiau dylanwadu ar ASau, bod Llywodraeth Cymru yn credu y dylai Tŷ'r Cyffredin bleidleisio yn erbyn y cytundeb ymadael, a gorffennodd drwy ddweud ei fod yn gobeithio y bydd y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn anfon neges glir bod y cytundeb ymadael yn annerbyniol ac y dylid ei wrthod....
Mark Reckless: Pleidleisiodd y bobl i adael yr Undeb Ewropeaidd. Nid yw'r Aelod yn cytuno â sut y pleidleisiodd y bobl, felly mae'n ceisio ei wyrdroi, ac yn wahanol i'r Siartwyr, a oedd yn disgwyl i'r Senedd flynyddol gael ei sefydlu cyn iddyn nhw gael eu trechu, mae eisiau anwybyddu'r hyn a benderfynodd y bobl.
Mark Reckless: A hoffai'r Aelod atgoffa'r Cynulliad sut y pleidleisiodd ei hetholaeth hi?
Mark Reckless: Ond nid yw ystyriaeth yn parhau gan y Prif Weinidog. Rydych chi'n cyfeirio at y ffaith ei fod yn dilyn proses statudol lem, ond ble yn y broses statudol honno y mae'n dweud y dylai adroddiad yr arolygydd gael ei godi gan gyfreithwyr a swyddogion yn Llywodraeth Cymru, a chael ei gadw'n ôl oddi wrth y Prif Weinidog am gyfnod, erbyn hyn, o ddau neu dri mis? Onid yw hynny'n awgrymu bod rhywbeth...
Mark Reckless: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr amserlen ar gyfer gwneud penderfyniad ar ffordd liniaru'r M4? OAQ53033
Mark Reckless: A wnaiff arweinydd y tŷ ildio?
Mark Reckless: O ystyried hyd yr adroddiad hwn a chymhlethdod y mater, er ei fod angen cyngor cyfreithiol wrth gwrs a phobl eraill a fydd yn cynghori ac yn darllen yr adroddiad, oni fyddai'n gwneud synnwyr i'r Prif Weinidog gael yr adroddiad yn awr a chael mwy o amser a chyfle i'w ddarllen, er mwyn rhoi ystyriaeth briodol dros gyfnod angenrheidiol o amser i ba benderfyniad bynnag y bydd yn ei wneud wedyn?
Mark Reckless: A gaf fi ymyrryd?